Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU’R POLISI MASNACHU AR Y STRYD

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad o'r polisi masnachu ar y stryd a’r camau nesaf a argymhellir.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn -

 

 (a)      cymeradwyo’r polisi masnachu ar y stryd drafft (Atodiad A i’r adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad, a

 

 (b)      cefnogi sefydlu is-grŵp i ystyried y polisi ymhellach i gynnwys y Cadeirydd a/neu’r Is-Gadeirydd i gynrychioli’r Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â chynrychiolydd o bob Grŵp Ardal yr Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr adolygiad o bolisi’r Cyngor ar fasnachu ar y stryd ac argymhellodd y camau nesaf ynghyd â’r polisi drafft i’r aelodau ei ystyried.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â phrosesau deddfwriaethol y drefn ar gyfer masnachu ar y stryd a’r modd yr oedd pethau’n gweithredu ar hyn o bryd yn y Sir.  Roedd hynny’n cael ei adolygu er mwyn darparu polisi oedd yn addas at ei ddiben ac a oedd hefyd yn mynd i'r afael â phryderon pob un y gallai fod yn effeithio arnynt.  Roedd diffiniad masnachu ar y stryd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r eithriadau cyfreithiol ar gyfer mathau penodol o fasnachu a’r rhai a oedd yn cael eu rheoleiddio trwy ddulliau neu awdurdodau eraill.  Roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar ymgynghoriad cychwynnol ar bolisi drafft ym mis Rhagfyr 2016, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus wedi hynny ac ni chafwyd unrhyw sylwadau.  Fodd bynnag, roedd adborth wedi’i dderbyn wedyn gan unigolion eraill, aelodau a thimau’r Cyngor yn sgil yr heriau yr oedd busnesau'r stryd fawr yn eu hwynebu, a oedd yn fwy difrifol oherwydd y pandemig Coronafeirws.  Ystyrid bod angen mwy o waith cyn y gallai polisi oedd yn addas at ei ddiben gael ei gyflwyno'n ôl i'r Pwyllgor.  Yn dilyn hynny, roedd gofyn i’r aelodau ystyried y polisi drafft diweddaraf i ymgynghori ymhellach arno a sefydlu Is-grŵp i drafod y polisi ymhellach.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cytunodd yr aelodau ei bod yn bwysig sicrhau sut y gallai’r polisi gefnogi busnesau sefydlog a masnachwyr ar y stryd fel ei gilydd yn y ffordd orau, yn enwedig gan fod gwedd canol trefi a’r stryd fawr yn newid a gan ystyried effaith y pandemig Coronafeirws.  Oherwydd yr heriau, cytunwyd bod angen hyblygrwydd yn y polisi a chydnabyddiaeth bod rhai busnesau sefydlog wedi addasu eu harferion i weithredu eu busnes mewn ymateb i'r pandemig, gan gynnwys defnyddio lle y tu allan.  Pwysleisiwyd yr anghysondeb ar draws y Sir ar hyn o bryd o ran arferion masnachu hefyd, a oedd i raddau helaeth gan nad oedd polisi ffurfiol mewn grym a bod dibyniaeth ar y rheoliadau cyfredol.  Eglurodd y swyddogion y byddai masnachwyr sefydlog oedd yn defnyddio’r palmant angen trwydded balmant gan yr Adran Briffyrdd ond nid oedd y rhai a oedd yn masnachu o fewn cwrtil eu heiddo (6-9 troedfedd) angen trwydded.  Ychwanegodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod llefydd bwyta angen caniatâd cynllunio ar gyfer byrddau a chadeiriau mewn ardal benodol y tu allan i’r eiddo.  Er bod y swyddogion yn awyddus i bolisi gael ei gyflwyno ar y cyfle cyntaf, roedd yn allweddol bod y polisi'n gadarn ac yn addas at ei ddiben.

 

Trafododd yr aelodau argymhellion yr adroddiad ac roedd y Cynghorydd Brian Jones yn teimlo y byddai'n fuddiol ffurfio Is-grŵp gyda chynrychiolaeth aelodau etholedig o bob cwr o’r Sir i ystyried y polisi’n fanylach.  Roedd rhywfaint o drafod p’un a fyddai’n well i'r Is-grŵp gynnwys aelodaeth drawsbleidiol neu o wahanol ardaloedd daearyddol a chytunwyd wedi hynny y byddai'r elfen ddaearyddol yn well.  Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones, ac eiliodd y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid cymeradwyo’r polisi drafft i ymgynghori arno a chefnogi creu Is-grŵp a fyddai'n cynnwys Cadeirydd a/neu Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a chynrychiolaeth o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau.  Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn –

 

 (a)      cymeradwyo’r polisi masnachu ar y stryd drafft (Atodiad A i’r adroddiad) i ymgynghori arno, a

 

 (b)      cefnogi sefydlu Is-grŵp i ystyried y polisi ymhellach, gan gynnwys y Cadeirydd a/neu’r Is-gadeirydd i gynrychioli’r Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â chynrychiolydd o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau.

 

 

Dogfennau ategol: