Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi ynghlwm), i hysbysu Aelodau ynghylch Rhaglen Amrywiaeth mewn Gwasanaethau Democrataidd CLlLC.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth (a gylchredwyd yn flaenorol) i dynnu sylw aelodau at Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth CLlLC a’r camau gweithredu a gymeradwywyd gan Gyngor CLlLC, ynghyd â chais i bob Cyngor yng Nghymru ymrwymo i fod yn ‘Gynghorau Amrywiol’.

Roedd gan CLlLC Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth uchelgeisiol i geisio sicrhau bod siambrau cynghorau yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Roeddent wedi bod yn ystyried ffyrdd o sicrhau mwy o amrywiaeth ar ôl etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2022.

 

Ym mis Medi 2018, cytunodd Cyngor CLlLC i gymryd camau i gynyddu cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth mewn Cynghorau cyn etholiadau 2022. Roedd hyn er mwyn cydnabod y diffyg amrywiaeth sydd yng Nghynghorau Cymru. Sefydlwyd gweithgor trawsbleidiol er mwyn edrych ar dangynrychiolaeth ehangach mewn democratiaeth. Mewn cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, cafodd Cyngor CLlLC adroddiad gan y gweithgor trawsbleidiol hwnnw gyda chynigion wedi’u cynllunio i gyflawni newid sylweddol mewn amrywiaeth ar ôl etholiadau 2022.

 

Cytunodd Cyngor CLlLC yn unfrydol bod angen ymdrech unedig ar y cyd ar draws teulu llywodraeth leol a phleidiau gwleidyddol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, anfonwyd llythyr at bob Awdurdod Lleol yng Nghymru, wedi’i lofnodi gan bob un o arweinwyr y grwpiau gwleidyddol a gaiff eu cynrychioli ar Gyngor CLlLC. Mae copi o’r llythyr hwnnw wedi ei atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad a gylchredwyd yn flaenorol.

 

Ceisiwyd ymrwymiad i’r datganiad canlynol:

 

Mae’r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.

 

Rydym yn cytuno i:

 

·         Ddarparu ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

·         Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hyrwyddo’r safonau uchaf o ymddygiad

·         Gosod Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol lleol cyn etholiadau lleol 2022. Arddangos ymrwymiad i ddyletswydd gofal ar gyfer Cynghorwyr.

·         Darparu hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal cyfarfodydd

·         Sicrhau fod yr holl aelodau yn ymwybodol o’r lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl iddynt, yn arbennig unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau yn derbyn ad-daliadau teg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelod yn gyfyngedig i’r rhai a all ei fforddio.

 

Os yw’r datganiad i’w gymeradwyo, byddai adroddiad mwy manwl yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cododd y Cynghorydd Tony Thomas y mater ei fod yn y gorffennol o gael ei enwebu i fod yn Gynghorydd wedi gorfod ymddiswyddo o'i swydd fel athro. 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod CLlLC wedi bod yn edrych ar yr agwedd honno o’r broses enwebu.

·         Cododd y Cynghorydd Bobby Feeley fater  y cydbwysedd rhwng y rhywiau yng Nghyngor Sir Ddinbych. 

Roedd 14 o’r Cynghorwyr yn fenywod, roedd 1 aelod o’r Cabinet yn fenyw a dim ond un Cadeirydd o’r amrywiol bwyllgorau oedd yn fenyw. Roedd hyn yn gofyn am newid diwylliannol gan, yn ei barn hi, nid oedd llawer o fenywod yn gweld eu hunain mewn gwleidyddiaeth. O ran cynghorwyr hŷn, roedden nhw yn dod â llawer o brofiad i’r rôl felly byddai cyngor amrywiol yn fwy priodol.

·         Nodwyd fod cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal o bell o ganlyniad i covid. 

Byddai cyfarfodydd o bell yn rhoi cyfle i fwy o bobl sefyll, gan na fyddai'n cymryd amser i deithio i ac o fannau cyfarfod. Roedd hyn yn hynod o fuddiol os oedd unigolyn sy'n gweithio yn dymuno sefyll fel cynghorydd yn y dyfodol.

·         Codwyd mater camdriniaeth i gynghorwyr gan aelodau o’r cyhoedd, yn arbennig cynghorwyr benywaidd. 

Ni fyddai hyn yn cael ei oddef a'r gobaith oedd na fyddai hyn yn atal pobl rhag cyflwyno eu hunain i sefyll fel cynghorwyr yn y dyfodol. 

·         Cadarnhawyd mai rhan allweddol o’r datganiad fyddai i annog safon uchel iawn o ymddygiad gan gynghorwyr.

·         O ran amrywiaeth y cyngor y bwriad oedd annog darpar ymgeiswyr waeth beth fo’u rhyw, oed, hil, ethnigrwydd, anabledd ayb i sefyll fel cynghorwyr.

·         Roedd sioeau teithiol i’w cynnal mewn ardaloedd amrywiol i alluogi cymaint o wybodaeth â phosibl i gael ei throsglwyddo i aelodau o'r cyhoedd a fyddai â diddordeb mewn sefyll fel darpar ymgeiswyr yn y dyfodol.   

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Mark Young ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bobby Feeley i dderbyn yr adroddiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

(i)    Bod y Cyngor yn nodi’r cynnwys a’r camau gweithredu a amlinellwyd yn adroddiad a llythyr Cyngor CLlLC sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 a 2.

(ii)  Bod y Cyngor yn ymrwymo i fod yn ‘Gyngor Amrywiol’ a’i fod yn cefnogi’r egwyddorion a nodir yn y datganiad drafft yn Atodiad 3.

(iii) Bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cael y dasg o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

1.     

 

Dogfennau ategol: