Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF. 40/2021/0309 - PLOT C7 PARC BUSNES LLANELWY, LLANELWY
Ystyried cais
i codi Cartref Gofal Cofrestredig 198 gwely (dosbarth defnydd C2), tirlunio, cyfleusterau parcio a gwaith cysylltiedig (Ailgyflwyno) (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais ar gyfer codi Cartref Gofal Cofrestredig 198 gwely (Defnydd
Dosbarth C2), tirlunio, cyfleusterau parcio a gwaith cysylltiedig (Ailgyflwyno)
ar Lain C7, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy.
Siaradwr Cyhoeddus –
Mr Dylan Southern (O Blaid) - diolchodd i'r cadeirydd a'r aelodau am gael caniatâd
i siarad. Dywedodd Mr Southern fod yn rhaid i ni ofyn i ni'n hunain fel pobl â
chydwybod a wnaethom ni erioed fwriadu i bolisi cynllunio ganiatáu strwythur
cartref gofal anaddas yn y sir. Roedd hyn yn caniatáu i bobl hŷn ddibynnol
rannu amwynderau gyda nifer o bobl eraill ar adegau bregus iawn. Dywedodd bod
mwy na 50% o breswylwyr cartrefi gofal yn byw mewn ystafell lai na 12m2 ar hyn o bryd a gyda rhai lloriau heb lifftiau
hygyrch, ac eto fel sir gwariwyd £58 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn ar y
strwythur gofal hwn nad oedd yn ateb y gofyn.
Cyfeiriodd Mr Southern at y safle, o ran mwynderau bu sylwadau y gallai
rhai pobl deimlo'n ynysig oherwydd lleoliad y safle. Byddai'r mwyafrif o bobl a
fyddai'n defnyddio'r safle mewn cyfnod lle byddai hunanofal yn dod yn llai
tebygol, felly byddai'r tebygolrwydd o fod angen siopau cyfagos yn lleihau.
Fodd bynnag, byddai gan y safle fynediad at fand eang cyflym iawn ac roedd yn
agos at Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y rhain yn ffactorau allweddol ar gyfer dewis
safle.
Sicrhaodd Mr Southern y pwyllgor y byddai'r asesiad sŵn yn
cydymffurfio â safonau adeiladu ac y byddai'r gwres canolog a'r aerdymheru yn
creu llif digonol o aer. Byddai'r sŵn hefyd yn cael ei fonitro'n
rheolaidd.
Dywedodd Mr Southern na ellid cytuno ar ddatrysiad peirianyddol i fynd i'r
afael â thymheredd yr adeilad a'r ffenestri.
Roedd Mr Southern yn deall bod gan y pwyllgor benderfyniad anodd gan mai
argymhelliad y swyddogion oedd gwrthod ochr yn ochr â’r canllawiau polisi
cynllunio, ond roedd Mr Southern yn teimlo nad bwriad polisi cynllunio byth
oedd i fod yn niweidiol tuag at breswylwyr. Yn olaf, gofynnwyd i'r pwyllgor roi
llais i bobl fregus a chaniatáu'r cais.
Trafodaeth Gyffredinol
–
Cynghorodd swyddogion yr aelodau ar gefndir y cais, gan ei fod yn
ailgyflwyniad, gwrthodwyd y safle yn flaenorol. Roedd y safle o fewn ardal
dynodi CDLl parc busnes Llanelwy. Roedd yr ardal yn bennaf ar gyfer adeiladau
B1, roedd yn safle cyflogaeth wedi'i ddyrannu.
- Ailgyflwynwyd
y cais oherwydd gwaith helaeth ar y cais ar ran yr ymgeisydd. Roedd y
gwaith ychwanegol wedi nodi nad oedd unrhyw safle addas arall ar gyfer y
datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, roedd y safle y cynigiwyd ei
ddatblygu ar safle a ddynodwyd yn dir cyflogaeth, wedi bod ar werth ers sawl
blwyddyn ac nid oedd unrhyw ddatblygwyr â diddordeb ar gyfer y tir.
- Amlygodd
swyddogion hefyd fod pryderon ynghylch sŵn ar y safle oherwydd
agosrwydd safle B2 diwydiannol a chefnffordd yr A55. Byddai'r pryderon hyn
yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygiad fod â ffenestri na ellir eu hagor,
ac nid oedd hwn yn ddefnydd cydnaws ag adeilad dosbarth C2.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies fod cau'r Royal Alexander wedi achosi
blocio gwelyau yng Nglan Clwyd. Mae gofal gartref wedi gweithio'n dda i bobl
sydd â'r anghenion gofal lleiaf posibl ond mae'r anghenion gofalu wedi
cynyddu'n sylweddol. Byddai'r cais yn rhyddhau gwelyau yng Nglan Clwyd ac yn
caniatáu i bobl ddewis eu gofal.
Cynnig - Cynigodd y
Cynghorydd Ann Davies, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones, y dylid
cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y swyddogion.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod newid i'r ddemograffeg yn y Sir,
bod y boblogaeth yn heneiddio. Roedd angen edrych ar ofynion
y gymuned, roedd pobl yn cael eu cadw yn yr ysbyty ac mae angen gofal
strwythuredig ar bobl, i'w hail-alluogi i fynd adref. Byddai’r cais hwn yn
lliniaru ‘blocio gwelyau’ roedd y cynllun busnes yn ymddangos yn gadarn, ac
roedd gan y darparwyr hyder y byddai’r cynllun yn gweithio.
Holodd y pwyllgor faint o bwysau a roddwyd ar
ddefnyddio tir yn y CDLl wrth bennu rhinweddau'r cais. Codwyd pryderon gyda'r
ffenestri hefyd, ac a fyddai gan yr adeilad gylchrediad digonol o aer.
Dywedodd swyddogion y byddai'r ffenestri'n cael
eu hadeiladu i sicrhau na fyddent yn agor i gydymffurfio â llygredd sŵn,
felly dim ond ar gyfer goleuni y byddent yn cael eu defnyddio. Roedd y safle'n
safle cyflogaeth dynodedig ond ni fu unrhyw ddiddordeb yn y safle ers blynyddoedd
lawer.
Hysbysodd swyddogion y pwyllgor, pe bai'r cais yn
cael ei ganiatáu, y byddai angen amodau ynghlwm wrth y datblygiad i fynd i'r
afael â'r materion arfaethedig sy'n ymwneud â lleoliad a sŵn yn ogystal ag
awyru, gan ddefnyddio amodau i liniaru a rheoli'r mater hwnnw. Teimlwyd
oherwydd diddordeb y pwyllgor y byddai'r mater yn dod yn ôl i'r pwyllgor am
benderfyniad o ran amodau.
Croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau
y diddordeb yn y ddarpariaeth ar gyfer angen gan gefnogi argymhelliad y swyddog
i wrthod yn llwyr. Dywedodd nad oedd y cynnig yn darparu lefelau priodol o
amwynderau. Defnyddiwyd y safle ar gyfer pobl ag anghenion gofal isel. Mae
Llywodraeth Cymru wedi gosod canllawiau ar gyfer awyru ac agor ffenestri, nad
oedd y cais yn cydymffurfio â nhw. Nid oedd y trafodaethau emosiynol ar angen
yn faterion cynllunio perthnasol. Ar hyn o bryd roedd 100 o welyau ar gael i'r
rhai sydd ei angen yn Sir Ddinbych. Ar hyn o bryd roedd gorddarpariaeth o ofal,
gyda phrinder staff ar gael ledled y wlad.
Eglurodd y Cynghorydd Brian Jones mai’r rhesymau
dros roi caniatâd oedd nad oedd yr agosrwydd at gefnffordd yr A55 a safle B2 yn
berthnasol, gan nad oedd lliniaru sŵn yn broblem, gan y gellid ei oresgyn
trwy amodau cynllunio.
PLEIDLAIS -
Cymeradwyo - 13
Ymatal – 0
Yn erbyn – 2
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhellion am y rhesymau a
nodir uchod.
Dogfennau ategol: