Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2020 – 31 MAWRTH 2021

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Gwasanaethau Diogelu Gweithredol (copi ynghlwm) sydd am i’r Pwyllgor adolygu cynnydd y Cyngor o ran trefniadau ac arferion diogelu lleol yn ystod y cyfnod uchod, a’u heffaith ar oedolion diamddiffyn yn y sir.

 

11:15am – 12:00pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol adroddiad (wedi’i rannu ymlaen llaw) oedd yn ceisio rhoi trosolwg i’r aelodau am effaith trefniadau ac ymarfer Diogelu lleol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeng mis diwethaf trwy archwilio'r data oedd wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol i Uned Ddata Llywodraeth Cymru.

 

Er gwaethaf y pwysau oherwydd y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau a osodwyd ar unigolion a sefydliadau gan yr argyfwng, roedd perfformiad y Cyngor o ran diogelu oedolion wedi parhau’n gryf, gyda gwelliannau mewn sawl maes, fel perfformiad yn ôl dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru ar ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith.

 

Ar y cyfan, roedd gostyngiad sylweddol (40%) wedi bod yn nifer yr adroddiadau diogelu a dderbyniwyd o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Fodd bynnag, roedd cynnydd wedi bod yn nifer y galwadau ffôn i’r tîm Diogelu i drafod materion diogelu.  Roedd hyn yn rhoi peth sicrwydd ei fod yn parhau i fod yn fater roedd darparwyr ac asiantaethau eraill yn canolbwyntio arno er y gostyngiad yn nifer yr adroddiadau.

 

Er derbyn llai o adroddiadau yn ystod blwyddyn 2020-21, nid oedd y Cyngor wedi gweld cynnydd mewn achosion oedd angen mynd ymlaen i gyfarfodydd strategaeth, a oedd yn debyg i dueddiadau’r blynyddoedd diwethaf.  Roedd ymholiadau adran 126 wedi dod yn rhan amlycach o ymarfer diogelu ar draws pob asiantaeth ac roedd y Cyngor yn parhau i weld mai dim ond yr honiadau mwy difrifol o gamdriniaeth neu esgeulustod oedd yn mynd ymlaen i gyfarfodydd strategaeth.  Roedd y camau ataliol i leihau unrhyw berygl o niwed pellach yn parhau i fod wrth wraidd y cam ymholiadau, gyda’r pwyslais ar ganlyniadau personol yr unigolyn yn ganolog i’r broses ddiogelu.

 

Roedd y Cyngor wedi parhau i gynnal ei berfformiad yn ôl dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru, wrth gwblhau 99% o ymholiadau o fewn y terfyn amser o 7 diwrnod gwaith ar gyfer 2020/2021.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

·         p'un a oedd data ar gael ar gyfer y nifer o gwynion diogelu oedd wedi’u profi, gan mai nifer honedig yr achosion yn unig yr oedd yr adroddiad yn cyfeirio ato.  Oherwydd problemau cysylltiad technegol, cytunodd y swyddogion i ddarparu'r data i'r aelodau'n ysgrifenedig.  Fe wnaethant hefyd gadarnhau y byddai'r data am y nifer o honiadau â sail iddynt yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau Diogelu yn y dyfodol.

·         Cadarnhawyd bod gostyngiad o 40% wedi bod yn nifer y bobl a oedd yn penderfynu preswylio mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig Coronafeirws.  Fodd bynnag, roedd cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ymholiadau roedd Gwasanaeth yr Un Pwynt Mynediad yn eu derbyn yn ystod yr un cyfnod.

·         Byddai gosod cyfarpar teledu cylch caeedig yn ystafelloedd gwely preswylwyr mewn cartrefi gofal yn ddewis personol i’r unigolyn neu ei deulu/theulu.  Ni allai’r Cyngor osod cyfarpar teledu cylch caeedig yn ystafelloedd preifat pobl.

·         Roedd ansawdd gofal a diogelu’n ddau fater ar wahân.  Er y gallai fod rywfaint o bryderon ynglŷn ag ansawdd gofal mewn sefydliad, nid oedd hynny ynddo'i hun yn bodloni'r meini prawf neu'r trothwy statudol i gychwyn ymchwiliad Diogelu.

·         Roedd gan unrhyw unigolyn hawl i fynegi pryderon am ddiogelu a gallai'r rhain gael eu codi gyda nifer o wahanol unigolion neu sefydliadau.  Byddent i gyd yn y pen draw'n cael eu hystyried gan Banel Diogelu Corfforaethol y Cyngor.

·         Roedd darparu Adroddiad Diogelu Oedolion Blynyddol yn ofynnol yn statudol i bob awdurdod lleol yng Nghymru.  Roedd yn fodd o roi sicrwydd i breswylwyr bod diogelwch trigolion diamddiffyn y sir yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth a bod ymchwiliad trylwyr i bob honiad neu bryder.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod ac ar ddarparu’r wybodaeth a’r data ychwanegol y gofynnwyd amdano yn ystod y drafodaeth, y dylid cydnabod pwysigrwydd ymdriniaeth gorfforaethol ar gyfer diogelu oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i ystyried hwn yn faes allweddol i'w flaenoriaethu.

 

 

Dogfennau ategol: