Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AROLWG TENANTIAID TAI CYNGOR

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Prif Arweinydd – Tai Cymunedol, ar adborth o’r arolwg STAR ar denantiaid y Cyngor a chynigion Gwasanaeth Tai Cymunedol y Cyngor i Arolygu’r darganfyddiadau.

11am – 11.30am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (rhannwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r pwyllgor bod 381 o ymatebion (11%) wedi cael eu derbyn o’r 3277 o arolygon Tenantiaid a Phreswylwyr Safonol (STAR) a anfonwyd.  Byddai canlyniadau’r arolwg hefyd yn cael eu rhannu gyda Ffederasiwn Tenantiaid Sir Ddinbych.

 

Er bod gofyniad statudol i gyflawni’r arolwg bob 2 flynedd, roedd rhai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cyflwyno data a gasglwyd cyn Covid-19. Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflawni’r arolwg yn ystod hydref/gaeaf 2020/2021 ac fe nodwyd gan Lywodraeth Cymru bod yr ymateb wedi cael ei effeithio gan y pandemig.

 

Roedd cyfraddau boddhad cyffredinol yn llai na’r canlyniadau arolwg 2019 gan adlewyrchu’r cynnydd mewn ymatebion nad oeddynt yn fodlon nac yn anfodlon – gan ddynodi nad oedd tenantiaid yn gallu sgorio’r gwasanaeth yn llawn yn sgil cyfnod clo’r pandemig.

 

Mynegodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol (GD) ei siom o ran y cyfraddau bodlonrwydd cyffredinol llai, ond roeddent yn ddisgwyliedig yn sgil y gwasanaeth cyfyngedig (argyfyngau yn unig yn ystod y cyfnod clo). Yn flaenorol, roedd preswylwyr yn blaenoriaethu safonau gwasanaeth ar gyfer eu cartrefi eu hunain, ond yn ystod y pandemig, roedd y canolbwynt wedi newid i ddiogelwch eu cymdogaeth a’u cymuned.

 

Roedd meysydd ar gyfer gwella wedi’u nodi gan gynnwys ail-redeg yr arolwg STAR ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn ailosod y data mewn trefn fel bod yr holl gynghorau a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gallu eu cymharu gyda data o fewn yr un ystod data.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol:

·         roedd yn bwysig bod tenantiaid landlordiaid cymdeithasol yn derbyn gwasanaeth tebyg am y rhent roeddent yn ei dalu. Roedd data meincnodi wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r wybodaeth yn cael eu rannu i aelodau.

·         Bod perthynas weithio da yn bodoli rhwng y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn y sir.

·         Roedd mwy o ymatebion iau ac ar-lein i’r arolwg na’r blynyddoedd blaenorol.

·         Ymdrechwyd i sicrhau bod sampl cynrychioladol yn ymateb i’r arolwg. Cynhaliwyd arolygon deinamig yn ystod y flwyddyn hefyd.

·         Y pryder cadw a chynnal mwyaf ar gyfer preswylwyr oedd materion damprwydd/cyddwysiad yn y stoc dai hŷn, tra bod problemau mewn perthynas â baw cŵn yn bodoli ymysg y nifer uchaf o gwynion yn barhaus.

·         Roedd safon y gwaith ar brosiectau cyfalaf wedi derbyn cyfradd boddhad uchel yn gyson, tra bod cyfathrebu gyda thenantiaid ar y lefel isaf o foddhad, er gwaethaf pob ymdrech i wella ac addasu rhyngweithiad a dulliau cyfathrebu gyda thenantiaid y Cyngor.

·         Roedd cyfle i fynd ymlaen o dan y rhaglen effeithlonrwydd carbon i newid systemau gwresogi i ran arbed ynni - pympiau gwres yr awyr a phaneli solar ac ati.

·         Roedd tenantiaid yn gyfrifol am gynnal a chadw eu gerddi eu hunain. Roedd arfer archwiliad rhagweithiol gan y Swyddogion Tai. Rhoddwyd ystyriaeth i fentrau megis ‘no mow May’.  Lle bod angen, gall y Cyngor helpu tenantiaid i gynnal a chadw eu gerddi trwy roi’r offer angenrheidiol iddynt.

·         Cafodd tenantiaid Cymdeithas Tai Adra yn y datblygiad newydd yn Trefnant oll eu dewis o’r gofrestr tai cyffredin – a ddefnyddir gan y Cyngor a holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sy’n gorfodi tenantiaid posibl i roi tystiolaeth o’u cysylltiad i’r ardal leol.

 

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   cefnogi’r Cynllun Gweithredu Tenantiaid a Phreswylwyr Safonol Tai Cymunedol 2021 a luniwyd er mwyn ymateb i ganfyddiadau arolwg Hydref 2020 o denantiaid tai y Cyngor a chefnogi’r ddarpariaeth o flaenoriaethau corfforaethol Tai a Chymunedau Gwydn; a

(ii)          gwneud cais bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei ddarparu i aelodau’r Pwyllgor yn nodi canlyniadau arolwg boddhad a meincnodi o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych.

Dogfennau ategol: