Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR ARDALOEDD BLAENORIAETH

Derbyn diweddariad ar y meysydd blaenoriaeth ganlynol -

 

(a)  Lles meddwl - Swyddog Iechyd Cyhoeddus Cymru

(b)  Grymuso Cymunedol (gan gynnwys diweddariad ar seilwaith digidol) - Nicola Kneale

(c)  Gwydnwch Amgylcheddol (gan gynnwys cytuno ar ymrwymiadau amgylcheddol) - Justin Hanson / Helen Millband

 

2:35pm – 3:05pm

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar y meysydd blaenoriaeth i’r BGC -

 

(a)  lles meddyliol – hysbyswyd y BGC fod Louise Woodfine (Ymgynghorydd ardal y canol) wedi’i phenodi fel cynrychiolydd newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag oherwydd ymrwymiadau blaenorol nid oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod.    Roedd angen trafodaeth bellach ar arweinydd blaenoriaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(b)  Ymrymuso'r Gymuned (gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar seilwaith digidol) – rhoddodd Nicola Kneale y wybodaeth ddiweddaraf i’r bwrdd ar y gwaith a wnaed. Roedd y cynlluniau cysylltedd a oedd ar y gweill ar hyn o bryd wedi eu hamlygu -

·         Roedd cyflwyno ffibr llawn Llywodraeth Cymru yn dod i ben ym mis Mehefin 2022,

·         Roedd Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol yn anelu i osod band eang ffibr llawn mewn adeiladau cyhoeddus.  Yna byddai Openreach yn cysylltu eiddo ar hyd y llwybr ac yng  nghyffiniau adeiladau cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd yna rai pryderon gyda chynnydd gan ei fod yn dod i ben ym mis Medi 2021, roedd y mater yn cael ei archwilio gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).

·         Prosiect Gigabit Llywodraeth Y DU, cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghyllideb y gwanwyn 2020 ond cafodd ei ddal yn ôl gan oedi ac adolygiadau.  Roedd yn seiliedig ar addewid y llywodraeth i sicrhau bod gan 85% o eiddo’r DU fynediad i fandeang gigabit erbyn 2025, roedd yna hyd at 234,000 o eiddo gwledig yng Nghymru yn y cwmpas.

·         Ychydig iawn o eiddo fyddai’n methu cael mynediad i’r band eang cyflym iawn, byddai’r eiddo hyn yn cael eu dynodi fel ‘eiddo gwyn’. Byddai BUEGC hefyd yn rhoi sylw i’r eiddo hyn drwy’r prosiect Ychydig Ganran Ddiwethaf.

·         Roedd Partneriaeth Ffibr Cymunedol yn defnyddio’r cynllun Taleb Band Eang Gigabit ac roedd yn gynllun cymhorthdal llywodraeth ar draws y DU i ddarparu cysylltiadau ffibr llawn wedi eu diogelu at y dyfodol i gartrefi a busnesau.  Fodd bynnag, roedd yna rai heriau gan na fyddai rhai ardaloedd yn gallu cydgrynhoi’r talebau hyn i dalu am weithredu ffibr mewn rhai cymunedau. 

·         Roedd gosod ffibr yn ddrud, felly mae’r eiddo hynny sy’n arbennig o anodd eu cyrraedd yn annhebygol o gael eu cynnwys mewn cynlluniau uwchraddio gan Openreach ac ni fydd yr arian ar gael gan CFPs yn ddigonol.  Heb ymrwymo buddsoddiad allanol yn yr ardaloedd hyn sy'n anodd i'w cyrraedd, maent yn annhebyg o gael eu huwchraddio am beth amser. 

 

Roedd y Bwrdd yn diolch i Nicola am y wybodaeth ddiweddaraf ar fater cymhleth.  Roedd Graham Boase (CSDd) yn awgrymu y gall y BGC edrych ar gysylltedd fel blaenoriaeth, gan ei fod yn effeithio ar bob sefydliad.  Roedd yn sylweddoli na allai’r BGC weithredu gwaith, fodd bynnag, gallai ddylanwadu sefydliadau oedd yn ymgymryd â’r gwaith y soniwyd amdano a herio’r sefydliadau ar pa un a gyflawnwyd y gwaith. Gallai hyn wneud cynnydd gyda’r gwaith.

 

Trafodwyd y gallai'r sefydliadau trydydd sector dderbyn rôl i helpu i symud cymunedau i gael cefnogaeth a chyllid i wella cysylltedd. 

 

Codwyd band eang lloeren a sut yr oedd technoleg wedi’i ddatblygu a gallai fod yr unig ddewis oedd yn hyfyw i rai o’r ardaloedd gwledig yng Nghymru. 

 

(c)  Gwytnwch amgylcheddol – rhoddodd Jason Hanson (Cyfoeth Naturiol Cymru) gyflwyniad i'r BGC yn amlygu gwaith a wnaed o ran y flaenoriaeth gwytnwch amgylcheddol. 

 

Roedd yr is-grŵp wedi adolygu pob blaenoriaeth ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn cais y BGC i wneud hynny. Roedd yr is-grŵp wedi cyfarfod ddwywaith ers y cyfarfod BGC ddiwethaf. Roedd yna ffocws yn bennaf ar adolygu a newid blaenoriaeth 1, y datganiad polisi amgylcheddol. Y chwech blaenoriaeth oedd -

 

1.    Gweithio gyda’n partneriaid BGC i ddatblygu datganiad polisi amgylcheddol, fel ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.

2.    Gweithio gyda chymunedau i ddatblygu addewidion amgylcheddol a newidiadau gwyrdd y gallwn ei wneud i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

3.    Edrych ar faterion amgylcheddol sy’n effeithio ar y rhanbarth nad oes modd i ni atgyweirio ein hunain, megis amddiffynfeydd môr a lleihau’r swm o becynnau yn ein siopau.

4.    Edrych ar ein proses gaffael a nodi sut y gallwn fwyhau budd cymunedol drwy ddatblygu adeiladau (e.e. drwy Gytundebau Adran 106).

5.    Gweithio gyda’n timau cynllunio i sicrhau bod materion amgylcheddol yn cael eu trin wrth gynllunio datblygiadau newydd.

6.    Mannau gwyrdd newydd yn gysylltiedig ag adferiad Covid

 

Jason Hanson (Cyfoeth Naturiol Cymru) i ddosbarthu’r ymrwymiadau diwygiedig i’r bwrdd a gofynnodd am adborth erbyn 15 Hydref.  Yn dilyn yr adborth byddai swyddogion yn edrych ar adolygu aelodaeth yr is-grŵp a gofynnwyd i aelodau enwebu cynrychiolydd o'u sefydliad (os nad oedd yna gynrychiolydd ar y grŵp eisoes)...

 

PENDERFYNWYD

(a)  Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus i nodi’r diweddariadau ar y meysydd blaenoriaeth

(b)  Aelodau’r Bwrdd i adborth unrhyw sylwadau ar yr ymrwymiadau amgylcheddol diwygiedig erbyn 15 Hydref 2021. 

(c)  Aelodau’r Bwrdd i ddarparu enwebiadau ar gyfer yr is-grŵp amgylchedd erbyn 15 Hydref 2021.