Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 43/2020/0521/PF – TIR GERLLAW ALEXANDRA DRIVE, PRESTATYN

Ystyried cais i godi 102 o anheddau fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, man agored, tirlunio ac isadeiledd (ail gyflwyno cais Cynllunio 44/2019/0629) ar dir gerllaw Alexandra Drive, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 102 o anheddau fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, man agored, gwaith tirlunio ac isadeiledd (ailgyflwyno cais cynllunio 44/2019/0629) ar dir ger Alexandra Drive, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Phil Quirk (yn erbyn) – esboniodd y materion parhaus yn ymwneud â phroblemau gyda’r system ddraenio sy'n digwydd yn rheolaidd.  Dywedodd na allai'r orsaf bwmpio ymdopi â maint y gwastraff ar hyn o bryd ac y byddai ychwanegu 102 yn fwy o eiddo yn achosi mwy o broblemau.  Gofynnodd i'r aelodau wrthod y cais nes bod system gwaredu carthion foddhaol ar waith.

 

Philip Lowndes (yn erbyn) – esboniodd nad oedd lleoliad y datblygiad arfaethedig o fewn y CDLl ac mai tir ffermio ydoedd.  Roedd gan eiddo i'r gorllewin o'r safle broblemau gorlif a fyddai'n cael eu lliniaru gan 102 eiddo ychwanegol.  Ni fyddai'r isadeiledd i ddarparu ar gyfer y nifer ychwanegol o eiddo yn gallu ymdopi.  Gyda dim ond un ffordd i fynd i mewn i'r datblygiad a'i adael, byddai hyn yn achosi problemau priffyrdd.  Gofynnodd i’r aelodau wrthod y cais.

 

Stuart Andrew (o blaid) – Cyfarwyddwr Dylunio a Chynllunio i Castle Green Homes.  Dywedodd mai'r agwedd fwyaf arwyddocaol ar y datblygiad fyddai 102 o dai fforddiadwy.  Roedd angen eithriadol am dai fforddiadwy.  Dylid ystyried y datblygiad hwn yn un derbyniol a dylid ei gymeradwyo.

 

Daniel Parry (o blaid) – Cyfarwyddwr Datblygu Adra Homes.  Esboniodd fod Adra wedi bod yn darparu tai fforddiadwy ledled Gogledd Cymru a'i fod yn adnabod yr ardal.  Byddai gan y datblygiad 46 o gartrefi rhent cymdeithasol.  Byddai’n ddatblygiad cymysg o dai a byngalos 2-4 ystafell wely.  Mae angen tai fforddiadwy ym Mhrestatyn.  Oherwydd yr angen, roedd Cyngor Sir Dinbych a Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r cynllun gyda chyllid grant.  Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai'r datblygiad yn cychwyn dros yr haf i roi tai i deuluoedd sydd wir eu hangen.

 

Dadl Gyffredinol - Mynegodd y Cynghorwyr Bob Murray, Paul Penlington, Julian Thompson-Hill a Gareth Davies i gyd eu pryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig.  Nid oedd y tir o fewn y CDLl. Tir ffermio ydoedd a dylid ei ddefnyddio at y diben hwnnw. 

 

Roedd Cyngor Tref Prestatyn wedi gwrthwynebu’r datblygiad ynghyd â’r AS. 

 

Roedd preswylwyr wedi codi pryderon gydag aelodau lleol ynghylch llifogydd, traffig a’r ffaith na fyddai’n dda i'r amgylchedd.  Roedd yr isadeiledd lleol yn bryder gan na fyddai gan ysgolion, meddygon ac ati, y gallu i ddelio â'r niferoedd ychwanegol a ddisgwylir.

 

Cadarnhaodd Cynghorwyr Lleol fod angen tai fforddiadwy ym Mhrestatyn ond nid ar y safle a gynigiwyd.

 

Esboniodd Lara Griffiths, Uwch Swyddog Cynllunio, mai'r mater allweddol oedd Polisi Cynllunio Cymru a bod y tir wedi'i ychwanegu i ddisodli tir arall yn y CDLl newydd.  Roedd yn ofynnol i’r aelodau wneud penderfyniad ar ystyriaethau cynllunio materol.  Mae’r angen am dai fforddiadwy yn uchel iawn gan fod 6/10 o aelwydydd ym Mhrestatyn nad oes ganddynt fynediad at rent preifat nac yn gallu prynu.  Yr angen am dai fforddiadwy ym Mhrestatyn oedd yr angen mwyaf ym Mhrestatyn.  Ar gyfer y bobl leol fyddai’r datblygiad o dai fforddiadwy.

 

Yn ystod trafodaethau, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, Paul Mead, fel y dywedwyd eisoes, bod angen tai fforddiadwy ym Mhrestatyn.  Nid oedd yn safle ddyranedig ar hyn o bryd, ond yn gorfforaethol roedd cyflenwi tai fforddiadwy yn flaenoriaeth.  Byddai'r datblygiad yn sicrhau yr aed i'r afael â materion yn ymwneud â llifogydd, draenio ac effaith ar gymdogion.   Pe bai'r cais yn cael ei wrthod, byddai'r datblygwyr yn mynd drwy'r broses apelio.  Mae swyddogion cynllunio wedi gwrando ar farn preswylwyr ac aelodau ond roedd yr argymhelliad gan swyddogion i ganiatáu’r cais yn seiliedig ar dystiolaeth.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bob Murray i wrthod y cais yn erbyn argymhellion y swyddog, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Penlington.

 

Roedd y rhesymau dros wrthod fel a ganlyn:-

·         Safle y tu allan i ffin y datblygiad ac yn groes i'r CDLl;

·         Colli’r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas

·         Effaith y datblygiad hwn ar y safle ar ddarpariaeth draenio dŵr budr a dŵr wyneb.

 

Pleidlais -

Cymeradwyo - 9

Ymatal – 0

Gwrthod - 7

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

Dogfennau ategol: