Eitem ar yr agenda
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AR GYFER AELODAU
I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Aelodau ac i awdurdodi cynllun cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2012 / 13.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (P:GC&D) adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth aelodau i lefel cydnabyddiaeth
ariannol aelodau am y flwyddyn ariannol 2012/13 yn dilyn argymhellion Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran y symiau sydd i’w talu fel
Cyflog Sylfaenol, Cyflogau Uwch-swyddogion a Chyflogau Dinesig.
Hysbyswyd Aelodau
fod yn rhaid i’r Cyngor weithredu gofynion y Panel dan S153 Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011. Yn unol â hynny mae’n
rhaid i’r Cyngor dalu Cyflog Sylfaenol i bob aelod a gall dalu Cyflogau
Uwch-swyddogion a Chyflogau Dinesig i’r swyddi a nodwyd a’r symiau a bennwyd
gan y Panel. Roedd uchafrif o ddau ar
hugain o Gyflogau Uwch-swyddogion wedi eu pennu ar gyfer Sir Ddinbych. Roedd manylion y Cyflogau Sylfaenol, Uwch a
Dinesig wedi eu nodi yn yr adroddiad ynghyd â phedair ar ddeg o swyddi a
fyddai’n gymwys ar gyfer Cyflog Uwch.
Byddai cymhwysedd unrhyw swyddi eraill ar gyfer Cyflog Uwch yn dibynnu
ar benodiad aelodau’r pedair swydd ar ddeg a oedd wedi eu nodi. Wrth dywys aelodau drwy’r adroddiad fe
amlygodd y P:GC&D y canlynol -
·
y ffioedd
y mae’n rhaid i’r Cyngor eu talu i aelodau cyfetholedig
·
y taliadau uchaf sy’n daladwy am ofal plant
neu ddibynyddion tra bod aelodau/aelodau cyfetholedig yn ymgymryd â’u
dyletswyddau
·
treuliau
teithio a chynhaliaeth sy’n daladwy
·
yr angen i
gynnal a chyhoeddi rhestr flynyddol o gydnabyddiaeth i aelodau ac i gyhoeddi’r
cyfanswm a delir i bob aelod/aelod cyfetholedig.
Yn ystod yr
ystyriaeth o’r adroddiad fe geisiodd aelodau eglurhad ar nifer o faterion ac
ymateb y P:GC&D i gwestiynau aelodau oedd -
·
yn ôl S153
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 roedd gweithredu gofynion y Panel yn
orfodol
·
os na
fyddai’r Cyngor yn gweithredu gofynion y Panel roedd gan y Gweinidogion Cymreig
rym i gyfarwyddo’r Cyngor i gydymffurfio â’r gofynion a gallent orfodi
cyfarwyddyd felly drwy wneud cais am orchymyn gorfodi
·
mae’n rhaid i bob cynghorydd dderbyn Cyflog
Sylfaenol ac mae’r Cyngor â disgresiwn i
ddyfarnu hyd at ddau ar bymtheg o Gyflogau Uwch-swyddogion a dau Gyflog Dinesig
sy’n rhaid eu dyrannu’n unol ag argymhellion y Panel fel y’u nodir yn yr
adroddiad
·
gellid
talu costau gweithredu argymhellion y Panel o gyllidebau presennol
·
cadarnhau fod y Cyngor yn flaenorol wedi talu
Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig i ddeunaw o swyddi ond yng ngoleuni argymhellion
y Panel dim ond i ddwy ar bymtheg o swyddi y gellir talu Cyflogau
Uwch-swyddogion.
Roedd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn croesawu’r ffaith fod y Panel yn gosod
cyfraddau penodedig gan y teimlai fod y Cyngorwyr wedi bod mewn sefyllfa anodd
yn pennu eu lwfansau eu hunain. Nododd y
Cyngor y gofyniad statudol i fabwysiadu argymhellion y Panel ac fe ystyriodd ymhellach
ddyraniad y swyddi a fyddai’n denu Swyddogion Cyflogau Uwch yn Sir
Ddinbych. Mynegwyd safbwyntiau cymysg
ynglŷn ag a ddylid talu’r ddau ar bymtheg o Gyflogau Uwch-swyddogion yn
llawn gyda rhai aelodau o blaid talu dim ond y pedair ar ddeg o swyddi a ddynodwyd ac eraill yn amlygu’r
gwaith ychwanegol a wneir gan rai aelodau ac a allai gyfiawnhau mwy o
gydnabyddiaeth. Yn ystod dadl cytunodd
aelodau y dylid talu Cyflogau Uwch-Swyddogion i’r pedair swydd ar ddeg a oedd
wedi eu dynodi yn yr adroddiad ynghyd â dau Gyflog Dinesig ond teimlwyd nad
oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth ar hyn o bryd i wneud penderfyniad cwbl
wybodus ynglŷn ag a ddylid dyrannu’r tri Chyflog Uwch-swyddogion a oedd ar
ôl. Fe amlygwyd hefyd yr angen i roi
cyfle i aelodau ymgynghori o fewn eu grwpiau ac i godi ymwybyddiaeth o’r
gwahanol swyddi efo’r cynghorwyr a oedd newydd eu hethol, ynghyd â’r angen i
ystyried yr adroddiad a oedd ar ddod ar Gydbwysedd Gwleidyddol ac Aelodaeth
Pwyllgorau cyn gwneud penderfyniad.
Awgrymodd y Prif Weithredwr bod rhai opsiynau ar sut i ddelio â’r
dyraniadau a oedd ar ôl, i’w gosod allan i aelodau eu hystyried mewn cyfarfod
o’r Cyngor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD –
(a) mabwysiadu
argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran y symiau
sydd i’w talu fel Cyflog Sylfaenol, Cyflogau Uwch-Swyddogion a Chyflogau
Dinesig;
(b) cytuno
ar bedwar ar ddeg o Gyflogau Uwch-swyddogion ar gyfer y swyddi a nodir yn 4.23
yr adroddiad yn ogystal â dau Gyflog Uwch-swyddogion ar gyfer swyddi’r Pennaeth
Dinesig a’r Dirprwy Bennaeth Dinesig gydag ystyriaeth o’r tri Chyflog
Uwch-swyddogion sydd ar ôl ac ar gael i’r Cyngor, i’w gohirio tan gyfarfod y
Cyngor yn y dyfodol;
(c) mabwysiadu’r
cyfraddau ffioedd ar gyfer aelodau cyfetholedig fel y’u cymeradwyir gan Banel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;
(d) mabwysiadu
argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran talu
treuliau teithio, cynhaliaeth, ac ad-daliad treuliau sy’n gysylltiedig â gofal
plant.
Dogfennau ategol: