Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 01/2020/0315/PF . HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH
- Meeting of Pwyllgor Cynllunio, Dydd Mercher, 8 Medi 2021 1.30 pm (Item 8.)
- View the declarations of interest for item 8.
Ystyried cais i
drawsnewid, adnewyddu, dymchwel yn
rhannol ac addasu'r prif adeiladau rhestredig at ddefnydd preswyl (34 annedd);
dymchwel cartref nyrsys, marwdy, ward ynysu, Ward Aled ac adeilad yr hen waith
nwy; datblygu tir o fewn tiroedd yr ysbyty at ddefnydd cymysg i alluogi
datblygu, yn cynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o
unedau busnes (yn cynnwys cymysgedd o ddefnydd A1, A2, A3, B1, C1, C2, C3, D1 a
D2); lleoli Clwb Criced Dinbych ac adeiladu mynediad a gwneud y gwaith draenio
a gwaith arall cysylltiedig (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais ar
gyfer Trosi, adfer, dymchwel ac addasu'n rhannol adeiladau rhestredig prif
ystod i ddefnydd preswyl (34 o anheddau); dymchwel cartref nyrsys, marwdy, ward
ynysu, Ward Aled ac adeilad yr hen waith nwy; datblygu tir o fewn tiroedd yr
ysbyty at ddefnydd cymysg i alluogi datblygu, yn cynnwys hyd at 300 o unedau
preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes (yn cynnwys cymysgedd o
ddefnydd A1, A2, A3, B1, C1, C2, C3, D1 a D2); lleoli Clwb Criced Dinbych; ac
adeiladu mynediad, draeniad a gwaith cysylltiedig yn Hen Ysbyty Gogledd Cymru,
Dinbych.
Cyfeiriodd y
cadeirydd yr aelodau at nodiadau’r swyddog y manylir arnynt yn y papurau ategol
ynghyd â sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Rhys Thomas, a oedd wedi ymddiheuro
nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod pwyllgor.
Dywedodd y
Rheolwr Rheoli Datblygu ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi cyflwyniad byr
i'r adroddiad i'r aelodau. Roedd yr Aelodau hefyd wedi cael sesiwn friffio
anffurfiol ar y cais hwn ddydd Mercher 1 Medi 2021.
Roedd y
cyflwyniad a gyflwynwyd i aelodau yn gais ‘hybrid’. Mae hyn yn golygu bod rhan
o’r cais yn cynnwys cynlluniau manwl, ac ail elfen yn darparu amlinellau, gyda
manylion pellach i'w cyflwyno ar y cyd gyda cheisiadau pellach.
Roedd y cynnig
yn cynnwys addasiad a gwaith adfer i’r prif adeilad rhestredig 2 seren yn 34
uned annedd. Ynghyd â’r gwaith adfer hwn, ac yn rhannol ar gyfer ariannu’r
gwaith adfer, roedd y cynnig yn cynnwys datblygiad o hyd at 300 annedd, 1,114
medr sgwâr o ofod masnachol a gwaith ategol arall i gynnwys adleoliad posib
clwb criced Dinbych a gwaith isadeiledd arall.
Lluniwyd y cais
cynllunio gan Jones Bros, daliadau Rhuthun cyfyngedig, a bu’n destun proses
ymgynghoriad llawn cyn y cais, ar ddechrau 2020. Roedd y broses hon yn statudol
ac yn cynnwys ymgynghoriad cymunedol eang. Roedd swyddogion cynllunio’r
awdurdod lleol wedi gweithio gydag ystod eang o ymgyngoreion arbenigol a nifer
o ymgynghorwyr yr ymgeisydd. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion
arbenigol.
Cyffyrddodd y
Rheolwr Rheoli Datblygu ar geisiadau cynllunio blaenorol ar gyfer datblygu’r
safle yr oedd y pwyllgor wedi pennu’n flaenorol. Cafodd dau gais perthnasol eu
cymeradwyo gan bwyllgorau cynllunio blaenorol ar gyfer adfer adeilad rhestredig
a datblygu rhannau o’r safle ar gyfer tai a defnyddiau masnachol. Cafodd un o’r
rhain ei gymeradwyo yn 2007 ac yn fwy diweddar cyflynwyd cynllun i’r pwyllgor
cynllunio yn 2016, a bennodd aelodau i gymeradwyo yn amodol ar gytundeb cyfreithiol
106.
Roedd y
cynlluniau a’r cynllun arfaethedig yn cynnwys cysyniad o alluogi’r datblygiad.
Mae’r cysyniad wedi’i nodi ym mholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol, briff
datblygu safle a chanllawiau cenedlaethol. Roedd galluogi’r datblygiad yn
caniatáu ar gyfer cynnal tai a datblygiadau eraill er mwyn ariannu’r gwaith
adfer ac ailddefnyddio asedau treftadaeth. Yn y cais a gyflwynwyd, roedd y
cynllun a gynhigiwyd yn ceisio galluogi datblygiad o 300 annedd i ariannu rhan
o’r gwaith adfer i brif adeiladau rhestredig 2 seren, sef Hen Ysbyty Dinbych.
Roedd yr
adroddiad yn manylu ar asesiadau a oedd wedi cael eu cynnal yn unol â Pholisi'r
CDLl VOE4. Roedd y polisi'n darparu canllawiau ar alluogi datblygiadau. Daeth
swyddogion i'r casgliad bod y cynigion a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn glynu at y
polisi a’r briff datblygu safle mabwysiedig. Roedd yr adroddiad yn nodi
rheolaethau a rhwymedigaethau perthnasol i sicrhau bod y gwaith adfer i’r
adeiladau rhestredig yn cymryd rhan ar y cyd gydag unrhyw ddatblygiad galluogi.
Pwysleisiodd
swyddogion bod negydu a thrafodaethau
eang wedi cael eu cynnal gan ymgyngoreion technegol, a bod cyfreithwyr
wedi cael eu penodi i sicrhau bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi cael ei
archwilio a’i wirio. Awgrymodd swyddogion y byddai’n briodol cyflwyno adroddiad
pellach i’r pwyllgor yn manylu ar delerau penodol cytundeb cyfreithiol adran
106. Roedd y telerau cyffredinol wedi cael eu nodi yn yr adroddiad i sicrhau
aelodau bod materion arwynebol wedi cael ei hystyried, ac y byddant yn cael eu
hymgorffori i'r cymeradwyaeth dilynol.
Pwysleisiodd y
Rheolwr Rheoli Datblygiad ar y buddion economaidd, treftadaeth a diwylliannol
allweddol all y cynllun hwn ei gynnig i Ddinbych a’r sir. Teimlwyd bod y cyfle
i arbed ased treftadaeth allweddol ar y cyd gyda gweithgaredd economaidd yn
gwrthbwyso unrhyw effeithiau posib o alluogi’r datblygiad.
Trafodaeth
gyffredinol - Cododd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Glenn
Swingler bryder am y diffyg tai cymdeithasol a thai fforddiadwy ar y
safle a'r posibilrwydd o ddymchwel adeilad rhestredig. Bu pryderon y byddai'r
traffig ar y ffyrdd o amgylch y safle'n cynyddu. Cadarnhaodd bod nifer o
broblemau wedi cael eu profi ar y safle dros y blynyddoedd diwethaf, a bod
angen gwneud rhywbeth. Roedd yn falch bod Jones Bros yn rhan o’r datblygiad. Fe
nododd, yn ei farn o, bod y cynnig yn amwys ar agwedd amhreswyl y cais, a
byddai wedi hoffi gweld beth oedd wedi’i gynnig ar gyfer elfen honno’r safle.
Gofynnodd
a oedd swyddogion yn gwybod ar ba gam o’r datblygiad fyddai’r prif adeilad yn
cael ei gwblhau, ac a fyddai’n bosib adeiladu tai fforddiadwy ar y safle.
Mewn
ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Swingler, pwysleisiodd y Rheolwr
Rheoli Datblygu bod y datblygiad yn gyfle i geisio achub ased diwylliannol a
threftadaeth, ond nid oedd yn gofyn am alluogi’r datblygiad. Roedd polisi’r
CDLl yn caniatáu ar gyfer galluogi datblygiad i geisio ariannu’r datblygiadau
hyn. Roedd angen i’r ffocws fod ar achub adeiladau hanesyddol, ac nid tai
fforddiadwy a darpariaeth addysg o reidrwydd. Nodwyd bod diffyg manylion am
agweddau amhreswyl y datblygiad, ac roedd hynny oherwydd hyfywedd ariannol, ac
a fyddai cyllid sector cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio ar gyfer elfennau ar y
safle. Pwysleisiodd y swyddogion y byddai ceisiadau cynllunio pellach gyda
rhagor o fanylion yn cael eu dychwelyd i'r pwyllgor. Y swyddogion oedd y
gobaith mai elfennau a gynhwyswyd yn y cytundeb cyfreithiol fyddai adfer y prif
adeiladau rhestredig a dyma fydd y flaenoriaeth fwyaf. Yn ddelfrydol, byddai
swyddogion yn gwneud cais bod y gwaith adfer yn cael ei gynnal ar ddechrau'r
datblygiad. Efallai byddai angen gwella isadeiledd y priffyrdd a gwelliannau i
gylchfan Lenton Pool, a byddai gwelliannau i'r llwybrau troed yn cael eu cynnwys
yn y cytundeb cyfreithiol hefyd, a'u gweithredu ar yr adeg priodol. Cadarnhawyd
bod llawer o waith wedi’i gwblhau ar y cytundeb cyfreithiol cyn cyfarfod y
pwyllgor.
Dywedodd
y Cynghorydd Merfyn Parry ei fod yn cefnogi’r safle a chynigodd gymeradwyo’r
cais yn unol ag argymhellion swyddogion, ac fe eiliodd y Cynghorydd Bob
Murray.
Rhoddodd y
Cynghorydd Mark Young ei ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad manwl, a nododd
y gwaith oedd eisoes wedi’i gwblhau. Gofynnodd y Cynghorydd Young am eglurhad
ar sut y byddai'r dull o gyflwyno’r gwaith yn cael ei reoli. Roedd y Cynghorydd Young hefyd yn teimlo bod
y datblygiad yn darparu cyfle euraidd o ran teithio llesol yn yr ardal, a
gofynnodd am ymrwymiad y byddai’r swyddogion teithio llesol yn cael eu cynnwys
yn y datblygiad. Roedd yn falch o weld bod y safle’n cael ei ddatblygu.
Roedd y Rheolwr
Rheoli Datblygu’n awyddus i sicrhau bod strategaeth camau ymarferol y gellir eu
cyflawni yn cael eu cynnwys yn y cytundebau cyfreithiol. Roedd materion
allweddol yn cynnwys adfer ased treftadaeth, a gwarchod yr amgylchedd a
bioamrywiaeth, ecoleg a gwelliannau i’r isadeiledd. Byddai angen nodi popeth yn
glir o fewn y cytundebau cyfreithiol. Efallai byddai cyfleoedd am arian sector
cyhoeddus yn bosibl.
Roedd y Cynghorydd
Emrys Wynne yn cytuno gyda barn aelodau, ac roedd yn cefnogi elfen gadwraeth y
cais. Gofynnodd y Cynghorydd Wynne pa mor allweddol oedd yr ymatebion coll o’r
ymgynghoriad nad oeddent wedi cael eu derbyn eto? Roedd wedi synnu nodi nad
oedd ymatebion gan sefydliadau megis Scottish Power, Ambiwlans Cymru a Betsi
Cadwaladr wedi’u derbyn, a dylid bod wedi gwneud cais am ymatebion.
Roedd yn teimlo
y dylid cynnwys tai cymdeithasol a fforddiadwy yn y datblygiad hefyd. Cododd y
Cynghorydd Wynne bryderon am yr effaith y byddai'r datblygiad yn ei gael ar y
Gymraeg.
Roedd Aelodau
wedi synnu nad oedd yr adroddiad yn crybwyll cyfyngiadau ecolegol ac
amgylcheddol. Gofynnodd Aelodau a oedd adroddiad ar y sefyllfa bresennol gan y
swyddog bioamrywiaeth ar gael.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd mai'r Rheolwr Rheoli Datblygu oedd Paul Mead, sef swyddog cynllunio
Cyngor Sir Ddinbych.
Ymatebodd
swyddogion i ymholiadau aelodau, gan hysbysu’r pwyllgor bod nifer o geisiadau
am ymatebion i'r ymgynghoriad wedi’u ceisio. Nid oedd gan swyddogion reolaeth
dros ymatebion gan sefydliadau. Tynnwyd
sylw at y ffaith nad oedd gwrthwynebiadau i'r ymatebion a gafwyd. Roedd yr
egwyddor ar gyfer y datblygiad eisoes wedi cael ei ystyried drwy nifer o
brosesau, gan gynnwys polisïau o fewn y CDLl sy'n cynnwys y broses ymgynghori
gyda'r cyhoedd, briff datblygu safle penodol ar gyfer y safle a oedd wedi bod
yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus, a’i fabwysiadu gan Gyngor Sir Ddinbych
fel dogfen ategol ar gyfer ailddatblygu. Roedd swyddogion o’r farn bod
ymgysylltiad â’r cyhoedd a chyfranogiad wedi bod yn eang dros y 10 mlynedd
diwethaf.
Roedd aelodau
wedi clywed mai un o’r rhesymau bod y cynnig wedi cymryd amser i’w gyflwyno i’r
pwyllgor oedd ecoleg a bioamrywiaeth. Codwyd pryderon gan Cyfoeth Naturiol
Cymru ac ecolegydd y sir ynghylch amrywiaeth yr ecoleg ar y safle i fodloni
rheoliadau cynefinoedd, newid hinsawdd a rheoliadau bioamrywiaeth. Roedd
swyddogion wedi cyfeirio aelodau at y wefan gynllunio ar gyfer dogfennau manwl
a oedd wedi cael eu cyflwyno gan ymgynghorwyr arbennig mewn perthynas â’r
pryder hwn. Cadarnhawyd bod y dogfennau wedi cael eu hadolygu gan Cyfoeth
Naturiol Cymru a ecolegydd y sir, ac yn destun amodau a rheolaethau, roeddent
yn hapus y byddai’r cynllun yn cael ei adeiladu o amgylch ecoleg a
bioamrywiaeth.
Darparwyd
rhagor o wybodaeth ar ddraenio ar safle'r datblygiad. Byddai angen i’r
ymgeisydd sicrhau bod cysylltiad i garthffosydd cyhoeddus yn cael eu cwblhau;
roedd yr ysbyty wedi'i gysylltu yn y gorffennol. Yr agwedd arall ar ddraenio
oedd draenio cynaliadwy, a’r gofyniad i sicrhau bod gan y safle system ddraenio
addas. Roedd swyddogion wedi adolygu’r cynlluniau ar gyfer draenio, ac ni
godwyd unrhyw bryderon.
Byddai
achosion busnes yn cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru ar gyfer y gronfa dwf a
ffrydiau ariannu eraill a fyddai ar gael ar gyfer y datblygiad. Roedd cyllid,
hyfywedd a darpariaeth y datblygiad wedi’u cysylltu'n anorfod, a chyflwynodd
swyddogion sicrwydd i aelodau bod camau a chyflawniad y ddarpariaeth agweddau
amrywiol ar y datblygiad yn cael ei gyflwyno i aelodau i’w harchwilio
ymhellach. Lluniwyd adroddiad manwl gan yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu, a’r Rheolwr Traffig, Parcio a
Diogelwch ar y Ffyrdd ar beth fyddai ei angen ar y safle o ran gwelliannau i'r
priffyrdd, a byddai'r gofynion hyn yn cael eu hymgorffori i'r cytundeb
cyfreithiol.
Darparodd y
Swyddog Rheoli Datblygu rhagor o wybodaeth ar y gobaith i greu pwyllgor
ymgysylltu i adolygu darpariaeth y cynllun. Gobeithiwyd y byddai’r pwyllgor yn
sicrhau bod y safle’n cael ei gynnal a'i gadw gyda mewnbwn gan Cadw, y Cyngor
Tref, pensaer Cadwraeth a sefydliadau eraill.
Amlygodd
swyddogion nodyn Pennawd Telerau - Strategaeth Gwella’r Gymraeg, a oedd angen
mwy o fanylion ar y Gymraeg a Diwylliant i sicrhau fod strategaeth yn cael ei
sefydlu ar gyfer hyn. Byddai pryderon aelodau ar
dystiolaeth ystadegol, ehangiad a gwelliant i hyrwyddiad y Gymraeg a diwylliant
yn cael eu nodi yn y cytundeb cyfreithiol.
Roedd aelodau'n
dymuno diolch i'r swyddogion cynllunio am y sesiwn briffio a oedd wedi cael ei
drefnu.
Roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yn teimlo bod y datblygiad yn
gyfle da i Ddinbych a Sir Ddinbych. Ym marn yr Arweinydd, roedd y datblygiad yn
gynnig cadarnhaol ar gyfer yr ardal a'r awdurdod.
Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd
gan y Cynghorydd Bob Murray.
PLEIDLAIS -
O blaid – 15
Ymatal - 0
Yn erbyn – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y
swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.
Dogfennau ategol: