Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni;

 

 (b)      cymeradwyo sefydlu cronfa wrth gefn benodol a throsglwyddo £200,000 i helpu i ariannu'r gwaith dros yr haf fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan (nodir yn adran 6.3 yr adroddiad), a

 

(c)        cymeradwyo sefydlu cronfa wrth gefn benodol a throsglwyddo £59,000 i helpu i ariannu costau prosiect yn ymwneud â’r prosiect Ffyrdd Newydd o Weithio (nodir yn adran 6.4 yr adroddiad).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd tanwariant o £2.318miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol.

·        amlinellwyd effaith ariannol y coronafeirws a'r sefyllfa o ran ceisiadau i Lywodraeth Cymru hyd yma, yn ogystal â chyllid grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â Covid.

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0 .692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo sefydlu dwy gronfa benodol i helpu i ariannu (1) gwaith fel rhan o’r Cynllun Rheoli Cyrchfan, a (2) chostau cychwynnol prosiect sy’n ymwneud â’r Prosiect Ffyrdd Newydd o Weithio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at gau cyfrifon 2020/21 a allai olygu newidiadau i’r ffigyrau cyn yr adroddiad ar y sefyllfa derfynol ym mis Mehefin.  Arweiniodd y Cabinet drwy elfennau amrywiol yr adroddiad gan gynnwys ffynonellau cyllido Llywodraeth Cymru gydag oddeutu £7.4 wedi ei dderbyn hyd yma yn erbyn hawliadau gwariant a derbyn hawliad colli incwm Chwarter 4 oedd yn gyfanswm o oddeutu £11.2 miliwn am y flwyddyn ynghyd â'r effaith ar y tanwariant a ragwelwyd o'r mis diwethaf. Amlygwyd symudiadau gwasanaeth hefyd gyda’r symudiadau mwyaf yn ymwneud â'r Gwasanaeth Priffyrdd, Cyfleusterau ac Amgylcheddol, a Chyllid ac Eiddo.  Amlygodd y Pennaeth Cyllid hefyd y lefel uwch o ansicrwydd yn ystod y cyfnod hwn yn y flwyddyn ariannol gyda'r amrywiol ffrydiau cyllid yr oedd angen cyfrif amdanynt yn briodol, a allai newid y sefyllfa ariannol rhwng rŵan a’r sefyllfa ariannol derfynol.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·        cyfeiriwyd at drafodaethau blaenorol o safbwynt y rhesymau y tu nol i'r rhai elfennau o'r hawliadau na chafwyd eu caniatáu  ac roedd proses lle gellid trafod yr hawliadau hynny gydag adrannau Llywodraeth Cymru; roedd rhai o'r elfennau hynny na chaniatawyd yn wreiddiol bellach wedi eu caniatáu mewn hawliadau mwy diweddar gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith pellach i elfennau unigol ac / neu roedd cyllid pellach wedi dod ar gael.

·        doedd dim posibilrwydd o gymryd unrhyw arian grant yn ôl o wariant penodol na cholled incwm oedd wedi ei asesu wrth i'r hawliadau hynny gael eu prosesu; fodd bynnag fel gyda phob grant byddai proses archwilio a gallai elfennau gael eu nodi fel rhan o’r broses honno

·        tra rhagwelwyd gorwariant o ychydig dros £2.3 miliwn ar hyn o bryd, roedd hynny yn bennaf oherwydd gwariant nad oedd wedi ei wario o fewn blwyddyn ariannol 2020/21 o ganlyniad i Covid-19. Galwyd am egluro’n well y rhesymu y tu nol i’r gorwariant a ragwelwyd, a tra derbyniwyd mai ‘tanwariant’ oedd y term technegol cywir am gyllid nad oedd wedi ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol a glustnodwyd, cytunwyd fod angen darparu mwy o eglurder mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

Byddai’r adroddiad sefyllfa derfynol olaf yn cynnwys mwy o fanylion a chynigion fod gwasanaethau yn cael caniatâd i gario eu tanwariant ymlaen at bwrpasau penodol.  Roedd yn broses agored a thryloyw i'r Cabinet ystyried a ddylent gymeradwyo gallu cario tanwariant gwasanaethau ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf ai peidio.

·        Roedd yr Arweinydd yn gefnogol o sefydlu cronfa er mwyn helpu i gyllido gwaith fel rhan o'r Cynllun Rheoli Cyrchfan, yn enwedig o ystyried y mewnlif disgwyliedig o ymwelwyr i’r sir hon, oedd yn amlygu’r angen i fuddsoddi mewn cadw trefi yn daclus ac yn lân a rheoli profiad ymwelwyr mewn lleoliadau cefn gwlad. 

Cytunodd y Cynghorydd Brian Jones ac roedd yn teimlo fod angen adolygu’r ymchwydd mewn ymwelwyr yn fanwl er mwyn hwyluso’r broses o reoli hynny yn y dyfodol a sicrhau bod digon o gyllid ar gael i ddelio â phwysau cynyddol dros fisoedd yr haf.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r sefyllfa yn cael ei monitro a phe byddai pwysau’n dod i’r amlwg dros y misoedd nesaf y byddai'n bosib y byddai angen adolygu'r swm a ddarparwyd at y diben hwnnw.

·        Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, rhoddodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Cyllid fwy o eglurder am gynllun Ysgol Llanfair a sicrwydd y byddai buddiannau’r cyngor yn cael eu gwarchod fel rhan o’r cytundeb cyfreithiol; o safbwynt budd unrhyw werthiant yn y dyfodol cytunwyd edrych i'r mater ac adrodd yn ôl yn uniongyrchol i'r Cynghorydd Davies ynglŷn â hynny. 

Roedd trafodaethau am hen safle’r ysgol yn parhau gyda'r Cyngor Cymuned ynglŷn â defnydd y safle, a byddai adroddiad ar hynny yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Rheoli Asedau ym mis Mai.  Gofynnodd y Cynghorydd Davies am ddefnydd cyfyngiadau cyflymder o ran y Cynllun Ailfodelu Gwasanaethau Gwastraff a chytunwyd fod y Cynghorydd Brian Jones yn ymateb yn syth y tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni;

 

 (b)      Cymeradwyo sefydlu cronfa benodol gan drosglwyddo £200,000 i helpu i ariannu gwaith dros yr haf sydd i ddod fel rhan o’r Cynllun Rheoli Cyrchfan (a fanylir yn adran 6.3 yr adroddiad), a

 

 (c)       cymeradwyo sefydlu cronfa benodol drwy drosglwyddo £59,000 i helpu i ariannu costau cychwynnol prosiect sy'n ymwneud â'r Prosiect Ffyrdd Newydd o Weithio (a fanylir yn adran 6.4 yr adroddiad).

 

 

Dogfennau ategol: