Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID (MAI 2021/22 – YN CYNNWYS ADRODDIAD CRYNO AR GYLLIDEB 2021/22)

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo cynnwys £250k yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn cyrraedd y gofynion arian cyfatebol o 10% ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad (fel nodwyd yn adran 6.9 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar gyfer 2021/22, ynghyd ag Adroddiad Crynhoi’r Gyllideb 2021/22. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelir y byddai gorwariant o £0.708miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a’r sefyllfa o ran hawliadau i Lywodraeth Cymru.

·        nodwyd arbedion ac effeithlonrwydd a gytunwyd o £4.448m gyda’r tybiaethau bod arbedion gweithredol a chynnydd mewn ffioedd a chostau wedi’u cyflawni ac roedd arbedion ysgolion wedi’u dirprwyo i gyrff llywodraethu i'w monitro a'u darparu; byddai'r arbedion o £0.781m yn cael eu monitro'n agos yn ystod y flwyddyn  

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd hefyd bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnwys £250,000 yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn bodloni’r gofyniad arian cyfatebol o 10% (£423,181) ar gyfer cynnig Cronfa Codi’r Gwastad – De Clwyd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·        croesawyd y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru (LlC) o ran parhad y system gyfredol o  hawliadau o ran gwariant a cholli incwm ar gyfer y ddau chwarter nesaf gydag arwyddion, yn amodol ar argaeledd y gyllideb, y byddai cyllid LlC yn parhau y tu hwnt i’r terfyn amser hwnnw os oes angen  

·        adroddodd yr Arweinydd ar y berthynas dda gyda LlC a’r gefnogaeth ariannol sylweddol a ddarparwyd i liniaru pwysau ariannol o ganlyniad i Covid-19. Ond nid oedd setliad ariannol llywodraeth leol wedi bod yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau parhaus a'r heriau ariannol a'r buddsoddiad sydd ei angen i symud yr awdurdod yn ei flaen.   

Roedd pryder hefyd bod Sir Ddinbych wedi llithro o'r setliad chwartel uchaf.   Parhaodd yr Arweinydd i lobïo am setliad ariannol 3 blynedd er mwyn gallu cynllunio'n ariannol yn well ac roedd LlC wedi nodi y byddai hynny'n dibynnu ar Lywodraeth y DU.   Roedd y tebygolrwydd na fyddai’r setliad ariannol yn hysbys tan fis Rhagfyr yn peri heriau pellach o ran cynllunio’r gyllideb.   Er yr anawsterau hynny, croesawodd yr Arweinydd yr eglurder yn yr adroddiad a’r ymagwedd  a gymerwyd o ran gosod cyllideb a diolchodd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y gwaith caled a wnaed.

·        eglurwyd yr ymagwedd a gymerwyd i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cyllid sydd ei angen ar gyfer cynnig De Clwyd ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad o ystyried y terfyn amser tynn ar gyfer y cynnig mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.   

Roedd cynigion cyllid y dyfodol ar gyfer Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf ar y sail y byddai angen 10% o gyllid cyfatebol; gobeithir y byddai rhywfaint o'r cyllid yn deillio o brosiectau a nodwyd fel rhan o broses cynllunio ar gyfer y dyfodol yr awdurdod a byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni o ran hynny dros y misoedd nesaf

·        cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r risgiau a nodwyd yn y cyllidebau corfforaethol a’r effaith barhaus ar Dreth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ynghyd â’r setliadau talu ar gyfer 2021/22. Er bod rhagolygon presennol yn dangos y byddai cyllid arian at raid yn gofalu am yr elfennau hynny gobeithir y byddai LlC yn parhau i gydnabod y pwysau hynny ac yn darparu cyllid yn unol â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ar gyfer Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.   

Ond nodwyd bod y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor wedi’i danariannu ers iddo fod yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw a oedd yn parhau i fod yn bwysau ariannol

·        Mynegodd y Cynghorydd Brian Jones bryderon o ran y pwysau sy’n cynyddu o ran digartrefedd, yn enwedig o ystyried y byddai’r gwaharddiad ar droi tenantiaid allan yn dod i ben yn fuan, a cheisiodd sicrwydd o ran hynny.   

Cadarnhaodd y swyddogion bod £2.4m ychwanegol wedi’i gynnwys yn y gyllideb waelodlin ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i liniaru pwysau, gan gynnwys digartrefedd, a byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n agos ac wedi’i nodi fel risg.   Roedd y sefyllfa bresennol yn dangos cynnydd mewn costau fel y disgwylir ond roedd yn ddibynnol ar symudiad yn ystod y flwyddyn o ran a ellir cynnal y pwysau gwirioneddol o fewn y ddarpariaeth gyfredol.  Cyfeiriwyd hefyd at dasg Gweithgor Uwch Swyddogion i nodi a darparu darpariaeth fewnol i wella lefel gwasanaeth a lleihau costau yn y dyfodol a darparwyd diweddariad ar y rhaglen

·         mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Brian Jones ynglŷn â’r ffigyrau yng nghrynodeb y gyllideb yn ymwneud â Grymuso Harbwr (£7mil) a Chaffael Craen Cwch, Harbwr y Rhyl (£170mil) cytunodd y Pennaeth Cyllid y gallai adrodd yn ôl yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Jones gyda manylion y ddwy eitem o ran y ffigyrau terfynol gan fod llyfr y gyllideb yn darparu ciplun ar bwynt penodol mewn amser.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

(b)       cymeradwyo cynnwys £250mil yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn cyrraedd y gofynion arian cyfatebol o 10% ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad (fel nodwyd yn adran 6.9 yr adroddiad).

 

 

Dogfennau ategol: