Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYLLID (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2020/21)
- Meeting of Cabinet, Dydd Mawrth, 25 Mai 2021 10.00 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu), yn manylu ar sefyllfa
ariannol derfynol y Cyngor ar gyfer 2020/21 a’r argymhellion arfaethedig i ymdrin
â chronfeydd wrth gefn a balansau.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2020/21;
(b) cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y
manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a
(c) nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel
y nodwyd yn Atodiad 4.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa
refeniw derfynol 2020/21 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a
balansau.
Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau. Yn
gryno, y sefyllfa derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan
gynnwys tanwariant ysgolion o £7.058m) oedd tanwariant o £9.457m. Roedd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau cyllideb
2020/21 wedi cael eu darparu (£4.448m).
Tynnwyd sylw at effaith y coronafeirws a’r cyllid grant sylweddol a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru – derbyniwyd £19m erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol gyda’r rhagdybiaeth y byddai’r hawliadau grant terfynol (£2.7m) yn
cael eu talu yn llawn. Roedd meysydd eraill i’w nodi’n cynnwys balans ysgol
cyffredinol o £5.670m i’w gario ymlaen (cynnydd o £7.058m o’r balansau diffyg a
gariwyd ymlaen i 2020/21, sef £1.388m) gyda llawer o’r cyllid hwnnw i gael ei
ddefnyddio yn 2021/22 i adfer yn dilyn effeithiau Covid-19. Amlygwyd elfennau
allweddol o’r tanwariant yng nghyllidebau corfforaethol (£1.874m) a oedd yn
caniatáu i wasanaethau gydag ymrwymiadau yn 2021/22 gyflwyno cynigion i gario
eu tanwariant ymlaen i dalu’r costau hynny a chynyddu’r Gronfa Lliniaru'r
Gyllideb. Gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau
a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn
ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn
helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2021/22 a bodloni ymrwymiadau oedd yn
bodoli eisoes. Cyfeiriwyd hefyd at y trosglwyddiadau rhwng
Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd.
Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod yr adroddiad wedi cael ei ddwyn ymlaen er
mwyn cyflawni’r dyddiad cau ar 31 Mai ac er mwyn i’r Cabinet gymeradwyo’r
driniaeth o gronfeydd wrth gefn a balansau cyn ystyried yr Adroddiad
Perfformiad Blynyddol yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Pwysleisiodd,
er i’r ffigyrau edrych yn uchel, roedd y ddau symudiad mawr yn ymwneud â
balansau ysgol a chynlluniau cyfalaf.
Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -
·
cyfeiriwyd
at yr effaith ar falansau ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'r rhan fwyaf o ysgolion
â balansau cadarnhaol. Ymatebodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i gwestiynau
ynglŷn ag Ysgol Gatholig Crist y Gair ac esboniodd y rhesymeg y tu ôl i’r
balans diffyg, a oedd yn ddisgwyliedig o ystyried bod yr ysgol newydd wedi
dechrau heb falans a gwnaed taliadau yn ddyledus, ac effaith dilynol nifer
cynyddol o ddisgyblion. Felly, nid oedd
achos i boeni, roedd rhagamcanion yn nodi y byddai gan yr ysgol falans
cadarnhaol o £584k erbyn y drydedd flwyddyn. Esboniwyd ymhellach y system a
oedd mewn lle ar gyfer cynorthwyo ysgolion a oedd mewn trafferth ariannol yn
cynnwys cynhyrchu cynlluniau adfer ariannol a oedd wedi bod yn hynod
effeithiol. Darparwyd sicrwydd pellach o ran y cyfathrebu ardderchog gydag
ysgolion a alluogodd adnabod pryderon neu bryderon posibl yn fuan ac i'r Cyngor
weithio gydag ysgolion i'w datrys.
·
mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn ag argaeledd cyllid
yn y dyfodol ar gyfer busnesau a oedd yn parhau i’w chael hi’n anodd yn
ariannol, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth Cymru yn y broses o
gwblhau cynllun newydd wedi’i anelu at fusnesau a fyddai’n cael ei weinyddu
drwy Wasanaethau Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio a’i gefnogi gan y Tîm Refeniw
a Budd-daliadau.
Rhoddodd y Cabinet deyrnged i waith y swyddogion cyllid wrth ymateb i’r
heriau a wynebwyd yn ystod blwyddyn anodd iawn a’u gwaith wrth reoli arian yn
gyffredinol a oedd hefyd yn rhoi hyder i aelodau bod arian y Cyngor yn cael ei
reoli’n effeithiol. Cyfeiriodd yr
Arweinydd hefyd at y gwaith cadarnhaol ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a CLlLC
a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol lle’r oedd
cydnabyddiaeth am y gwaith a wnaed gan Awdurdodau Lleol a’r heriau a
wynebwyd. Gobeithiwyd y byddai’r
berthynas a’r deialog cadarnhaol yn parhau. Tynnodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill sylw at y cymorth ariannol sylweddol a ddarparwyd gan Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU, heb y cymorth hwn byddai sefyllfa ariannol y Cyngor
wedi bod yn wahanol iawn.
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) nodi’r sefyllfa
refeniw derfynol ar gyfer 2020/21;
(b) cymeradwyo'r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a
(c) nodi manylion y
trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad
4.
Dogfennau ategol:
- FINANCE REPORT (FINANCIAL OUTTURN), Eitem 7. PDF 236 KB
- FINANCE REPORT - Appendix 1 Summary Position, Eitem 7. PDF 196 KB
- FINANCE REPORT - Appendix 2 Summary of Service Commitments, Eitem 7. PDF 216 KB
- FINANCE REPORT - Appendix 3 School Balances, Eitem 7. PDF 213 KB
- FINANCE REPORT - Appendix 4 Earmarked Reserves Summary, Eitem 7. PDF 438 KB