Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 45/2018/1215/PF - TIR YN NE-DDWYRAIN Y RHYL RHWNG BRO DEG A FFORDD DYSERTH

Ystyried cais i godi codi 109 o anheddau a gwaith cysylltiedig (Cam 5) (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 109 anheddau a gwaith cysylltiol (Cam 5) ar dir yn Ne Ddwyrain y Rhyl rhwng Bro Deg a Ffordd Dyserth, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Hayley Knight (Asiant) (o blaid) – Mae’r cynllun o’ch blaenau yn gofyn am ganiatâd i godi 109 o gartrefi newydd ar gyfer cam olaf Parc Aberkinsey i dde ddwyrain y Rhyl.  Mae’r safle wedi’i ddynodi ar gyfer defnydd preswyl yn y dyfodol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd gan y Cyngor, ac felly, wedi'i gynnwys yn eich adroddiad cynigion bod yr egwyddor o ddatblygu'r safle yn cael ei sefydlu ac mai’r brif broblem cynllunio yw dyluniad y cynllun.  Mae’r tîm gwneud cais wedi gweithio’n galed gyda’ch swyddogion cynllunio a thechnegol i sicrhau fod y cynigion yn briodol ar gyfer y safle hwn. O ganlyniad, mae’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o gartrefi 1, 2, 3 a 4 llofft wedi’u dylunio i gwrdd â'r angen o ran tai yn lleol a hynny ar y farchnad agored ac fel deiliadaethau fforddiadwy.  Bydd 11 o’r cartrefi arfaethedig ar gael ar ddeiliadaethau fforddiadwy ac mae’r rhain yn cynnwys cartrefi 1, 2 a 3 llofft.

3600 metr o fan agored yn cael ei gynnwys gydag ardal hamdden i blant  ac yn gyffredinol mae ein dull o dirlunio'r safle wedi cael ei gefnogi gan Gyd-Bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Er mwyn cynefino’r datblygiad rhaid gwyro hawliau tramwy’r cyhoedd.  Rydym wedi gweithio gyda’ch swyddogion a Chymdeithas y Cerddwyr i sicrhau fod y gwyriad ar gyfer llwybrau wedi’u dynodi er mwyn lleihau aflonyddwch a bod y llwybrau hefyd wedi’u hamgylchynu gan dirwedd feddal pan yn bosib.  Mae’r dull hwn yn cael ei ystyried yn dderbyniol gan y ddau barti a bydd y gorchymyn gwyriad yn cael ei wneud yn fuan.

Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan gyfres o adroddiadau technegol sydd wedi mynd i’r afael â holl ymholiadau a phryderon gan eich ymgyngoreion.  Mae’n cynnwys adroddiadau priffyrdd ac ecoleg a hoffem ailadrodd nad oes gan swyddogion y Cyngor unrhyw bryderon yn ymwneud â phriffyrdd.

Gan fod ardal drosglwyddadwy o gynlluniau yn parhau i fod yr un fath trwy’r cynllun a gyflwynwyd mae’r arolygon ac adroddiadau ecoleg yn gwbl berthnasol i’r cynllun o'ch blaenau. Ar ben hynny mae gan y safle drwydded madfall ddŵr gribog ar hyn o bryd sydd hefyd yn berthnasol i’r Datblygiad Parc Aberkinsey ehangach.  Wrth ystyried hyn i gyd gyda’r mesurau gwella bioamrywiaeth a gynigwyd sydd yn cynnwys blychau ystlumod ac adar, ffiniau sy’n gyfeillgar i famaliaid a phlannu planhigion brodorol, mae’r cynllun yn cael ei ystyried i fod yn addas o ran effeithiau ecolegol. 

I gloi  bydd y cynllun felly yn gwireddu'r gwaith o gwblhau dyraniad y cyngor yn ne ddwyrain y Rhyl yn unol â’r CDLl a fabwysiadwyd er mwyn sicrhau fod twf yn y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn y Fwrdeistref ac yn darparu cartrefi sydd mawr eu hangen i bobl leol.  Os fyddwch o blaid cymeradwyo’r cynllun heddiw bydd yr ymgeisydd hefyd yn mynd i gytundeb cyfreithiol gyda'r Cyngor i ddarparu 10% o dai fforddiadwy, £465,000 tuag at lefydd ysgol newydd a dros £36,000 ar gyfer gwella mannau agored oddi ar y safle.  O ystyried fod y cynllun yn cydymffurfio â’r Polisi, ac yn darparu nifer o fuddion i’r gymuned leol, gofynnaf yn barchus i chi ei gymeradwyo heddiw.

 

Dadl Gyffredinol – Tynnodd yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd  Brian Jones sylw at broblem gyda mynediad i mewn ac allan o'r safle i gael ei leoli ar y ffordd sy'n adnabyddus fel Troadau Dyserth sy'n ffordd hynod o beryglus.  Mynegwyd pryderon hefyd am Droadau Dyserth gan y Cynghorwyr Brian Blakeley a Cheryl Williams sydd hefyd yn Aelodau Ward ar gyfer yr ardal.

 

Cadarnhaodd y swyddogion fod yr Adran Briffyrdd heb fynegi unrhyw bryderon. 

 

Codwyd yr achosion o broblemau draenio a llifogydd ac fe gadarnhaodd y swyddogion y byddai system draenio briodol yn cael ei ddarparu.

 

Oherwydd y nifer o eiddo wedi'u hadeiladu ar y datblygiad cyfan roedd pryderon yn cael eu mynegi unwaith eto ynghylch yr isadeiledd i allu ymdopi â’r cartrefi ychwanegol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard.

 

PLEIDLAIS -

O blaid – 18

Ymatal - 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: