Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MESUR LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) 2011

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor yn sgîl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n cynnwys creu Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a threfniadau ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (P:GC&D) ei adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ynglŷn â newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a oedd yn ofynnol yn ôl darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gynnwys sefydlu Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a threfniadau i benodi Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Esboniodd y P:GC&D fod yr adroddiad yn delio â nifer o ddarpariaethau gorfodol i aelodau eu hystyried ac roedd yna ddisgwyliad y byddid yn eu gweithredu yng nghyfarfod y Cyngor Blynyddol.  Fe ystyriwyd y canllawiau statudol drafft lle’r oedd yn gyson â’r Mesur.  Ond, os oedd y canllawiau drafft yn sylweddol wahanol i’r drafft mae’n bosib y byddai angen adolygiad pellach.  Fe ymhelaethodd y P:GC&D ar adrannau perthnasol y Mesur a’r oblygiadau i’r Cyngor o ymgymryd â’r gofynion gorfodol hynny yr oedd angen eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Yn ystod cyflwyniad yr adroddiad fe fanteisiodd aelodau ar y cyfle i godi cwestiynau ac egluro materion arbennig efo’r P:GC&D a’r cyfreithlondebau sy’n ymwneud â gweithredu’r darpariaethau statudol.  Fe ystyriwyd pob un o’r materion canlynol yn eu tro -

 

Sefydlu Pwyllgor Archwilio

 

Fe ystyriodd y Cyngor enw, maint a chyfansoddiad y pwyllgor a’i delerau gorchwyl.  Nododd Aelodau fod swyddogaethau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol presennol yn debyg iawn i’r rheiny a oedd yn ofynnol gan y Mesur ar gyfer Pwyllgor Archwilio.   O ystyried hynny ac effeithiolrwydd y pwyllgor presennol, ac er mwyn effeithlonrwydd fe gytunwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol barhau (gan ymgymryd â’r swyddogaethau sy’n ofynnol gan y Mesur) a’i fod yn cael ei ddynodi’n Bwyllgor Archwilio i’r diben hwnnw.  Yn unol â’r rheol gyffredinol mewn cyfraith llywodraeth leol fe gytunodd y Cyngor â’r argymhelliad i’r pwyllgor fod â chydbwysedd gwleidyddol.  Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i gynyddu maint y pwyllgor a ymddangosai’n fychan o’i gymharu â’r Cyngor llawn, efallai hyd at un ar ddeg o aelodau’n unol ag aelodaeth pwyllgorau craffu. Fodd bynnag, y consensws oedd y byddai’r aelodaeth bresennol o chwech o gynghorwyr yn ddigonol i ymgymryd â’r dyletswyddau sy’n ofynnol yn y Mesur ynghyd â’r aelod lleyg annibynnol gorfodol.  Cefnogai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill ymarfer disgresiwn i gynnwys Aelod Arweiniol perthnasol y Cabinet fel aelod wrth ystyried y swyddogaethau gofynnol sydd wedi eu nodi yn y Mesur.  Fe ystyriodd y Cyngor rinweddau’r cynnig hwnnw ond yn gyffredinol, er mwyn bod yn gwbl annibynnol, ni ddylai’r pwyllgor gynnwys unrhyw aelodau craffu nac aelodau cabinet o fewn ei aelodaeth.  Mewn ymateb i gwestiynau fe nododd y P:GC&D y broses recriwtio ar gyfer yr aelod lleyg a chadarnhaodd y dylai’r aelod lleyg fod yn annibynnol ar y Cyngor heb unrhyw deyrngarwch gwleidyddol hysbys ac ni ddylai fod yn gyn Gynghorydd na Swyddog y Cyngor.  Roedd Aelodau’n gefnogol o aelod lleyg annibynnol ar y pwyllgor ac o ystyried y penderfyniad i ddynodi’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn Bwyllgor Archwilio i ddibenion y Mesur cafwyd peth trafodaeth ynglŷn ag a ddylai aelod lleyg gael hawliau pleidleisio ar swyddogaethau eraill y bydd y pwyllgor yn ymgymryd â nhw ac a oedd y tu allan i’r rheiny sy’n ofynnol gan y Mesur.  Roedd y Cynghorydd Alice Jones yn dadlau’n arbennig o blaid hawliau pleidleisio llawn gan y teimlai y byddai’n ymrannol pe na fyddai gan yr aelod lleyg statws cyfartal ag aelodau eraill y pwyllgor.  Fod bynnag, barn y mwyafrif oedd y dylid cyfyngu ar hawliau pleidleisio’r aelod lleyg i’r swyddogaethau hynny a nodwyd yn y Mesur a bod materion eraill i’w neilltuo ar gyfer y cynghorwyr hynny a etholwyd i’r safle hwnnw.  Fe eglurodd y P:GC&D y safle cyfreithiol o ran hawliau pleidleisio gan ddweud y gall holl aelodau’r Pwyllgor Archwilio, yn cynnwys yr aelod lleyg, bleidleisio ar unrhyw gwestiwn a fydd i’w benderfynu gan y pwyllgor.  Byddai unrhyw ymataliad rhag pleidleisio ar faterion sydd y tu allan i gylch gwaith y swyddogaethau a osodwyd allan yn y Mesur, yn gorfod cael cytundeb yr aelod lleyg.  Mewn termau ymarferol gellid rheoli busnes y pwyllgor i wahanu swyddogaethau’r Pwyllgor Archwilio fel y’u diffinnir yn y Mesur oddi wrth swyddogaethau llywodraethu corfforaethol eraill.  Fe addefodd y gellid amddiffyn cyfyngu cyfranogiad yr aelod lleyg i swyddogaethau’r Pwyllgor Archwilio’n unig.

 

Sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

 

Fe ystyriodd y Cyngor sefydlu’r pwyllgor, ei faint, ei gyfansoddiad a’i delerau gorchwyl.  Nododd Aelodau fod y Mesur wedi mynegi’n glir ofynion a swyddogaethau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a bod yn rhaid cael cydbwysedd gwleidyddol.  Dywedodd y P:GC&D ei bod yn annhebygol y byddai’n rhaid i’r pwyllgor gyfarfod fwy nag unwaith y flwyddyn.  Yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd Joan Butterfield, a eiliwyd gan y Cynghorydd Barbara Smith fe gytunodd aelodau’n unfrydol i sefydlu’r pwyllgor gydag un ar ddeg o aelodau, yn wleidyddol gytbwys yn unol â’r pwyllgorau craffu.

 

Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu

 

Fe ystyriodd y cyngor ddyraniad Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu fel y’i darparwyd gan y Mesur mewn amgylchiadau lle’r oedd yna ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a phwyllgorau craffu lluosog fel yn Sir Ddinbych.  Wrth esbonio’r broses o benodi, ychwanegodd y P:GC&D y gallai’r Cyngor fabwysiadu system ddyrannu wahanol ac amlinellodd y gweithdrefnau y byddai’n rhaid eu dilyn.  Nid oedd yna unrhyw gyfeiriad at benodi Is-gadeiryddion yn y Mesur ac fe awgrymwyd bod penodi Is-gadeiryddion i fod yn fater i’r pwyllgorau hynny.  Fe eglurodd y P:GC&D y diffiniad o ‘grŵp gwrthwynebol’ fel grŵp sydd heb gynrychioliad yn y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD  

 

(a)       bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei ddynodi’n Bwyllgor Archwilio i ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a bod y Telerau Gorchwyl i’r pwyllgor hwnnw fel y’i mynegir yn Atodiad 2 i’r adroddiad yn cael ei fabwysiadu’n amodol ar (1) gyfeiriad i adlewyrchu, lle bo hynny’n bosib, fod busnes y pwyllgor i’w reoli i wahanu swyddogaethau’r Pwyllgor Archwilio fel y’u nodir yn y Mesur oddi wrth swyddogaethau llywodraethu corfforaethol eraill, a (2) drwy gytundeb, bod cyfranogiad yr aelod lleyg annibynnol i’w gyfyngu i swyddogaethau’r Pwyllgor Archwilio;

 

(b)       bod aelodau’r Pwyllgor Archwilio i’w penodi gan y Cyngor ar sail cydbwysedd gwleidyddol;

 

(c)        sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys un ar ddeg o aelodau, yn wleidyddol gytbwys a mabwysiadu Telerau Gorchwyl y pwyllgor hwnnw fel y’u nodir yn Atodiad 3 i’r adroddiad;

 

(d)       mabwysiadu’r egwyddorion i’w cymhwyso i benodiad Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu fel y’u nodir ym mharagraffau 4.26 i 4.30 yr adroddiad

 

(e)       awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i wneud y newidiadau angenrheidiol i Gyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r diwygiadau sy’n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 fel y’u nodir yn (a) i (d) uchod.

 

 

Dogfennau ategol: