Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIADAU BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2019 – 2020 A 2020 - 2021

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno adroddiadau blynyddol drafft i’w craffu cyn eu cyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a’r Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn cyflwyno’r adroddiadau blynyddol drafft ar gyfer 2019 – 2020 a 2020 – 21 i’r Pwyllgor ar gyfer craffu cyn eu cyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.  Esboniwyd y rhesymau dros gyflwyno’r ddau adroddiad gan gofio bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio’r angen i lunio adroddiad blynyddol ym Mawrth 2020 oherwydd pandemig Covid-19.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at y rôl arweiniol yr ymgymerodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol â hi yn ystod y pandemig ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan barhau hefyd gyda’r gwaith arferol, a hynny’n aml iawn dan bwysau ariannol.  Dangosai’r adroddiadau fod llawer wedi ei gyflawni o dan amgylchiadau hynod o anodd a gwelwyd cynnydd a gwelliannau mewn nifer o feysydd.  Er mai prif gyfrifoldeb y Cynghorydd Feeley yw Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, gwyddai fod gwasanaethau cyfun Addysg a Gwasanaethau Plant hefyd wedi darparu'r un gwasanaethau o ansawdd da i blant bregus.  Roedd hi’n falch o allu bod yn rhan o lansiad canolfan blant newydd arloesol Bwthyn y Ddol.  Roedd yr adroddiadau blynyddol yn adlewyrchu’n dda ar y timau sy’n gweithio ar draws y meysydd gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a thalwyd teyrnged i’r staff gwych ac ymroddedig sy’n gweithio'n ddiflino i gynnig y gwasanaethau gorau bosibl.  Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn hyderus y byddai Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn parhau i addasu a gwella a darparu’r gofal sydd ei angen ar drigolion y sir.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’r holl gynghorwyr am eu cefnogaeth barhaus i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant ac Oedolion.  Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai angen llunio adroddiad ar gyfer 2019 – 20, teimlwyd y dylid bod yn gyfredol a llunio’r adroddiad hwnnw, er mwyn dangos hefyd yr hyn a gyflawnwyd yn ystod cyfnod hynod o anodd nas gwelwyd ei debyg o’r blaen. Talodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol deyrnged i’r gweithlu gan gynnwys gofalwyr anffurfiol, gofalwyr maeth a’r rhai a fu’n darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol, ac i bawb a fu’n cynorthwyo.  Ni ellid adleoli pawb i weithio ar y rheng flaen ond gwnaeth pobl o bob rhan o’r awdurdod ac ar draws cymunedau fanteisio ar y cyfle i gynorthwyo mewn ffyrdd eraill a gwneud gwaith er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf bregus.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch o gyflwyno’r adroddiadau i’r aelodau gan bwysleisio cymaint a gyflawnwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chadarnhaoedd y byddai datblygiadau i’w gweld yn y meysydd gwaith hynny nad oedd wedi datblygu yn ôl y disgwyl.  Roedd hi’n werth nodi bod staff ar hyn o bryd yn ymdrin â chynnydd mewn achosion a throsglwyddiadau Covid-19 yn y gymuned ac mewn lleoliadau gofal.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn croesawu’r gwaith craffu roedd yr aelodau’n ei wneud ar yr adroddiadau ac esboniodd fod y Prif Reolwyr Ann Lloyd a James Wood hefyd yn bresennol i ateb cwestiynau.

 

Yn ystod trafodaeth hir, gwnaeth y Pwyllgor dalu teyrnged i'r ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb yn y maes gofal cymdeithasol wrth iddyn nhw weithio'n ddiflino o dan amgylchiadau hynod o anodd, ac i'r rhai sy’n parhau i wneud hynny, gan fynd y filltir ychwanegol er mwyn gofalu am y rhai mwyaf anghenus.  Manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod gwahanol agweddau ar yr adroddiadau gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion a oedd yn bresennol.

 

Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·         roedd yr adroddiad yn dilyn y fformat a awgrymwyd gan Lywodraeth Cymru ac er y derbyniwyd nad oedd yr adroddiad yn rhoi llawer o fanylion, ceir nifer helaeth o wasanaethau ar draws Gofal Cymdeithasol i Blant ac Oedolion ac mae angen cydbwysedd o ran lefel yr wybodaeth sy’n cael ei chynnwys er mwyn sicrhau bod y ddogfen yn hygyrch i’r cyhoedd – croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol unrhyw destunau penodol sy’n codi o’r adroddiad y soniodd yr aelodau y dylid craffu arnyn nhw yn y dyfodol

·         Comisiynodd awdurdodau lleol Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych wasanaeth cefnogi gan Credu - Gofalwyr Ifanc WCD sy’n darparu'r elfen fwyaf o gefnogaeth ac mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau yn ystod y gwyliau, teithiau a digwyddiadau; er bod Covid-19 wedi effeithio ar y teithiau hynny, bydden nhw’n ailddechrau pan fo hynny’n bosibl a chynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd dros y we yn ystod y cyfnod. 

Cyfeiriwyd hefyd at y Porth Cefnogi Plant a Theuluoedd a gwaith estyn allan a wneir gydag ysgolion i ganfod gofalwyr ifanc nad ydyn nhw o bosibl wedi cael eu cyfeirio gan deuluoedd/asiantaethau eraill i gael cefnogaeth. Cytunodd y swyddogion y bydden nhw’n rhoi mwy o fanylion am y mater hwnnw i'r Cynghorydd Paul Penlington y tu allan i’r cyfarfod.

·         roedd dyfodiad Covid-19 wedi cyflymu’r cynlluniau i ddefnyddio atebion digidol i gefnogi ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau a arweiniodd at welliannau sylweddol. 

Mae defnyddio technoleg wedi bod yn fanteisiol iawn i rai pobl gan ei fod yn cyd-fynd yn well â’u hanghenion.  Mae enghreifftiau o’r ffyrdd newydd o weithio ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion a Phlant wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac mae’n faes a fydd yn parhau i gael ei ddatblygu.  Er bod y ffyrdd newydd o weithio wedi cael eu croesawu ar y cyfan, mae’n amlwg nad yw’r dulliau digidol hyn yn addas i bawb.

·         rhoddwyd ychydig o gefndir ynghylch llwybr y blynyddoedd cynnar sy’n gynllun gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r camau a gymerwyd yn Sir Ddinbych i integreiddio elfennau o fewn cylch gwaith mewnol yr awdurdod lleol tra bydd Addysg a Gwasanaethau Plant yn uno i sicrhau cyfnod pontio llyfn ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn cefnogaeth, gan gynnwys Dechrau'n Deg. 

Mae mwy o waith yn cael ei wneud am hyn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar lefel ranbarthol i rannu gwybodaeth ac arfer orau.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellie Chard at Raglen Dechrau'n Deg ac awgrymodd y gellid gwahodd rhieni i dreulio amser yn yr ysgol gyda'u plant er mwyn eu helpu i ddysgu drwy chwarae a datblygu mwy ar eu sgiliau iaith, llythrennedd a chymdeithasol.  Croesawodd y Cadeirydd yr awgrym hwn.

·         cytunodd y swyddogion gydag awgrym y Cynghorydd Martyn Holland y dylid cynnwys rhestr termau/mynegai yn yr adroddiad o'r termau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol brosiectau/dulliau gweithredu ayb.

·         er bod elfen fach o ailgofrestru plant ar y gofrestr amddiffyn plant bob amser, mae’n anodd gwybod a oedd y cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol o ganlyniad i Covid-19 neu beidio, a bydd angen edrych ar amgylchiadau’r teuluoedd unigol er mwyn penderfynu beth oedd y rheswm. 

O ran atgyfeiriadau diogelu, nid yw Sir Ddinbych wedi gweld lefel yr atgyfeiriadau’n cynyddu ar yr un gyfradd ag awdurdodau lleol eraill, o ganlyniad i’r gwaith a wnaed ar ddechrau’r pandemig i nodi’r plant bregus a llunio cynlluniau i’w cefnogi. Hwyluswyd y gwaith hwn drwy uno’r adrannau Addysg a Gwasanaethau Plant.

·         esboniwyd bod ap Mind of My Own yn un o’r dulliau a ddefnyddir i gyfathrebu er mwyn clywed barn pobl ifanc am eu gofal a’r gefnogaeth maen nhw’n ei chael, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan tua 130 o bobl ifanc yn rheolaidd. 

Aethpwyd ati i ganfod plant nad oedd o bosibl â mynediad at dechnoleg ddigidol ac mae cyllid hefyd ar gael at y diben hwnnw.

·         oherwydd y pandemig, daeth y Cyngor yn ymwybodol o ofalwyr na wydden nhw amdanyn nhw o’r blaen, a daeth unigolion i ofyn am gymorth, ac aeth y gwaith gyda phartneriaid yn ei flaen i annog mwy o ofalwyr i fanteisio ar y gefnogaeth a defnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael. 

Er hyn, nid oedd rhai unigolion yn ystyried eu hunain yn ofalwyr ac mae’n debyg fod yna boblogaeth gudd o ofalwyr yn Sir Ddinbych sydd heb gyflwyno eu hunain.  Parhaodd y gwaith gyda gofalwyr yn ystod y pandemig a dyma un o'r meysydd lle gwelwyd cynnydd dros y deunaw mis diwethaf

·         mae gofal cymdeithasol wedi bod o dan bwysau ariannol cynyddol, fel sy’n wir am holl wasanaethau llywodraeth leol, ond mae gofyn i’r Cyngor ddarparu cyllideb gytbwys a dod i benderfyniadau anodd ynghylch blaenoriaethau. 

Cafodd cyllid ychwanegol ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf ond gellid gwneud mwy gyda mwy o arian.  Bu gofyn i bob adran wneud arbedion effeithlonrwydd ac yn yr adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant, roedd yr arbedion hynny’n briodol ac fe’u gosodwyd yn erbyn buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cynaliadwy a ffyrdd newydd o weithio a'r gobaith yw y daw hynny â mwy o arbedion effeithlonrwydd dros amser.  Gwnaed defnydd mawr o arian grant a chyllid partneriaeth drwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd, a’r her o ymdrin â chyllid sydd â chyfyngiad amser arno, a'r angen i lunio strategaethau ymadael a nodi sut y gallai cyllid craidd gefnogi'r cynlluniau hynny wrth symud ymlaen.

·         cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y ffaith fod staff yn cael eu hymestyn i’r eithaf ac ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y pwysau eithriadol mae Covid-19 wedi ei osod ar staff, yr effaith ar lefelau salwch a darparu cymorth ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw,  a chyfeiriodd at gydweithwyr a phreswylwyr a gollwyd yn ystod y cyfnod hwnnw

·         roedd pedwar Tîm Adnoddau Cymunedol wedi eu lleoli ym Mhrestatyn, Y Rhyl, Dinbych a Rhuthun i gyd-fynd â chlystyrau meddygon teulu a gwasanaethau iechyd ac er eu bod wedi eu lleoli yn y pedwar man hynny, roedd eu gwasanaethau'n estyn allan dros y sir gyfan. 

Roedd y Timau Adnoddau Cymunedol yn cynnwys staff yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd er mwyn darparu cefnogaeth iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor mewn cymunedau ym mhob rhan o’r sir

·         Bu Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydweithio i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc fynediad at offer TG, serch hynny, roedd cryn oedi gyda’r cyflenwad oherwydd y galw uchel ac ni dderbyniwyd rhai archebion hyd heddiw. 

Ystyriwyd amgylchiadau teuluoedd yn ofalus fel rhan o’r broses honno a chafwyd nifer fechan o achosion lle na ddarparwyd offer ar ôl nodi’r risgiau a chynigiwyd dulliau cefnogi eraill.  Soniodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am ffyrdd arloesol o sicrhau mynediad digidol at Google Classroom drwy X-box a PlayStation ac ychwanegodd fod pob plentyn/cartref a ofynnodd amdano wedi cael mynediad digidol.  Sicrhawyd cysylltiad rheolaidd a pharhaus gyda phlant a ystyriwyd yn fregus ac roedd hynny wedi golygu bod llai o atgyfeiriadau diogelu wedi eu gwneud o’i gymharu â chynnydd mewn awdurdodau lleol eraill.

·         gweithiodd yr Un Pwynt Mynediad yn hynod o dda yn ystod y pandemig a dylid ei ganmol. Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i staff a ymgymerodd â gwaith gwirfoddol, yn ogystal â llawer o grwpiau gwirfoddol.

·         roedd yr anhawster i recriwtio a chadw staff gofal yn broblem genedlaethol ac mae Sir Ddinbych yn parhau i gynnal ymgyrchoedd recriwtio er mwyn denu staff newydd. 

Roedd problemau’n parhau ynglŷn â chyflogau teg, a thelerau ac amodau, a chyfeiriwyd at gynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol i fynd i’r afael â’r broblem. Mae Sir Ddinbych yn ymwneud â datblygu Strategaeth Genedlaethol i'r Gweithlu ym maes gofal cymdeithasol yn ogystal ag ymgyrch sy’n bodoli ers peth amser gan Gofal Cymdeithasol Cymru.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd yn rhan o Weithgor Gofal Teg y Gweinidogion sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yr undebau a chynrychiolwyr cyflogwyr ar degwch ym maes gofal cymdeithasol.  Rhoddwyd mwy o fanylion am y broses adleoli a welwyd yn ystod Covid-19, pan symudwyd staff i waith gofal ar y rheng flaen a swyddi eraill, ac ar brydiau gwnaeth rheolwyr oedd â phrofiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol ymgymryd â swyddi ar y rheng flaen mewn cartrefi gofal pan oedd prinder.  Gwnaed yr holl waith hwnnw ar ewyllys da ac roedd gallu’r staff i gefnogi'r trigolion mwyaf bregus pan oedd angen gwneud hynny’n wirioneddol wych.

·         rhoddwyd mwy o fanylion am ddatblygiad Bwthyn y Ddol mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle rhoddir cymorth preswyl byrdymor i blant a phobl ifanc yn lleol. 

Mae tîm amlddisgyblaethol yn cynnig dulliau ymyrryd pwrpasol dan arweiniad timau clinigol ar gyfer achosion risg uchel cymhleth, gan ychwanegu at y gwaith ataliol yn y rhanbarth.  Cyfeiriwyd hefyd at weinyddiaeth bosibl y cwmni a gyflogwyd i adeiladu'r cyfleuster ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr o’r adrannau cyfreithiol a chaffael ynghylch y ffordd orau i symud y prosiect yn ei flaen.  Teimlai’r Cynghorydd Meirick Davies y dylai’r aelodau fod wedi bod yn ymwybodol o’r sefyllfa’n gynharach ac esboniodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y materion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r mater ond cadarnhaodd y byddai’n rhannu unrhyw wybodaeth newydd gyda’r aelodau, yn ogystal â rhoi gwybod iddyn nhw pan fyddai’r sefyllfa’n fwy eglur.

·         bu’r pandemig yn eithriadol o anodd i oedolion ag anableddau gan nad oedd rhai o wasanaethau'r cyngor ar gael oherwydd rheolau a chyfyngiadau’n ymwneud â Covid-19, a oedd hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynlluniau cyfleoedd gwaith. 

Cafwyd cadarnhad gan y Tîm Anableddau Cymhleth fod y defnyddwyr gwasanaeth a oedd angen cefnogaeth wedi parhau i'w derbyn drwy gydol y cyfnod a chadwyd cysylltiad drwy'r cyfan.  O ran cyfleoedd gwaith, aeth tîm bach ‘Canfod Swyddi’ ati i ganfod lleoliadau gwaith a swyddi ar gyfer pobl anabl ynghyd â chanfod cyfleoedd o fewn y cyngor.  Bu trafodaethau gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf. ynghylch cyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith am dâl ac mae gwaith hefyd yn parhau gyda Sir Ddinbych yn Gweithio.  Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ailddechrau rhai o’r cyfleoedd gwaith wrth i sefyllfa Covid-19 ganiatáu hynny.  Cyfeiriwyd at yr adolygiad o gyfleoedd gwaith sy’n cynnwys Meifod (Cynnyrch Pren) yn Ninbych a bydd proses ymgynghori’n dechrau yn ei gylch yn fuan.  Bydd nodyn briffio’n cael ei baratoi am hynny a bydd yn cael ei rannu’n fuan er mwyn esbonio’r sefyllfa a’r gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.  O ran llety ar gyfer oedolion ag anableddau, roedd rhai wedi eu hadeiladu’n bwrpasol ond gwnaed addasiadau hefyd i eiddo roedd unigolion yn byw ynddyn nhw’n barod

·         gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion iechyd meddwl yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac yn y gymuned ffermio dros Gymru, a fu’n ganolbwynt ar gyfer nifer o brosiectau a gwaith a wnaed drwy’r rhanbarth ac ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector ac mewn sefydliadau eraill.

Cynhyrchwyd llyfryn dwyieithog yn benodol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y gymuned ffermio ac sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ynghylch y gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael ar gyfer materion iechyd meddwl a chyfeiriwyd pobl at wasanaethau eraill.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n rhoi copi o’r llyfryn i'r Cynghorydd Meirick Davies.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau gwerthfawr yn y gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed ar yr adroddiadau blynyddol.  Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a'r staff am yr holl waith roedden nhw wedi ei wneud o dan amgylchiadau hynod o anodd, gan fynd i tu hwnt i'r holl ddisgwyliadau.  Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus ac am werthfawrogi’r holl waith caled a wnaed a chytunodd y byddai’n dweud wrth y staff yn uniongyrchol pa mor ddiolchgar yw'r Pwyllgor am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod a bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani’n cael ei darparu, y dylid cadarnhau bod yr adroddiadau’n rhoi darlun eglur o’r perfformiad yn 2019 – 2020 a 2020 – 21.

 

Ar y pwynt hwn (11.40am) cymerodd y pwyllgor seibiant am egwyl luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: