Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD - DEDDF TRWYDDEDU 2003 – DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad aelodau o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn yn dilyn hynny.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau’r aelodau, bod y Pwyllgor yn rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghori, ac -

 

 (a)      os na dderbynnir sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad, bod datganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu yn cael ei gyflwyno’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo, neu

 

 (b)      os y derbynnir sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad bod y swyddogion yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn yn dilyn hynny.  Roedd y polisi yn sefydlu fframwaith lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer caniatâd neu amrywiadau i amodau a thelerau presennol ac roedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac adolygu’r polisi o leiaf bob pum mlynedd.

 

O ystyried y manteision o bolisi cyson ar draws Gogledd Cymru, roedd y mwyafrif o’r newidiadau arfaethedig wedi cael eu drafftio gan chwe awdurdod trwyddedu Gogledd Cymru, ac wedi cael eu hamlygu yn goch i'r aelodau eu hystyried.  Nid oedd newidiadau sylweddol wedi cael eu cynnig oni bai am gynnwys newidiadau deddfwriaethol, cyfrifoldebau’r Bwrdd Iechyd, cryfhau materion yn ymwneud â chyffuriau a chynnwys mentrau lleol.  Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys hysbysiad cyhoeddus o’r polisi drafft ynghyd â chysylltu ag ymgyngoreion statudol a’r holl ddeiliaid trwydded.  Bu i’r swyddogion argymell bod unrhyw sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor ond os na dderbynnir sylwadau, dylid cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn i gymeradwyo’r polisi drafft.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft a thrafod gyda swyddogion ynghylch gofynion amrywiol a chamau rhesymol yr oedd yr awdurdod lleol yn eu disgwyl gan eiddo trwyddedig.  Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau’r aelodau a sylwadau ynglŷn ag agweddau amrywiol o'r polisi ac fe wnaethant ddarparu eglurder mewn sawl maes.  Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·         cadarnhaodd y swyddogion bod gofyniad deddfwriaethol ar bob eiddo â thrwydded i gyflenwi alcohol, i ddarparu dŵr yfed am ddim ar gais

·         roedd yr aelodau wedi cwestiynu’r cyfeiriad arfaethedig at y ddarpariaeth o ystafell cymorth cyntaf a chyfarpar (yn cynnwys diffibriliwr mewn lleoliadau mwy) ac a oedd angen ei gynnwys yn y polisi o ystyried bod hyn yn gyfrifoldeb ar yr eiddo trwyddedig ac nid yr awdurdod trwyddedu.   

Cadarnhaodd y swyddogion y byddai unrhyw ofyniad i ddarparu cyfleusterau cymorth cyntaf yn cael ei benderfynu o fewn yr asesiadau risg a gynhaliwyd gan yr eiddo trwyddedig a hefyd yn ystyried y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.  Fodd bynnag, roedd y briodol bod y polisi’n ystyried rheoli'r eiddo trwyddedig yn ei gyfanrwydd ac i annog cynnal pob cam rhesymol.  Nid oedd amodau penodol ar gyfer eiddo trwyddedig wedi cael eu cynnig o ran darpariaethau cymorth cyntaf o ystyried mai cyfrifoldeb yr eiddo trwyddedig unigol oedd penderfynu beth oedd yn addas iddyn nhw

·         eglurwyd y byddai yfed o boteli yn cael ei ganiatáu oni bai bod amod ar y drwydded eiddo unigol yn gwahardd hynny a chytunodd swyddogion i ailedrych ar y geiriad yn y polisi i sicrhau eglurder o ran hynny

·         byddai rheolyddion ynglŷn ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus / ar y stryd yn destun Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

·         roedd atodiad 6 yn y polisi yn cyfeirio at amodau gorfodol nad oedd modd eu newid

·         o ran disgwyliadau hyfforddiant staff, roedd pob eiddo trwyddedig yn gyfrifol am hyfforddiant staff a byddai pob eiddo yn meddu ar ei raglen hyfforddiant ei hun

·         er nad oedd diffiniad o ‘leoliadau mwy’, roedd disgwyl y byddai unrhyw fesurau angenrheidiol ychwanegol, o ystyried maint y lleoliad, yn cael eu penderfynu yn asesiad risg yr eiddo unigol

·         wrth ymateb i sylwadau ynghylch y diffyg cyfeiriad at reoliadau rheoli adeiladu yn adran 5 y polisi, dywedodd y swyddogion fod y Gwasanaethau Cynllunio yn ymgyngoreion statudol ac roedd ganddynt gyfle i roi mewnbwn ar yr adolygiad polisi; cytunodd y swyddogion i ofyn am farn Rheoli Adeiladu yn benodol o ran hynny. 

·         cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at y cyfeiriad yn y polisi (tudalen 64) at “mae alcohol yn sylwedd gwenwynig” a gofynnodd a fyddai modd ychwanegu, “yn gyffur, ac yn creu dibyniaeth”.   

Cytunodd y swyddogion i geisio barn y Bwrdd Iechyd wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau’r aelodau, bod y Pwyllgor yn rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghori, ac -

 

 (a)      os na dderbynnir sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad, bod datganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu yn cael ei gyflwyno’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo, neu

 

 (b)      os y derbynnir sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad bod y swyddogion yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2021.

 

 

Dogfennau ategol: