Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 - 2021

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn ddarostyngedig i newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2020 i 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Aethpwyd drwy’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol sydd wedi'i ymestyn i gyfuno nifer o adroddiadau a oedd yn cael eu hadrodd ar wahân yn y gorffennol, gan gwrdd â gofynion y Cyngor dan nifer o ddeddfwriaethau, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno gwerthusiad ôl-weithredol ar lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei gynlluniau yn ystod 2020-2021 ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gellir ei gyflawni yn 2021-2022. Roedd yn cynnwys y cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol, gan gynnwys y statws presennol a llwyddiant y rhaglen. Roedd y Gofrestr Prosiectau a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol hefyd wedi’u cynnwys.  Roedd yr Adolygiad wedi’i ystyried gan Bwyllgor Craffu Perfformiad a oedd wedi gofyn am fanylion costau cynllun unigol yn rhan cyllid yr adroddiad yn ymwneud â Phriffyrdd ac Addysg ac roedd y gwariant yn cael ei gasglu ar hyn o bryd.

 

Darparodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol drosolwg o’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau a darparodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad drosolwg o’r adran iechyd corfforaethol newydd sydd yn yr adroddiad er mwyn bodloni’r gofynion i hunanasesu dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Ystyriodd y Cabinet yr Adolygiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Nododd yr Arweinydd bod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol yn fwriadol ac roedd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed, wrth gydnabod bod rhai blaenoriaethau, fel cysylltedd digidol, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.   

O ran yr adran iechyd corfforaethol newydd yn yr adroddiad, pwysleisiodd bod angen cydbwyso’r elfen yn briodol yn erbyn darpariaeth y blaenoriaethau hynny a oedd yn seiliedig ar ymgysylltu â phreswylwyr a'u disgwyliadau.   Cytunodd y swyddogion gan gadarnhau bod yr amcanion perfformiad wedi’u gosod mewn lleoliad blaenllaw yn y ddogfen yn fwriadol.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at y Cynllun Adsefydlu Pobl Ddiamddiffyn o Syria a chefnogaeth y  Cabinet i barhau i gefnogi ffoaduriaid drwy’r Rhaglen Adsefydlu Fyd-eang - o ystyried y pryderon ynglŷn â chael mynediad at ofal iechyd a thai o safon gofynnodd bod y materion hynny’n cael eu cynnwys yn yr Adolygiad hefyd er mwyn nodi’r ymateb i’r pryderon hynny.   

Cytunodd y swyddogion i adolygu’r geiriad fel y gofynnwyd ond nodwyd bod rhai materion y tu hwnt i reolaeth y Cyngor er y gallai'r Cyngor ystyried annog sefydliadau eraill i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

·        er bod tai gofal ychwanegol Rhuthun wedi profi rhai rhwystrau gyda heriau o ran trefnu contractwr, ar y cyfan roedd hyder y byddai’r prosiect yn symud ymlaen o fewn amserlen y Cynllun Corfforaethol cyfredol.

·        mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts tynnwyd sylw at y ffigyrau trais domestig oedd yn dangos cynnydd yn y nifer cronnus ail-ddioddefwyr trais domestig yn Sir Ddinbych, o 517 i 515 yn Chwarter 4 (cynnydd o 7.6% o'r flwyddyn flaenorol).   

Nodwyd faint o waith a  wnaed yn y maes o ran cynyddu ymwybyddiaeth ac ati, ac felly disgwylir newid mewn ffigyrau ac mae'n debyg bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith ar droseddau domestig.   Er nad oedd ganddo fanylion y ffigyrau trais domestig wrth law, eglurodd y Cynghorydd Mark Young fod ei adroddiad chwarterol i’r aelodau yn darparu dadansoddiad o’r ffigyrau a byddai’n ei ail-anfon at yr aelodau.

·        roedd y Cyngor yn gweithio’n rhanbarthol o ran cyllid gofal cymdeithasol ac roedd y ffioedd yn seiliedig ar y farchnad ac wedi cynyddu dros amser ac yn uwch na chwyddiant.   

Roedd yn faes oedd yn cael ei ystyried ond roedd yn ddibynnol iawn ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru o ran cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol.

·        roedd gordewdra mewn plant yn fater o bryder ac er bod y digwyddiad rhanbarthol oedd wedi’i drefnu i archwilio’r materion sy'n effeithio ar blant wedi’i ohirio oherwydd Covid-19, y bwriad oedd parhau â’r gwaith rhywbryd yn y dyfodol.

·        Roedd Grŵp Tasg a Gorffen Defnydd o Blastigion wedi gorffen ei waith ac er bod lleihau plastig yn parhau i fod yn broblem, nid oedd ganddo ei ffrwd waith ei hun yn awr ac roedd wedi’i gynnwys fel rhan o Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol.

·        roedd y rhwystrau a brofwyd o ran symud ymlaen â phrosiectau bioamrywiaeth yn bennaf o ganlyniad i agweddau o'r prosiect a gynlluniwyd a oedd angen defnyddio gwirfoddolwyr, ac ni fu hyn yn bosibl oherwydd y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, ond wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi byddai cynnydd yn parhau ac nid oedd risg i'r prosiect.

·        roedd polisi gwirfoddoli newydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer y Cyngor yn dilyn ail-lansiad tudalennau gwe gwirfoddoli i gefnogi’r broses.   

Darparwyd sicrwydd bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda CGG Sir Ddinbych ac roedd y gwahaniaeth rhwng gwirfoddoli’r Cyngor a CGG Sir Ddinbych yn cefnogi gwirfoddoli ar draws y sir wedi'i nodi yn y polisi a'i gydnabod.

 

PENDERFYNWYD, yn ddarostyngedig i newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2020 i 2021.

 

 

Dogfennau ategol: