Eitem ar yr agenda
DATGANIAD CYFRIFON DRAFFT
Derbyn adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi'n amgaeedig) sy'n darparu trosolwg o
Ddatganiad drafft o Gyfrifon 2020/21 a'r broses sy'n sail iddo.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2020/21 (a ddosbarthwyr
yn flaenorol). Darparodd yr adroddiad drosolwg o’r Datganiad Cyfrifon drafft ar
gyfer 2020/21 a’r broses sy’n sail iddo. Roedd cyflwyno’r cyfrifon drafft yn
darparu dangosydd cynnar o sefyllfa ariannol y cyngor, ac yn amlygu unrhyw
broblemau yn y cyfrifon, neu’r broses cyn archwilio’r cyfrifon.
Cadarnhawyd i aelodau, er mwyn diwallu amserlen Cyngor
Sir Ddinbych ac Archwilio Cymru, roedd dyddiad cau estynedig wedi cael ei
fabwysiadu ar gyfer cyfrifon eleni. Yr adroddiad ynghlwm oedd y Datganiad
Cyfrifon drafft, a byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael ei gyflwyno yn
ôl ym mis Tachwedd 2021, i’w lofnodi gan y pwyllgor.
Atgoffodd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo aelodau
bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf i esbonio’r amgylchiadau
gyda’r oedi wrth gwblhau’r Datganiad Cyfrifon drafft. Nid oedd modd cwblhau
cyfrifon y grŵp oherwydd oedi wrth dderbyn cyfrifon HSDdC. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
pwyllgor yn y flwyddyn newydd i sicrhau aelodau y byddai amserlen waith ar
gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar y trywydd iawn.
O fewn yr adroddiad, nodwyd dyddiadau cau o 31 Mai, a 31
Gorffennaf, 2022. Clywodd Aelodau bod Llywodraeth Cymru yn anfon cyfarwyddeb
gyda chyfarwyddiadau o’r dull o weithredu pe na fyddai’r dyddiadau hynny’n cael
eu bodloni.
Byddai’r Datganiad Cyfrifon terfynol yn cael i gyflwyno
i’r pwyllgor yng nghyfarfod 24 Tachwedd, 2021. Nodwyd nad oedd pryderon wedi
codi hyd yma o’r Archwiliad.
Amlygodd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo y
pwyntiau allweddol yn yr adroddiad, gan gynnwys yr adran newydd ar Gyfrifon
Grŵp. Cadarnhawyd bod HSDdC yn cwblhau ei gyfrifon ar wahân i Gyngor Sir
Ddinbych, a bod ei gyfrifon yn cael eu harchwilio ar wahân i rai’r awdurdod. Unwaith
roeddent yn cael eu cwblhau, roedd y cyfrifon yn cael eu cynnwys yn yr
adroddiad cyffredinol.
Darparwyd gwybodaeth bellach ar yr Adroddiad Naratif.
Roedd yr adran hon yn darparu crynodeb o safle’r cyngor, gan ddarparu cyswllt
i’r adroddiad Sefyllfa Derfynol, a oedd yn rhoi manylion o reolaeth a
pherfformiad y cyfrifon.
Pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid a’r Gwasanaethau Eiddo bod
y flwyddyn hon wedi bod yn bryderus, a chadarnhaodd bod strategaeth lliniaru
covid wedi cael ei chyflwyno i’r Cabinet ar y cyfle cyntaf. A oedd yn myfyrio
ar y sefyllfa waethaf bosib pe na fyddai cyllid gan y llywodraeth yn cael ei
gynnig.
Roedd y broses o osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf, a’r fantolen yn parhau i fod mewn sefyllfa gadarnhaol.
Cadarnhawyd bod y Datganiad Cyfrifon wedi bod ar gael i’r
cyhoedd ar gyfer cwestiynau a sylwadau o 2 Medi, 2021 a byddai’n cau ar 29
Medi, 2021.
Roedd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo eisiau
diolch i bawb am y gwaith a wnaed er mwyn cwblhau’r Datganiad Cyfrifon. Cyflwynwyd aelodau i Rhian Evans, Prif
Gyfrifydd, a oedd wedi arwain ar y manylion oedd wedi’u cynnwys yn y Datganiad
Cyfrifon. Cynigodd ei ddiolch i Rhian
a’i thîm am y gwaith a wnaed i lunio’r adroddiad.
Roedd aelodau eisiau adleisio’r diolch i’r swyddogion
cyllid a’r tîm archwilio am y gwaith manwl a wnaed wrth lunio’r Datganiad
Cyfrifon drafft.
Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y canlynol yn fanylach:
·
Cyfanswm y tanwariant oedd £9.5 miliwn, gyda £7
miliwn mewn perthynas ag ysgolion. Mae balansau ysgolion yn cael eu trin yn
wahanol i wasanaethau eraill yn Sir Ddinbych. Roedd y tanwariant yn y sector
ysgolion yn ganlyniad i’r grantiau a dderbyniwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn
ysgol, a thanwario gwirioneddol mewn ysgolion wrth i adeiladau barhau i fod ar
gau. Byddai’r tanwariant a welwyd yn cael ei gario ymlaen i gyllidebau ysgolion
yn y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd y tanwariant yn weddill yn cynnwys
cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, £1.6 miliwn o danwariant gwasanaethau a
£721,000 a oedd wedi cael ei symud i’r Gronfa Lliniaru Cyllidebau.
·
Cyngor Sir Ddinbych yw unig gyfranddalwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.
Roedd ffi rheoli wedi cael ei gytuno ar ddechrau bob blwyddyn, ac nid oedd
bwriad i’w newid. Byddai angen i HSDdC ariannu unrhyw gynnydd i chwyddiant.
Byddai unrhyw newid i’r trefniadau llywodraethu yn dilyn y gweithdrefnau
angenrheidiol.
·
Roedd yr incwm grant a dderbyniwyd llynedd gan
Lywodraeth Cymru wedi bod yn gymorth ariannol mewn argyfwng i helpu i ymdopi
gydag effaith covid. Ar ddechrau’r flwyddyn, rhoddodd Lywodraeth Cymru
ad-daliad llawn ar gyfer effaith lawn gostyngiad i incwm meysydd parcio. Yn
ddiweddarach yn y flwyddyn, daeth yn benderfyniad i’r awdurdod lleol godi tâl
am barcio a gostyngwyd y cyllid ariannol. Ar gyfer y flwyddyn hon, ni fyddai
cefnogaeth ar gyfer gostyngiad i incwm parcio yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth
Cymru. Roedd incwm a gynhyrchwyd o feysydd parcio yn cael ei ail-fuddsoddi i
feysydd parcio’r awdurdod.
·
Pan grëwyd HSDdC, sefydlwyd Bwrdd Llywodraethu Strategol
i archwilio HSDdC. Mae’r bwrdd yn goruchwylio’r berthynas rhwng CSDd ac roedd
gan HSDdC y pŵer i gyfeirio eitemau i’w harchwilio.
·
Sicrhaodd gynrychiolwyr Archwilio Cymru yr aelodau
bod Archwilio Cymru’n gobeithio cyflwyno’r Archwiliad terfynol yng nghyfarfod y
pwyllgor ym mis Tachwedd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r holl aelodau a’r swyddogion am
drafodaeth fanwl.
PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n nodi’r safle a gyflwynwyd yn y Datganiad
Cyfrifon ar gyfer 2020/21.
Dogfennau ategol:
- CGC Draft SofA Sept 2021, Eitem 7. PDF 223 KB
- 2020-21 draft Statement of Accounts 30-07-2021, Eitem 7. PDF 4 MB