Eitem ar yr agenda
FFRAMWAITH GWELLIANNAU ALLANOL AC ARBED YNNI TAI’R CYNGOR A DYFARNU CYSTADLEUAETH FECHAN
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r
fframwaith i chwe chontractwr ac i dendro’r ddau ran cyntaf o’r fframwaith trwy
gystadleuaeth fechan.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo –
(a) dyfarnu’r
contract fframwaith i chwe contractwr fel y manylir isod a oedd yn llwyddiannus
yn cyflawni’r meini prawf gofynnol yn dilyn ymarfer tendro diweddar -
·
Sustainable Building Services (UK) Ltd
·
Bell Decorating Group Limited
·
Novus Property Solutions Limited
·
ParkCity Multitrade Ltd
·
Gareth Morris Construction Ltd
·
Pave Aways Ltd
(b) i dendro’r ddwy
gyfres gyntaf o’r fframwaith trwy gystadleuaeth fach y flwyddyn ariannol hon ar
sail pris yn unig, o ystyried bod yr holl gontractwyr wedi bodloni’r meini
prawf gofynnol, gan hepgor y cyfnod galw mewn pum diwrnod (cyfres 1 yn unig) er
mwyn caniatáu i gyfres 1 y fframwaith gael ei hysbysebu ar unwaith a lleihau
oedi pellach o’r contract, a
(c) dirprwyo’r
penderfyniad i gynyddu gwerthoedd contract Cyfres 1 a Chyfres 2 os fydd Cyllid
Ôl-Osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus, ac os fydd
gwerth diwygiedig y contract tu hwnt i £2m i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn
ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i
ddyfarnu’r fframwaith gwelliannau allanol a dendrwyd yn ddiweddar i chwe
contractwr ac i dendro'r ddwy gyfres cyntaf o'r fframwaith drwy gystadleuaeth
fechan.
Roedd
y Cabinet wedi cymeradwyo tendro’r fframwaith ym mis Mai 2021 i gaffael gwasanaethau
sydd eu hangen i gyflawni gwaith atgyweirio allanol sylweddol i stoc dai’r
Cyngor a chynnal cyflwr y stoc dai yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru. Byddai’r rhaglen gyfalaf pedair blynedd yn darparu
gwelliannau a byddai’r gwaith yn gyffredinol yn ailadrodd y rhaglen flaenorol o
ran y gwelliannau allanol, gyda gwaith ôl-osod yng nghyswllt arbed ynni’n cael
ei wneud ble bynnag y mae hynny’n bosibl. Rhoddwyd
manylion y cynnig i ddarparu 2 gyfres yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol yn
cynnwys cyfuno gwelliannau cynnal a chadw cynlluniedig a gwaith ôl-osod. Oherwydd amseru’r terfynau
amser cadarnhau, rhyddhau a gwario cyllid grant, cynigiwyd i dendro Cyfres 1 a
2 ar y sail y gellid gosod y contract gwaith cynlluniedig yn seiliedig ar waith
gwella yn unig (gwerth a ragwelir o £1m yr un), gydag unrhyw waith ôl-osod yn
cael ei ychwanegu yn amodol bod cyllid ar gael a phroffil gwariant a allai fynd
â’r prosiect dros y trothwy £2m sydd angen cymeradwyaeth y Cabinet. Roedd awdurdod dirprwyedig hefyd yn cael ei geisio
i hwyluso unrhyw gynnydd yng ngwerth y contract dros y trothwy o £2m.
Canmolodd
y Cabinet y gwaith gwella a wnaed i'r stoc dai yn y blynyddoedd diweddar gan
gefnogi’r gwaith gwella cynlluniedig yn llawn i’r dyfodol a’r disgwyliad o
gyllid pellach i ôl-osod gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau arbed ynni
er budd trigolion. Darparodd y Prif Swyddog -
Eiddo Corfforaethol a Stoc Dai yr atebion canlynol i gwestiynau -
·
roedd y cais i hepgor y weithdrefn
galw i mewn ar gyfer penderfyniadau’n ymwneud â’r tendr ar gyfer Cyfres 1 yn
unig er mwyn cyflymu’r broses honno o ystyried yr amserlenni
·
gyda blociau o fflatiau gyda
deiliadaethau preifat a chyngor, cyfrifoldeb y landlord oedd atgyweirio’r
gwelliannau allanol ac felly gallai gwaith a wnaed i denantiaid y cyngor fod o
fudd i denantiaid preifat hefyd
·
gweithiodd yr awdurdod gyda
Busnes Cymru yn ystod y broses dendro a cheisiodd weithio gyda’r holl
gontractwyr a fynegodd ddiddordeb cyn y tendr, a gellid rhoi adborth i'r rhai
aflwyddiannus ar gais
·
yn unol â rheolau caffael,
roedd yn rhaid tendro drwy'r porth caffael GwerthwchiGymru, oedd yn broses
caffael nad oedd yn gyfyngedig i gwmnïau lleol
·
mewn ymateb i ymholiadau gan y
Cynghorydd Brian Jones am y rhesymeg y tu ôl i’r diffyg contractwyr lleol a
gyflwynwyd ar gyfer y fframwaith a’r meini prawf ariannol a osodwyd gan
GwerthwchiGymru a allai effeithio ar allu contractwyr lleol i gymryd rhan
yn broses, cytunwyd y byddai’r Swyddog
Arweiniol yn ymchwilio i’r materion hyn ac yn adrodd yn ôl yn uniongyrchol i’r
Cynghorydd Jones
·
dilynodd y meini prawf ar
gyfer ailwampio’r stoc dai arolwg cyflwr ac roedd yn seiliedig ar raglen
gyfalaf hirdymor ar gyfer gwelliannau allanol a gwaith mewnol i sicrhau
cydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru
·
gallai rhywfaint o'r
anfodlonrwydd a fynegwyd gan denantiaid hirdymor fod oherwydd y pwyslais ar
waith unedau gwag yn sgil y safon dderbyniol uchel ar gyfer gosod a’r pwyslais
ar gartrefi o ansawdd oedd yn haws ei wneud pan oedd eiddo’n wag gan ei bod yn
anodd gwneud gwaith o’r fath pan oedd tenantiaid yno; bu oedi gyda gwaith
mewnol hefyd oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws ond byddai’n ailddechrau cyn
bo hir
·
mewn ymateb i faterion a
godwyd yn uniongyrchol â’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am y diffyg gwaith
ailwampio a wnaed i denantiaid presennol yn ei ward, tynnodd sylw at yr angen
am well cyfathrebu. Cytunwyd i ddarparu ymateb yn y newyddlen i denantiaid yn
rhoi syniad cyffredinol am y rhaglenni ailwampio ac i ddarparu ymateb penodol
i'r tenantiaid yn ardal Rhuthun oedd wedi mynegi pryderon penodol.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo –
(a)
dyfarnu’r
contract fframwaith i chwe contractwr fel y manylir isod a oedd yn llwyddiannus
yn cyflawni’r meini prawf gofynnol yn dilyn ymarfer tendro diweddar -
·
Sustainable Building Services
(UK) Ltd
·
Bell Decorating Group Limited
·
Novus Property Solutions
Limited
·
ParkCity Multitrade Ltd
·
Gareth Morris Construction Ltd
·
Pave Aways Ltd
(b) i dendro’r ddwy
gyfres gyntaf o’r fframwaith trwy gystadleuaeth fechan y flwyddyn ariannol hon
ar sail pris yn unig, o ystyried bod yr holl gontractwyr wedi bodloni’r meini
prawf gofynnol, gan hepgor y cyfnod galw mewn pum diwrnod (cyfres 1 yn unig) er
mwyn caniatáu i gyfres 1 y fframwaith gael ei hysbysebu ar unwaith a lleihau
oedi pellach i’r contract, a
(c) dirprwyo’r
penderfyniad i gynyddu gwerthoedd contract Cyfres 1 a Chyfres 2 os bydd Cyllid
Ôl-Osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus, ac os bydd
gwerth diwygiedig y contract y tu hwnt i £2m i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn
ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol.
Dogfennau ategol:
- EXTERNAL ENVELOPING FRAMEWORK, Eitem 7. PDF 316 KB
- EXTERNAL ENVELOPING FRAMEWORK - APP 1 LOTS, Eitem 7. PDF 109 KB
- EXTERNAL ENVELOPING FRAMEWORK - APP 2 WBIA, Eitem 7. PDF 102 KB