Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLLAWIAU DIWYGIEDIG DRAFFT AR Y COD YMDDYGIAD

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r Aelodau am ymgynghoriad a gwblheir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsman), ynghylch canllawiau drafft newydd i aelodau etholedig ar y Cod Ymddygiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro Ymgynghoriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Canllawiau Diwygiedig Drafft ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o Gynghorau Sir, Tref, Dinas a Chymuned (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn sôn am ymgynghoriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, (yr Ombwdsman) ynghylch canllawiau drafft newydd i aelodau etholedig ar y Cod Ymddygiad.

 

Cyhoeddwyd Canllawiau presennol yr Ombwdsman ar y Cod Ymddygiad i Aelodau ym mis Awst 2016. Lluniwyd y canllawiau i gynorthwyo aelodau i ddeall eu rhwymedigaethau dan y Cod Ymddygiad. Mae’r pwrpas yn parhau i fod yr un fath ar gyfer y drafft diweddaraf hefyd.

 

Roedd y canllawiau diwygiedig drafft yn destun ymgynghoriad yn dilyn fformat tebyg i’r canllawiau blaenorol. Mae’n ymddangos bod y ddogfen wedi’i diwygio i gynnwys rhagor o eglurder ac mae rhagor o enghreifftiau wedi’u cynnwys i gefnogi hyn, mae’n bosibl y bydd aelodau’n eu hadnabod o fersiynau blaenorol o Lyfr Achosion y Cod Ymddygiad.  Mae’r canllawiau diwygiedig drafft yn teimlo’n fwy cyfoes na’r canllawiau sydd ar waith ar hyn o bryd ac mae’n debyg y byddant o gymorth i gynghorwyr presennol ac aelodau etholedig newydd yn 2022. Mae’n debyg y bydd y dogfennau hyn yn cynorthwyo â darparu hyfforddiant yn dilyn etholiadau 2022.

 

Gwrthododd Panel Dyfarnu apêl gan Gynghorydd Cymuned yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau lleol ei fod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth o eraill trwy bostio sylwadau amrywiol ar-lein yn beirniadu'r aelodau eraill a’r ffordd roedd y Cyngor yn cael ei redeg. Casgliad yr Uchel Lys oedd er bod ei sylwadau yn goeglyd ac yn wawdiol a bod y tôn yn gwawdio ei gyd aelodau, “mynegiad gwleidyddol” oedd ei sylwadau gan fod mwyafrif y sylwadau yn ymwneud â'r ffordd roedd y Cyngor yn cael ei redeg, sut roedd ei benderfyniadau'n cael eu cofnodi, a chymhwysedd yr aelodau. Yn ôl y dyfarniad, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i’r angen bod rhaid i wleidyddion fod yn “groendew”.

 

Yn yr ail achos, clywodd yr Uchel Lys apêl yn erbyn penderfyniad y Panel Dyfarnu bod aelod o gyngor sir wedi torri’r Cod 14 gwaith, trwy fethu â dangos parch ac ystyriaeth i swyddogion y Cyngor, defnyddio ymddygiad o fwlio, ceisio cyfaddawdu ar ddidueddrwydd swyddogion a dwyn anfri ar swyddfa’r aelod. Digwyddodd yr achosion o dorri’r Cod dros gyfnod o ddwy flynedd ac roeddynt yn cynnwys sylwadau ac ymddygiad oedd yn feirniadol o uwch swyddogion a swyddogion iau ac yn fygythiol tuag atynt. Daeth y Llys i'r casgliad bod y Cod wedi cael ei dorri’n fwriadol ym mhob achos a bod rhywfaint o’r camymddwyn yn ddifrifol.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y pwyllgor bod yr adroddiad wedi cael ei drafod yn flaenorol yn y Pwyllgor Safonau, roeddynt yn credu bod y canllawiau yn hawdd i’w darllen, serch hynny roeddynt yn teimlo y dylai fod yna ganllawiau ychwanegol am elfen cyfryngau cymdeithasol o fod yn gynghorydd.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder -

 

·         Fe dynnodd yr aelodau sylw at yr achos cyntaf y soniwyd amdano, am y gwahaniaeth rhwng sylwadau gwleidyddol a phersonol, roeddynt yn teimlo ei bod hi’n anodd derbyn bod yn rhaid i’r rhai mewn swydd gyhoeddus fod yn “groendew”. Teimlwyd bod yr agwedd hon o fod yn gynghorydd yn lleihau awydd pobl rhag bod eisiau sefyll mewn etholiad.

·         Gofynnodd y pwyllgor petaent yn gweld Cynghorydd arall yn torri’r cod ymddygiad, a fyddai hawl ganddynt ymyrryd i’w hysbysu eu bod yn torri’r rheolau. Fe atebodd y Swyddog Monitro gan ddweud bod yr Ombwdsmon yn ffafrio bod mân broblemau lleol rhwng aelodau yn cael eu trin trwy weithdrefnau datrysiad lleol lle y bo’n bosibl. Fe ychwanegodd nad oedd yna unrhyw beth yn y cod ynglŷn â herio ymddygiad gwael, ond roedd gair tawel gan un aelod gydag aelod arall oedd yn cael ei amau o dorri'r cod o fewn rôl cynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn ystyried Canllawiau Diwygiedig Drafft ar God Ymddygiad Aelodau Cynghorau Sir, Tref, Dinas a Chymuned.

 

 

Dogfennau ategol: