Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 45/2019/0592/ PF – TIR AR SAFLE YR HEN CROWN BARD, FFORDD DERWEN, Y RHYL, LL18 2RL

Ystyried cais i adeiladu bwyty gyda chyfleuster gyrru trwodd, maes parcio, arwyddion archebu i gwsmeriaid, lle chwarae i blant, tirlunio a gwaith cysylltiol a ffurfio mynediad i gerbydau newydd ar dir safle’r hen Crown Bard, Ffordd Derwen, Y Rhyl, LL18 2RL (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer codi bwyty gyda chyfleuster pryd ar glud, parcio ceir, arwyddion archeb cwsmeriaid, ardal chwarae plant, tirlunio a gwaith cysylltiedig a ffurfio mynedfa newydd i gerbydau ar dir hen safle Crown Bard, Ffordd Derwen, y Rhyl, LL 18 2 RL.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Phil Usherwood (o blaid) – darparodd adborth ar y broses ymgeisio 2 flynedd, gan gadarnhau bod cyfathrebu gyda nifer o swyddogion wedi arwain at gyflwyno cais a chynllun ystyriol i aelodau. Roedd ymgynghoriad gydag ymgyngoreion statudol ac aelodau ward lleol wedi galluogi’r ymgeisydd i werthuso nifer o agweddau’r cynnig. Amlygodd rhai o’r gwelliannau a wnaed i’r cynllun. Amlinellodd y cydweithio agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw berygl llifogydd a phryderon draenio.  Byddai cyflwyno’r siambr rheoli llif, stribed cynnal a chadw 4 metr a basn llifogydd newydd fel y dyluniwyd a chymeradwywyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn cael effaith gadarnhaol. Mae mynediad i’r safle wedi cael ei ddylunio yn ofalus gan ystyried diogelwch y briffordd a gwnaed pob ymdrech i leihau unrhyw effeithiau o sŵn ac ymyrraeth i eiddo gerllaw.

Cafodd yr aelodau wybod bod gwaith gydag ecolegwyr a swyddogion coed wedi cael ei sefydlu i drafod y gwaith tynnu coed er mwyn galluogi mesurau lliniaru llifogydd. Cadarnhaodd y siaradwr y byddai’r coed yn cael eu hailgyflwyno ar draws y cynllun yn lle’r rhai a dynnwyd.     

Datganwyd bod yr adran briffyrdd wedi croesawu’r gwelliannau i’r cylchfan gan awgrymu na fyddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar y gyffordd.

I gloi, cadarnhaodd y siaradwr y byddai’r safle yn elwa o 7 bin sbwriel a bod aelodau’r tîm yn codi sbwriel yn gyson drwy’r dydd o fewn radiws 150m o’r bwyty. Roedd McDonalds yn cefnogi cynlluniau megis Cadwch Gymru'n Daclus i hyrwyddo gwell ymddygiad.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau i ganolbwyntio ar faterion cynllunio deunydd perthnasol i’r datblygiad arfaethedig. Cyfeiriwyd yr aelodau at y wybodaeth ychwanegol ar y taflenni gwybodaeth hwyr.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Pwysleisiodd y Cynghorydd Ellie Chard (Aelod Lleol) bod yr ardal hon yn y Rhyl wedi’i amgylchynu gan nifer o gartrefi. Mynegodd y Cynghorydd Chard ei phryderon o ran uchder ac effaith y colofnau golau arfaethedig a’r bwrdd hysbysebu. Nodwyd hefyd y byddai prisiau tai yn yr ardal yn lleihau pe byddai’r cynnig yn cael ei dderbyn. Dywedodd bod y coed ar y safle wedi gweithio fel rhwystr i’r sŵn a’r llygredd golau o’r parc manwerthu gerllaw. Mynegodd yr aelod lleol ei phryderon o ran allanfa/mynedfa’r bwyty. Amlygwyd pryderon o ran cerddwyr yn cerdded a chroesi’r ffordd. Roedd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys i’r safle hefyd yn bryder. Amlygodd y Cynghorydd Chard y pryder o ran gordewdra cenedlaethol, gyda thrigolion ac ymwelwyr yn debygol o fwyta’r bwyd cyflym oedd ar gael. Cwestiynwyd yr angen am fanwerthwr bwyd arall yn yr ardal.

Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard i’r cais gael ei wrthod i’r gwrthwyneb i argymhelliad y swyddog, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mark Young.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones (Aelod Lleol) i’r aelodau am y cyfle i siarad yn erbyn argymhelliad y swyddog. Dywedodd y Cynghorydd Chamberlain-Jones ei bod yn siarad ar ran y trigolion oedd â phryderon a gwrthwynebiadau am y cynnig. Teimlwyd pe byddai’r cais yn llwyddiannus, byddai’r gymdogaeth sydd fel arfer yn ddistaw, yn troi’n swnllyd ac yn brysur gyda thraffig ac archebion bwyd.

Clywodd yr aelodau am bryderon o ran iechyd unigolion a’r pwysau y byddai’n rhoi ar y GIG. Pwysleisiodd y Cynghorydd Chamberlain-Jones bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Chard o ran cynnydd mewn traffig a mynediad i’r safle. Roedd y gost i Sir Ddinbych o ran sbwriel hefyd yn bryder. Teimlwyd bod y cais yn y lleoliad anghywir.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais wedi cael ei ystyried yn erbyn polisïau perthnasol yn y CDLl ac unrhyw faterion cynllunio materol eraill, gyda sail tystiolaeth ar gyfer rhesymau ar gyfer gwrthod. Cadarnhawyd bod safle’r cais yn agos at barc manwerthu prysur a bod defnydd blaenorol y safle wedi bod ar gyfer defnydd masnachol. Pwysleisiwyd nad oedd prisiau tai yn yr ardal yn ystyriaeth gynllunio materol.

Cadarnhawyd nad oedd gan arbenigwyr technegol unrhyw wrthwynebiadau i’r datblygiad. 

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad yn ofalus ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol a gynhyrchwyd i gyd-fynd â’r cais. Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd pellach bod popeth wedi cael ei archwilio o ran llifogydd blaenorol ar y safle. Gofynnodd yr aelodau hefyd am eglurder bod ystyriaeth i’r cynnydd mewn traffig hefyd wedi ystyried y parc manwerthu gerllaw a’r cae sêl cist car. Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am wybodaeth ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, pa ystyriaethau a wnaed i drigolion lleol. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas bod y safle’n dir llwyd ac nad yw’r coed ar y safle o ansawdd da iawn. Sicrhawyd y Cynghorydd bod Swyddog Coed Sir Ddinbych wedi adolygu’r gwaith o dorri’r coed ar y safle. Cytunodd â’r Aelodau o ran bod traffig yn broblem yn yr ardal ond teimlodd na fyddai’n faich ychwanegol yn ystod adegau prysur. Roedd y Cynghorydd Thomas yn credu y byddai creu 60 swydd yn yr ardal yn fuddiol i breswylwyr lleol. Cynigodd y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.    

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu a’r Uwch Beiriannydd Rheoli Datblygu i gwestiynau/sylwadau fel a ganlyn:   

·         Derbyniwyd y bydd y bwyty newydd yn brysurach na’r hen dafarn/bwyty.  Eglurwyd fod y dafarn/bwyty blaenorol a’r bwyty drwy ffenestr yn dod o dan yr un dosbarth defnydd cynllunio

·         Fel rhan o’r cais, mae’r ymgeisydd wedi cynnig mesurau lliniaru a gwelliant i’r system ddraenio dŵr wyneb bresennol

·         Mae’r holl dystiolaeth dechnegol sy’n gysylltiedig â’r cais yn nodi y byddai’r datblygiad arfaethedig yn gwella’r sefyllfa bresennol o ran perygl llifogydd

·         Cafwyd cadarnhad gan swyddogion bod yr holl argymhellion ynglŷn â’r cais cynllunio yn rhoi sylw i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol   

·         Cadarnhawyd fod y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu’r cais yn drwyadl. Mae rhan o’r datblygiad yn cynnwys gwella’r ffordd at y gylchfan drwy ddarparu dwy lôn yn ogystal â gwneud mân addasiadau i’r marciau ffordd wrth ddynesu at y gylchfan.  Gyda’r gwelliannau arfaethedig hyn mae’r model cludiant yn dangos y gallai’r datblygiad weithredu gyda digon o le.  Byddai’r gwaith modelu wedi ystyried manwerthu a’r farchnad leol yn yr ardal

 

Yn ystod trafodaeth bellach gofynnodd y Cynghorydd Ann Davies am eglurhad ynglŷn â’r llawr wedi’i godi yn yr adeilad. Mewn ymateb bu i’r swyddogion gadarnhau fod y sefydliad blaenorol wedi bod yn adeilad dau lawr ac roedd y datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad unllawr. Roedd uchder yr adeilad arfaethedig ac agosrwydd y safle at anheddau preswyl a’r parc manwerthu oll wedi eu cynnwys yn yr asesiadau cynllunio.

Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young os oedd y cynllun Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy wedi ei gadarnhau. Gofynnodd hefyd am eglurhad os oedd gan yr Awdurdod drothwy o ran nifer y bwytai bwyd i fynd yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y broses Draenio Trefol Cynaliadwy wedi dechrau ac yn eithaf datblygedig yn y broses gymeradwyo. Roedd y broses ar gyfer hyn ar wahân i'r broses gynllunio. Nid oedd unrhyw beth penodol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol presennol a oedd yn cyfeirio at drothwy ar gyfer y bwytai bwyd i fynd mewn unrhyw ardal.

 

I orffen cadarnhaodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones (Aelod Lleol) fod swyddi i’w croesawu yn y Rhyl. Yn ei barn hi roedd y datblygiad arfaethedig yn y lle anghywir ac roedd angen ystyried y preswylwyr lleol.

 

Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Ellie Chard y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog. Y rhesymau a roddwyd oedd y pryderon ynghylch diogelwch ar y priffyrdd gyda’r allanfa / mynedfa i’r safle, effaith y datblygiad ar amwynder preswyl cymdogion oherwydd sŵn a tharfu cynyddol, yr effaith negyddol ar ecoleg a bioamrywiaeth a’r effaith ar iechyd. Eiliwyd hyn gan y Councillor Mark Young.

 

 

Pleidlais - 

Cymeradwyo – 8

Ymatal – 0

Gwrthod – 7

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

Dogfennau ategol: