Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANOLFAN ASESU GOFAL PRESWYL PLANT IS-RANBARTHOL – DIWEDDARIAD AR Y PROSIECT

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i lofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn dyfarnu'r contract i godi Uned Asesu Gofal Preswyl Plant.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo llofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn gallu dyfarnu’r contract i godi Canolfan Asesu Gofal Preswyl Plant, ac yn

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltiad Cyhoeddus yr adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i roi sêl bendith i Weithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn caniatáu’r contract ar gyfer adeiladu’r Uned Breswyl Asesu Plant (CRAU).

 

Datblygwyd y CRAU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn cael ei leoli yn ardal CBSC gyda Chonwy fel y Partner Arweiniol.  Bydd y prosiect yn darparu 3 adeilad arbennig i’r pwrpas yn cynnwys uned asesu a llety preswyl ar gyfer hyd at 6 o blant a phobl ifanc am uchafswm o 12 wythnos.  Bydd y ganolfan yn cael ei noddi’n llwyr gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru ar gost o £2,687,529  gyda grant y Gronfa Gofal Integredig ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22. Mae manylion y tendr wedi’u darparu a bydd y contract yn cael ei ddyfarnu yn amodol ar gymeradwyaeth y Weithred Ariannol gan CBSC a CSDd  Rhagwelwyd y byddai’r gwaith adeiladu’n dechrau yn y gwanwyn 2021 ac wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2022.

 

Adroddodd Pennaeth Dros dro’r Gwasanaethau Plant ar ddatblygiad gofalus y model yn seiliedig ar arfer da i ddiwallu anghenion plant agored i  niwed; byddai hefyd yn diwallu blaenoriaethau’r cyngor a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cadw plant yn lleol sydd wedi’i brofi i wella deilliannau ac yn yr hirdymor leihau costau.  Byddai’r ganolfan yn galluogi adsefydlu plant yn gynt drwy weithio’n uniongyrchol gyda’r plant a’u teuluoedd,  darparu seibiant a hefyd bod â fformiwleiddiad seicolegol.  Mae’r tîm eisoes wedi’i sefydlu gan wneud gwahaniaeth a dargyfeirio plant  i ffwrdd o ofal hirdymor.  Cafwyd cefnogaeth ardderchog gan yr holl asiantaethau partner a hefyd gan aelodau sy’n rhan o’r bwrdd prosiect a fydd yn parhau i roi cyfeiriad a throsolwg.  Mae angen trafodaeth ar wahân am y costau parhaus a’r cyd-gyfrifoldeb dros y ganolfan wrth symud ymlaen ond mae'r bartneriaeth a’r ymrwymiad yn wirioneddol gryf.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cadarnhaol a’r gwaith caled sydd wedi’i wneud i sicrhau bod y prosiect yn dwyn ffrwyth er budd plant agored i niwed lleol a'u teuluoedd.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth ddilynol -

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Julian Hughes eto bod yr adroddiad yn cyfeirio at y cam adeiladu sydd wedi’i ariannu’n llawn ond dywedodd y bydd pwysau ariannol i’w wynebu yn y dyfodol o ran yr elfen refeniw angenrheidiol i ddarparu'r cyfleuster fel yr amlygir yn yr adroddiad. 

Fodd bynnag yn y tymor canolig byddai’n fenter ‘gwario i gynilo’ a fyddai’n helpu i leihau’r gorwariant yn y gwasanaeth wrth symud ymlaen ac roedd yn llwyr gefnogol o’r prosiect. Ychwanegodd bod y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi adolygu’r elfen gyfalaf a’i hargymell i’r Cabinet.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at y risg a ddynodwyd yna adran 10.4 o’r adroddiad gan ddweud y gallai caffael trwydded moch daear gan Gyfoeth Naturiol Cymru gymryd peth amser ac y dylid cadw hyn dan adolygiad agos. 

Awgrymodd y Cynghorydd Meirick Davies y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru am estyniad amser os oes angen i ddiogelu yn erbyn unrhyw oedi a allai ddigwydd oherwydd hyn.  Roedd gan y Cynghorydd Hilditch-Roberts hyder yn y prosesau a ddilynwyd gan y cyngor cysylltiedig â’r prosiectau adeiladu gyda phawb yn        gweithio gyda’i gilydd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar y safle.   Y bwriad yw adeiladu’r ganolfan a’i rhoi ar waith cyn gynted â phosib wrth ddilyn y prosesau angenrheidiol a gweithredu o fewn y gyfraith.

·         Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros dro i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley gan gadarnhau er byddai peth hyblygrwydd o ran y cyfyngiad amser o 12 wythnos y bwriad yw defnyddio’r ganolfan fel rhan o becyn cymorth i weithio’n therapiwtig gyda theuluoedd i alluogi plant, cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, i ddychwelyd adref mor ddiogel a chyflym  â phosibl. 

Ni fydd angen i bob plentyn aros yno am 12 wythnos ac mae’n bosibl y bydd cymysgedd o fod gartref a chyfnodau seibiant yn y ganolfan ond y byddai mynd dros 12 wythnos yn lleihau capasiti ar gyfer plant eraill.  Felly tra bo peth hyblygrwydd y nod yn y pen draw yw bod plant yn mynd yn ôl adref mor gyflym â phosibl.  Gall y tîm yn y ganolfan barhau i weithio gyda theuluoedd ar ôl i'r plentyn fynd adref fel rhan o'r broses hollgynhwysfawr.  

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at ran 10.3 o'r adroddiad a'r angen i sicrhau cyllid refeniw ar gyfer y costau parhaus a sut y bydd hyn yn cael ei wneud. 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros dro nad oes unrhyw drefniadau ariannu pendant wedi’u cadarnhau ac y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i'r posibilrwydd o gyfraniadau gan bartneriaid ac o gyllid grant Llywodraeth Cymru.

·         Mae’r Cynghorydd Rhys Thomas yn eistedd ar y Panel Maethu a dywedodd ei fod yn gefnogol iawn o’r cynllun.

Anogodd yr Aelodau i fynychu’r Fforwm Rhianta Corfforaethol i ddysgu mwy am waith rhagorol y Gwasanaethau Plant.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

 

(a)       cymeradwyo’r Weithred Ariannol Partneriaeth er mwyn galluogi dyfarnu contract ar gyfer adeiladu’r Uned Breswyl Asesu Plant, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: