Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 551134

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 551134.

11.00 am

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  551134.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) wedi –

 

(i)            i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif

551134 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         i’r Ymgeisydd gael 8 o bwyntiau cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA am oryrru ym mis Gorffennaf 2018 (3 phwynt)  a Gorffennaf 2019 (5 pwynt) a chael collfarn am Gynllwynio/Trin Nwyddau wedi’u Dwyn yn 2010, a oedd i gyd wedi’u datgan gan yr Ymgeisydd a’u cadarnhau yn dilyn y gwiriadau arferol;

 

(iv)         i ragor o wybodaeth gael ei derbyn ynglŷn â’r achos, gan gynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig gydag awdurdod lleol arall ynghyd â’i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig a geirdaon (wedi’u hatodi i’r adroddiad);

 

(v)          ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr; ac

 

(vi)         i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Darparodd yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndir a'r rhesymau y tu ôl i'w gais ar ôl symud i'r ardal.  Fe wnaeth hefyd ddarparu manylion ei gyflogaeth ar hyn o bryd, fel gyrrwr trwyddedig ag awdurdod lleol arall, a soniodd am y gwaith roedd yn ei wneud yn Sir Ddinbych o ran contractau ysgol a hurio preifat.  Rhoddodd yr Ymgeisydd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad wrth yrru a chyfeiriodd at ei eirdaon a oedd yn brawf o’i gymeriad.  Fe wnaeth hefyd ateb cwestiynau a ofynnwyd gan yr aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, a darparu mwy o eglurhad ynglŷn â'i drefniadau gwaith ar hyn o bryd rhwng ardaloedd awdurdodau lleol a manylu ar yr amgylchiadau oedd ynghlwm â'r troseddau goryrru.  Cadarnhaodd nad oedd unrhyw bwyntiau cosb eraill i ddod ar ei drwydded a dywedodd ei fod yn fwy gwyliadwrus ar ôl cael y gosb am oryrru a’i fod yn ymddwyn yn ddiogel wrth yrru.  Dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth arall i’w ychwanegu at ei gais. 

 

Fe giliodd y Pwyllgor i ystyried y cais ond wrth drafod roedd angen eglurhad ynglŷn â phwynt arall ac fe alwyd pawb yn ôl.  Cadarnhaodd y swyddogion fod gwaith hurio preifat wedi’i archebu ymlaen llaw yn cael ei ganiatáu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol cyhyd â bod y gyrrwr a’r cerbyd wedi’u trwyddedu gan awdurdod lleol.  Fe giliodd y Pwyllgor eto i barhau i drafod ac yn dilyn hynny –

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  551134.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniad llafar yr Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried adrannau perthnasol polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr.

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor 4.42 yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch Addasrwydd Ymgeiswyr a Thrwyddedau yn y Masnachau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd yn datgan, lle’r oedd gan ymgeisydd 7 pwynt neu fwy ar eu trwydded DVLA am fân droseddau traffig neu debyg, na fyddai trwydded yn cael ei rhoi oni bai fod o leiaf 5 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau’r ddedfryd a roddwyd. Casglodd y Pwyllgor y byddai cwblhau'r ddedfryd (a oedd yn 4 blynedd o'r trosedd cyntaf yn 2018) yn golygu 2027, pan fyddai trwydded yn cael ei rhoi yn unol â'r ddarpariaeth hon yn y polisi. 

 

Gan fod y ddarpariaeth uchod yn eglur yn y polisi, fe wnaeth y Pwyllgor wedyn ystyried 3.19 yn yr un polisi, oedd yn datgan na ddylid ond gwyro oddi wrth ddarpariaeth yn y polisi (sef 4.42 uchod) mewn amgylchiadau eithriadol ac am resymau cyfiawn.

 

Oherwydd y cyfnod oedd wedi mynd heibio ers collfarn yr Ymgeisydd yn 2010 a'i onestrwydd wrth ddatgan ei droseddau goryrru wrth wneud cais, ac ar ôl clywed gan yr Ymgeisydd am natur a'r amgylchiadau ynghlwm â'r troseddau hynny ac o ystyried y geirdaon a ddarparwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â thrwydded.  Casglodd y Pwyllgor eu bod yn wir yn amgylchiadau eithriadol a bod rhesymau cyfiawn dan 3.19 yn y polisi i wyro oddi wrth ddarpariaeth 4.42.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m.

 

 

Dogfennau ategol: