Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 44/2021/0163/PO - TIR (SY'N RHAN O'R ARDD) YN THE RISE, FFORDD Y RHYL, RHUDDLAN

Ystyried cais i godi datblygu 0.21 hectar o dir drwy godi pedair annedd ac adeiladu ffordd fynediad (cais amlinellol yn cynnwys mynediad, golwg, gosodiad a graddfa) (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer datblygu 0.21 hectar o dir drwy godi pedair annedd ac adeiladu ffordd fynediad (cais amlinellol yn cynnwys mynediad, golwg, gosodiad a graddfa) ar dir yn (rhan o ardd) The Rise, Ffordd y Rhyl, Rhuddlan.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Robert Jones (o blaid) – Asiant i Mr C Roberts a Mrs J Goodrick.  Yn 2021 cyflwynwyd cais amlinellol i’r ACLl i ddatblygu 0.21 hectar o dir drwy godi pedair annedd o ddull dormer ynghyd ag adeiladu mynediad. Mae’r cais yn cael ei gyflwyno ar ôl i’r apêl gael ei wrthod ym mis Tachwedd 2020. Manylwyd safbwyntiau'r Arolygiaeth yn adroddiad y Swyddogion Cynllunio.    Yn gryno, mynegwyd bod y dyluniad blaenorol o natur 2 lawr yn cael ei ystyried yn annodweddiadol o'r ardal o ran maint a graddfa.  Rhwng penderfyniad y proses Apelio a’r cais sy'n cael ei ail-gyflwyno a'i ystyried heddiw rydym wedi gweithio'n galed i baratoi cynnig sydd yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac sydd wedi cael eu hadlewyrchu yn argymhellion y swyddogion er mwyn cael cymeradwyaeth.   Yn ogystal â'r diwygiadau a wnaed cyn cyflwyno, mae meysydd eraill o ail-ddylunio a amlygwyd yn yr ymgynghoriad wedi eu hymgorffori yn ystod y broses gwneud cais.  Mae ystyriaeth ofalus wedi’i roi i ddyluniad yr anheddau o ran y lleoliad, gosodiad, graddfa a gwedd.  Mewn egwyddor mae maint yr anheddau wedi cael eu newid o anheddau 2 lawr gyda 3 a 4 llofft i anheddau dull dormer 3 llofft.  O ganlyniad mae ôl troed yr anheddau wedi’u lleihau’n sylweddol a rŵan fymryn yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer yr anheddau cyfagos sy’n ardal gyffiniol y safle.  Hefyd, mae graddfa'r anheddau arfaethedig yn dod o dan linellau crib yr anheddau cyfagos i’r dde o’r safle ac yn eistedd yn gyfforddus o fewn teipograffeg leol a chyd-destun cyfagos.  Mae pellteroedd rhyngwyneb wedi cael eu parchu ar gyfer yr holl anheddau cyfagos er mwyn sicrhau fod y cynnig ddim yn effeithio amwynder y preswylwyr lleol. Rydym yn hyderus fod arsylwadau’r Arolygiaeth wedi cael eu hystyried yn ofalus ac mae'r dyluniad diwygiedig wedi’i gyflwyno o’ch blaenau heddiw gyda chefnogaeth y Swyddog Cynllunio yn cadw at gymeriad yr ardal gyfagos.  Gobeithio y gallwch gefnogi’r cais hwn.

 

Dadl gyffredinol -  Cododd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ann Davies bryderon ynglŷn â'r effaith ar eiddo cyfagos gan fyddai'r anheddau hyn yn colli golau a phreifatrwydd. Pryder mai ychydig iawn o le sydd ar y safle i gerbydau i droi rownd a chael mynediad o’r ffordd sy’n gwasanaethu’r safle.  Hefyd er mwyn i’r datblygiad barhau ar y safle byddai’n rhaid torri nifer o goed aeddfed. 

 

Mae sawl aelod sydd wedi mynychu’r ymweliad safle ar 9 Gorffennaf 2021 wedi mynegi pryderon tebyg i’r aelod lleol.

 

Cafodd ei ail-adrodd gan Swyddogion fod cais blaenorol wedi cael ei wrthod ac wedi’i apelio a bod penderfyniad wedi’i wneud ar fynediad yr oedd yr Arolygiaeth yn fodlon oedd yn addas ar gyfer y datblygiad.   Cadarnhawyd gan y Swyddog Cyfreithiol y byddai risg o gostau gan fod penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â’r broblem gyda mynediad ar y cais blaenorol yn ystod yr apêl.

 

Hefyd ar y cais blaenorol, un o’r rhesymau dros wrthod oedd uchder yr eiddo a oedd yn 7.5 metr ac ar gyfer y cais blaenorol roedd wedi’i leihau ond roedd nifer o aelodau ddim yn cytuno â’r uchder diwygiedig ar gyfer yr adeiladau arfaethedig.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ann Davies fod y cais yn cael ei wrthod er gwaethaf argymhelliad y swyddog oherwydd cyfanswm yr anheddau ar y safle oedd yn annodweddiadol ar gyfer yr ardal a phryder ynglŷn â diogelwch gyda’r briffordd a'r mynediad, eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Penlington.

 

Pleidlais -

O blaid – 2

Ymatal - 1

Yn erbyn – 15

 

PENDERFYNWYD bod y caniatâd yn cael ei WRTHOD er gwaethaf argymhelliad y swyddog ar gyfer y rhesymau yn y cynnig uchod.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: