Eitem ar yr agenda
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR DRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL MEHEFIN 2021
- Meeting of Pwyllgor Craffu Perfformiad, Dydd Iau, 10 Mehefin 2021 10.00 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr Addysg a’r Swyddog Cynhwysiant - Gweithredu ADY (copi ynghlwm) ar y cynnydd
a wnaed i sicrhau fod awdurdodau lleol ac ysgolion yn barod i fodloni eu
gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
(Cymru) 2018.
10.55 am – 11.30 am
Cofnodion:
{0><}0{>Cyflwynodd y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu
â’r Cyhoedd, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) sy’n manylu ar y cynnydd
sydd wedi’i wneud i sicrhau bod yr awdurdod lleol a’r ysgolion yn barod i fodloni gofynion statudol Deddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.<0}
{0><}0{>Bydd y Ddeddf hon, wedi’i chefnogi gan reoliadau a Chod Anghenion Dysgu
Ychwanegol, yn disodli Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2002).<0}
{0><}0{>Mae’r Ddeddf wedi disodli termau
‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau dysgu a/neu anableddau
dysgu’ gyda’r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (ADY).<0}
{0><}0{>Mae’r Ddeddf wedi creu un system gydag un cynllun
statudol, y Cynllun Datblygu Unigol (CDU), a fydd yn disodli cynlluniau
presennol fel Cynlluniau Addysg Unigol, Datganiadau AAA a Chynlluniau Dysgu a
Sgiliau. <0}
{0><}0{>Amlygodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y
gwaith ychwanegol yn sgil y Ddeddf newydd, heb unrhyw gyllid ychwanegol ar
gyfer ei gweithredu. <0}{0><}0{>Canmolodd ymateb ac ymrwymiad staff a
budd-ddeiliaid i fwrw ymlaen â’r gofynion angenrheidiol a rhoi plant yn gyntaf.
Mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchu agwedd a dulliau gweithio cadarnhaol Sir
Ddinbych.<0}
{0><}0{>Eglurwyd fod y rhaglen drawsnewid ADY wedi creu
system unedig i gefnogi dysgwyr 0 i 25 mlwydd oed sydd ag ADY er mwyn darparu
system addysg hollol gynhwysol yng Nghymru dan bump thema allweddol. {0><}0{>Mae disgwyl i’r system ADY newydd ddod i rym fis Medi 2021.<0}
{0><}0{>Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad a’r
camau gweithredu sydd wedi’i cymryd i fodloni’r gofynion statudol newydd. Mae’r
rhain yn cynnwys, yn fras: <0}
·
{0><}0{>Rhanbarthol – mae Sir Ddinbych yn parhau i
gydweithio ar draws y rhanbarth ac wedi cynhyrchu adroddiad cynnydd sy’n amlygu
sut mae Sir Ddinbych yn gweithio tuag at weithredu’r diwygiadau ADY.<0}
{0><}0{>Mae yna weithgorau rhanbarthol amrywiol gyda Sir
Ddinbych yn arwain gweithgorau Addysg Heblaw yn yr Ysgol a Phlant Sy'n Derbyn
Gofal.<0}
·
{0><}0{>Hyfforddiant – mae staff wedi cael cynnig
hyfforddiant Canolbwyntio ar yr Unigolyn; mae cyfarfodydd/gweithdai wedi’u
cynnal bob tymor gyda chynrychiolwyr ysgolion ac mae Tîm Trawsnewid ADY Gogledd
Cymru wedi darparu hyfforddiant rhanbarthol.<0}
{0><}0{>Roedd yna hefyd hyfforddiant mynediad ar gyfer
aelodau etholedig a budd-ddeiliaid eraill.<0}
·
{0><}0{>Cyllidebau – mae cyllid ADY ysgolion wedi’i
ddirprwyo’n llwyr i ysgolion bellach, gan weithio tuag at cyfartaledd treigl 3
blynedd i ganiatáu i ysgolion gynllunio’n fwy effeithiol.<0}
·
{0><}0{>System TG – Mae Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam wedi dod at ei
gilydd i gaffael system TG newydd (ECLIPSE) i reoli prosesau ADY newydd yn
effeithiol. <0}
·
{0><}83{>Cefnogi Dysgwyr – mae Tîm o Amgylch yr Ysgol wedi’i
sefydlu er mwyn parhau i fodloni gofynion presennol y broses asesu statudol a’r
Ddeddf mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar, atal a nodi anghenion dysgu
ychwanegol yn gywir a phrydlon. <0}
·
{0><}0{>Darpariaeth – mae gwaith ar y gweill gydag
ysgolion i fapio eu darpariaethau, gan gynnwys ymyraethau a strategaethau a
ddefnyddir i gefnogi dysgwyr gyda a heb ADY.<0}
{0><}0{>Bydd hyn yn darparu gwybodaeth glir ar gyfer
penderfynu ar angen a darpariaeth. <0}
·
{0><}0{>Cynllun Datblygu Unigol (CDU) – mae’r CDU wedi’i
roi ar brawf mewn ychydig o ysgolion dethol yn barod ar gyfer y ddeddfwriaeth
newydd; bydd y cynllun sengl yn sicrhau cysondeb a pharhad ac yn diogelu'r
ddarpariaeth ac hawliau. <0}
·
{0><}0{>Dogfennau – mae ‘Proffil Dysgwr’ yn cael
ei ddatblygu i nodi cymorth, cynnydd a thargedau dysgwyr sydd angen cymorth
wedi’i dargedu nad ydynt yn ddysgwyr ADY o reidrwydd, ac mae gwaith ar y gweill
gydag ysgolion i greu protocol ADY/cynhwysiant i ysgolion ei fabwysiadu.<0}
·
{0><}0{>Paratoi Ysgolion – mae ysgolion wedi’u
cefnogi gyda rôl hanfodol y Cydlynydd ADY ac mae canllawiau wedi’u darparu.<0}
{0><}0{>Mae ysgolion hefyd wedi cwblhau cerrig milltir GwE
(targedau canllaw i gwrdd â’r diwygiadau ADY gofynnol) a chynigiwyd cymorth i
ysgolion ar gais.<0}
·
{0><}0{>Goblygiadau Ariannol – mae’r awdurdod lleol wedi
parhau i ddefnyddio’r Grant Gweddnewid ADY Rhanbarthol i’w gefnogi nhw ac
ysgolion i baratoi ar gyfer diwygio ADY ac mae ysgolion hefyd wedi defnyddio
cyllid clwstwr Trawsnewid ADY.<0}
{0><}0{>Tynnodd y Pennaeth Addysg Dros Dro sylw’r Pwyllgor at yr hunanasesiad i
asesu i ba raddau mae’r awdurdod lleol yn barod, gyda system COG eglur i
ddangos lefel y cydymffurfio. <0}
{0><}70{>Ymatebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth
Dros Dro’r Gwasanaethau Plant, y Prif Reolwr Addysg a’r Swyddog Cynhwysiant i
gwestiynau’r aelodau – <0}
·
{0><}0{>Mae llai o adnoddau ar gael i gynnal
asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, mae hyn yn fater cenedlaethol ac nid yn
rhywbeth i anghenion dysgu ychwanegol yn unig; mae’r angen i fynd i’r afael â’r
mater yn cael ei godi’n rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru.<0}
·
{0><}0{>Mae cyllid ADY ysgolion wedi’i ddirprwyo i
ysgolion gan weithio tuag at cyfartaledd treigl tair blynedd. Mae mapiau
darpariaeth gyda chostau yn cael eu datblygu i hysbysu’r broses, a fyddai’n
cael ei safoni unwaith y flwyddyn i ddarparu hyblygrwydd; mae cronfa drosiannol
hefyd wedi’i chreu a bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu derbyn petai cynnydd
sydyn yn nifer y plant sydd angen cymorth ac i sicrhau bod pob plentyn yn
derbyn y cymorth sydd arnyn nhw ei angen.<0}
·
{0><}0{>Gall fod yn anodd nodi plant sy'n derbyn
eu haddysg yn y cartref sydd ag ADY, gan nad oes gan yr awdurdod lleol unrhyw
gyfrifoldeb dros eu darpariaeth. Fodd bynnag, mae yna broses fonitro yn ei lle
ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Arweinydd Trawsnewid Rhanbarthol a
phartneriaid rhanbarthol o ran effaith y Ddeddf newydd a’r cod ymarfer ADY o
ran hynny.<0}
{0><}0{>Mae cefnogaeth wedi parhau fel y bo’n briodol i blant gydag ADY sydd wedi
trosglwyddo o ysgol i addysg gartref a dan y Cod Ymarfer newydd gall rhieni,
pobl ifanc a gweithwyr iechyd proffesiynol fynd at yr awdurdod lleol os ydyn
nhw’n credu fod gan blentyn ADY, gydag asesiad yn cael ei gynnig wedyn.<0}
·
{0><}0{>Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar oblygiadau’r
ystod oedran estynedig (0 i 25 mlwydd oed) a'r gwaith a wneir i sicrhau bod
lleoliadau perthnasol yn barod i fodloni’r gofynion newydd; mae’r elfen addysg
ôl 16 wedi'i ohirio tan fis Medi 2022 er mwyn rhoi mwy o amser i awdurdodau
lleol a cholegau addysg bellach wneud y newidiadau angenrheidiol ac mae gwaith
yn parhau yn lleol ac yn rhanbarthol yn hynny o beth.<0}
{0><}0{>Rhoddwyd sicrwydd hefyd bod ymarferwyr
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion,
wedi bod yn rhan o’r gwaith i ddiwygio ADY o’r cychwyn cyntaf a bod gwaith ar y
gweill gyda cholegau addysg oedolion arbenigol. <0}
·
{0><}0{>Mae estyn yr ystod oedran wedi arwain at
gynnydd yn llwyth gwaith y Seicolegwyr Addysg.<0}
{0><}0{>Roedd capasiti presennol y staff yn faes risg gyda
swydd wag a oedd yn anodd ei llenwi oherwydd prinder cenedlaethol o seicolegwyr
addysg a’r angen am seicolegydd addysg ychwanegol i ymgymryd â’r gwaith o
ganlyniad i’r diwygiadau ADY.<0} {0><}0{>Roedd yna hefyd brinder cenedlaethol o Seicolegwyr Iechyd a’r cyfnod aros i
dderbyn diagnosis ffurfiol yn peri anawsterau wrth geisio deall anghenion plant
yn iawn, a oedd wedyn yn gofyn am fwy o fewnbwn gan Seicolegydd Addysg. <0}
·
{0><}0{>Er bod systemau cefnogi a dogfennau gwahanol
ynglŷn ag ADY mewn ardaloedd gwahanol yn y DU, roedd yna weithdrefnau
cadarn i drosi'r wybodaeth a'r data a ddarperir efo’r plentyn i fersiwn leol.<0}
·
{0><}0{>Roedd perthynas waith agos iawn gyda’r
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) i sicrhau dull clir a
chydlynol i ddarparu cymorth o fewn cyd-destun lles meddyliol ac iechyd meddwl.
Fodd bynnag, roedd rhestrau aros y gwasanaeth hwn wedi cynyddu ac yn arwain at
rywfaint o oedi o ran diagnosis. <0}
·
{0><}0{>Dywedwyd y bydd atodiadau 2 a 3 yr adroddiad ar
gael yn Gymraeg a chadarnhawyd y bydd hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir gan
yr awdurdod lleol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddwyieithog. Fodd
bynnag, nid oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ddeunydd a gynhyrchir gan
fudd-ddeiliaid allanol. <0}
{0><}67{>Wrth gloi’r drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.<0}
{0><}84{><0}
{0><}100{>PENDERFYNWYD
– <0}
{0><}100{>(a)<0} {0><}0{>Yn amodol ar y sylwadau uchod, cefnogi’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma i
sicrhau bod yr Awdurdod Lleol a’i ysgolion yn barod i fodloni gofynion Deddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sy’n dod i rym
fis Medi 2021;<0}
{0><}100{>(b)<0} {0><}90{>Bod y Pwyllgor wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 5), a<0}
{0><}100{>(c)<0} {0><}0{>Cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yn ystod gwanwyn 2022 yn manylu ar
gydymffurfiad y Cyngor â’r gofynion statudol a nodir yn Neddf Anghenion Dysgu
Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.<0}
{0><}79{>Ar y pwynt hwn (11.45 am) cymerodd y
pwyllgor egwyl am luniaeth.<0}
Dogfennau ategol:
- ALN TRANSFORMATION, Eitem 7. PDF 238 KB
- ALN Transformation Report 100621 APPENDIX 1, Eitem 7. PDF 444 KB
- ALN Transformation Report 100621 - Appendix 2, Eitem 7. PDF 969 KB
- ALN Transformation Report 100621 APPENDIX 3, Eitem 7. PDF 211 KB
- ALN Transformation Report 100621 - Appendix 4, Eitem 7. PDF 494 KB
- ALN Transformation Report 100621 APPENDIX 5, Eitem 7. PDF 112 KB