Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd o safbwynt y strategaeth gyllidol gytunedig fel y’i hamlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 yw £208.302m miliwn (£198.538m miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd tanwariant net o £0.718miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol

·        amlygwyd y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol.

·        effaith ariannol y Coronafeirws a’r sefyllfa o safbwynt hawliadau i Lywodraeth Cymru (LlC) hyd yma, ynghyd â chyllid grant arall gan LlC cysylltiedig a Covid-19.

·        manylion yr arbedion a’r arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arnynt, yn cynnwys arbedion corfforaethol yn ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Aeth y Cynghorydd Thompson-Hill â’r Cabinet drwy amrywiol elfennau’r adroddiad a symudiadau ers y mis blaenorol. Symudiad mewn cyllidebau gwasanaethau a gwasanaethau corfforaethol a thanwariant a ragwelir o £0.718m (gorwariant o £1.759m y mis diwethaf) sydd wedi'i adlewyrchu i raddau helaeth yng ngrant colled incwm Chwarter 3  a chyllid grant cysylltiedig â Covid-19 Llywodraeth Cymru.  Y symudiad mewn cyllidebau corfforaethol sy’n dangos tanwariant o £1.867 wedi’i adlewyrchu yn y cyllid sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru i wrthbwyso effaith blwyddyn lawn Covid ar Arenillion Treth y Cyngor a'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, ond yn gysylltiedig yn bennaf â dyraniad cyllid newydd gan LlC (£1.663m) i gydnabod y pwysau a roddwyd ar y Cyngor cyfan yn sgil ymateb i Covid.  Argymhellwyd bod unrhyw danwariant cyffredinol, gan roi ystyried i geisiadau gwasanaethau am ddwyn tanwariant  penodol yn ei flaen, yn cael ei roi yn y Gronfa Lliniaru'r Gyllideb i helpu gyda'r ymateb parhaus i Covid a'r broses gyllidol ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid bod swm y cyllid grant gan LlC yn debygol o fod yn fwy na £20m ar gyfer y cyngor yn uniongyrchol heb gynnwys y cymorth ariannol a roddwyd i fusnesau.  Amcangyfrifwyd gorwariant o £14m ar ddechrau’r flwyddyn ac mae’r effaith gadarnhaol ar y sefyllfa ariannol wedi’i wireddu drwy waith partneriaeth gyda LlC a’r strategaeth ariannol a bennwyd mewn ymateb i Covid-19.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y cyfle i roi diweddariad i’r aelodau ar y gyfres ddiweddaraf o grantiau busnes a gyhoeddwyd ar 12 Mawrth ac a weinyddir gan y Cyngor, a thalodd deyrnged unwaith eto i waith diflino'r staff a chwaraeodd ran ym mhrosesu cyflym yr hawliadau i dros 1300 o fusnesau, sydd gyfwerth â gwerth £5.5m o gymorth.  Ategodd aelodau eraill y sylwadau hyn a chytunodd yr Aelod Arweiniol y byddai’n trosglwyddo gwerthfawrogiad yr aelodau a’r sylwadau cadarnhaol a gafwyd gan fusnesau i’r staff.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·        Holodd y Cynghorydd Hugh Irving  ynghylch y prosesau i ddiogelu yn erbyn talu hawliadau twyllodrus a chafodd wybod am y gwiriadau sy’n cael eu cynnal i osgoi hyn a’r gwaith pellach sy’n mynd yn ei flaen gydag Archwilio Mewnol a’r Fenter Twyll Genedlaethol. 

Roedd grantiau’n seiliedig ar yr Ardreth Annomestig Cenedlaethol sy'n diogelu rhag cwmnïau ffug er bod elfen ‘yn ôl disgresiwn’ fach ar gyfer busnesau bychan sydd ddim yn talu Ardrethi Annomestig.   Oherwydd yr elfen o hunan-ardystio sy’n rhan o’r broses a rhyddhad cyflym y cyllid mae’n bosibl y gallai fod achosion o wneud taliadau pan na ddylent fod wedi’u gwneud a fydd o bosibl yn arwain at ad-hawlio grantiau.

·        Eglurwyd er nad yw’r sefyllfa diwedd blwyddyn wedi’i chyrraedd eto ac y gallai newid, y rhagamcaniad presennol yw tanwariant o ychydig dros £700k. 

Tynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at y sefyllfa ariannol wael a’r gorwariant a ragwelwyd yn gynharach yn y flwyddyn a’r trawsnewid i’r sefyllfa gadarnhaol hon o ganlyniad i’r cyllid grant a gafodd y cyngor gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: