Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 02/2021/0179/PF - THE NOOK, BRYN GOODMAN, RHUTHUN

Ystyried cais i godi dymchwel yr annedd bresennol a chodi bloc o fflatiau preswyl 4 uned gyda mannau parcio cysylltiedig a mynedfa yn y cefn (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi bloc o fflatiau preswyl 4 uned gyda mannau parcio cysylltiedig, a mynedfa yn y cefn - Nook, Bryn Goodman, Rhuthun.

 

Ar y pwynt yma fe eglurodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch bod y siaradwr cyhoeddus wedi darparu datganiad ysgrifenedig yn erbyn y cais.  Cafodd y datganiad ysgrifenedig ei ddarllen allan gan Aelod y Ward, y Cynghorydd Bobby Feeley.

 

Darparwyd y datganiad ysgrifenedig gan Jo Powell (yn erbyn) -

 

Dwi’n byw yn y byngalo sydd reit drws nesaf ac i lawr o’r Nook ar allt Bryn Goodman. Dwi fel nifer o breswylwyr ar y ffordd wedi gwrthwynebu’r datblygiad hwn am sawl rheswm.

 

I ni ym Mryn Eryl, oherwydd y gwahaniaeth mewn uchder ar gyfer y ddau safle, mae'r byngalo presennol yn cyfateb i uchder tŷ dau lawr wrth edrych arno o gefn ein heiddo.  Byddai talcen bloc o fflatiau deulawr felly yn cyfateb i adeilad tri llawr i ni.  Hefyd byddai'n taflu cysgod arnom fwyfwy gan ei fod yn nes atom.

 

Byddem hefyd yn cael ein heffeithio gan y sŵn a’r llygredd a achosir gan hyd at un ar ddeg o geir yn cael mynediad i’r pedwar lle parcio o flaen y fflatiau, pedwar i'r cefn a thri wedi'u dyrannu i'r tŷ pedair llofft yng nghefn y plot, heb sôn amdanyn  nhw i gyd yn ceisio symud yn ôl a mlaen mewn gofod cyfyng.  Byddai mynediad i’r holl lefydd yn y cefn ar hyd y ffin sy’n cael ei rannu, ac ar uchder pen i ni a fyddai’n niwsans pellach.

 

Mae'r ffordd y mae’r cais yn ail-leoli pedwar o'r llefydd parcio ar gyfer y fflatiau, sef o flaen yr adeilad i gefn yr adeilad yn golygu y byddan nhw’n agos iawn i’r tŷ yng nghefn y plot.  Yn wir, mae’r ddau gais yn ymddangos i fod yn croesi eu gilydd a’r llefydd parcio arfaethedig i’r cefn ar gyfer y fflatiau yn y cais presennol yn ymddangos i fod yn yr un lleoliad â’r tri lle parcio ar gyfer y tŷ.

 

Rhan o wrthwynebiad y Cyngor Tref i’r cais hwn yw byddai'r datblygiad yn achosi cynnydd mewn traffig ar y ffordd, sef ffordd sydd ddim yn cael ei chynnal ac sy’n cael ei defnyddio gan lawer o gerddwyr, yn cynnwys plant ysgol o Frynhyfryd a Ruthin School.

 

Pryder arall a godwyd gan breswylwyr oedd y ffaith ei fod yn anghydnaws a gweddill yr eiddo ar y ffordd.  Yn wir cafodd y gwrthwynebiad yma ei godi gan Gyngor Tref Rhuthun a hefyd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn eu datganiad i’r Apêl ar gyfer y cais blaenorol (02/2020/0282) sydd yn gofyn i’r llefydd parcio gael eu hail-leoli, yn union fel yr un presennol.  Yn wir, os ydi amser y cais blaenorol wedi mynd heibio byddai ACLl Sir Ddinbych wedi argymell gwrthod y cais, ac un o’r rhesymau dros hynny fyddai gor-ddatblygiad.

 

O ganlyniad, bydd datblygwr yn naturiol yn ceisio gwasgu cymaint o anheddau ag sy'n bosib ar blot, ond dwi'n meddwl bod y cyhoedd mewn sefyllfaoedd o'r fath eisiau gweld y broses gynllunio yn gyffredinol i gymedroli datblygwyr rhag datblygu yn ormodol.  Felly byddwn yn annog y Pwyllgor i gefnogi’r gwrthwynebiadau gan y Cyngor Tref, ACLl a’r nifer o breswylwyr lleol a gwrthod caniatâd.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Robert Jones (o blaid) – Asiant ar gyfer yr ymgeisydd ac yn lleol i’r ardal yn gweithredu ar ran Roberts Homes Ltd.   Mae Mr Jones yn Bensaer cymwys gyda dros 15 mlynedd o brofiad.    Yn Chwefror 2021, cafodd cais ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi 4 o fflatiau preswyl gyda pharcio cysylltiol a mynediad i’r cefn.  Mae cyflwyno’r cais yn dod wedi gwrthod mewn apêl ym mis Tachwedd 2020. Manylwyd safbwyntiau'r Arolygiaeth yn adroddiad y Swyddogion Cynllunio.    Yn gryno maen nhw’n nodi fod dyluniad y fflatiau sydd union yr un fath â'r cais a gyflwynwyd heddiw ddim yn niweidio cymeriad ac ymddangosiad yr ardal amgylchynol.  Fodd bynnag, mae’r lleoliad arfaethedig ac adeiladwaith o arwynebau caled yn fygythiad sylweddol i’r dderwen warchodedig ar y ffin blaen.  Rhwng canlyniad y proses Apelio ac ailgyflwyno’r cais o dan ystyriaeth heddiw mae gwaith wedi cael ei wneud gydag arbenigwyr lleol i ddatblygu cynllun wedi’i ddiwygio sy’n bodloni gofyniad y BS5837 ar gyfer y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y datblygiad arfaethedig o’r safle tir llwyd.  Mae hyn wedi golygu lleihad sylweddol o adleoli tir caled ar gyfer llefydd parcio preswylwyr i’r cefn a methodoleg gynhwysfawr yn manylu’r gwaith adeiladu ar gyfer yr holl arwynebau hydraidd a gwarchod yr holl goed wedi’u heffeithio gan y dyluniad a’r adeiladwaith. Mae’r newidiadau hyn a’r wybodaeth gysylltiedig wedi cael eu hardystio gan swyddog coed yr ACLl ac yn cael eu hadlewyrchu yn argymhellion y swyddogion cynllunio i gael eu cymeradwyo.  Mae arsylwadau’r arolygiaeth wedi cael ei ystyried yn ofalus ac mae'r dyluniad diwygiedig wedi’i gyflwyno o’ch blaenau heddiw gyda chefnogaeth y Swyddog Cynllunio wedi mynd i’r afael â’r heriau technegol ac yn cadw at gymeriad yr ardal gyfagos. Gobeithio y gallwch gefnogi'r cais.

 

Dadl Gyffredinol – Aelodau Ward, Y Cynghorwyr Emrys Wynne (Aelod Pwyllgor), Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts i gyd yn mynegi pryderon am or-ddatblygu’r safle, gormod o ddefnydd o’r ffordd heb ei mabwysiadu gan geir ychwanegol ac y byddai’r datblygiad arfaethedig yn anghydnaws â gweddill yr ardal gyfagos.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod achosion eisoes wedi cael eu hystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio a’u bod nhw wedi dod i benderfyniad nad oedden nhw’n achosi problemau. Yr unig bryder oedd y goeden ac mi aethpwyd i’r afael â hynny yn y cais diwygiedig.  Hysbyswyd aelodau drwy fynd yn erbyn penderfyniad yr Arolygiaeth byddai hynny’n golygu costau i'r ACLl.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne i wrthod y cais yn erbyn argymhellion y swyddogion, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ann Davies.  Y rheswm dros wrthod yw gor-ddatblygiad o’r safle.

 

Pleidlais -

O blaid – 14

Yn erbyn – 4

Ymatal - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

 

Dogfennau ategol: