Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 I 2021
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol ac Arweinydd y Tîm
Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn darparu dadansoddiad
chwarterol a diwedd y flwyddyn o’r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol ac amlygu prosiectau penodol a chamau gweithredu ar gyfer eu
cyflawni yn 2021 i 2022.
11.45 am – 12.15 pm
Cofnodion:
{0><}0{>Cyflwynodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, yr
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) sy’n darparu dadansoddiad chwarterol a
diwedd blwyddyn o'r cynnydd wrth ddarparu’r Cynllun Corfforaethol. Mae’r
adroddiad yn amlygu prosiectau penodol a chamau gweithredu ar gyfer 2021/2022.
Gofynnwyd am adborth ar yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer
2020/2021 cyn i’r ddogfen derfynol gael ei chymeradwyo gan y Cyngor ym mis
Gorffennaf. <0}
{0><}0{>Aethpwyd drwy’r adroddiad sydd wedi'i ymestyn i
gyfuno nifer o adroddiadau a oedd yn cael eu hadrodd ar wahân yn y gorffennol,
gan gwrdd â gofynion y Cyngor dan nifer o ddeddfwriaethau, gan gynnwys Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. {0><}0{>Darparodd yr adroddiad werthusiad
ôl-weithredol o lwyddiant y Cyngor yn darparu yn erbyn ei gynlluniau yn ystod
2020/2021, gan edrych ymlaen i’r hyn a ellir ei ddarparu yn 2021/2022.<0}
{0><}71{>Mae’n cynnwys naratif am gynnydd darparu
ein blaenoriaethau corfforaethol, gan gynnwys y statws presennol a llwyddiant y
rhaglen.<0}
{0><}69{>Mae’r Gofrestr Prosiectau a’r Gofrestr
Risgiau Corfforaethol hefyd i’w cael yn y ddogfen. <0}
{0><}0{>Darparodd Reolwr y Tîm
Cynllunio Strategol ddiweddariad bras o’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau:<0}
·
{0><}0{>Tai – mae’r cynnydd
yn dda ond mae rhestr aros SARTH
wedi cynyddu gyda gwaith yn mynd rhagddo i geisio deall pam ac i archwilio
datrysiadau posibl ar gyfer rheoli’r rhestr
aros.<0}
{0><}0{>Ar y cyfan, mae’r Cyngor ar y trywydd cywir i
ddarparu 1000 o dai erbyn mis Mawrth 2022, ond mae’n bosibl y bydd ychydig o
lithriad o ran tai cyngor oherwydd Covid-19. <0}
·
{0><}0{>Cysylltu Cymunedau –
mae’r maes hwn yn flaenoriaeth ar gyfer gwella, yn bennaf oherwydd cyflwr
ffyrdd a isadeiledd band eang.<0}
{0><}0{>Fodd bynnag, mae prosiectau yn eu lle i
fynd i’r afael ag isadeiledd band eang ac maen nhw’n mynd rhagddynt yn dda.<0}
{0><}0{>Bydd prosiect isadeiledd digwyddiadau yn cael ei
gyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.<0}
·
{0><}0{>Cymunedau Gwydn – mae
nifer o brosiectau allweddol wedi’u cwblhau ac ar y cyfan mae cynnydd da wedi’i
wneud yn erbyn y flaenoriaeth hon.<0}
·
{0><}0{>Yr Amgylchedd – mae datblygiad sylweddol wedi bod o ran
mabwysiadu Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ac mae cynnydd da
wedi’i wneud.<0}
{0><}0{>Mae’r ddarpariaeth yn erbyn yr amserlen o ran
arbed ynni mewn cartrefi cyngor yn parhau i fod yn heriol oherwydd cyfyngiadau
Covid-19, ond mae’r gwaith yn dal yn yr arfaeth ac mae cynllun yn ei le i’w
ddarparu. <0}
·
{0><}0{>Pobl Ifanc – mae
effaith Covid-19 wedi bod yn un sylweddol ac mae’n parhaus, felly mae’n anodd
dod i gasgliadau o ran yr effaith ar addysg plant a’u cyrhaeddiad posibl yn y dyfodol.
{0><}0{>Mae lefel y diweithdra ymhlith pobl ifanc hefyd
wedi cynyddu oherwydd Covid-19 ac mae’n faes sy’n peri pryder. Fodd bynnag, mae
nifer o ymyraethau yn eu lle i fynd i’r afael â hyn.
{0><}0{>Eglurodd yr Aelod Arweiniol bod modd cymharu’r
diffiniadau mesur perfformiad â data awdurdodau lleol eraill. {0><}0{>Er bod lle i wella rhai meysydd
blaenoriaeth rhoddwyd sicrwydd nad ydi hynny o reidrwydd yn golygu bod lefelau
perfformiad yn wael ond bod perfformiad Sir Ddinbych yn is na’r canolrif o
gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.<0}
{0><}0{>Darparodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad drosolwg o’r adran iechyd corfforaethol newydd sydd yn yr
adroddiad er mwyn bodloni’r gofynion i hunanasesu dan Ddeddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) 2021.<0} {0><}0{>Mae’n
canolbwyntio ar saith maes llywodraethu allweddol ac yn darparu darlun ehangach
o’r cyd-destun y mae’r Cyngor yn gweithredu oddi yno wrth gyflawni ei amcanion
perfformiad.<0} {0><}0{>Mae hefyd yn
ceisio nodi camau allweddol i wella perfformiad i’r dyfodol. <0}
{0><}91{>Yn ystod y drafodaeth ddilynol manteisiodd
yr aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod gwahanol agweddau ar yr
adroddiad gyda'r Aelod Arweiniol a’r swyddogion.<0} {0><}100{>Roedd prif feysydd y drafod yn
canolbwyntio ar y canlynol -<0}
·
{0><}76{>Mae sefyllfa
derfynol cyllidebau corfforaethol a gwasanaeth 2020/21 yn danwariant o £9.457
miliwn.<0}
{0><}0{>Mae hyn yn
cynnwys tanwariant ysgolion o £7.058 miliwn, yn bennaf oherwydd bod yr ysgolion
wedi bod ar gau yn ystod cyfnodau clo a rhywfaint o gyllid grant hwyr gan
Lywodraeth Cymru. {0><}0{>Mae’r balans
sy’n weddill yn bennaf yn wariant hwyr gan wasanaethau o ganlyniad i’r
pandemig. <0}
·
{0><}0{>Mae’r adroddiad yn
cynnwys crynodeb lefel uchel o wariant a’r sefyllfa derfynol, ac eglurwyd yr
effaith ar wasanaethau ymhellach.
{0><}0{>Cytunodd yr Aelod
Arweiniol i ddarparu dadansoddiad manwl o gostau’r Gwasanaethau Priffyrdd,
Cyfleusterau ac Amgylcheddol a chostau Addysg a Gwasanaethau Pant i’r
Cynghorydd Paul Penlington y tu allan i’r cyfarfod.<0} {0><}0{>O ran sefyllfa well yr ysgolion, rhoddwyd sicrwydd
y bydd ysgolion yn cael cadw’r tanwariant. <0}
·
{0><}0{>Ymhelaethwyd ar sefyllfa
Hamdden Sir Ddinbych Cyf, a sefydlwyd fel cwmni ar ei ben ei hun ar 1 Ebrill
2020, ac effaith y pandemig ar fasnach – mae bron yr holl incwm a fyddai wedi’i
dderbyn gan Hamdden Sir Ddinbych mewn blwyddyn arferol wedi’i hawlio’n ôl gan
Lywodraeth Cymru fel rhan o’i phecyn ariannu.<0}
·
{0><}0{>Dywedodd y Cynghorydd
Martyn Holland fod yr adroddiad hefyd wedi’i ystyried gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio, a oedd hefyd yn gyfle i nodi unrhyw faes a all fod
angen ymateb neu graffu pellach.<0}
{0><}0{>Amlygodd (1) y
cynnig i dynnu mesurau yn ymwneud â ffyrdd C a ffyrdd annosbarthedig o’r
fframwaith, a (2) y broses gaffael aflwyddiannus mewn perthynas â Thai Gofal
Ychwanegol Rhuthun oherwydd problemau posibl yn ymwneud â’r amodau. <0}
·
{0><}0{>Mae’r gofyniad i
ddarparu 20% o dai’r datblygiad wrth ymyl Ysgol Pendref yn dai fforddiadwy
(dwbl y 10% a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol) yn seiliedig ar brawf ar y
farchnad. <0}
·
{0><}0{>Cadarnhawyd fod
y cyfeiriad at ‘nifer y llyfrau Cymraeg a fenthycwyd y pen' (Gwasanaethau
Llyfrgell, tudalen 46) yn cyfeirio at lyfrau a gyhoeddwyd yn y Gymraeg.<0}
·
{0><}0{>Amlygodd y Cadeirydd mai dim ond 42% o’r
preswylydd oedd yn fodlon ar argaeledd tai yn eu hardal a bod nifer y bobl ar
restr aros SARTH wedi cynyddu.
{0><}0{>Cadarnhaodd Pennaeth
Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata fod hwn yn destun pryder a’i fod yn faes
sy’n derbyn sylw pellach, a chroesawodd y cyfle i adrodd yn ôl i gyfarfod
craffu yn y dyfodol. <0}
·
{0><}0{>Disgwylir y bydd y data perfformiad ym mis
Mehefin, yn ymwneud â mesurau amrywiol, ar gael mewn pryd i’w cynnwys yn y
ddogfen derfynol fydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf. <0}
·
{0><}0{>Cadarnhawyd nad oes
costau ychwanegol ynghlwm wrth greu’r adroddiad, ac eithrio amser swyddogion
fel rhan o'r broses arferol. <0}
·
{0><}0{>Mewn perthynas â'r angen o ran tai, mae lleoliad
tai cyngor yn cael ei sbarduno’n bennaf gan y Cynllun Datblygu Lleol a’r
asesiad o anghenion tai, gyda thai cymdeithasol yn cael eu codi yn y mannau lle
mae’r angen mwyaf – yn anffodus nid yw’n bosibl cwrdd â’r holl alw yn y sir.<0}
·
{0><}0{>O ran y rhaglen
plannu coed ar gyfer cymunedau difreintiedig, mai perllan gymunedol wedi’i
chreu yn Ninbych ac mae cynlluniau i’w datblygu ymhellach.
{0><}0{>Cafwyd anawsterau yn
Ninbych Uchaf i ganfod tir addas i blannu mwy o goed; mae’r Gwasanaethau Cefn
Gwlad wedi ceisio datrys y broblem yma drwy addasu mannau awyr agored yn
leoliadau plannu coed ac felly mae gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r
heriau.<0}
{0><}100{>Ar ddiwedd y drafodaeth:-<0}
{0><}0{>PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y sylwadau a amlinellir uchod, cadarnhau’r wybodaeth a geir ar
berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21 a’r prosiectau i’w cyflawni yn 2021/22
fel yr amlinellir yn yr adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol. <0}
Dogfennau ategol:
- ANNUAL PERFORMANCE REVIEW, Eitem 8. PDF 217 KB
- ANNUAL PERFORMANCE REVIEW - App 1, Eitem 8. PDF 714 KB