Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 553562
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Mercher, 15 Medi 2021 9.30 am (Item 7.)
- Gweld y cefndir i eitem 7.
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi -
(i)
i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif
553562 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno
oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;
(iii)
i’r Ymgeisydd apelio i’r Llys Ynadon yn erbyn dirymiad ei drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ym mis Gorffennaf 2019 oherwydd trosedd
glwyfol honedig. Cafodd yr achos ei gau gan Lys y Goron ym mis Hydref 2019 ac
ni chafodd yr Ymgeisydd ei farnu’n euog o unrhyw drosedd;
(iv)
i’r Llys Ynadon gyflwyno gorchymyn cydsynio yn cytuno y dylid rhoi’r apêl
o’r neilltu a chaniatáu i’r Ymgeisydd wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am
drwydded newydd lle byddai'r holl faterion yn cael eu hystyried o'r newydd;
(v)
i wybodaeth bellach ynglŷn â’r cais yn
cynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig a’r
holl wiriadau arferol eraill gael eu cwblhau i safon foddhaol ynghyd â’r
geirdaon a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd;
(vi)
ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm ag addasrwydd ymgeiswyr, ac
(vii)
i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny.
Cadarnhaodd
yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd
y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.
Eglurodd
yr Ymgeisydd y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r drosedd honedig, a oedd yn ei
gwadu’n bendant, ynghyd â’r prosesau cyfreithiol canlynol a’r effaith niweidiol
ar ei fywyd personol. Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i
adennill y drwydded a dychwelyd i’r gwaith yr oedd yn ei garu ac i ddarparu ar
gyfer ei deulu. Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau a
godwyd gan aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, gan
gadarnhau nad oedd wedi bod wrth ei waith pan ddigwyddodd hyn, nid oedd wedi
bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiad o’r fath yn y gorffennol ac nid oedd ganddo
unrhyw broblemau rheoli dicter. Pwysleisiodd yr Ymgeisydd ei
edifeirwch ynghylch y digwyddiad a darparodd sicrwydd ei fod wastad wedi bod,
ac yn parhau i fod, yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded. Yn ei ddatganiad terfynol, bu i’r Ymgeisydd annog yr
aelodau i gymeradwyo ei gais er mwyn iddo allu gweithio a darparu ar gyfer ei
deulu.
Oedwyd
y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.
Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Roedd
yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr
oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i
atebion i gwestiynau. Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried
yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd
ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat.
Yn
benodol, ystyriodd y Pwyllgor adran 4.12 o’r polisi a oedd yn nodi y byddai
materion, nad oeddent wedi arwain at gollfarn droseddol, yn cael eu hystyried
ac roedd unrhyw gyfeiriad mewn perthynas â “chollfarn” yn y polisi yn cynnwys
materion yr oedd yr un fath ag ymddygiad troseddol ond nid oeddent wedi arwain at
gollfarn, ac adran 4.31 a oedd yn nodi, o ran troseddau’n cynnwys / yn ymwneud â thrais, na fyddai trwydded yn
cael ei chaniatáu nes yr oedd o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau
unrhyw ddedfryd. Casglodd y Pwyllgor nad oedd yr
Ymgeisydd wedi cael ei farnu’n euog o unrhyw drosedd (yn wir ystyriwyd bod
achos troseddol Llys y Goron ar y drosedd o glwyfo wedi arwain at ddieuogi’r
Ymgeisydd) ond ystyriodd, at ei gilydd, bod ffrae wedi digwydd rhwng yr
Ymgeisydd ac unigolyn arall. Derbyniodd y Pwyllgor
ddehongliad yr Ymgeisydd o’r amgylchiadau mewn perthynas
â’r digwyddiad, yn cynnwys y sylwadau mewn perthynas â chythruddo a lliniaru ac
ei fod yn gwadu’r honiad o glwyfo.
Gan
fod y ddarpariaeth uchod yn eglur yn y polisi, fe wnaeth y Pwyllgor wedyn
ystyried 3.19 yn yr un polisi, oedd yn datgan na ddylid ond gwyro oddi wrth
ddarpariaeth yn y polisi mewn
amgylchiadau eithriadol ac am resymau cyfiawn.
Ar ôl canfod nad oedd yr Ymgeisydd wedi cael
ei farnu’n euog o unrhyw drosedd o ran y ffrae ac ar ôl clywed gan yr Ymgeisydd
am yr amgylchiadau’n gysylltiedig â’r digwyddiad, a rhoi ystyriaeth i hanes yr
Ymgeisydd fel gyrrwr a’r geirdaon a ddarparwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod
yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded. Casglodd y Pwyllgor bod amgylchiadau
eithriadol a bod rhesymau cyfiawn, sef rhyddfarn llys troseddol yn ymwneud â’r
digwyddiad serch hynny ar gyfer y drosedd o glwyfo ac nid troseddau trais
ehangach, o dan adran 3.19 yn y polisi i wyro oddi wrth y ddarpariaeth yn adran
4.31 a chymeradwyo’r cais.
Cafodd
penderfyniad y Pwyllgor ei gyfleu i’r Ymgeisydd.
Daeth
y cyfarfod i ben am 10.50 am.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./3 yn gyfyngedig