Eitem ar yr agenda
CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH (DVSC)
Cyflwyniad gan Brif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, yn amlinellu:
(i) ei weledigaeth ar gyfer y sefydliad;
(ii) y berthynas waith rhwng Cyngor Sir Ddinbych a DVSC, sut y bu i’r ddau sefydliad gydweithio yn ystod pandemig COVID-19 a chynigion ar gyfer trefniadau gwaith y dyfodol; a
(iii) sut mae DVSC yn gweithio gyda chyrff a mudiadau gwirfoddol ledled y sir, yn blaenoriaethu cyllid a ddyrennir i grwpiau gwirfoddol ac yn gwerthuso effeithiolrwydd y defnydd o’r cyllid a ddyrennir.
10:10 – 11:00
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, y Prif Swyddog a benodwyd yn ddiweddar ar gyfer Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), Tom Barham, i’r Pwyllgor.
Rhoddodd Prif
Swyddog CGGSDd gyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu rôl CGGSDd, sut roedd wedi
gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) dros y blynyddoedd, a’i weledigaeth
er mwyn cryfhau’r Trydydd Sector a’r effaith roedd yn ei chael ar breswylwyr
Sir Ddinbych.
Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd nodau CGGSDd i gefnogi, sbarduno,
amlygu a herio’r Trydydd Sector yn Sir Ddinbych:
·
Cefnogi
– roedd CGGSDd yn gweithio mewn partneriaeth â Cefnogi Trydydd Sector Cymru i
ddarparu cyngor, canllawiau, hyfforddiant a chyllid.
·
Sbarduno
– dod â sefydliadau’r Trydydd Sector ynghyd i lunio partneriaethau, rhannu
arfer da a darparu gwasanaethau newydd.
·
Amlygu
– Helpu’r Trydydd Sector i fod â llais yn Sir Ddinbych gyda gwasanaethau
cyhoeddus, cyllidwyr a chomisiynwyr.
·
Herio
– Bod yn llais annibynnol i gefnogi sefydliadau annibynnol os nad ydynt yn cael
eu clywed a hyrwyddo rhagoriaeth Trydydd Sector o ran safonau gwasanaeth a bod
yn broffesiynol.
Agwedd bwysig i’r
Trydydd Sector oedd hyrwyddo cyfranogiad wrth wella lles mewn cymunedau. Yn
draddodiadol, roedd y Trydydd Sector yn darparu gwasanaethau mewn ardaloedd lle
mae tlodi bwyd a phroblemau iechyd meddwl. Roedd CGGSDd wedi recriwtio Tîm Lles
newydd yn ddiweddar i weithio ar y cyd â’r Trydydd Sector, CSDd, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r gymuned.
Roedd gan CGGSDd
uwch swyddog a oedd yn awyddus i weithio gyda menter gymdeithasol ac
entrepreneuriaid ar draws y Sir i greu canolbwyntiau cymunedol i hyrwyddo
cynhyrchwyr bwyd lleol, caffis lles ac archfarchnadoedd cymdeithasol.
Roedd y bartneriaeth rhwng CGGSDd a CSDd trwy gydol pandemig Covid-19 wedi
bod yn gadarnhaol. Roedd CGGSDd wedi lleoli Gwirfoddolwyr gyda:
·
CSDd
·
Deialu
a Theithio
·
Forget
Me Not
·
Cyngor
Tref Prestatyn ac
·
Ymatebwyr
Cymunedol 4x4 ymhlith eraill.
Wrth symud
ymlaen, roedd adroddiad wedi’i gomisiynu i nodi angen a chadernid yn y Trydydd
Sector yn Sir Ddinbych. Byddai’r adroddiad yn cael ei gwblhau ym mis Ionawr
2022. Byddai Fforwm Trydydd Sector yn cael ei sefydlu er mwyn ymgysylltu â CSDd
a BIPBC i wella cyfathrebu a chydweithio ar ddarparu a datblygu gwasanaethau.
Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y Prif Swyddog:
·
Roedd
Pwyntiau Siarad, I CAN a Llyw-wyr Cymunedol i gyd yn gyfeirbwyntiau defnyddiol
yn y gymuned. Roedd Covid-19 wedi effeithio ar ymgysylltiad, ond roedd yn
bwysig ailsefydlu cyfathrebu yn y gymuned.
·
Rhagwelwyd
y byddai Neuadd Marchnad Rhuthun yn ailagor rhyw dro ym mis Hydref.
·
Roedd
porthol gwirfoddolwyr yn cael ei ddefnyddio a’i reoli gan Gyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru.
·
Byddai
cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf CGGSDd yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd
2021 a byddai’n cynnwys cymeradwyo’r cyfrifon blynyddol.
·
Roedd
cyllid ychwanegol i helpu i gefnogi gwaith cefnogi sy’n ymwneud â COVID-19 wedi
dod i law trwy Grantiau Argyfwng Sector Gwirfoddol Llywodraeth Cymru (LlC) a
gan Comic Relief.
·
CGGC
oedd yn berchen ar adeilad Neuadd y Morfa ar Stryd yr Eglwys yn y Rhyl, nid
CGGSDd. Byddai’r Prif Swyddog yn trafod y cynigion ar gyfer yr adeilad a’r
posibilrwydd ar gyfer canolfan les gyda’u Prif Weithredwr, Ruth Marks.
·
Roedd
gwefan newydd CGGSDd yn cael ei hadeiladu, a byddai’n cael ei rhyddhau fis
Hydref.
·
Roedd
gan CGGSDd swyddog oedd â rôl yn helpu grwpiau newydd i dyfu, cael
cyfansoddiad, sefydlu trefniadau llywodraethu, a denu cyllid cynaliadwy.
·
Byddai’r
newyddlen yn cael ei hadolygu a’i hailwampio yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a
bydd Blogiau ac ati'n cael eu cyflwyno o bosibl.
·
Byddai
ystyriaeth yn cael ei rhoi i adolygu’r gystadleuaeth Pentref Taclusaf.
Diolchodd y
Cadeirydd i Brif Swyddog CGGSDd a gofynnodd iddo ddychwelyd gyda'r wybodaeth
ddiweddaraf yn y flwyddyn newydd.
Ar ddiwedd
trafodaeth y Pwyllgor:
Penderfynwyd: yn
amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
derbyn
cyflwyniad y Prif Swyddog am ei weledigaeth ar gyfer dyfodol Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) a’i uchelgeisiau i weithio gyda’r Cyngor a
grwpiau a sefydliadau eraill ledled y sir, gyda’r bwriad o wella bywydau
preswylwyr a chymunedau; a
(ii)
gofyn
i’r Prif Swyddog fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor ymhen tua chwe mis, i roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwireddu ei
weledigaeth, gan amlinellu unrhyw heriau a fu a sut y cawsant eu datrys.