Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm), sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar lwyddiant y Gyd-bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2020-21, a’i chynnydd hyd yma wrth gyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2021-22. 

11:15 – 11:45

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel, y Cynghorydd Mark Young, yr adroddiad (dosbarthwyd eisoes). Er fod rhaid newid y ffordd roedd y Bartneriaeth yn gweithio oherwydd y pandemig, dywedodd eu bod wedi llwyddo i wasanaethu cymuned Sir Ddinbych trwy gydweithio – bob dydd gyda chydweithwyr yr heddlu – i ragweld problemau, delio â throseddau a monitro tueddiadau. Roedd cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau ar gyfer sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n gweithio dan ragor o alw.

 

Roedd tri ar ddeg o feysydd trosedd allweddol wedi’u monitro yn ystod y pandemig. Gwelwyd gostyngiad o ran niferoedd mewn deg maes, ond bu cynnydd mewn tri maes. Sef:

1.    Stelcio ac Aflonyddu;

2.    Cam-Drin Domestig ac

3.    Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol, Sian Taylor, at yr adroddiad ar y prif bwyntiau a oedd wedi’i gynnwys yn atodiad 1, a’r tri maes blaenoriaeth:

 

Blaenoriaeth 1 – Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir Ddinbych trwy weithio mewn partneriaeth.

 

Roedd y statws perfformiad wedi’i osod fel ‘derbyniol’ yn unig, oherwydd roedd yn cwmpasu stelcian ac aflonyddu a cham-drin domestig, a oedd wedi cynyddu dros y cyfnod clo.

 

Roedd y Bartneriaeth wedi parhau i gydweithio gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu, Iechyd a rhwydweithiau’r Trydydd Sector i rannu gwybodaeth yn ystod y pandemig. Roedd nifer o ddatganiadau i’r wasg wedi’u dosbarthu hefyd.

 

Roedd yr holl waith prosiect/gweithgareddau sy’n gysylltiedig â blaenoriaeth un wedi parhau, er bod hyn ar-lein a thros y ffôn yn hytrach nag wyneb i wyneb, ac aseswyd bod ei gynnydd yn ‘dda’.

 

Roedd Byrddau Rhanbarthol wedi cwrdd, ac roedd aelodaeth rhai wedi newid yn ystod y pandemig.  Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel oedd Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Strategol Gogledd Cymru Mwy Diogel, ac roedd uwch swyddogion Sir Ddinbych yn mynychu’r cyfarfodydd. Roedd cyfarfodydd yr amryw Fyrddau yn cael eu cynnal yn rheolaidd, ac roedd cyfarfodydd rhannu gwybodaeth yn cael eu cynnal bob chwarter gyda staff Partneriaethau Diogelwch Cymunedol am safle Sir Ddinbych o ran perfformiad a materion eraill.  Yna gellid rhannu gwybodaeth o’r cyfarfodydd hyn gyda staff Sir Ddinbych pan fo angen.

 

Blaenoriaeth 2 – Lleihau achosion o aildroseddu.

 

Roedd perfformiad wedi’i osod fel ‘da’ oherwydd bu lleihad o ran troseddau gan oedolion ac ieuenctid, er bod cydnabyddiaeth nad oedd hi’n flwyddyn arferol.

 

Roedd y rhaglenni rheoli troseddwyr integredig wedi parhau, gan weithio mewn partneriaeth er mwyn nodi troseddwyr ieuenctid mynych sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Felly, roedd y diweddariad gweithgarwch prosiect wedi’i osod fel ‘da’ hefyd.

 

Blaenoriaeth 3 – Blaenoriaethau Lleol

 

Bu cynnydd bach o ran adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ffurf anghydfodau rhwng cymdogion yn ystod y pandemig, ond yn gyffredinol, roedd y perfformiad wedi’i osod fel ‘da’.

 

Roedd y gweithgareddau prosiect sy’n gysylltiedig â blaenoriaeth 3 yn ‘dda’ hefyd. Roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal i fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd gwaith yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r Bwrdd Camfanteisio a Bregusrwydd Rhanbarthol o ran:

·         Cam-drin domestig

·         Caethwasiaeth Fodern a

·         Llinellau Sirol.

 

Gan gyfeirio at y data ystadegol (tudalen 26 a 27), ymhelaethodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar y tri maes lle gwelwyd cynnydd dros y flwyddyn a'r troseddau a oedd yn llunio pob un o'r categorïau hynny.

 

Stelcian ar-lein oedd y cynnydd mwyaf, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol. Cynghorwyd dioddefwyr i sicrhau bod eu proffiliau cyhoeddus yn breifat, er mwyn atal troseddwyr.

 

Roedd achosion o atgyfeirio at yr Uned Gwasanaeth Cam-Drin Domestig (DASU) wedi mwy na dyblu dros y 12 mis diwethaf. Roedd cyllid wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r anghenion mwy cymhleth a achoswyd gan ragor o ynysu a diffyg rhyngweithio cymdeithasol. Roedd y Bartneriaeth yn hyrwyddo llinell gymorth Byw Heb Ofn ac roedd mwyafrif y galwadau’n dod gan ddioddefwyr oedd yn cael cefnogaeth gan wasanaethau’r trydydd sector.

 

Roedd seiberdroseddau – sy’n dibynnu ar y we ac sy’n cael eu galluogi gan y we – wedi cynyddu bron i draean dros y flwyddyn. Roedd codi ymwybyddiaeth o sgamiau gan y Tîm Safonau Masnach a gweithio gyda sefydliadau fel Age Concern i ddweud bod angen bod yn ofalus a beth i’w wneud os nad oedd rhywun yn sicr a oedd negeseuon e-bost, negeseuon testun neu wefannau yn rhai dilys, yn flaenoriaeth.

 

Ar ôl cyflwyno’r adroddiad, dywedwyd wrth aelodau:

 

·         Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn hytrach na phlismona. Gallai’r Pwyllgor wahodd Heddlu Gogledd Cymru i ddod i’r Pwyllgor Craffu i drafod agweddau sy’n ymwneud â’u rôl yn benodol, pe baent yn dymuno.

·         Roedd y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n ymwneud ag yfed mewn mannau agored cyhoeddus yng Nghanol Tref y Rhyl wedi’i orfodi mwy na 50 gwaith ers iddo gael ei adnewyddu, ac roedd nifer o bobl wedi cael gwŷs i fynd i’r Llys.

·         Roedd arolygiadau wedi’u cynnal ar fusnesau fel salonau ewinedd a busnesau golchi ceir, er mwyn sicrhau nad oedd achosion o gaethwasiaeth fodern yno, ac er mwyn archwilio arferion Iechyd a Diogelwch ac isafswm cyflog/cofnodion cyflogau ac ati.  Roedd unrhyw afreoleidd-dra a nodwyd o ran cyfrifon/cofnodion cyflogau wedi’u hanfon ymlaen at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer archwiliad pellach.

·         Roedd cwmpas posibl i ymestyn ar y cyfiawnder adferol.

·         Byddai cais yn cael ei gyflwyno i Heddlu Gogledd Cymru am wybodaeth am ffigurau troseddau cefn gwlad a throseddau bywyd gwyllt.

·         Nid oedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn monitro damweiniau traffig ffordd.  Y Bartneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd oedd yn gyfrifol am hyn.  Byddai rhif cyswllt yn cael ei nodi a’i ddosbarthu.

·         Gellid rhoi gwybod i’r heddlu ar-lein (trwy 101) am negeseuon e-bost, gwefannau ac ati amheus. Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru bob amser am dwyll ar-lein, a dylid rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am dwyll budd-daliadau.

·         Byddai data gwaelodlin 2019 yn cael ei ddefnyddio fel gwybodaeth gymharu ar gyfer adroddiad 2021/22, oherwydd barnwyd na fyddai data 2020/21 yn gymharydd addas oherwydd y pandemig.

·         Roedd monitro Teledu Cylch Caeëdig yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd Partneriaeth TCC.

·         Byddai CSDd yn hyrwyddo’r cyfleuster e-bost Troseddau Cefn Gwlad a Rhybuddion Cymunedol newydd y mae Heddlu Gogledd Cymru yn ei greu ar hyn o bryd.

·         Efallai bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Swyddogion yr Heddlu yn rhywbeth y bydd aelodau unigol am ei godi gyda’r Heddlu. Nid oedd yn fater o fewn cylch gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Cyn dod â’r drafodaeth i ben, atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod cynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru i fod i fynychu sesiwn Briffio’r Cyngor ar 8 Tachwedd i roi cyflwyniad am waith Llinellau Sirol ac ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth am berfformiad a’r wybodaeth ystadegol a ddarparwyd yn Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2020-21, yn amodol ar y sylwadau uchod a’r atebion a roddwyd gan ymateb i gwestiynau’r aelodau.

 

Dogfennau ategol: