Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELL

Ystyried adroddiad oddi wrth y Prif Lyfrgellydd ar berfformiad y Cyngor yn erbyn y 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 a’r cynnydd a wneir i ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau lles a chadernid lles unigol a chymunedol.

10:45 – 11:15

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata, Liz Grieve yr adroddiad (eisoes wedi’i gylchredeg) a oedd yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2019/2020 a oedd hefyd wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd pob un o’r Hawliau Craidd wedi cael eu cyflawni (cyfeiriwyd at Atodiad A). O’r 16 o Ddangosyddion Ansawdd roedd gan 10 ohonynt dargedau. Roedd y cyfyngiadau oherwydd Covid-19 wedi cael effaith ar Ddangosyddion Ansawdd ac o ganlyniad dilëwyd rhai ohonynt. Roedd trafodaethau ar y gweill ynglŷn â sut y gellid asesu perfformiad ar gyfer blwyddyn 2020/2021 ond mae’n debyg y byddai’n fwy o adroddiad naratif. O’r 9 targed a oedd yn weddill ar gyfer 2019/2020; cafodd 7 eu cyflawni yn llwyr, 1 yn rhannol ac 1 a oedd heb gyflawni’r targed.

 

Nid oedd unrhyw newid sylweddol i adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Ddinbych. Cafodd ymrwymiad Sir Ddinbych i iechyd a lles – partneriaethau gweithredol gyda Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chyrff y Trydydd Sector – ei nodi ac ystyriwyd bod hynny’n bwysig wrth fynd ymlaen.  Hefyd yn bwysig oedd defnyddio mwy o adnoddau digidol a chanolbwyntio ar ddatblygu staff.

 

Nid oedd y Dangosydd Ansawdd ar gyfer deunydd darllen cyfredol a phriodol wedi cael ei gyflawni. Er bod deunyddiau newydd yn cael eu caffael, nid oedd gwariant wedi cyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y gwaith a wnaethpwyd gan lyfrgelloedd a phartneriaethau ledled gogledd Cymru yn golygu nad oedd hynny wedi cael effaith ddifrifol ar breswylwyr.

 

Roedd Sir Ddinbych wedi cyrraedd y brig (allan o 22 o awdurdodau Cymreig) am nifer y llyfrau Cymraeg a fenthycwyd fesul pen o’r boblogaeth. Canmolwyd y staff a oedd yn gyfrifol am drefnu grwpiau darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Rhoddodd y Prif Lyfrgellydd, Bethan Hughes, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am rôl llyfrgelloedd yn ystod pandemig Covid-19 a chyfnodau clo dilynol gan gynnwys:

 

·         adleoli staff i ddarparu gwasanaeth Galwadau Rhagweithiol y Cyngor i breswylwyr sydd ar y rhestr warchod;

·         ehangu a hyrwyddo’r Llyfrgell Ddigidol – gwelwyd cynnydd o 118% mewn benthyca digidol.

·         newid gwasanaeth y tîm Dechrau Da i fod yn wasanaeth ar-lein;

·         cyflwyno gwasanaeth Archebu a Chasglu llyfrau llyfrgell wrth i gyfyngiadau lacio;

·         darparu gwasanaethau Siop Un Alwad ar-lein a thros y ffôn;

·         derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal prosiect gweddnewid digidol i ailddyrannu ystafelloedd bach mewn llyfrgelloedd er mwyn caniatáu i breswylwyr eu harchebu i gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar y rhyngrwyd a

·         hyfforddi staff llyfrgelloedd i gynnal digwyddiadau ar-lein.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor:

 

·         wrth ddychwelyd i’r drefn arferol byddai cwsmeriaid yn parhau i gael eu cefnogi i dalu eu biliau mewn dulliau eraill (heb fod ar-lein) y tu allan i'r llyfrgell.

·         roedd cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys dolenni mynediad i’r Gwasanaeth Archifau a’i lyfrgell gwybodaeth;

·         cafodd cwsmeriaid eu cyfeirio a'u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau digidol ar-lein ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

·         roedd penderfyniad ymwybodol wedi cael ei wneud (sawl blwyddyn yn ôl) i ostwng y gyllideb sy’n cael ei gwario ar lyfrau newydd ac roedd hynny'n annhebygol o newid yn y dyfodol gan y teimlwyd bod y Gwasanaeth, trwy reoli'n ofalus, yn gallu ateb galw’r darllenwyr o fewn ei adnoddau cyfyngedig;

·         roedd yn rhaid i lyfrgellwyr ystyried llyfrau poblogaidd yn erbyn pynciau arbenigol gan weithio o fewn cyllideb. Mantais cydweithio’n agos â llyfrgelloedd gogledd Cymru oedd y gellid cael gafael ar lyfrau arbenigol o wasanaethau llyfrgelloedd eraill ambell waith.

Canmolodd y Pwyllgor waith staff y Llyfrgelloedd.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)   derbyn a llongyfarch Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor ar ei berfformiad yn erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru; a

(ii) bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2022 ar sut mae’r Gwasanaeth wedi perfformio yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn ystod 2020/21 a'r modd y mae wedi addasu ei wasanaeth i ddiwallu anghenion preswylwyr yn ystod y flwyddyn.

 

Dogfennau ategol: