Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Penderfyniad:

CYLLID CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH DE CLWYD

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Parth Cyhoeddus a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Arweinydd, i gytuno ar gais i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar gyfer etholaeth De Clwyd.   Bydd hyn yn cael ei wneud ar ôl trafod gydag Aelodau Lleol Dyffryn Dyfrdwy.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod angen rhoi sylw brys i’r mater canlynol -

 

Cyllid Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU – Etholaeth De Clwyd

 

Roedd y brys mewn perthynas â’r adroddiad oherwydd y terfynau amser tynn ar gyfer cyflwyno’r cais er mwyn galluogi Dyffryn Dyfrdwy i elwa o’r cyfle cyllido sylweddol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw fel atodiad i’r rhaglen) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod at ddibenion cytuno ar gais ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd (yn dilyn trafodaethau gydag Aelodau Dyffryn Dyfrdwy).

 

Pwrpas y cyllid adfywio, a fyddai’n cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol, oedd i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd.  Roedd ceisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth AS. Roedd tair ardal yn Sir Ddinbych: Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd a De Clwyd.  Roedd dyddiad cau cychwynnol ar 18 Mehefin 2021 i gyflwyno cais er byddai dyddiadau cau eraill yn cael eu cyhoeddi maes o law.  Roedd yr adroddiad presennol yn ymwneud â De Clwyd gyda rhan fwyaf yr etholaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu cais ar y cyd, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn awyddus i gyflwyno cais erbyn 18 Mehefin 2021. Oherwydd y terfynau amser heriol iawn, ceisiwyd awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo’r cais terfynol i’w gyflwyno.  Byddai ceisiadau ar gyfer etholaethau Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd yn cael eu cyflwyno’n ddiweddarach a byddai cyfarfod briffio’r Cyngor yn cael ei drefnu i ystyried sut i wneud y mwyaf o’r cyfle am gyllid a sut y gallai aelodau ymgysylltu â’r broses.

 

Manylodd yr Arweinydd ar drafodaethau gyda Simon Baynes AS a gwaith parhaus i ddatblygu’r cais ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a nodi prosiectau cymwys posibl o fewn ardaloedd Llangollen a Chorwen.  Derbyniwyd bod y broses yn cynnwys ffordd newydd o weithio gyda swyddogion yn gorfod addasu eu dull er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion y cynnig cyllido.  Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Parth Cyhoeddus drosolwg o’r Cyllid Codi’r Gwastad a’r goblygiadau ar gyfer Sir Ddinbych, yn enwedig o ystyried y dull yn seiliedig ar etholaeth a’r angen i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gais ar y cyd ar gyfer De Clwyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Gorllewin Clwyd.  Fe allai pob ardal etholaeth wneud cais am uchafswm o £20m o gyllid cyfalaf a byddai cyfanswm y cyllid yn cael ei bennu ar sail gystadleuol yn erbyn mecanwaith sgorio.  Roedd rhan o’r broses yn ymwneud â dangos bod gan y cais gefnogaeth leol a chefnogaeth yr AS.  Roedd £120k o gyllid refeniw wedi cael ei ddyrannu i bob awdurdod lleol i gefnogi datblygiad y ceisiadau.  O ran De Clwyd, roedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam brosiect hirdymor ar gyfer Basn Trefor a’r ardal gyfagos a oedd yn rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd ac roedd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau datblygu ei gynigion ar gyfer ardal Dyffryn Dyfrdwy gyda hyder y byddai modd bodloni’r dyddiad cau ar 18 Mehefin 2021. Esboniodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd bod y cais ar y cyd yn canolbwyntio ar y Safle Treftadaeth y Byd a’r prosiect trosfwaol ‘Cynllun Adfywio Twristiaeth Coridor Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte’ a oedd yn cynnwys tri phrosiect (1) (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn llwyr) Uwchgynllun Basn Trefor, (2) (Llangollen) symudiad ymwelwyr o fewn yr 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd, a (3) (Corwen) symudiad ymwelwyr a darparu pwyntiau mynediad newydd i Ddyffryn Dyfrdwy a’r Safle Treftadaeth y Byd.

 

Roedd Grŵp Ardal Aelodau Dyffryn Dyfrdwy wedi trafod y mater a gofynnodd yr Arweinydd am farn aelodau lleol.  Croesawodd yr holl aelodau y cyfle mawr ar gyfer yr ardal ac roeddent yn llwyr gefnogol o’r argymhellion.  Amlygodd y Cynghorydd Graham Timms nifer o brosiectau posibl a oedd wedi cael eu nodi, yn cynnwys y Prosiect Pedair Priffordd, a chyfeiriodd y Cynghorydd Melvyn Mile at brosiectau eraill a oedd â theilyngdod hefyd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Alan Hughes at brosiectau dan ystyriaeth ar gyfer Corwen er mwyn gwneud yr ardal yn fwy deniadol i ymwelwyr a rhoi hwb i dwristiaeth ynghyd â datblygiad posibl safle'r hen bafiliwn a diweddaru cysylltiadau cludiant.

 

Croesawodd y Cabinet y cyfle i wneud cais am gyllid i fuddsoddi yn y sir, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol, ac roedd yn llwyr gefnogol o’r argymhellion i symud ymlaen â’r cais.  Nodwyd bod yr adroddiad presennol yn ymwneud â De Clwyd yn unig ac y byddai cyfle pellach i ddatblygu ceisiadau ar gyfer ardal etholaeth Dyffryn Clwyd ac ardal etholaeth Gorllewin Clwyd.  Roedd peth siom o ran y terfynau amser tynn a oedd yn gysylltiedig â chyflwyno'r cais a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai cyflwyno cais yn gynt ar gyfer De Clwyd yn rhagfarnu ceisiadau dilynol ar gyfer yr ardaloedd eraill a bod digon o gapasiti ac adnoddau i ddatblygu'r ceisiadau a chynigion prosiect.  Codwyd cwestiynau a sylwadau pellach o ran y meini prawf llwyddiant a’r mecanwaith sgorio ar gyfer ceisiadau ynghyd â’r angen am drefniadau rheoli prosiect cadarn wrth symud ymlaen, yn enwedig ar gyfer datblygu cais Dyffryn Clwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r Cabinet, fe wnaeth yr Arweinydd a swyddogion -

 

·         ddarparu sicrwydd o ran cydraddoldeb dull ar draws pob etholaeth ac awdurdod lleol ac nid oedd unrhyw arwydd y byddai ceisiadau cynharach yn cael eu trin yn fwy ffafriol neu y byddai ceisiadau hwyrach dan anfantais mewn unrhyw ffordd. 

Roedd canllawiau Llywodraeth y DU yn glir y byddai sawl cyfle i gyflwyno ceisiadau.  Disgwyliwyd y byddai cyfle pellach ar gael tua diwedd y flwyddyn a’r bwriad oedd cyflwyno ceisiadau ar gyfer Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd bryd hynny, gyda’r ddau AS yn gefnogol o’r amserlen honno.

·         cadarnhau, er y byddai’n heriol, roedd swyddogion yn hyderus bod digon o gapasiti i fodloni terfynau amser cyfredol a therfynau amser yn y dyfodol, gyda strwythurau staffio presennol yn cael eu haddasu er mwyn ymateb yn briodol i’r cyfleoedd cyllido newydd. 

Roedd Llywodraeth y DU hefyd yn darparu cyllid refeniw o £120k i bob awdurdod lleol i gefnogi datblygiad ceisiadau.  Tynnwyd sylw hefyd at frwdfrydedd ac ymrwymiad swyddogion a oedd yn rhan y broses honno i ddarparu buddsoddiad yn y dyfodol o fewn cymunedau. 

·         byddai cyflwyniad y cais i Lywodraeth y DU yn cael ei gymeradwyo gan awdurdodau lleol fel ymgeisydd; yn achos De Clwyd, Sir Ddinbych a Wrecsam fyddai’r awdurdodau hynny. 

Roedd y broses ymgeisio yn cynnwys gofynion clir i ddangos ymgysylltiad lleol a chefnogaeth ar gyfer y cais, yn cynnwys cefnogaeth yr AS lleol.

·         nid oedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi meini prawf ffurfiol neu fatrics sgorio ar gyfer asesu ceisiadau eto ond roedd y meini prawf yn y canllawiau ar yr hyn ddylai ceisiadau eu cynnwys, yn cynnwys y gallu i gyflawni'r prosiectau o fewn y terfynau amser a osodwyd, prosiectau’n cyd-fynd yn strategol â blaenoriaethau lleol, a sicrhau gwerth am arian. 

Roedd Llywodraeth y DU hefyd yn chwilio am raniad daearyddol a rhaniad thematig ar gyfer prosiectau a byddai meini prawf blaenoriaethu nad oedd ar gael eto.

·         yn y dyfodol, byddai cyflwyniadau ceisiadau ar gyfer Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd yn elwa o’r gwersi a ddysgwyd yn datblygu’r prosiectau / cais presennol gydag adnoddau staffio yn cael eu haddasu er mwyn ymateb i hynny a gwaith yn y dyfodol. 

Cytunwyd bod angen sicrhau bod adnoddau priodol mewn lle fel rhan o reoli prosiectau a datblygu prosiectau a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r ddwy elfen yn cael eu datblygu ac y byddai cyflwyniadau cadarn yn cael eu gwneud.

 

Agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i aelodau nad oeddent yn y Cabinet ac roedd cefnogaeth gyffredinol ar gyfer yr adroddiad ac argymhellion i symud ymlaen â’r cais ar gyfer De Clwyd ac ymatebion cadarnhaol o ran cynnydd y ddau gais etholaeth arall wrth symud ymlaen.  Gan ymateb i gwestiynau, fe wnaeth yr Arweinydd a swyddogion -

 

·         ddweud y byddai’r cyllid Codi’r Gwastad yn grant arian parod na fyddai angen ei ad-dalu.  byddai elfennau o arian cyfatebol yn ofynnol a all gynnwys benthyca darbodus ond byddai’n bennaf o ffrydiau cyllido a grantiau eraill.

·         cytuno bod yr amseru wedi bod yn gyfleus ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o ystyried bod ganddo eisoes uwchgynllun adfywio ar gyfer yr ardal ond roedd prosiectau wedi’u nodi yn Llangollen a Chorwen fel yr amlygwyd gan yr aelodau lleol ac roedd hyder y gellid datblygu’r prosiectau hynny’n ddigonol i fodloni’r dyddiad cau – roedd Simon Baynes AS hefyd wedi bod yn awyddus iawn am y buddsoddiad yn Sir Ddinbych.

·         manylu ar amserlen y broses ymgeisio gyda chyhoeddiad cyllid cyntaf Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, darparwyd trosolwg o’r trafodaethau ers hynny, gyda’r Aelodau Seneddol sy’n ymwneud â’r ardaloedd etholaeth, gwaith gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel awdurdod arweiniol i ddatblygu’r cais ar y cyd, cyfarfodydd gyda swyddogion ar draws gwasanaethau amrywiol a gydag aelodau lleol i nodi prosiectau cymwys posibl o fewn ardaloedd Llangollen a Chorwen.

·         o ran ceisiadau yn y dyfodol byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgysylltu ag aelodau lleol drwy Grwpiau Ardal yr Aelodau ond byddai ymgysylltiad hefyd â grwpiau cymunedol lleol a Chynghorau Tref / Cymuned / Dinas fel sy’n briodol.

·         byddai unrhyw addasiad i wasanaethau cyfredol i ddatblygu’r prosiectau a cheisiadau cyllido yn benderfyniad gweithredol wrth ymateb i’r ffyrdd newydd o weithio – pe bai angen unrhyw gyllid neu adnodd ychwanegol fel rhan o’r broses honno byddai’n destun prosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cyngor.

·         o ran cyflwyniad cais De Clwyd, roedd cyfanswm y cais ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam oddeutu £10m ac roedd rhwng £4/5m ar gyfer Sir Ddinbych, cyfanswm o £15m yn erbyn cais uchaf posibl o £20m ar gyfer pob etholaeth.

 

Yn dilyn y drafodaeth faith ar rinweddau’r adroddiad, pwysleisiodd yr Arweinydd y buddsoddiad posib’ ar gyfer Sir Ddinbych a diolchodd i’r aelodau am eu mewnbwn ac ymateb cadarnhaol i’r adroddiad a’r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus a Phennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd, i gytuno ar gais i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd.  Bydd hyn yn dilyn trafodaethau gydag Aelodau Dyffryn Dyfrdwy lleol.

 

Ar y pwynt hwn (11.20 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.

 

 

Dogfennau ategol: