Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 45/2020/0844/PF - SANDY LODGE, 83 FFORDD DYSERTH, Y RHYL

Ystyried cais i newid ac addasu cartref nyrsio i gynnwys estyniad gyda dwy ystafell wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risiau wedi’u hamgáu a fydd yn allanfeydd tân, a chanopi mynediad (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i addasu ac ymaddasu Cartref Nyrsio presennol i gynnwys estyniad ar gyfer dwy ystafell wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risiau wedi’u hamgáu a fydd yn allanfeydd tân, a chanopi mynediad yn Sandy Lodge, 83 Ffordd Dyserth, Y Rhyl.

 

Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid gohirio’r cais nes bod ymweliad safle wedi’i gynnal i eiddo’r preswylydd lleol. Gofynnodd y Cynghorydd Jones am ymweliad safle i eiddo’r preswylydd a'r eiddo cymdogol i weld effaith y gwaith addasu yn Sandy Lodge.

Eiliodd y Cynghorydd Ann Davies y cynnig i ohirio ar y sail y gofynnwyd am ymweliad safle.

 

Pleidlais -

Gohirio - 8

Ymatal - 1

Yn erbyn – 9

 

PENDERFYNWYD NA roddwyd y cais am ohirio a bod y Pwyllgor yn clywed y cais am newid ac addasu'r Cartref Nyrsio presennol yn Sandy Lodge, y Rhyl.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau nad oedd y Siaradwyr Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon ar y rhaglen wedi gallu mynychu, ond eu bod wedi darparu datganiadau a byddai’r Rheolwr Rheoli Datblygu yn eu hadrodd i aelodau.

 

Datganiad ysgrifenedig a ddarparwyd gan Tim Carty (yn erbyn) – Roedd y cais manwl yn cyfeirio at ddefnydd arfaethedig y cyfleuster fel ysbyty seiciatrig preifat, roedd gwefan Medirose yn cyfeirio at dderbyn atgyfeiriadau gan y rhai hynny a oedd yn cael eu cadw o dan y ddeddf iechyd meddwl a’r rhai hynny a oedd yn destun gorchmynion derbyn i’r ysbyty.  Roedd y rhai a oedd yn gwrthwynebu’r cais wedi cael eu cyhuddo o fod â phroblem gyda darpariaeth iechyd meddwl, ond mewn gwirionedd roeddem yn gwrthwynebu’r lleoliad yma oherwydd ein bod yn malio am ddarpariaeth briodol i unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl. Nid oedd yr ymgeisydd yn gallu nodi y byddai’r uned yn cael ei hystyried yn ddiogel gan y byddai hynny’n awgrymu cais newid defnydd felly nid oes sicrwydd y byddai’r cyfleuster yn ddiogel.

Gor-ddatblygu – Mae’r safle wedi cael ei ddatblygu ddwywaith o’r blaen, gan ehangu ôl-troed yr adeilad a lleihau’r mannau agored ar y safle, a bydd y rhan fwyaf ohonynt nawr yn ofodau parcio. Bu’r adeilad yn fethiant fel cartref gofal oherwydd ei anaddasrwydd. A fyddech chi’n dewis anfon anwylyd yno? Os na fyddech, pam felly fyddech chi’n ei hystyried yn briodol i anfon unigolion â heriau iechyd meddwl yno? Onid ydynt yn haeddu gwell? Mae’r adeilad yn hen, yn dywyll ac yn anaddas fel lle i gael seibiant ac i adsefydlu. Mae wedi’i leoli yng nghanol ardal breswyl, heb unrhyw fannau gwyrdd i gynorthwyo â gwella. Gadewch i ni ddefnyddio carchardai fel enghraifft, erbyn hyn mae hen adeiladau yn cael eu hystyried yn amhriodol a chyfleusterau modern yw’r ffordd ymlaen. Pam ddylen ni dderbyn llai ar gyfer yr unigolion hynny â phroblemau iechyd meddwl? 

Traffig – Mae’r arolwg traffig yn ymwneud â defnydd blaenorol yr adeilad pan oedd yn gartref gofal 4 blynedd yn ôl, cyn y datblygiad a oedd wedi cynyddu llif y traffig. Bu i hyn roi pwysau ar y cyffyrdd â Ffordd Dyserth yn Rhodfa Pen Y Maes, Ystâd Park View, Lôn Ystrad a Heol Y Llys.  Roedd cyflymder y traffig wedi cynyddu ar y ffordd honno gyda llif y traffig. Roedd y cais cynllunio wedi dynodi gofodau parcio, ond pe na bai’r rheiny’n ddigonol, byddai’n demtasiwn i barcio ar y briffordd. Fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad safle.

Angen – Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar gyfleuster gyda 66 gwely a fydd wedi’i leoli llai na milltir i ffwrdd. Yn ôl gwefan Medirose, bwriedir darparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol er mwyn galluogi pobl leol i gael mynediad at ofal o safon, mor agos at eu teulu a’u rhwydwaith cymdeithasol â phosib’. Oni ddylid bod angen am atgyfeiriadau lleol? A ydyn ni’n disgwyl i’r Rhyl ddod yn fan i wthio cleifion yno o du allan i’r rhanbarth. Mae cais rhyddid gwybodaeth yn dangos, rhwng 2018 a 2021, y bu i Ymddiriedolaeth y GIG lleol atgyfeirio cyfanswm o 90 o gleifion i gyfleusterau y tu allan i’r ardal oherwydd diffyg capasiti, gan dreulio cyfnod o lai na 6 mis yno ar gyfartaledd. Mae hyn yn awgrymu y bydd gor-ddarpariaeth pan fydd yr adeilad mwy ar Ffordd Brighton wedi’i gwblhau.

Niwsans – Byddai’r datblygiad arfaethedig yn Sandy Lodge yn cael effaith negyddol ar y preswylwyr sydd yn byw wrth gefn yr eiddo a byddai modd gweld i gefn adeilad y feithrinfa ddydd hefyd. Roedd ychwanegiadau blaenorol i’r adeilad wedi sicrhau byddai unrhyw ddatblygiad pellach yn amharu ar yr agwedd agored a golau yn enwedig i breswylwyr Cae Gruffydd. Hoffwn annog y pwyllgor i fyfyrio ar y materion a nodwyd, ynghyd â’r grŵp Facebook â 600 aelod yn gwrthwynebu’r datblygiad sydd wedi’i gynllunio a deiseb gyda 300 o lofnodion ar change.org  ac i bleidleisio i wrthod y cais.                  

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheol Datblygu y byddai’n awr yn darllen y datganiad gan y siaradwr cyhoeddus o blaid y cais.

 

Datganiad ysgrifenedig a ddarparwyd gan John Horden (asiant) (o blaid) – Fy enw i yw John Horden o J P H Architects. Fi yw pensaer y prosiect ar gyfer y cais. Fel y byddwch yn ei weld o adroddiad y swyddog achos, gwneir cais am addasiadau ac ymaddasiadau syml, ac estyniad dwy ystafell wely i’r prif adeilad cartref gofal presennol.  Hyd y gwelaf i, nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion na phryderon cynllunio o ran dwysedd, graddfa neu ffurf ac mae’r cynigion yn cyd-fynd ag ethos yr adeilad a’i swyddogaeth. Sylwch hefyd bod y swyddog achos yn cynnig cymeradwyo’r cais. Rydym yn ymwybodol bod pryderon wedi cael eu mynegi gan y cyhoedd ynghylch y cais ar sail swyddogaeth a defnydd yr adeilad. Ar hyn o bryd mae’r adeilad yn gartref nyrsio ac mae wedi’i ddosbarthu fel grŵp diben C2. Nid oes bwriad i weithredu y tu allan i’r defnydd hwn. Rwyf eisiau pwysleisio mai C2 fydd grŵp defnydd y cartref nyrsio yn y dyfodol, ac fel ysbyty annibynnol bydd yn sicr o fewn defnydd C2. Mae defnydd C2a ar gyfer uned ddiogel sy’n bendant yn amherthnasol i’r adeilad yma. Ar ben hyn, nid yw defnydd a grŵp diben y cyfleuster hwn yn ystyriaeth gynllunio berthnasol ar gyfer y cais hwn. Rydych yn gwneud penderfyniad ynghylch cais am estyniad 2 ystafell wely, dau set o risiau wedi’u hamgáu fydd yn allanfeydd tân, a chanopi dros y brif fynedfa i’r cartref. Rwyf felly yn eich annog i gymeradwyo’r cais hwn. Os nad yw’r cais yn cael caniatâd cynllunio llawn yn y cyfarfod hwn, bydd y cleiant yn gwneud apêl ac yn gwneud cais am gostau. Diolch yn fawr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Rheoli Datblygu am adrodd y datganiadau a dderbyniwyd gan y siaradwyr cyhoeddus. Cadarnhawyd bod ymweliad safle wedi cael ei gynnal ym mis Gorffennaf. Roedd y Cynghorydd Ellie Chard wedi bod yn bresennol yn yr ymweliad safle a dywedodd wrth yr aelodau ei bod yn falch o gael ymweld â’r safle ac roedd yn teimlo y byddai’r addasiadau yn cael effaith gadarnhaol ar y safle. Roedd y Cynghorydd Paul Penlington yn cytuno gyda’r Cynghorydd Chard. Gwahoddwyd yr Aelodau i gerdded o amgylch y safle cyfan a chawsant wybod beth a gynigiwyd ar gyfer y newidiadau i'r adeilad. Yn ei farn ef, roedd yr addasiadau a gynigiwyd eu gwneud i adeilad o’r maint yma yn addasiadau bach. Byddai’r allanfeydd tân presennol a fwriedir eu hamgáu o fudd i’r bobl leol. Mae’r ddwy ystafell wely ychwanegol yng nghanol yr adeilad felly ni fyddent yn gwneud unrhyw wahaniaeth i olwg yr adeilad. O safbwynt y Cynghorydd Penlington, nid oedd rheswm ar sail gynllunio i wrthod y cais.

 

Yn yr ymweliad safle, dywedodd y Cynghorydd Ann Davies ei bod wedi gweld pa mor agos oedd yr adeiladau cyfagos. Roedd o’r farn y byddai’r datblygiad yn gorddwysáu’r ardal. Ni fyddai’r gerddi’n darparu’r man hamdden ar gyfer anghenion yr unigolyn.

Roedd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Christine Marston, hefyd wedi bod yn bresennol yn yr ymweliad safle. Cyfeiriodd yn benodol at pa mor agor oedd meithrinfa ddydd.

 

Dadl gyffredinol – Cynigodd yr Aelod Ward, y Cynghorydd Brian Jones, y dylid gwrthod y cais oherwydd bod yr adeilad presennol wedi’i or-ddatblygu. Roedd gormod o ddatblygiadau eisoes wedi cael eu gwneud ar y safle cyn y cais hwn. Roedd y goblygiadau o ran traffig hefyd yn reswm dros wrthod y cais, cwblhawyd yr arolygon diwethaf rai misoedd yn ôl ac ni fyddent wedi ystyried datblygiad y safle. Roedd y Cynghorydd Jones o’r farn nad oedd gofyniad am y datblygiad, gyda chyfleusterau eraill llai na milltir i ffwrdd. Eiliodd y Cynghorydd Peter Scott y cynnig i wrthod y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth yr aelodau y gellid ystyried ystyriaethau cynllunio perthnasol megis gor-ddatblygu'r safle a gorbwysleisio ac effaith eiddo cyfagos fel rhesymau perthnasol dros wrthod. Pwysleisiwyd na chynigiwyd newid y defnydd o'r adeilad fel rhan o'r cais hwn ac ni ellid ei ystyried. Roedd y swyddogion wedi ystyried y ceisiadau yn unol â chanllawiau cynllunio. Roedd y swyddogion o’r farn bod y ceisiadau yn dderbyniol o ran cynllunio.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd gyda’r Cynghorydd Brian Jones mai’r rhesymau dros wrthod oedd gor-ddatblygiad y safle a’r effaith ar y cymdogion, yn enwedig yng nghefn yr eiddo. 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Brian Blakely, wrth yr aelodau ei fod wedi ymweld â’r safle ac wedi siarad â phreswylwyr lleol. Yn ei farn ef, nid oedd rheswm i wrthod y cais. Nododd bryderon y preswylwyr lleol ynghylch defnydd y safle os oedd y cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo. Roedd y Cynghorydd Cheryl Williams yn cytuno gyda’r Cynghorydd Blakely.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurhad ynglŷn â’r datblygiad ar y safle ac os oedd wedi’i or-ddatblygu yn nhermau %.  Gofynnodd hefyd am eglurder ynghylch pellter yr estyniad arfaethedig newydd oddi wrth yr eiddo cyfagos. Nododd yr aelodau bod cyfeiriad wedi’i wneud at feithrinfa leol, a gofynnwyd a oedd y Cyngor wedi derbyn unrhyw wrthwynebiad gan y feithrinfa?

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.     

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Mark Young, eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y term gor-ddatblygu safle yn aml yn cyfeirio at estyniadau preswyl. Gan gyfeirio at y safle hwn, cytunodd y swyddogion bod yr adeilad gwreiddiol wedi bod yn destun sawl estyniad. Roedd y swyddogion yn cytuno bod yr estyniadau arfaethedig yn dderbyniol o ystyried maint y safle a’r gofod o amgylch yr adeilad. Byddai’r brif effaith bosibl i eiddo cyfagos wrth gefn yr adeilad gyda’r estyniad llawr cyntaf i greu dwy ystafell wely. Nid oedd yr estyniad yn ymestyn ymhellach tuag at yr eiddo na’r adeilad presennol. Roedd swyddogion yn derbyn bod pellter rhesymol o dros 21 medr, o ran yr estyniad arfaethedig i'r cefn.

 

Amlygwyd gan fod y cais am estyniadau i'r adeilad ac nid ar gyfer newid defnydd, nid oedd sylwadau gan gydweithwyr gwasanaethau oedolion o fewn y cyngor wedi dod i law. Dywedodd yr aelodau mai’r Arolygiaeth Safonau Gofal oedd yn gyfrifol am reoli cyffredinol, cofrestru a threfniadau ar gyfer defnyddio’r adeilad.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y gwahaniaeth rhwng gorbwysleisio'r defnydd o safle a gor-ddatblygu. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gor-ddwysáu fel arfer yn ymwneud â defnyddio safle neu adeilad o ran effeithiau. Mae gor-ddatblygu yn ymwneud mwy ag adeiladu adeiladau o fewn safle a'u heffeithiau.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd unrhyw wrthwynebiad mewn perthynas â’r cais am estyniad wedi’i dderbyn gan y feithrinfa gerllaw.

 

Pleidlais -

O blaid – 11

Ymatal – 0

Yn erbyn – 7

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.   

 

Dogfennau ategol: