Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU 2020/21

Ystyried Adroddiad Chwarter4/Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar ei waith a'i gynnydd yn ystod 2020-21. (Adroddiad i ddilyn)

 

10.25 – 11.10 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd, Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol. Cyflwynodd yr Arweinydd y swyddogion oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda: Alwen Williams – Cyfarwyddwr y Portffolio, a Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau o Fwrdd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), ynghyd â swyddogion o’r awdurdod. Clywodd aelodau am bwysigrwydd cyfarfodydd chwarterol a fynychid gan swyddogion er mwyn gweithio gyda thîm rheoli’r portffolio er mwyn deall, a dylanwadu ar, y gwaith rhanbarthol sy’n cael ei wneud.  

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad ar y Fargen Dwf y cytunwyd arni gan y Cyngor Llawn. Eglurwyd bod y gwaith wedi dechrau ar gam darparu’r rhaglen waith. Rhan o’r cytundeb oedd adrodd i’r pwyllgor Craffu ddwywaith y flwyddyn er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau am y cynnydd a wnaed. Eglurodd yr Arweinydd i’r aelodau lefel y gwaith a'r manylion sy’n angenrheidiol mewn perthynas â'r prosiectau cyn cyflwyno'r achosion busnes.

 

Arweiniodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr y Portffolio, yr aelodau drwy gyflwyniad byr oedd yn darparu gwybodaeth gefndir. Eglurwyd mai bwriad y Fargen Dwf oedd darparu economi fwy bywiog, cynaliadwy a chadarn yng ngogledd Cymru. Adeiladau ar gryfderau sy’n bodoli eisoes er mwyn cynyddu cynhyrchiant a mynd i’r afael â heriau a rhwystrau economaidd hirdymor.  Eglurwyd bod tair amcan wario wedi’u nodi yn yr achos busnes. Nodwyd mai creu swyddi, Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), a buddsoddi oedd y rhain. Clywodd aelodau mai’r amcan oedd creu hyd at 4,200 o swyddi.

Seiliwyd y Fargen Dwf ar ddarparu un ar hugain o brosiectau trawsffurfiol ar draws pum rhaglen (a ddiffinnir fel naill ai rhaglenni twf uchel neu raglenni galluogi).  Roedd dwy raglen yn canolbwyntio ar alluogi’r rhanbarth, a rhaglenni cysylltedd digidol, a thir ac eiddo, oedd y rhain. Ariannwyd y rhaglenni hyn gan y fargen dwf. Gobeithid y byddai cyflawni yn y sectorau hyn yn galluogi busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth a’r farchnad lafur er mwyn manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth newydd. Pwysleisiwyd bod y gwaith partneriaeth ar draws gogledd Cymru’n gydlynus ac yn effeithlon.

 

Darparodd Cyfarwyddwr y Portffolio ganllawiau pellach ynghylch cysylltedd digidol. Eglurwyd mai gwella cysylltedd digidol oedd y nod.  Roedd y prosiect yn mynd i’r afael ag anghenion cwsmeriaid a dinasyddion. Roedd y rhaglen ddigidol wedi nodi’r angen i gydbwyso buddsoddiad, isadeiledd a thechnoleg drwy fand eang sefydlog mewn safleoedd allweddol ac ardaloedd gwledig.  Eglurwyd bod dwy brif gydran wedi’u cynnwys yn y rhaglen ddigidol. Y cydrannau a gynhwyswyd oedd prosiect cysylltedd digidol a phrosiect arloesi gyda Phrifysgol Bangor.

 

Darparwyd gwybodaeth ynghylch y Rhaglen Tir ac Eiddo. Nododd y rhaglen fod diffyg tir ac eiddo addas i fusnesau eu datblygu. Clywodd aelodau fod sawl prosiect allweddol wedi’u setlo, yn cynnwys Porth Caergybi, safle Porth Gorllewinol Wrecsam, safle strategol allweddol ym Modelwyddan, Safle Strategol Bryn Cegin ym Mangor, hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a Neuadd Warren yn Sir y Fflint.  

 

Roedd y tair rhaglen arall yn canolbwyntio ar gryfderau allweddol yn y sectorau gwerth uchel yn y rhanbarth. Nod y rhaglenni oedd cynyddu gwerth ac effaith y sector twf uchel. Y rhaglen gyntaf oedd un ynni carbon isel gyda’r nod o ddatgloi buddion economaidd prosiectau ynni carbon isel trawsffurfiol. Roedd y prosiectau oedd yn rhan o’r rhaglen ynni carbon isel yn cynnwys Morlais, prosiect ynni morol, Gorsaf Bŵer Trawsfynydd, canolfan ragoriaeth carbon isel yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, ynni lleol clyfar a datgarboneiddio cludiant.

 

Roedd y Rhaglen Arloesi Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn ceisio cadarnhau safle presennol gogledd Cymru fel clwstwr gweithgynhyrchu arloesol, gwerth uchel. Y bwriad oedd adeiladu ar arbenigeddau sefydledig yr ardal a datblygu arbenigedd er mwyn creu sail economaidd fwy amrywiol er mwyn cefnogi symud at greu economi garbon isel mewn gweithgynhyrchu. Roedd partneriaid academaidd wedi cytuno i gydweithio ar ddau brosiect allweddol: un oedd datblygu Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol gyda Phrifysgol Bangor. Yr ail oedd Canolfan Menter Peirianneg ac Opteg gyda Phrifysgol Glyndŵr.          

 

Byddai’r Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth yn cefnogi ac yn datblygu cynaliadwyedd ac yn gwella cyfleoedd cyflogaeth drwy’r amgylchedd a’r tirlun. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y byddai tri phrosiect allweddol yn digwydd fel rhan o’r rhaglen. Y tri phrosiect hynny yw Clwb Economi Wledig Glynllifon, Canolfan Garbon Niwtral Llysfasi a Rhwydwaith TALENT Twristiaeth.

 

Arweiniodd y Rheolwr Gweithrediadau, Hedd Vaughan-Evans, yr aelodau drwy wybodaeth ynghylch cynnydd rhaglenni’r Fargen Dwf, a phrosiectau Chwarter 4 2021 (Ionawr – Mawrth). Cadarnhawyd mai hwn oedd yr adroddiad cynnydd cyntaf i gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu. Roedd y canolbwynt wedi bod yn symud i’r cam darparu, a nodwyd bod holl brosiectau Bargen Dwf Gogledd Cymru yn dal ar y cam datblygu achosion busnes. Cadarnhawyd bod yr holl brosiectau wedi'u hadolygu er mwyn ailgadarnhau amserlenni. Eglurwyd bod pob prosiect yn cael ei ddatblygu yn unol â chanllawiau Achosion Busnes Gwell. Datblygwyd achosion busnes drwy ddefnyddio gweithdai er mwyn cynnwys cymaint â phosib o fudd-ddeiliaid yn y gwaith o drafod a chytuno ar fodelau cyflawni.

 

Roedd angen i bob prosiect fod yn destun adolygiad trothwy gan banel annibynnol er mwyn gwerthuso’r prosiect ar adegau allweddol yn natblygiad y prosiect. Cadarnhawyd bod dau brosiect wedi cwblhau’r cam hwn yn y datblygiad. Prosiect Morlais, dan arweiniad Menter Môn, a Phrosiect Canolfan Menter Peirianneg ac Opteg dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam oedd y ddau hyn.

 

Clywodd yr aelodaeth bod dau brosiect wedi cael eu nodi’n ‘Goch’, a’r rheini oedd y Safle Strategol Allweddol ym Modelwyddan a phrosiect Porth Caergybi. Roedd nifer o brosiectau’n ‘Oren’, yn bennaf oherwydd bod yr amserlen datblygu busnes yn cymryd mwy o amser nag a amcangyfrifwyd yn wreiddiol. Nododd y Rheolwr Gweithrediadau, yn ei farn ef, nad oedd unrhyw bryderon sylweddol ynghylch y prosiectau hyn.

 

Nodwyd mai'r cyflawniadau mwyaf arwyddocaol yn ystod chwarter 4 oedd derbyn llythyr yn dweud bod grant wedi'i roi gan Lywodraethau Cymru a'r DU, a derbyn rhandaliad cyntaf y cyllid ym mis Mawrth 2021.  

 

Cyflwynwyd uchafbwyntiau’r adroddiad blynyddol i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn dangos y cynnydd a wnaed ar y Fargen Dwf a’r gweithgareddau a gefnogwyd gan Swyddfa Rheoli’r Portffolio. Roedd yr aelodau’n cydnabod yr anawsterau yr oedd y Bwrdd wedi’u hwynebu yn ystod 2020/21 oherwydd pandemig COVID-19. Nodwyd bod cytundebau’r Fargen Derfynol wedi’u harwyddo yn ystod seremoni ar-lein ar 17 Rhagfyr 2020, yn unol â’r amserlen wreiddiol.  Sefydlwyd perthnasoedd gweithio agos gydag awdurdodau lleol a Llywodraethau Cymru a’r DU a chynrychiolwyr eraill o’r sector cyhoeddus er mwyn cydlynu ymateb y rhanbarth i’r adferiad economaidd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Bwrdd am y cyflwyniad manwl a’r adroddiad trylwyr o waith y Bwrdd hyd yn hyn.  Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, ehangodd yr Aelod Arweiniol, y swyddogion a chynrychiolwyr y Bwrdd, ar y pethau canlynol:

·         Yr £16miliwn a dderbyniwyd gan y Llywodraeth oedd rhandaliad cyntaf arian cyfalaf y fargen dwf a ddyrannwyd i’r prosiectau.

Roedd y £2.9miliwn a sicrhawyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn gyllid refeniw ar gyfer swyddfa rheoli’r portffolio dros gyfnod o dair blynedd. Byddai’r partneriaid yn cyfateb y cyllid refeniw er mwyn gwneud cyfanswm y cyllid refeniw yn ychydig llai na £6m dros y tair blynedd gyntaf.

·         Roedd Prosiect Morlais a Phrosiect Glyndŵr wedi bod yn mynd drwy’r gwahanol byrth ar adegau gwahanol.

Roedd y ddau brosiect yn dod yn eu blaenau ac nid oedd unrhyw bryderon wedi’u nodi.

·         Roedd pedwar prosiect isadeiledd yn swyddfa’r portffolio digidol.

Cadarnhawyd bod dau o’r prosiectau wedi’u gohirio. Roedd dau brosiect yn cael eu blaenoriaethu ar y pwynt hwn, a byddai’r ddau brosiect oedd wedi’u gohirio’n ailddechrau ac yn cael eu symud ymlaen ar ddyddiad diweddarach. Pwysleisiwyd nad oedd dim problemau gyda’r prosiectau er bod oedi wedi bod, a’u bod yn dal ar y trywydd iawn ac yn dal i lynu at yr amserlen a nodwyd.

·         Roedd swyddfa’r portffolio wedi creu’r adroddiad gan ystyried y llinell amser gyfredol.

Nododd y swyddogion, wrth i’r prosiectau a’r rhaglenni fynd rhagddynt, efallai y byddai angen cynnwys tabl gwybodaeth ar wahân er mwyn dangos y gwaith a ddechreuwyd ar wahân.

·         Roedd cyswllt agos iawn wedi bod gyda’r holl awdurdodau lleol er mwyn cydweithio i gefnogi prosiectau’r Bwrdd er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â disgwyliadau lleol pob awdurdod.

·         Roedd polisïau cynllunio’n cynnwys polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru; roedd awdurdodau lleol wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), a chyn hir byddai angen datblygu cynllun rhanbarthol.

Pwysleisiodd y swyddogion bod gan Awdurdodau Lleol bwerau i ddatblygu’r Cynlluniau Datblygu Lleol. Roedd gan aelodau’r rheolaeth i ddatblygu’r CDLl er mwyn mynd i’r afael â'r anghenion lleol. Roedd ar y Bwrdd eisiau datblygu prosiectau yr oedd Awdurdodau Lleol yn eu cefnogi.

·         Roedd prosiect gyda Choleg Cambria, Llysfasi, yn archwilio sut y gallai arloesi gynorthwyo’r gallu i fod yn gynhyrchiol ym maes amaeth drwy greu fferm garbon niwtral.

Byddai’r prosiect yn arddangos y gallu i fod yn fwy arloesol a chynhyrchiol ym maes amaeth.

·         Roedd penderfyniadau mewn perthynas â safle strategol allweddol Bodelwyddan yn cael eu rhoi ar encil, wrth aros i Sir Ddinbych benderfynu ar y polisi cynllunio ar gyfer y safle. 

·         Diolchodd aelodau’r Bwrdd i’r aelodau am y wybodaeth am hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a byddent yn adolygu’r codio yng nghyfarfod nesaf y bwrdd.

 

Diolchodd yr aelodau i bawb a gymrodd ran yn y cyflwyniad ac yn y gwaith o ymateb i'r cwestiynau a'r pryderon a godwyd.

 

Bu i’r Pwyllgor:

 

Benderfynu: - yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod, dderbyn Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 2020/21 ac Adroddiad Blynyddol 2020/21 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB).

 

Dogfennau ategol: