Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT GWELLA HEOL Y CASTELL, LLANGOLLEN, 2020

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau i weithredu Prosiect Gwella Heol Y Castell Llangollen 2020.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo gweithredu Prosiect Gwella Heol y Castell Llangollen 2020, yn cynnwys y diwygiadau a geir yn Atodiad A a wnaethpwyd yn dilyn ymgysylltu â'r cyhoedd a chyda cytundeb aelodau lleol, ac yn

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad C) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen a rhoi Prosiect Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 ar waith.  O ystyried yr amcangyfrif o gost y prosiect sef £1.75 miliwn a’r diddordeb cymunedol sylweddol yn y cynllun ceisiwyd penderfyniad gan y Cabinet er mwyn cymeradwyo ei roi ar waith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi cerdded llwybr y cynllun gyda swyddogion a thrigolion ac roedd yn falch o nodi'r ymateb cadarnhaol i'r gwelliannau arfaethedig a’r buddsoddiad sylweddol yn yr ardal.  Roedd yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd cynhwysfawr a’r ymateb i adborth yn nodi yn glir y gwrandawyd ar drigolion a busnesau a bod y Cyngor wedi gweithio gyda nhw i fynd i’r afael â phroblemau a phryderon, oedd wedi golygu newidiadau i’r cynllun, a byddai modd gwneud addasiadau pellach fel bo’n briodol.  Wrth ganmol y prosiect dywedodd y Cynghorydd Jones fod Aelod Senedd Cymru ac Aelod Senedd y DU hefyd yn cefnogi’r prosiect ac anogodd y Cabinet i gymeradwyo rhoi’r cynllun ar waith.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (TPRSM) gyflwyniad ar fanylion y cynllun, oedd yn fras, yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol -

 

·        gwaith Grŵp Llangollen 2020 yn cychwyn prosiect i ystyried traffig, parcio, diogelwch cerddwyr a materion parth cyhoeddus yng nghanol y dref

·        sicrhawyd cyllid gan Cadwyn Clwyd a Chyngor Tref Llangollen i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn ceisio barn pobl drwy amrywiaeth o ymarferion ymgysylltu a llwyfannau cyfryngau a nododd nifer o bryderon.

·        amlygwyd pryderon presennol gan gynnwys traffig a thagfeydd yn ymwneud â pharcio, palmentydd yn rhy gul, anawsterau i gerddwyr wrth groesi Heol y Castell a chyflwr gwael y parth cyhoeddus.

·        roedd cynigion dylunio manwl wedi eu datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb er mwyn creu amgylchedd oedd yn fwy cyfeillgar i gerddwyr, gyda llai o barcio ar y stryd ac yn darparu mannau llwytho i fusnesau, roedd argraffiadau arlunydd hefyd wedi eu darparu i ddangos sut fyddai’r newidiadau arfaethedig yn edrych

·        £1.75 miliwn yw’r amcangyfrif o gyfanswm cost y prosiect, sy’n cynnwys cyfraniad o £780,000 gan y Cyngor a chyllid grant Llywodraeth Cymru o £970,000

·        roedd ymarfer ymgysylltu cynhwysfawr â’r cyhoedd wedi ei gynnal ar y cynigion dylunio, a darparwyd trosolwg o farn pobl am y prosiect – yn gyffredinol roedd 64% o’r farn fod y cynllun yn syniad da a 36% o’r farn nad oedd yn syniad da yn gyffredinol

·        roedd adborth o’r gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd wedi golygu rhai newidiadau arfaethedig i’r dyluniad er mwyn gwneud gwelliannau pellach ac i liniaru pryderon a fynegwyd. 

Ehangwyd ar y prif faterion a godwyd gydag eglurhad o’r newidiadau arfaethedig o ganlyniad i hynny, a rhesymau pam na wnaed newidiadau arfaethedig o ganlyniad i broblemau eraill

·        Roedd y  prosiect yng Ngham 1 a dylai’r Cabinet gymeradwyo ei roi ar waith gan fod camau pwysig eraill angenrheidiol nawr i ddilyn fel rheoli parcio o amgylch y dref, llwybrau teithio llesol, arwyddion a chyflwyno cyfyngiad pwysau amgylcheddol

·        Amlygwyd y camau nesaf, pe bai Cabinet yn cymeradwyo’r cynllun, gyda’r gwaith adeiladu i gychwyn ym mis Medi 2021 er mwyn ei gwblhau yn mis Mawrth 2022.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad at y gwaith ymgysylltu cynhwysfawr a’r broses ymgynghori fel un arbennig o werthfawr gydag ymgysylltiad sylweddol gan y gymuned, aelodau lleol, cyngor y dref a busnesau, a bod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud i’r cynigion dylunio o ganlyniad i’r broses honno.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y ddau aelod lleol i siarad am y prosiect.

 

Amlygodd y Cynghorydd Melvyn Mile ganlyniad y broses ymgynghori gydag oddeutu dwy ran o dair o bobl yn gyffredinol o blaid y cynllun, a diwygiadau wedi eu gwneud mewn ymateb i adborth.  Roedd yn llwyr gefnogol o’r cynllun, fel roedd Cyngor Tref Llangollen y mae hefyd yn aelod ohono, ac a oedd wedi cyfrannu'n ariannol at yr astudiaeth gwmpasu gychwynnol.  Roedd y Cynghorydd Mile yn frwdfrydig ynglŷn â'r buddsoddiad sylweddol yn y dref i sicrhau gwelliannau a diolchodd i swyddogion am eu holl waith caled yn hynny o beth ac am ganfod datrysiadau a dulliau o gyfaddawdu o safbwynt y pryderon a fynegwyd.  Anogodd y Cabinet i gymeradwyo gweithredu'r cynllun yn ddi-oed.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Graham Timms (oedd hefyd yn cadeirio Grŵp Llangollen 2020) beth o gefndir sefydlu'r Grŵp, oedd yn fenter leol er mwyn i'r afael â'r problemau a nodwyd yn y dref er mwyn sicrhau ei fod yn addas at ofynion cyfoes. Bu pwyslais ar annog pawb i gymryd rhan i chwilio am ddatrysiadau, a chytuno ar ffordd o symud ymlaen.  Roedd yr ymgynghoriadau wedi nodi meysydd lle roedd pobl yn cytuno arnynt yn fras, oedd wedi eu cynnwys yn y cynllun terfynol, tra’n cydnabod hefyd fod anghenion sy’n gwrthdaro gan grwpiau penodol, a’r Cyngor yn gorfod ymateb i bryderon yr holl bobl oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriadau.  Byddai cymeradwyo’r cynllun yn golygu'r buddsoddiad mwyaf yn Llangollen ers cenedlaethau ac yn arddangos sut gall cynllun cymunedol gweithredol, wedi’i ariannu gan grantiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru, helpu i ddatrys problemau a chreu gwell lle i fyw a gweithio.  Roedd yr adroddiad yn cydnabod na fyddai’r holl broblemau yn cael eu datrys yn llwyr gan y cynllun a bod angen parhau i weithio gyda'r gymuned i ganfod datrysiadau parcio fel y flaenoriaeth nesaf. Wrth annog y Cabinet i gymeradwyo’r cynllun, diolchodd y Cynghorydd Timms i swyddogion am eu gwaith, i'r Cynghorydd Brian Jones (Aelod Arweiniol) ac i Grŵp Llangollen 2020 gan sôn yn benodol am Robyn Lovelock oedd wedi bod yn allweddol wrth yrru'r prosiect yn ei flaen.

 

Ystyriodd y Cabinet fuddion y cynllun ac roedd cefnogaeth unfrydol ar gyfer y buddsoddiad sylweddol yn Llangollen er mwyn sicrhau gwelliannau yn y dref.  Roedd y Cabinet hefyd yn falch o nodi’r broses ymgynghori eang a chynhwysfawr, a’r lefel o ymateb a gafwyd i’r ymgynghoriadau.  Derbyniwyd nad oedd pawb o blaid y cynllun ond nodwyd fod ymateb wedi ei ddarparu i bob problem / pryder a fynegwyd, a gwnaed newidiadau i'r cynllun o ganlyniad iddynt, a rhoddwyd eglurhad lle na ellid gwneud newidiadau.

 

Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·        Gofynnodd y Cynghorydd Tony Thomas a allai’r man llwytho newydd ar Heol y Castell y tu allan i neuadd y dref fod yn adeiladwaith pantiog a chynnig parcio drwy'r dydd am 30 munud am ddim i fusnesau a thrigolion. 

Rhannodd y TPRSM ddelwedd o’r lleoliad ac eglurodd y cais gwreiddiol i gulhau’r ffordd a lledu’r palmant a’r newidiadau arfaethedig yn dilyn adborth i gadw’r man llwytho yn erbyn llinell gyfredol y cwrb.  Mae’n bosib y gellid gosod y man llwytho yn fwy pantiog ond byddai angen gwneud ymchwiliadau technegol pellach o ran gwasanaethau tan ddaearol, lleoliad y goeden a'i gwreiddiau, materion perchnogaeth tir ac unrhyw effaith ar fusnesau manwerthu.  Roedd manteision ac anfanteision hefyd i osod cyfyngiad parcio 30 munud, a byddai angen ystyried hynny ymhellach.  Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn gefnogol o’r awgrym a nododd y Cabinet hefyd eu cefnogaeth, cyn belled na fyddai unrhyw waith yn golygu y byddai angen gwaredu'r goeden.  Cytunodd y TPRSM i wneud yr ymchwiliadau angenrheidiol i fanteision yr awgrym a'i ystyried ymhellach gyda’r aelod arweiniol ac aelodau lleol fel rhan o’r cynllun.

·        Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn falch o nodi’r buddsoddiad sylweddol i wella Llangollen ac yn gyffredinol roedd yn croesawu’r cynllun gyda'r newidiadau arfaethedig.

Cyfeiriodd at negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan bobl yn amlygu nifer o broblemau a phryderon, a nododd bod y rhan fwyaf o’r rheiny wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys y man llwytho yn Heol y Castell (a godwyd gan y Cynghorydd Thomas) a gwarchod y goeden, ailystyried yr opsiynau ar gyfer Short Street, ac ystyried cyflwyno cyfyngiad pwysau a darpariaeth parcio yng ngham nesaf y prosiect.  Cyfeiriodd at welliannau mynediad a wnaed yn gysylltiedig â’r ganolfan iechyd ychydig flynyddoedd yn ôl a’r potensial am ddarpariaeth parcio yn yr ardal honno y gellid ei ystyried yng ngham 2

·        Talodd y Cynghorydd Mark Young deyrnged i’r gwaith caled roedd pobl wedi ei wneud i symud y cynllun yn ei flaen ac roedd yn falch o nodi’r ymrwymiad o ymateb i bob problem / pryder a fynegwyd a’r gwaith pellach i’w wneud yn ystod cam 2.  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Young cadarnhaodd y TPRSM ddyddiad cychwyn ar gyfer y cynllun ym mis Medi petai'n cael ei gymeradwyo, ac o safbwynt ymyrryd cyn lleied â phosib ar fusnesau yn enwedig dros gyfnod masnachu'r Nadolig, dywedodd y byddai cydweithrediad agos rhwng y  contractwr llwyddiannus a busnesau yn allweddol ac y byddai’n nodi yn y ddogfennaeth dendro y byddai angen i’r contractwr llwyddiannus ddarparu Swyddog Cyswllt Busnes er m wyn lliniaru’r effaith ar fanwerthwyr. Byddai cynnydd yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau cyn lleied â phosib o ymyrraeth, ac er mwyn cadw at amser er mwyn bodloni amodau’r grant er mwyn cwblhau'r prosiect erbyn mis Mawrth 2022.

·        Nododd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y cynllun wedi bod yn cael ei ddatblygu ers cryn dipyn o amser ac roedd o’r farn y byddai’n mynd i’r afael â’r problemau hir-dymor yn Llangollen a fod ganddo gefnogaeth aelodau lleol a chyngor y dref.

Roedd y ffaith nad oedd pawb yn gefnogol o gynllun o'r math hwn i'w ddisgwyl ond roedd y cyflwyniad a dogfennaeth yr adroddiad wedi dangos fod y Cyngor wedi bod yn barod i addasu'r cynigion lle bo'n bosib mewn ymateb i bryderon ac roedd yn cefnogi gweithrediad y cynllun.

·        Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts o’r farn mai’r aelodau lleol oedd yn y lle gorau i ymateb i fanylion y cynllun. 

Yn seiliedig ar brofiad blaenorol, amlygodd faterion yn ymwneud â mannau llwytho, effaith weledol a chyfrifiadau theoretig ar gyfer symudiadau traffig nad oeddynt wedi eu harfer yn ymarferol (fel mannau troi a symud cerbydau mawr e.e. HGVs) a ddylai gael eu profi’n ymarferol o flaen llaw. Roedd yr Aelod Arweiniol a TPRSM yn derbyn y gellid dysgu gwersi o brofiadau blaenorol.  O ystyried y mewnbwn a faint o graffu oedd wedi ei wneud ar y cynigion yn yr achos hwn, roedd yn annhebygol iawn y byddai unrhyw ddiffygion mawr yn cael eu nodi yn hwyrach.  Roedd Swyddog Cadwraeth y Cyngor wedi bod yn rhan o'r broses o gam cynnar o’r gwaith dylunio ac roedd y gwaith gweledol 3D wedi dangos yn llwyddiannus sut byddai’r cynllun yn edrych pe bai’n cael ei weithredu.

 

Lleisiodd y Cynghorydd Meirick Davies ei gefnogaeth i’r cynllun.  Gofynnodd a ddylai’r cyfeiriad at Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad Cymraeg gael ei newid i Senedd.  Cytunodd yr Arweinydd i ymchwilio i newid y cyfeiriad hwnnw ble bo'n briodol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r aelodau lleol am eu gweledigaeth ac arweinyddiaeth yn y cynllun hwn ac am waith yr aelod arweiniol a’r swyddogion yn hynny o beth.  Derbyniwyd y byddai ymateb lle roedd newidiadau wedi eu hawgrymu, na fyddent yn gadarnhaol bob amser, ond gallai'r Cabinet fod yn sicr fod swyddogion wedi ymateb i bob pwynt a godwyd ac wedi darparu eglurhad am y pryderon nad oedd modd gweithredu arnynt.  Gallai’r Cabinet gael sicrwydd hefyd o’r ymgysylltu dwys a’r broses ymgynghori a gyflawnwyd er mwyn llywio’r broses gwneud penderfyniadau.  Croesawodd yr Arweinydd y buddsoddiad sylweddol yn Llangollen a’r manteision fyddai’n dod o’r cynllun, ac roedd yn llwyr gefnogol ohono.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      Cymeradwyo gweithredu Prosiect Gwella Heol Y Castell Llangollen 2020, gan gynnwys y diwygiadau a restrir yn Atodiad A yr adroddiad oedd yn deillio o adborth ymgysylltu cyhoeddus ac a gytunwyd gyda’r aelodau lleol, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad Effaith ar Les (Atodiad C yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: