Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL AC AELODAETH PWYLLGOR

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) ar adolygiad statudol cydbwysedd gwleidyddol ac ystyried gofynion aelodaeth pwyllgorau.

                                                                                   

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn hwyluso adolygiad statudol cydbwysedd gwleidyddol ac yn ystyried gofynion aelodaeth Pwyllgor, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth i gynorthwyo’r Cyngor a’r grwpiau gwleidyddol i ddyrannu seddau ar amrywiol bwyllgorau, yn unol â darpariaethau statudol cydbwysedd gwleidyddol Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a’r Rheoliadau. Yr ymrwymiad statudol yw gweithredu, cyn belled ag y bo’n ymarferol yn rhesymol, y bedair egwyddor yn y Ddeddf gyda’r nod o osgoi pwyllgorau un blaid tra'n caniatáu i blaid sydd â mwyafrif gael mwyafrif y seddau ar y pwyllgor.

 

Roedd manylion Pwyllgorau a Phaneli’r Cyngor, a chyfanswm nifer y seddau a “oedd ar gael” ac angen eu dosbarthu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, wedi eu cynnwys yn Atodiad 2. Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gofyn am sefydlu dau bwyllgor newydd: Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Roedd y Mesur hefyd yn pennu sut dylid dyrannu swyddi Cadeiryddion y Pwyllgor Craffu, yn adlewyrchu sefyllfa o blaid cael cadeiryddion craffu a oedd, cyn belled ag y bo modd, yn annibynnol o arweinyddiaeth y Cyngor ac yn gysylltiedig â chydbwysedd gwleidyddol.

 

Roedd crynodeb o’r materion i’r Grwpiau eu hystyried wrth benodi eu Haelodau i Bwyllgorau wedi ei amlinellu yn yr adroddiad ac yn cynnwys:-

 

·        Ni allai Aelodau’r Cabinet fod yn Aelodau Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol neu’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

·        Aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd newydd fydd 11 Cynghorydd, ac ni ddylai gynnwys Aelod Cabinet, a chyda’r Pwyllgor yn wleidyddol gytbwys.

·        Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fydd y Pwyllgor Archwilio newydd, yn cynnwys 6 Chynghorydd etholedig, a heb gynnwys Aelod Cabinet, ac aelod lleyg, pob un i’w penodi gan y Cyngor llawn. Aelodaeth i gynnwys Is-gadeirydd y Cyngor ac ni ddylai Aelodau Llywodraethu Corfforaethol fod yn Aelodau Pwyllgor Craffu.

·        Y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol i gynnwys 1 Aelod Cabinet, yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am faterion Adnoddau Dynol fyddai orau.

·        Y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol i gynnwys 8 Cynghorydd, wedi eu penodi gan y grwpiau gwleidyddol, ac 8 cynrychiolydd undebau llafur.

·        Aelod i’w benodi i’r Panel Maethu a’r Cyd-Banel Mabwysiadu.

·        Aelodau’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Addysg Grefyddol (CYSAAG) i gynnwys 8 Cynghorydd a chynrychiolwyr o enwadau crefyddol, cymdeithasau athrawon ac aelodau cyfetholedig.

·        Aelodaeth y Pwyllgor Safonau i gynnwys 2 Gynghorydd Sir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd J Butterfield at y gwaith rhagorol a wnaed gan y Cynghorydd J Chamberain-Jones fel aelod o’r Panel Maethu a’r Cyd-banel Mabwysiadu a chefnogodd ei phenodiad i’r swydd. Heriodd ddyraniad seddau ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gofynnodd bod y ffigurau’n cael eu hadolygu a bod y Grŵp Llafur yn cael 3 sedd a’r Grŵp Annibynnol yn cael 1 sedd ar sail y ffaith mai’r Grŵp Llafur oedd y Grŵp mwyaf ar y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D.I. Smith ar ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau Craffu, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd bod y mater wedi ei drafod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd wedi cadarnhau bod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi pennu sut i benderfynu ar nifer y Cadeiryddion Pwyllgor Craffu y gallai’r Grwpiau eu dyrannu, ond nad oedd yn pennu proses ar gyfer dyrannu Pwyllgorau i Grwpiau. Byddai hyn yn fater i’r Grwpiau gwleidyddol ei benderfynu ac nid oedd yn fater i’w benderfynu gan y Cyngor.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, cyn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, y byddai angen i’r Aelodau ystyried y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd Butterfield, bod y ffigurau a oedd yn ymwneud â dosbarthu seddau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael eu hadolygu; o roddi’r mater i bleidlais, trechwyd y cynnig.

 

Roedd enwebiadau ar gyfer penodi 2 Aelod i’r Pwyllgor Safonau yn cynnwys y Cynghorwyr R.J. Davies, W.L. Cowie, M.L. Holland a C. Hughes.  Gwahoddwyd pob aelod i wneud cyflwyniad byr ac ar y pwynt hwn, tynnodd y Cynghorydd R.J. Davies ei enwebiad yn ôl. Cynhaliwyd pleidlais ddirgel ac fe benodwyd y Cynghorwyr W.L. Cowie a C. Hughes i’r Pwyllgo Safonau.

 

Ystyriodd y Cyngor yr argymhellion yn yr adroddiad ac ar ôl trafodaeth lawn, gan gynnwys ystyried enwebiadau gan Arweinwyr Grwpiau, fe:-

 

BENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn cytuno:

 

(a)   Defnyddio’r tabl dyrannu i gael dyraniad gwleidyddol gytbwys seddau Pwyllgor fel y cynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

(b)   Dosbarthiad y seddau fel y nodwyd yn Atodiad 2 a bod y grwpiau gwleidyddol yn hysbysu’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd o’r Aelodau a enwyd i’w seddau penodol cyn gynted ag y bo modd, ac eithrio penodiadau i’r Cabinet.

(c)   Y penodiadau canlynol:-

 

(i)

Aelodau nad ydynt yn aelodau’r Cabinet, y Cynghorwyr W.L. Cowie, S.A. Davies, M.L. Holland, G.M. Kensler, W.M. Mullen-James, R.M. Murray, P.W. Owen, T.M. Parry, A. Roberts a G. Sandilands i’w penodi i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gyda’r Cynghorydd B. Mellor yn Gadeirydd.

(ii)

Aelodau nad ydynt yn aelodau’r Cabinet, y Cynghorwyr  J.R. Bartley, S.A. Davies, M.L. Holland, G.M. Kensler, J.M. McLellan a D. Simmons i’w penodi i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

(iii)

Penodi’r Cynghorydd J. Chamberlain-Jones i’r Panel Maethu a Chyd-banel Mabwysiadu, a’r

(iv)

Cynghorwyr W.L. Cowie a C. Hughes yn cael eu penodi i’r Pwyllgor Safonau.

 

Dirprwyo i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol rôl cyfweld ymgeiswyr am swydd aelod lleyg ar y Pwyllgor a gwneud argymhellion ar y penodiad i’r Cyngor llawn.

 

 

Dogfennau ategol: