Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar reolaeth iechyd a diogelwch o fewn Cyngor Sir Ddinbych yn ystod 2020-2021 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad Iechyd a Diogelwch Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Cafodd Aelodau eu hysbysu bod yr adroddiad yn cynnwys geirfa, asesiad o 3 faes allweddol a sut mae’r gwasanaeth wedi parhau yn ystod Covid-19. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod yr asesiad cyffredinol ar gyfer y tîm iechyd a diogelwch wedi cael sicrwydd canolig, gyda hanes da o waith iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych. 

 

Arweiniodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (CHSM) aelodau drwy’r adroddiadau Iechyd a Diogelwch Blynyddol. Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn cynnwys asesiad o berfformiad iechyd a diogelwch yn nhermau sut mae’r diwylliant yn gweithio, a rhoddwyd sgôr sicrwydd. Ym marn y CHSM, roedd Sir Ddinbych wedi ymateb yn dda i’r cyfyngiadau a’r newidiadau a osodwyd ar y gwasanaeth.

 

Roedd diwylliant Diogelwch, Iechyd a Lles yng Nghyngor Sir Ddinbych wedi bod ar lwybr gwelliant parhaus er sawl blwyddyn. Y gwelliant mwyaf diweddar oedd cynnwys gweithwyr. Roedd gan hyn botensial am effaith gadarnhaol sylweddol ar ”ddiwylliant diogelwch”.

 

Roedd Aelodau wedi clywed bod y tîm Iechyd a Diogelwch wedi ymateb yn gyflym i reoliadau a chanllawiau’r llywodraeth.  Datblygwyd Asesiadau Risg a gweithdrefnau gweithio’n ddiogel cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac roedd yn adlewyrchu’r safle oedd yn newid yn gyflym. Roedd gwaith ar y cyd gyda’r canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod rheoliadau’n cael eu diwallu. Cafodd dull Cyngor Sir Ddinbych o reoli’r risg yn sgil Covid-19 ei asesu fel sicrwydd uchel.

 

Amlygwyd y ffaith na chafodd unrhyw ddigwyddiad RIDDOR yn ystod 2020/21 ei archwilio’n ffurfiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

Amlygodd CHSM bod gwelliant wedi cael ei nodi mewn sawl maes, gyda’r prif rai yn cael eu canfod mewn:

·         Ysgolion.

·         Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.

·         Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

·         Rheoli a chasglu gwastraff.

 

Llywiwyd Aelodau drwy’r pwyntiau i’w nodi yn ystod 2020/21, gyda pandemig Covid-19 y prif un. Roedd canolbwyntio ar un pwnc wedi caniatáu i’r sefydliad ymateb yn dda i’r newidiadau.  Roedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cytuno gyda’r farn hon.

Roedd ysgolion wedi bod yn nodwedd gyfrwng yn ystod y pandemig gyda’r canllawiau’n newid sawl gwaith yn ystod y flwyddyn. Cwblhaodd a rhannodd pob ysgol yn Sir Ddinbych asesiad risg covid-19.

Pwysleisiwyd bod y gwasanaethau Rheoli a Chasglu Gwastraff wedi perfformio’n dda hefyd yn ystod cyfnod anodd. 

 

Cafodd safle’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ei adlewyrchu ymhob dogfen ganllawiau a chyfathrebiadau yn ymwneud â’r risg o Covid-19 yn ein gweithleoedd.

Cynhaliodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch nifer o hapwiriadau cydymffurfiaeth â Covid Cyngor Sir Ddinbych drwy gydol y flwyddyn.  Ni godwyd unrhyw bryderon yn ystod y gwiriadau.

 

Roedd pwysigrwydd monitro Dirgryniad Llaw Braich yn flaenoriaeth o hyd ar gyfer y tîm. Darparwyd rhestr fanwl i aelodau o’r holl feysydd gwaith mae Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn rhan ohonynt. Mae amserlen gwaith ar gyfer 2021/22 wedi cael ei gynnwys yn y pecyn er gwybodaeth aelodau.

 

Diolchodd y Cadeirydd y CHSM a’r tîm am yr holl waith caled a wnaed yn ystod y flwyddyn, a chanmolodd gwaith y tîm i gynnal safon dda o asesiad.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

·         Mae cefnogaeth ac ymgysylltiad yr uwch dîm rheoli yn bwysig.

·         Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod cynnydd mewn llithro, baglu a chwympo wedi digwydd oherwydd unigolion ddim yn defnyddio canllaw neu gymorth cynnal.

·         Roedd pwysigrwydd hyfforddiant corfforol yn hanfodol ar gyfer datblygiad unigolion.

·         Gydag unrhyw adroddiad RIDDOR, cynhaliwyd archwiliad, yn seiliedig ar y wybodaeth ar adroddiad y digwyddiad. Byddai pob achos yn y papurau yn cael eu harchwilio. Gellir darparu hyfforddiant pellach os oes angen.   Bydd y tîm yn gofyn yr holl gwestiynau angenrheidiol i ddatrys digwyddiad.

·         Os oedd damwain traffig ar y ffordd yn cynnwys RIDDOR, rydym yn cael eu cynnwys yn yr archwiliad. Os nad oedd RIDDOR, yr heddlu fyddai’n cael ei gynnwys. Byddai Rheolwr y Fflyd yn cael ei gynnwys hefyd, ynghyd â’r Ymgynghorydd Risg ar y Ffyrdd.

Ar yr adroddiad digwyddiad, roedd adran ar gyfer y rheolwr gwasanaeth i wneud sylwadau.

 

Roedd Aelodau ac arsyllwyr eisiau diolch i CHSM am ei waith ymroddedig a’i adroddiad manwl.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn, yn nodi’r cynnwys ac yn cymeradwyo cynllun gwaith y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer 2020/21.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: