Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Dim eitemau brys.
(a) Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Penlington:
Gofynnwyd i ni feddwl am gynigion i’w
cyflwyno i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth San Steffan ar 25 Mehefin, cyn y
dyddiad cau, sef dydd Gwener 2 Gorffennaf.
Gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio, allwch chi ddweud wrthym faint o
gynigion a gafwyd a gan pa Aelodau,
manylion pob cynnig a beth fydd y broses rŵan ar gyfer ystyried pa
gynigion fydd yn cael eu datblygu i’w cyflwyno i’r Gronfa Leol?
Ymateb yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh
Evans:
Anfonwyd e-bost at y Grwpiau Aelodau Ardal
(GAA) sydd o fewn Etholaeth AS Dyffryn
Clwyd a Gorllewin Clwyd sef GAA Elwy, y Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Rhuthun.
Gofynnwyd i’r aelodau lenwi ffurflen yn
nodi rhai syniadau cychwynnol am brosiectau i’w trafod gydag AS yr etholaeth
honno y gellid o bosibl eu hystyried i’w cynnwys yn y cais Codi’r Gwastad.
Derbyniwyd ymatebion gan 5 aelod yn
awgrymu amrywiaeth o brosiectau, yn cynnwys ailddatblygu adeiladau Canol Tref
ac adeiladau mewn cymunedau gwledig.
Bydd y syniadau ar gyfer y prosiect yn
cael eu trafod gyda’r AS, a bydd cyfle i drafod syniadau prosiect yr aelodau yn
ogystal ag awgrymiadau gan yr AS a swyddogion yn fwy manwl yng nghyfarfodydd y
GAA ym mis Gorffennaf.
Bydd ceisiadau yn y dyfodol, yn cynnwys yr
holl brosiectau, yn gofyn am gefnogaeth yr AS.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington
gwestiwn atodol:
Mae’n rhaid clustnodi’r £20 miliwn ar
gyfer prosiectau y gellir eu cyflawni erbyn Mawrth 2024, sef ychydig cyn yr
etholiad cyffredinol nesaf. Nid yw hirhoedledd y cyllid hwn yn hysbys
gan gan nad yw wedi ei nodi eto, sydd yn gwneud cynllunio'n iawn ar ei gyfer yn
anodd dros ben. Mae’r amserlen ar gyfer
ceisiadau yn ddychrynllyd o dyn a bydd unrhyw geisiadau am gyllid a gyflwynir
yn cael eu cymeradwyo yn y pen-draw gan yr AS lleol ac nid Cynghorwyr Sir. Gan nad oes wybod beth ddaw yn y dyfodol a
democratiaeth wedi mynd i San Steffan, mae Gwasanaethau CSDd ac Aelodau Lleol
rŵan yn gorfod sgrialu dros benderfyniadau ariannu lleol ar gyfer eu
hardaloedd eu hunain.
A fydd y gronfa Codi’r Gwastad hon yn
cefnogi’r Cynllun Corfforaethol sydd dan drafodaeth ar hyn o bryd a'r Fargen
Twf Gogledd Cymru ehangach?
Ymateb pellach gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Hugh Evans:
Mae’r £20m fesul etholaeth felly mae
Dyffryn Clwyd yn etholaeth un AS a Gorllewin Clwyd rhwng Conwy a Sir Ddinbych.
Mae hyn yn ffordd newydd o weithio i ni yn
Sir Ddinbych. Mae’n her cwrdd â’r
terfynau amser gan eu bod yn hynod o dyn fel y dywedwyd eisoes ac roedd yn
sialens fawr i ni gyflwyno cais De Clwyd
erbyn mis Mehefin. Wedi dweud hynny, pa
un a ydym yn cytuno a’i peidio, mae posibilrwydd yma o fuddsoddiad yn ein
hawdurdod ni a’r unig ffordd y gallwn ddefnyddio'r gronfa Codi'r Gwastad yw
drwy groesawu'r cyfle a gweithio gyda'r ddau AS perthnasol a cheisio dyfeisio
prosiectau sy'n ffitio ein cymunedau.
Dyna pam yr wyf yn teimlo ei bod yn bwysig
i ni greu proses ar gyfer ymgysylltu â’r ddau AS ac Aelodau i feddwl am
brosiectau sy’n cyd-fynd â'u dyheadau ond yn fwy pwysig, yn cyd-fynd â’n
dyheadau ni ar gyfer yr ardal hefyd.
Yr hyn sy’n bwysig yw y byddwn yn creu
proses lle bydd ASau yn ymgysylltu â Chynghorwyr i ddatblygu prosiectau sy’n
plesio’r ASau ond sydd hefyd yn ein plesio ni.
Mae hyn yn bwysig dros ben ac mae’r ddau AS wedi cytuno i ddod i’r GAA
ym mis Gorffennaf i drafod hyn.
Mae’r potensial i wella ein cymunedau drwy’r gronfa Codi’r Gwastad yn
sylweddol. Nid yw'n ffordd ddelfrydol o
weithio, rwy’n derbyn hynny, ond dim ond pwynt cychwyn ar gyfer y Gronfa
Ffyniant Gyffredin a fydd yn dod ymhen ychydig flynyddoedd yw hyn.
Mae’n bwysig ein bod ni fel Awdurdod nid
yn unig yn croesawu hyn ond hefyd yn rhoi hyder i’r noddwyr y gallwn gyflawni,
a dyna oedd y prif beth a ddaeth i'r amlwg gyda De Clwyd, bod yn rhaid i'r
prosiectau fod yn rhai y gellir eu cyflawni.
A ydynt wedi’u halino â’r Cynllun
Corfforaethol presennol? Nid o reidrwydd ond nid ydym eto wedi trafod
prosiectau mewn manylder. Byddai’n
bosibl eu halinio gyda Chynllun Corfforaethol y Cyngor nesaf wrth gwrs, a
byddai'r Aelodau newydd mewn sefyllfa well i brofi hynny gyda'r Cynllun
Corfforaethol nesaf.
Mae’n gyfle i fuddsoddi ac yn gyfle y
dylem ei fachu a gwneud iddo ddigwydd i Sir Ddinbych.
(b) Deiseb gan y Cynghorydd Ann Davies:
Ar ran preswylwyr Nant Close, Rhuddlan,
hoffwn gyflwyno’r ddeiseb hon yn erbyn plannu blodau gwyllt mewn mannau
preswyl, droedfeddi o'u cartrefi. Er ein
bod o blaid bioamrywiaeth ac yn deall fod gan Gyngor Sir Ddinbych ddyletswydd i
ddarparu’r cynllun hwn, fel y mae tystysgrif
Gwenyn Gyfeillgar Cyngor Sir Ddinbych yn datgan, rhaid cynnwys y
gymuned. Mae trigolion yn siomedig nad
ymgynghorwyd â hwy ac maent yn teimlo eu bod wedi colli eu man gwyrdd, rhywle
i’r plant chwarae, eu diogelwch ac maent yn gofyn bod y gwair yn cael ei dorri.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai’r ddeiseb dan amgylchiadau arferol yn
cael ei chyflwyno'n bersonol ond oherwydd bod y cyfarfod yn cael ei gynnal o
bell, bydd yn cael ei hanfon i Neuadd y Sir am ymateb ymhen 14 diwrnod.