Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIAD LLES AC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y dull a'r cynnydd a wnaed o ran adnewyddu'r asesiad (copi’n amgaeedig).

10.45 am – 11.15 am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale ei hadroddiad (a gylchredwyd eisoes) gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i ddatblygu Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych.  Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am grant BGC Gogledd Cymru a cheisiwyd cymeradwyaeth ar gyfer y cynigion rhanbarthol i gefnogi gwaith ymchwil ac ymgysylltu.

 

Roedd gofyn i Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad lles bob 5 mlynedd ac roedd gweithgor wedi’i sefydlu gyda phartneriaid y BGC i ddechrau’r broses honno.  Roedd adolygiadau cyflym wedi cael eu cynnal ar bynciau ac roedd unrhyw waith ymgysylltu diweddar wedi’i fapio.  Byddai gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu cynnal dros yr haf i hysbysu'r asesiad ac i’r gwrthwyneb hefyd.  Cynigwyd y byddai fersiwn drafft yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2021 yn barod ar gyfer ymgynghoriad.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gyflwyno’r grant cymorth BGC ar gyfer 2021/22, ac mae £87,273 ar gael ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.   Roedd meini prawf clir ar gyfer y cyllid a chynigiwyd bod y grant yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi themâu sy’n berthnasol i ranbarthau ac is-ranbarthau.   Roedd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi datblygu cynnig model partneriaeth i gefnogi’r gwaith ymchwil ac roedd CSDd yn arwain ar ddatblygu cytundeb model cyflenwi gwasanaeth amgen.  Roedd grŵp swyddogion BGC gogledd Cymru wedi datblygu cynnig ymgysylltu rhanbarthol i ffurfioli trefniadau i gefnogi ymgysylltiad.  Yn olaf cyfeiriwyd at fanteision gweithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru wedi i grŵp swyddogion BGC Gogledd Cymru gyflwyno datganiad o ddiddordeb yn hyn o beth.

 

Diolchodd y Bwrdd i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a chydnabuwyd pwysigrwydd yr asesiad lles a fyddai’n sylfaen i gynlluniau strategol cyrff cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf.  Yn ystod y ddadl ddilynol, tynnodd aelodau sylw at bwysigrwydd gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a oedd hefyd yn cynnal asesiad o anghenion, i sicrhau dull gweithredu cwbl gydlynol, a hefyd ffocws ar effaith Covid-19 wrth edrych tua’r dyfodol mewn perthynas â gwersi hirdymor.  Er bod y cyswllt â Phrifysgol Glyndŵr yn bwysig, roedd hefyd angen deall rhywfaint o’r ymchwil cenedlaethol mewn perthynas â datblygiadau yn y dyfodol.  Ymatebodd y swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·         rhoddwyd sicrwydd ynglŷn â chydweithio’n agos â chydweithwyr BPRh i sicrhau bod y gwaith yn cael ei integreiddio a chysylltiadau'n cael eu gwneud

·         eglurwyd bod y BPRh yn cynnal asesiad o anghenion y boblogaeth yr un mor aml ag asesiad lles y BGCau ac y byddai eu gwaith yn bwydo i mewn i hynny – fodd bynnag byddai gwaith y BPRh yn canolbwyntio’n arbennig ar grwpiau cleientiaid tra bo gwaith y BGC yn seiliedig ar y boblogaeth gyffredinol ac ymyrraeth gynnar

·         wrth ysgrifennu’r penodau ar gyfer y nodau lles a chynnal dadansoddiad o’r sefyllfa yng Nghonwy a Sir Ddinbych, cadarnhawyd y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i Covid-19 ac y byddai gwaith ymchwil yn sail i ragdybiaethau ynglŷn â beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol – ond oherwydd bod hon yn sefyllfa sy’n parhau ar hyn o bryd, mae unrhyw gasgliadau sy’n cael eu cyrraedd yn rhai dyfaliadol a gobeithiwyd y byddai Prifysgol Glyndŵr, fel partner gweithredol, yn helpu i sicrhau bod y casgliadau yn yr asesiad yn cael eu hadolygu wrth i effaith y pandemig ddod yn fwy amlwg dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

 

Cytunodd y Bwrdd bod angen i'r broses fod yn hyblyg er mwyn dod i gasgliadau a’u hadolygu wrth i’r sefyllfa ddatblygu a chroesawyd y cyswllt â Phrifysgol Glyndŵr fel rhan o’r profiad dysgu hwn a fyddai’n fanteisiol yn y broses honno.  Diolchodd y Cadeirydd i bawb dan sylw am y gwaith caled sy’n cael ei wneud i symud yr asesiadau lles ymlaen yn ystod cyfnod ansicr a heriol.

 

PENDERFYNWYD y byddai aelodau’n -

 

(a)       cymeradwyo’r cynnydd a wnaed o fewn y cynllun prosiect o ran datblygu’r asesiad lles;

 

(b)       cefnogi cais am grant BGC Gogledd Cymru;

 

(c)        cefnogi’r cynnig dull partneriaeth gan Brifysgol Glyndŵr i gefnogi’r asesiad lles yn rhanbarthol;

 

(d)       cefnogi’r cytundeb model cyflenwi gwasanaeth amgen;

 

(e)       cefnogi’r cynnig ymgysylltu rhanbarthol, a

 

(f)         chefnogi datganiad o ddiddordeb Gogledd Cymru i Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.

 

Ar y pwynt hwn (11.00 am) cymerodd y pwyllgor egwyl byr.

 

 

Dogfennau ategol: