Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GERBYDAU DI-ALLYRIADAU GYDA’R FFLYD O GERBYDAU TRWYDDEDIG

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar y sefyllfa gyfredol yn ymwneud â Chynllun Peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau di allyriadau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau'r aelodau, derbyn a nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Peilot Tacsi Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am sefyllfa bresennol cynllun peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cerbydau di-allyriadau a llwyddiant Sir Ddinbych i gael cyllid gan LlC ar gyfer 4 cerbyd trydan ac isadeiledd gwefru yn rhan o'r cynllun peilot.

 

Roedd LlC wedi gosod targed o ddatgarboneiddio'r fflyd dacsis yn llwyr erbyn 2028 a rhagwelid y byddai'r cynllun peilot yn cynorthwyo'r nod hwnnw.  Tair ardal y cynlluniau peilot oedd Prifddinas-ranbarth Caerdydd, Sir Ddinbych a Sir Benfro.  Byddai cyfanswm o 50 o dacsis Nissan trydan oedd yn addas i bobl mewn cadair olwyn yn cael eu prynu, 44 ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, 4 ar gyfer Sir Ddinbych a 2 ar gyfer Sir Benfro.  Byddai’r isadeiledd gwefru cysylltiedig hefyd yn cael ei osod ym mhob ardal a byddai'r cynllun yn gweithredu ar sail 'profi cyn prynu', a fyddai'n caniatáu i yrwyr tacsis trwyddedig roi cynnig ar y cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod.  Roedd yn cynnwys gwefru’r cerbyd am ddim, yswiriant, trwyddedu’r cerbyd, cymorth pe bai’n torri i lawr, ac ati.  Byddai’r gyrwyr wedyn yn llenwi arolwg gwerthuso ac yn cael gwybodaeth am gynlluniau/gymorth i brynu cerbydau di-allyriadau neu eu llogi yn y tymor hir.  Byddai’r cynlluniau peilot ar waith am 2-3 blynedd ac roedd yr Adain Rheoli Fflyd yn arwain ac yn gweinyddu’r prosiect yn Sir Ddinbych.  Roedd Swyddog Symudedd y Fflyd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau am y cynllun.

 

Croesawai’r aelodau’r cynllun fel modd o annog y diwydiant tacsis i newid i gerbydau di-allyriadau ac am y manteision amgylcheddol a fyddai’n dod yn ei sgil, a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor.  Wrth drafod, gofynnodd yr aelodau gwestiynau i’r swyddogion ynglŷn â gweithredu’r cynllun yn ymarferol, gan gynnwys am yr isadeiledd gwefru oedd ei angen, a sut y byddai’n cael ei fonitro i sicrhau'r canlyniadau gorau.  Roedd yr aelodau yn awyddus i sicrhau bod ardaloedd gwledig y sir hefyd yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a fyddai’n dod yn sgil y cynllun peilot.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         roedd gan y Cyngor 4 cerbyd yn ei feddiant yn disgwyl i gael eu trwyddedu ac roedd proses gaffael ar gyfer y peiriannau gwefru 50kW i fodloni anghenion gweithredol y diwydiant tacsis ar ddod.  Rhagwelid y byddai’r peiriannau gwefru’n cael eu gosod o fewn yr 8-10 wythnos nesaf, a byddai’r cynllun peilot yn cychwyn wedyn

·         byddai’r cerbydau’n cael eu cynnig ar sail ‘profi cyn prynu’ am 30 diwrnod a byddai pobl yn cael eu hannog i’w defnyddio gyda sicrwydd y byddai’r isadeiledd a’r system danwydd yn eu lle i gefnogi’r diwydiant i droi at ddefnyddio cerbydau di-allyriadau

·         byddai cyllid grant yn cael ei ddarparu am ddwy flynedd i ddechrau, gyda phosibilrwydd o drydedd pe bai’r data’n dweud bod y cynllun peilot yn llwyddiannus

·         roedd ymdrech aflwyddiannus cwmni tacsis lleol i newid i gerbydau trydan (fel y soniwyd yn y wasg) i raddau helaeth oherwydd y diffyg isadeiledd gwefru ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer model busnes penodol y gweithredwr hwnnw.  Fodd bynnag, roedd yr isadeiledd gwefru’n cael ei ddatblygu i fodloni modelau busnes pob gweithredwr ac roedd disgwyl i'r gweithredwr hwnnw fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o'r cynllun peilot.  Mewn ymateb i bryderon y byddai’r sylw negyddol yn y wasg yn effeithio'n andwyol ar y nifer a fyddai am fod yn rhan o'r cynllun, roedd y swyddogion yn sicrhau'r aelodau bod diddordeb hynod wedi bod yn y Rhyl a Phrestatyn

·         yn rhan o delerau'r grant, byddai’r cynllun yn cael ei dreialu yn ardal ogleddol y Sir, yn bennaf o amgylch y Rhyl, a oedd â lefelau uchel o CO2 a NO2.  Pe bai’n llwyddiannus, roedd cyfle i ehangu’r cynllun peilot.  Lle’r oedd gan berchnogion tacsis eu darpariaeth wefru eu hunain (fel peiriannau gwefru gartref) gallen nhw hefyd gael eu cefnogi a’u cynnwys yn rhan o’r peilot pe bai’n cyd-fynd â’u model busnes

·         nid oedd y cynllun wedi’i gyfyngu i weithredwyr tacsis yn unig; roedd hefyd 400 o yrwyr trwyddedig yn y sir a fyddai’n gymwys i ymgeisio i fod yn rhan o’r peilot

·         roedd gosod peiriannau gwefru trydan yn broses hir a chymhleth a oedd yn dal i fod ar gam cynnar iawn, ond roedd gwaith yn cael ei wneud i edrych ar ddarpariaeth ehangach ar hyd y Sir, nid i dacsis yn unig.  Roedd peiriannau gwefru'n cael eu gosod mewn meysydd parcio cyhoeddus yn Llangollen cyn pen y flwyddyn ariannol ac roedd potensial i beiriannau gwefru cyflym gael eu gosod yng Nghorwen.  Roedd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ystyried a fyddai modd creu maes gwefru o ryw fath yng Nghorwen ar hyd rhwydwaith bysiau TrawsCymru, a fyddai’n addas i dacsis trydan, bysiau trydan a loriau bin trydan.  Roedd y rhan fwyaf o brosiectau fel hyn yn y camau cychwynnol ond roeddent yn datblygu a byddai camau'n cael eu cymryd dros amser i osod darpariaeth wefru ar hyd a lled y sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Williams eto ei fod yn siomedig ynglŷn â’r diffyg cyfleoedd i ardaloedd y tu allan i’r Rhyl a Phrestatyn, yn enwedig ardaloedd gwledig, fod yn rhan o'r cynllun peilot o ystyried y diffyg isadeiledd gwefru a gofynnodd i bwyntiau gwefru gael eu gosod ym mhob un o brif drefi Sir Ddinbych.  Cytunwyd y dylai’r sylwadau hynny hefyd gael eu cynnwys ym mhenderfyniad y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau'r aelodau uchod, derbyn a nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: