Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      Cymeradwyo achos busnes ar gyfer datblygu hen safle Llyfrgell Prestatyn  fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (fel y manylir yn Adran 6.7 yr adroddiad ac Atodiadau 5 a 6 yr Adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21)

·        rhagwelir y byddai gorwariant o £0.835 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt gwerth £4.448 miliwn o ran ffioedd ac arwystlon, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion 

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru

·        rhoddwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf gyda diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer achos busnes i ddatblygu cyn safle llyfrgell Prestatyn yn dilyn adroddiad llafar i’r Cabinet yn y cyfarfod diwethaf.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ddiweddariad ar geisiadau cyllido Llywodraeth Cymru a rhai elfennau oedd yn dod i ben.  Er na ragwelwyd newidiadau sylweddol o ran rhagamcaniadau, byddai effaith ar wasanaethau a fyddai’n gorfod ariannu’r elfennau hynny yn y dyfodol a allai arwain at gynnydd mewn gorwariant neu ostyngiad mewn tanwariant mewn rhai meysydd gwasanaeth.  Cyfeiriwyd hefyd at adroddiad diweddar yr adolygiad o wariant 3 blynedd a chyllideb yr hydref fyddai’n cael ei chyhoeddi ym mis Hydref, oedd yn gam positif gan fod posibilrwydd y byddai Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddarparu ffigurau dangosol 3 blynedd ar gyfer y grant cynnal refeniw yn ogystal â chyhoeddiad penodol ar gyfer setliad y flwyddyn nesaf.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·        roedd yr aelodau’n falch o nodi’r posibilrwydd o gael cyllidebau 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, roedd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd wedi bod yn galw amdanynt i helpu â chynllunio ariannol gwell, darparu mwy o sicrwydd i’r dyfodol a chaniatáu hyblygrwydd wrth osod y gyllideb i hwyluso cyflawni prosiectau mwy ac arbedion o ran costau

·        byddai cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU o ran y cynllun ffyrlo a’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol yn dod i ben cyn bo hir, a thynnodd y Cynghorydd Mark Young sylw at yr effaith ariannol ar deuluoedd a holodd am y prosesau oedd yn eu lle o ran Treth y Cyngor a rheolaeth ariannol. O ran casglu Treth y Cyngor a’r economi ehangach, eglurwyd bod awdurdodau lleol wedi bod yn cyflwyno ffurflenni misol i Lywodraeth Cymru er mwyn monitro’r sefyllfa’n ofalus. Roedd gan y Cyngor gynlluniau a phrosesau cadarn yn eu lle ac roedd y gwaith yn parhau, yn cynnwys dynodi pwysau ar wasanaethau i lywio’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Roedd llawer yn dibynnu ar y setliad llywodraeth leol oedd yn anodd ei ragfynegi, ond rhagwelwyd y gellid gosod cyllideb wedi’i mantoli ar gyfer y flwyddyn nesaf heb fod angen arbedion mawr na thoriadau i wasanaethau er y byddai setliadau’r blynyddoedd sydd i ddod yn debygol o fod yn anoddach.  O ran cyflenwyr nwy, roedd ffigurau ar gyfer cynnydd a ragwelir mewn prisiau yn cael eu hystyried ac oherwydd bod llawer o gostau rhedeg swyddfeydd wedi gostwng oherwydd bod staff yn gweithio o gartref, y gobaith oedd y gellid ail neilltuo’r cyllidebau i gynnwys y cynnydd mewn costau. Pan fydd y setliad drafft wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, bydd cynigion ar gyfer y gyllideb yn cael eu dwyn ymlaen i aelodau eu hystyried

·        ymatebodd swyddogion i gwestiynau am ailddatblygu hen safle llyfrgell Prestatyn gan gadarnhau bod angen systemau draenio cynaliadwy i gydymffurfio â safonau/arferion presennol a darparu gwanhad ar y safle, ac roedd yr adeilad wedi cael ei ddylunio mewn ymgynghoriad â’r Tîm Cadwraeth i sicrhau ei fod yn ategu at yr adeiladau presennol yn yr ardal. Roedd y cynnig ar gyfer adeilad 3½ llawr er mwyn cael lle i ddwy aelwyd ychwanegol yn yr atig. Roedd y datblygiad wedi cael caniatâd cynllunio

·        ymatebodd yr aelodau arweiniol a swyddogion i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies am y prosiect Ailfodelu Gwasanaeth Gwastraff yn cynnwys y trefniadau llywodraethu cadarn oedd ar waith a'r cynnydd hyd yma, gan gadarnhau bod y prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni o fewn yr amserlen gyffredinol a’r gyllideb. Roedd gan bob prosiect sy’n para sawl blwyddyn elfennau o ail-broffilio’r gyllideb a llithriant posibl mewn gwariant yn ystod oes y prosiect.  Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones ei fod yn galw am Gyfarfod Briffio/Gweithdy i’r Cyngor ar y prosiect i roi cyfle i ddiweddaru aelodau ac ateb cwestiynau’n fwy manwl.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo achos busnes ar gyfer datblygu hen safle llyfrgell Prestatyn fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (fel y manylir yn Adran 6.7 yr adroddiad ac Atodiadau 5 a 6 yr Adroddiad).

 

 

Dogfennau ategol: