Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 02/2020/0811/ PF – TIR YN (RHAN O ARDD) 73A ERW GOCH, RHUTHUN LL15 1RS

Ystyried cais ar gyfer adeiladu annedd ar wahân, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiol ar dir yn (rhan o ardd) 73a, Erw Goch, Rhuthun LL15 1RS (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon ar y rhaglen gan ei fod wedi datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu annedd ar wahân, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig yn (rhan o ardd) 73A, Erw Goch, Rhuthun, LL15 1RS.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr John Ferguson (yn erbyn) – dywedodd fel coedwigwr proffesiynol am 35 mlynedd, fod ganddo bryderon o ran dyfodol amwynder coed iach sy’n alinio’r llwybr troed ger y safle arfaethedig. Teimlai pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo y byddai’r coed o dan fygythiad uniongyrchol o gael eu tynnu yn y dyfodol. Byddai’r eiddo arfaethedig o dan gysgod mwyafrif y flwyddyn ac o bosibl yn destun cwynion o ran newid tymhorol y coed.  Pwysleisiodd y siaradwr bwysigrwydd o ystyried effaith y coed fel y nodwyd yn y Canllawiau Atodol. Roedd y coed ar y safle yn darparu cynefin bywyd gwyllt gwerthfawr ar gyfer ystlumod, tylluanod a nifer o rywogaethau o adar. Teimlai bod y coed ar y safle yn helpu i warchod bioamrywiaeth ac yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sir.

Dywedodd Mr Ferguson hefyd ei fod yn teimlo y byddai’r eiddo yn cael effaith niweidiol ar gymeriad ac amwynder gweledol yr ystâd, gan gyfeirio at sylwadau’r swyddog yn yr adroddiad. Dywedodd wrth yr aelodau bod blaenlun yr annedd arfaethedig yn rhy agos at y ffin a byddai’n tynnu oddi ar natur agored yr ystâd ac yn achosi niwed i edrychiad yr ardal. Roedd y siaradwr yn cytuno gyda barn Cyngor Tref Rhuthun y byddai’r cynnig yn golygu gorddatblygu’r safle.         

 

Mr Aled Mosford (mab yr ymgeisydd) (o blaid) – ymddiheurodd am yr oedi blaenorol. Eglurodd bod y cynlluniau wedi cael eu haddasu yn dilyn sylwadau’r swyddogion cynllunio.  Eglurodd y siaradwr na fyddai’r annedd bresennol na’r annedd newydd yn edrych dros eiddo eraill. Byddai digon o ofod rhwng y ddau annedd ac roedd maint y plot yn ddigonol i letya’r annedd. Byddai ffens yn gwahanu’r ddau blot. Ni fyddai’r coed gerllaw yn cael eu niweidio yn ystod adeiladu ac felly byddai cynefinoedd yn cael eu diogelu.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cyfeiriodd y Cynghorydd Joe Welch yr aelodau at y wybodaeth ychwanegol ar y taflenni atodol.

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley (aelod lleol) eisiau cefnogi’r cais. Dywedodd fod y cynlluniau wedi cael eu haddasu yn unol â chyngor y swyddogion. Roedd yr aelod lleol o’r farn y byddai’r eiddo gorffenedig yn gweddu’r ardal yn dda. Ar hyn o bryd, nid oedd y tir ar gyfer yr annedd newydd arfaethedig yn cael ei ddefnyddio. Dywedodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn falch o nodi barn canfyddiadau’r ymgynghorydd coed ar y safle. Dywedodd fod yr ymgeisydd wedi tyllu ffos ar hyd y safle i  ddangos na fyddai unrhyw wreiddiau coed yn cael eu heffeithio. Yn ei barn hi, roedd yr ymgeisydd wedi cwblhau popeth y gallent i fynd i’r afael â’r holl bryderon a chydymffurfio â chanllawiau cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry ei fod yn falch o nodi bod gwrthwynebiad 3 wedi cael ei dynnu o’r cais. Dywedodd wrth yr aelodau ei fod wedi ymweld â’r safle, a chadarnhaodd fod y cais o fewn ystâd fawr ac roedd popeth wedi cael ei wneud i leihau unrhyw broblemau o ran edrych dros eiddo eraill.    

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i’r cais gael ei gymeradwyo yn wahanol i argymhellion y swyddog, gan na fyddai’r cais yn cael effaith weledol niweidiol ac ni fyddai’n cael effaith annerbyniol ar eiddo gerllaw, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Christine Marston am eglurder o ran y gofod tu allan. Byddai’r cais arfaethedig yn gadael y ddau eiddo gyda mannau amwynder cyfyngedig. Cododd y Cynghorydd Tina Jones bryderon o ran y gofod bach o amgylch yr eiddo a theimlodd y byddai’r cais yn gorddwysáu’r ardal.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod rhaid i’r Swyddogion roi sylw i’r polisïau a’r canllawiau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, yn arbennig o ran gofod o amgylch adeiladau ac agosatrwydd adeiladau newydd i eiddo presennol. Dyma oedd y rheswm dros wrthod y cais. Cadarnhaodd y rheolwr Rheoli Datblygu bod y trydydd rheswm dros wrthod yn sgil effaith uniongyrchol y datblygiad ar y coed gerllaw, wedi cael ei dynnu. Fodd bynnag, cadarnhaodd bod y Swyddogion yn teimlo bod effaith y coed ar amwynder y deiliaid yn yr eiddo newydd yn parhau i fod yn bryder.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) am ganllawiau pellach ar iechyd y coed yn y dyfodol ac unrhyw effaith y gall yr adeilad ei gael ar y coed. 

Pwysleisiodd y rheolwr Rheoli Datblygu y pwynt nad oedd effaith y datblygiad ar y tai yn broblem, ond bod effaith y coed ar amwynder yr annedd newydd yn bryder.

 

 

Pleidlais -

Cymeradwyo - 10

Ymatal – 0

Gwrthod - 5

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais i’r gwrthwyneb o argymhellion y swyddogion.

 

 

Dogfennau ategol: