Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRAN 19 ADRODDIAD YMCHWILIAD AR LIFOGYDD CHWEFROR 2020 YN SIR DDINBYCH

Ystyried Adran 19 o Adroddiad Ymchwiliad i’r Llifogydd (copi ynghlwm) gan Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Pheiriannydd Perygl Llifogydd ar lifogydd 2020 yn Sir Ddinbych.

10.15am – 11am

 

Cofnodion:

Yn ei gyflwyniad, amlygodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, bod y llifogydd a brofwyd ar draws Sir Ddinbych yn Chwefror 2020 wedi bod yn ddigwyddiad arwyddocaol.  Cyflwynodd y Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd (TW) Adran 19 Adroddiad Llifogydd (rhannwyd yn flaenorol) mewn perthynas â’r llifogydd a ddigwyddodd o ganlyniad i Storm Ciara. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddyletswydd o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i archwilio llifogydd a chyhoeddi’r canfyddiadau.

 

Roedd mwyafrif y llifogydd wedi digwydd o’r prif afonydd – Ceidiog, Clwyd, Elwy a’r Ystrad – a oedd yn dod o dan gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer ymchwiliad. Hefyd Cyngor Sir Ddinbych oedd â chyfrifoldeb i ymchwilio i lifogydd dŵr wyneb.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio ateb 3 cwestiwn mewn perthynas â phob ardal yr oedd llifogydd:

1.    Pam ddigwyddodd y llifogydd?

2.    Pa mor debygol y bydd llifogydd o’r raddfa honno yn digwydd eto?

3.    Pa welliannau oedd eu hangen i sicrhau bod risg llifogydd y Sir yn cael ei reoli’n briodol yn y dyfodol?

Roedd mwyafrif y camau gwella a argymhellwyd yn gyfrifoldeb ar CNC (tudalennau 33 i 35) gan mai nhw sydd gan yr awdurdod a’r pwerau i weithredu ar y prif afonydd.

 

Mynegodd aelodau eu siom bod y mwyafrif o’r wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â chyfrifoldebau yng nghylch gwaith CNC, ond nid oedd cynrychiolydd CNC yn y cyfarfod i ymateb i’r cwestiynau oedd yn codi.  Dywedodd y Swyddogion bod yr adroddiad ei hun yn cynnwys canfyddiadau o ymchwiliad y Cyngor i’r llifogydd a’r achosion, y bwriad oedd cyflwyno’r adroddiad, ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor i’r Cyngor Sir ym Medi 2021. Os oedd yr aelodau yn dymuno, gall gynrychiolwyr o CNC gael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw.  Cytunwyd gwneud cais am ddiweddariad gan CNC o ran eu bwriad mewn perthynas â’u camau gweithredu a’r terfynau amser, er mwyn eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Cyngor llawn a gwahodd cynrychiolwyr CNC i fynychu hefyd.

 

Gwnaeth yr aelodau gais bod adroddiad neu gyflwyniad hanesyddol yn cael ei ddarparu gan CNC ar fesuriadau glawiad dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf (o fewn Sir Ddinbych), ynghyd â dadansoddiad ar ansawdd a dibynadwyedd y data o’u mesuryddion glaw.  Gall hyn gynorthwyo’r Awdurdod i ddeall effaith posibl newid hinsawdd ar lifogydd yn lleol.  Gall y wybodaeth hon ffurfio rhan o’r eitem busnes yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym Medi, neu ei gyflwyno i’r Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogion Glannau Afonydd.

 

Cadarnhawyd bod CNC eisoes wedi’u gwahodd i gyflwyno canfyddiadau eu gwaith modelu mewn perthynas â Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 9 Medi 2021.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Swyddogion:

·         Roedd mesuryddion glaw a gorsafoedd lefel afonydd yn eiddo i CNC. Rhaid cael eglurder o ran eu cywirdeb.

·         O ran casglu data, roedd gan CSDd delemetreg mewn lleoliadau allweddol, a’u pwrpas oedd hysbysu’r Awdurdod o lefelau uchel mewn afonydd er mwyn ymateb i rwystrau posibl. Roedd CSDd yn chwilio i ychwanegu telemetreg i gyrsiau dŵr llai yn y dyfodol.

·         Cylch gwaith yr Awdurdod oedd deall y patrwm o ran y risg o lifogydd o fewn y Sir.

·         Gall y derminoleg asesu risg a fabwysiadwyd gan CNC e.e. 1 mewn 100, fod yn ddryslyd a gall arwain at y gred ei fod yn risg llifogydd lefel isel.

·         Roedd datblygiadau tai newydd wedi’u cynnwys o dan ganllawiau cynllunio TAN15 sy’n ceisio cyflawni amddiffyniad o 1 i 1000 mewn tebygolrwydd gormodiant blynyddol. Nid oedd unrhyw safonau cenedlaethol ar gyfer datblygiadau presennol.

·         Nid oedd unrhyw fynegiant clir bod newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar lifogydd gan fod ymddygiad y tywydd yn tueddu i fod yn gylchol.

·         Lle bynnag bosibl, dylai lliniaru technegol gael ei nodi i liniaru’r risg o lifogydd mewn datblygiadau presennol. Fodd bynnag, weithiau nid oedd unrhyw liniaru technegol posibl neu roedd cost o’i weithredu’n afresymol.

·         Roedd angen sefydlu blaenoriaethau o ran lleoliadau lle gellir rhoi amddiffyniad trwy liniaru – gan nodi y byddai hyn yn effeithio ar y risg, nid tynnu’r risg.

·         Gwnaed pob ymdrech gan swyddogion y Cyngor i gynorthwyo preswylwyr unigol a chymunedau a effeithir gan lifogydd o’r prif afonydd i fynd i ddialog gyda CNC am leihau’r risg o lifogydd yn y dyfodol.

 

Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd:  Yn destun yr arsylwadau uchod a’r cais am wybodaeth ychwanegol pan gyflwynir yr adroddiad i’r Cyngor Sir ym Medi 2021, argymell i’r Cyngor -

 

     I.        i geisio sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym Medi 2021 y bydd yr argymhellion a nodwyd yn adroddiadau archwiliadau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n cael eu cyflawni, ac y cadarnheir y terfynau amser disgwyliedig; a

trwy’r Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogion Glannau Afonydd, ceisio sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru bod y perygl llifogydd o’r prif afonydd yn Sir Ddinbych yn cael ei reoli'n briodol.

Dogfennau ategol: