Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - THE ROYAL VICTORIA, SANDY LANE, PRESTATYN
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod yr oriau a ganiateir ar gyfer Cerddoriaeth wedi'i Recordio a Cherddoriaeth Fyw yn yr eiddo yn cael eu cwtogi i 12 hanner nos, dydd Llun i ddydd Sul a gosod amod o ran gweithredu mesurau lleihau sŵn.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
cais a dderbyniwyd gan Mr. M. O’Grady, Ysgrifennydd Cwmni
Victoria Apartments (Prestatyn) Ltd i Adolygu Trwydded Eiddo sydd gan Admiral
Taverns Limited mewn perthynas â The Royal Victoria, Sandy Lane, Prestatyn (mae
copïau o’r Drwydded Eiddo bresennol a’r atodlen weithredu
bresennol wedi eu hatodi yn Atodiad A yr adroddiad);
(ii)
cyflwynwyd y cais yn wreiddiol
yn Chwefror 2020 ac oherwydd y pandemig gohiriwyd wedi hynny yr Is-bwyllgor
Trwyddedu oedd i fod i wrando ar y cais ym Mawrth 2020;
(iii)
yr achos am adolygiad yn ymwneud ag amcanion trwyddedu
atal trosedd ac anrhefn ac atal niwsans cyhoeddus ac, yn benodol, fel y nodir
ar y cais, bod problemau sŵn yn yr eiddo ac o’i amgylch yn effeithio ar
eiddo preswyl, ynghyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (mae manylion llawn y Cais
am Adolygiad wedi eu hatodi yn Atodiad B yr adroddiad);
(iv)
Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau (Atodiad C yr
adroddiad) wrth ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol o’r Cais am
Adolygiad ac ar ôl edrych ar systemau’r Heddlu nid oeddent wedi codi unrhyw
bryderon ynghylch cyfrifoldebau’r lleoliad dan yr amcanion trwyddedu yn ymwneud
ag atal trosedd ac anrhefn a niwsans cyhoeddus;
(v)
sylwadau a dderbyniwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor
(Atodiad D yr adroddiad) yn cadarnhau rhywfaint o gysylltiad ers 2017 ynghylch
cwynion sŵn yn gysylltiedig â’r eiddo ond nid oedd y cwynion hynny wedi eu
profi felly ni chymerwyd camau gweithredu pellach;
(vi)
derbyniwyd naw datganiad gan lesddeiliaid/preswylwyr
Victoria Apartments (Atodiad E yr adroddiad) i gefnogi’r Cais am Adolygiad sy’n
cyfeirio at aflonyddwch sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
(vii)
derbyniwyd sylwadau hefyd gan Ddeilydd y Drwydded Eiddo
sef Admiral Taverns Limited (Atodiad F yr adroddiad) a’r Goruchwylydd Eiddo
Dynodedig (Adroddiad G yr adroddiad) wrth ymateb i’r Cais am Adolygiad a
materion a oedd yn codi o hynny;
(viii)
cyfryngu rhwng partïon wedi arwain at gyflwyno
cynigion gan yr Ymgeisydd i fynd i’r afael â’r pryderon, sef cwtogi oriau agor
a gosod mesurau ynysu rhag sŵn (Atodiad H yr adroddiad). Ymatebodd Deilydd
y Drwydded Eiddo na allai gytuno â'r cynnig i gwtogi'r oriau gan na fyddai
hynny'n gwneud y safle’n hyfyw ond cytunodd y byddai’n cwrdd â swyddogion ar y
safle i ystyried mesurau lleihau sŵn (Atodiad I yr adroddiad). Serch hynny, oherwydd
cyfyngiadau Covid-19, nid oes cyfarfod wedi ei gynnal ar y safle hyd yma;
(ix)
yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan gyfeirio at
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a’r sylwadau a dderbyniwyd,
ac
(x)
yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu
ar y cais.
Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd
yr Ymgeisydd, Mr. M. O’Grady, Ysgrifennydd Cwmni Victoria Apartments
(Prestatyn) Ltd (VAPL) yn bresennol i gefnogi’r Cais am Adolygiad.
Wrth
gyflwyno’i achos, cyfeiriodd Mr. O’Grady at yr achos dros gael adolygiad, fel y
manylir amdano yn y cais a gefnogir gan naw datganiad gan dystion (Atodiad E yr
adroddiad). Rhoddodd ychydig o gefndir y
gwahanol bartïon sy’n gysylltiedig â hyn, gan gynnwys Admiral Taverns fel
rhydd-ddeiliad yr adeilad cyfan, ac esboniodd fod yr hen westy wedi cael ei droi'n
ddau ar hugain o unedau preswyl a osodir ar les hir, a bod Admiral Taverns wedi
cadw un fflat, ynghyd â thafarn y Victoria.
Tan 2017 roedd dau o gyfarwyddwyr VAPL hefyd yn aelodau o fwrdd Admiral
Taverns ond, oherwydd gwrthdaro buddiannau, nid ydynt bellach ar y bwrdd ac mae
dau lesddeiliad hir wedi cymryd eu lle - roedd un ohonynt, Ms. D. Harrison, yn
bresennol yn y gwrandawiad.
Ymatebodd
Mr. O'Grady i’r sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Admiral Taverns (Atodiad
F yr adroddiad) fel a ganlyn -
·
cyfeiriwyd at gwynion na chafodd
eu rhoi gerbron y Cyngor ond yn y datganiad a roddwyd gan Mrs. E. Davies
(Atodiad E yr adroddiad, tudalennau 42 - 45) cyfeiriodd at gwynion parhaus
uniongyrchol rhyngddi hi a'r Goruchwylydd Eiddo Dynodedig dros y pum mlynedd
ddiwethaf.
·
cyfeiriwyd at ddarparu
datganiadau generig, gan awgrymu eu bod wedi cael eu paratoi gan yr un
person.
Cadarnhaodd
Mr. O’Grady ei fod wedi paratoi datganiad tyst generig ac fe’i rhoddodd i Mrs.
E. Davies er mwyn cofnodi tystiolaeth ac nid oedd unrhyw beth o’i le ar hynny.
·
o ran y diffyg tystiolaeth i
gadarnhau niwsans sŵn yn nhermau logiau sŵn/camau gweithredu gan y
cyngor, dywedwyd bod llesddeiliaid/tenantiaid wedi darparu tystiolaeth yn
agored ac na chafodd ei herio’n uniongyrchol
·
wrth sôn am y galw am fwy o
ddeialog wrth symud ymlaen, nid oedd Admiral Taverns wedi gwneud unrhyw ymdrech
i ystyried anghenion tenantiaid
·
deallwyd bod yr eiddo'n
gweithredu'r oriau agor hwyraf yn y dref uwchben un o’r adeiladau mwyaf poblog,
ac roedd angen sicrhau bod lefel y sŵn yn gymesur â hynny.
I
gloi, cyfeiriodd Mr. O'Grady at y cynigion a roddodd fel rhan o'r broses
gyfryngu (Atodiad H yr adroddiad) i’r oriau agor gyd-fynd â thafarndai eraill
yn y dref, sef tan 11.00pm o ddydd Sul i ddydd Iau, a hanner nos ar ddydd
Gwener a dydd Sadwrn. Ymatebodd Admiral
Taverns na allent gytuno gyda chwtogi’r oriau i 11.00pm bob dydd gan gynnwys
penwythnosau (dylid nodi bod y cynnig yn nodi hanner nos ar ddydd Gwener a dydd
Sadwrn) gan na fyddai hynny’n fodel busnes hyfyw. Dadleuodd Mr. O’Grady y dangosai hyn fod yr
eiddo’n brysurach yn hwyrach yn y nos. O
ran cynigion i osod mesurau ynysu rhag sŵn, er gwaethaf y sicrwydd a
roddwyd y byddai hyn yn cael ei wneud, nid yw Admiral Taverns wedi rhoi unrhyw
fesurau ar waith i leihau sŵn hyd yma.
CYFLWYNIAD
ADRAN RHEOLI LLYGREDD Y CYNGOR
Siaradodd Ms. M. White, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,
am y sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor
(Atodiad D y cais) gan nodi eu bod wedi derbyn chwech o gwynion am sŵn
rhwng 2017 a 2019. Ar bob achlysur, gofynnwyd i'r achwynydd gyflwyno log
sŵn ond dim ond un a ddychwelwyd a oedd yn nodi gwybodaeth generig fod
sŵn yn broblem ar nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul heb nodi dyddiadau
penodol. Cynigiwyd
offer recordio i un tenant, ond daeth i’r amlwg mai hi oedd Landlord yr eiddo
ac esboniwyd mai’r tenant a fyddai angen yr offer recordio at ddibenion monitro
sŵn ac ni dderbyniwyd adroddiadau pellach. Felly ni allai’r Adran Rheoli
Llygredd gadarnhau’r honiadau am niwsans sŵn.
CYFLWYNIAD
HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Roedd Mr. A. Haggas, Rheolwr Trwyddedu o Heddlu
Gogledd Cymru wedi ymuno â’r cyfarfod ond ni ellid sefydlu deialog a chymerwyd
fod ganddo broblemau technegol. O ganlyniad, byddai sylwadau
ysgrifenedig Heddlu Gogledd Cymru (Atodiad C yr adroddiad) yn cael eu hystyried
yn ystod trafodaethau’r Is-bwyllgor.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i Mr. O’Grady
(Ymgeisydd) a ymatebodd fel a ganlyn -
·
roedd wedi drafftio templed ar gyfer datganiad tyst
er mwyn ei gwneud yn haws i gasglu tystiolaeth ac roedd Mrs. E. Davies wedi
cynorthwyo i gasglu'r dystiolaeth honno gan lesddeiliaid/preswylwyr; roedd hyn
yn esbonio’r ffurflen generig a’r iaith gyson a ddefnyddiwyd ac roedd pob
ffurflen wedi ei harwyddo fel datganiad gwir.
·
cyflwynwyd naw datganiad i gefnogi’r Cais am
Adolygiad; ef ei hun oedd yn berchen ar un o’r fflatiau ond nid oedd yn byw yno
ac nid oedd wedi rhoi datganiad tyst. Ar ôl cerdded o amgylch yr
adeilad, dywedodd nad oedd lefel y sŵn yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl ei
glywed y tu mewn i adeilad preswyl.
·
esboniodd mai llesddeiliaid a roddodd gyfran
helaeth o’r dystiolaeth, a chan ystyried bod y fflatiau’n cael eu rhentu ar
denantiaethau byr yn bennaf, ni fyddai’r tenantiaid hynny’n elwa rhyw lawer
drwy gyfrannu at waith yr adolygiad
·
wrth gyfeirio at y ffaith na sonnir am y sŵn
mewn adolygiadau am yr adeilad ar Airbnb, esboniodd mai dyma sut roedd ei fflat
ei hun yn cael ei osod ac roedd mewn safle o fewn yr adeilad lle na chlywir
sŵn; esboniodd fod lefel y sŵn a glywir yn dibynnu ar leoliad y fflat
yn yr adeilad, a'r rhai sydd union uwchben y dafarn sy’n dioddef waethaf, ac ar
benwythnosau'n bennaf. Mae tua 3/4 o’r fflatiau’n cael
eu rhentu am gyfnodau byr drwy Airbnb
·
o ran gwrthod cynnig y Cyngor i gael offer monitro
sŵn oherwydd yr amseru, ailadroddwyd bod yr offer monitro wedi ei gynnig
ym mis Ionawr ac roedd yr achwynydd wedi esbonio ei bod yn dawel ar y pryd a
bod y problemau sŵn rhwng Mawrth a Rhagfyr fel arfer.
·
cadarnhaodd ei fod wedi ymweld â’r adeilad
sawl tro i oruchwylio gwaith adnewyddu a wnaed ar y tu allan - roedd yn ymweld
â’r adeilad tua phedair gwaith y flwyddyn. Cyfeiriodd at lawer o’r rhai â
chysylltiad a oedd yn bresennol ac sydd yn yr adeilad yn rheolaidd, ac felly
mewn sefyllfa well i sôn am y problemau sy’n codi
·
nododd amseroedd agor hwyr rhai o’r eiddo
trwyddedig eraill ym Mhrestatyn y soniwyd amdanynt wrth ymateb i'r galw i
gwtogi oriau agor yr adeilad er mwyn cyd-fynd â thafarndai eraill yn yr ardal.
Gofynnodd y Cadeirydd i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
ymhelaethu ar ei datganiad o ran dyddiadau ac amseroedd y cwynion a dderbyniwyd
a dywedodd -
·
fod cwynion wedi eu derbyn ym Mehefin 2017, Ebrill
2018, Mehefin 2018, Hydref 2018 a Rhagfyr 2019 – ar bob achlysur, anfonwyd
taflenni logio niwsans sŵn at yr achwynydd ond ni chawsant eu dychwelyd
·
yn Chwefror 2019, dychwelwyd taflenni logio
sŵn yn cofnodi na allai’r achwynydd gysgu tan ar ôl 2.00am ar nos Wener,
nos Sadwrn a nos Sul ac roedd yn digwydd yn rheolaidd bob wythnos gan
effeithio, i raddau amrywiol, ar 5/6 fflat yn yr adeilad.
Ni roddwyd dyddiadau nac
amseroedd penodol am y niwsans sŵn. Cofnododd hefyd fod y Landlord yn
hawdd iawn siarad â hi ac yn cydymdeimlo pan roedd yn cael ei hatgoffa am y
sŵn ond, ymhen amser, byddai’r lefelau sŵn yn cynyddu unwaith eto. Cynigiwyd
offer monitro sŵn ond fe’i gwrthodwyd.
·
yn dilyn cwyn ym Mai 2019 anfonwyd taflenni logio
niwsans sŵn a ‘Noise App’ at yr
achwynydd ond ni chafwyd ymateb.
CYFLWYNIAD Y
RHAI Â CHYSYLLTIAD
Derbyniwyd naw o sylwadau ysgrifenedig (Atodiad E yr
adroddiad) gan lesddeiliaid/tenantiaid Victoria Apartments i gefnogi’r Cais am
Adolygiad ac roedd pob un yn ymwneud ag aflonyddwch sŵn a rhai yn ymwneud
ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd y rhai â chysylltiad a oedd
yn bresennol yn y gwrandawiad yn cynnwys (1) Mrs. E. Davies, (2) Mr. G. Jones,
a (3) Mr. J. Morris a Ms. A. Hollrah a rhoddwyd cyfle i bob un siarad yn y
gwrandawiad i gefnogi eu sylwadau ysgrifenedig.
Mrs. E. Davies
– dywedodd ei bod wedi gwneud sawl cwyn i'r Adran Rheoli Llygredd ac roedd
yn dyst i niwsans sŵn o fis Mawrth tan ddathliadau'r Flwyddyn Newydd, bob
penwythnos, ac roedd hyn yn digwydd ers blynyddoedd. Yn wreiddiol, cysylltodd â’r Tîm
Trwyddedu i drafod y mater ond yn ddiweddarach cyfarfu â’r Landlord a ddywedodd
wrthi ddelio’n uniongyrchol â hi. Wedi hynny, bu yn y dafarn yn
rheolaidd i ofyn iddynt droi'r gerddoriaeth i lawr. Er bod y Landlord wedi bod yn
barod iawn i drafod, nid oedd hi ar y safle bob amser, ac yn anochel byddai
lefel y sŵn yn cynyddu dros amser. Roeddent wedi trafod ffyrdd i
ynysu rhag sŵn ond dywedodd y Landlord na allai eu fforddio. Mae’r Landlord
wedi gadael ers hynny ac roedd pryderon ynghylch y ffordd byddai’r dafarn yn
cael ei rhedeg o dan y rheolwyr newydd, gan na fyddent efallai mor barod i
drafod ac y byddent eisiau defnyddio cymaint o oriau trwyddedu â phosibl.
Esboniodd Mrs. Davies fod ei fflat yn cael ei osod am
gyfnodau byr ac felly nad oedd wedi gallu defnyddio'r offer monitro sŵn a
ddarparwyd; nid oedd ei chymdoges yn aros yn yr adeilad dros y penwythnos
bellach, oherwydd y sŵn, felly ni allai hithau fonitro’r sŵn chwaith,
ac ni chafodd lawer o lwyddiant gyda'r Noise
App. Defnyddiai
Airbnb i osod y fflat am gyfnodau byr gan nad oedd y fflat yn addas ar gyfer
tenant llawn amser oherwydd y sŵn ac mae’n ei osod yn ystod yr wythnos yn
unig neu mae'n sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o'r sŵn ar y penwythnos
ac yn cynnig gostyngiad yn y pris i wneud iawn am hynny. Roedd un fflat wedi bod yn wag am
fisoedd ac roedd dwy set o denantiaid yn gadael oherwydd y sŵn.
Gan ymateb i alwadau gan Admiral Taverns i gyfryngu,
roedd wedi ceisio trafod â’r Landlord ers blynyddoedd ond ni chafodd lwyddiant. Derbyniwyd bod
y dafarn yn cydymffurfio a’i horiau trwyddedu ond ni chysylltwyd â’r trigolion
ynghylch newid y drwydded i 3.00am a oedd yn rhy hwyr o lawer i’w weithredu
mewn adeilad preswyl. Roedd
eiddo trwyddedig eraill ym Mhrestatyn sydd â thrwyddedau hwyr wedi'u lleoli yng
nghanol y dref ac roedd ganddynt fesurau priodol yn eu lle i ynysu rhag
sŵn. O ran
yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a welwyd, roedd rhai preswylwyr wedi galw'r
Heddlu yn y gorffennol ond ni wnaethant fawr ddim amdano ac felly roedd y
preswylwyr bellach yn amharod i adrodd yn ei gylch. Wrth gloi, gofynnodd am i’r oriau
trwyddedu gael eu cwtogi ac i fesurau ynysu rhag sŵn gael eu gosod er mwyn
mynd i'r afael â'r broblem sŵn.
Ms. D.
Harrison – dywedodd na allai gysgu yn ei fflat oherwydd
curiadau’r gerddoriaeth a ddeuai o’r dafarn ac roedd wedi gosod ffenestri gwell
er mwyn ymdrin â’r niwsans sŵn. Pwysleisiodd y niwsans a welwyd pan
fyddai cwsmeriaid yn ymgynnull y tu allan, pobl yn ysmygu o flaen yr adeilad a
dal tacsi ayb. Ychwanegodd nad yw eiddo trwyddedig eraill ym Mhrestatyn yn
masnachu tan yr oriau mân, beth bynnag yw'r oriau a ganiateir ar eu cyfer. [Nid
oedd Ms. Harrison wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig cyn y gwrandawiad.]
Mr. G. Jones –
nododd ei fod wedi byw yn yr adeilad tan 2011 a’i fod wedi cwyno wrth y Cyngor
bryd hynny am ddirgryniadau sŵn a fyddai’n ei gadw ar effro yn y nos. Byddai ei
denant yn cwyno’n aml am sŵn a dirgryniadau a fyddai’n ei gadw ar effro yn
hwyr iawn yn y nos, yn ogystal â phobl yn ysmygu’r tu allan ac yn achosi
helynt, a byddai hyn yn peri gofid iddo.
Mr. J. Morris
a Ms. A. Hollrah – nid yw’r gerddoriaeth/sŵn yn effeithio’n
uniongyrchol ar eu fflat ond gellid clywed cerddoriaeth yn y pellter ar brydiau
a byddai'r adeilad cyfan yn crynu oherwydd effaith y gerddoriaeth. Ni ellir
gwadu’r ffaith fod niwsans sŵn yn broblem i bobl mewn fflatiau eraill sy’n
agosach at y dafarn gan fod preswylwyr yn cwyno am y sŵn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Roeddent
yn credu bod oriau trwyddedu tan 3.00am yn rhy hwyr o lawer mewn lleoliad
preswyl a chredent fod yr achos a gyflwynir i gefnogi’r Cais am Adolygiad yn
cynrychioli’r sefyllfa’n gywir ac roeddent yn cydymdeimlo â’r preswylwyr y mae
hyn yn effeithio arnynt. O ran
natur generig y datganiadau, rhoddwyd sicrwydd nad oedd unrhyw fath o
gydgynllwynio.
SYLWADAU DEILYDD Y DRWYDDED EIDDO
Roedd Mr.
D. Kelly, Arweinydd Tîm Trwyddedu Admiral Taverns yn bresennol fel Deilydd y
Drwydded Eiddo (Admiral Taverns) i gefnogi adolygiad y drwydded.
Cadarnhaodd
Mr. Kelly fod y Landlord/Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ar fin gadael ac nad oedd
wedi derbyn cadarnhad fod tenant newydd wedi cael ei recriwtio. Os daw tenant newydd a bod y dafarn yn
ailagor ar ôl y cyfnod clo, byddai’r pwyslais ar reoli’r eiddo’n briodol er
mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd.
Rhoddwyd sicrwydd y byddai Admiral Taverns yn ymdrin ag unrhyw gwynion a
dderbynnir mewn modd rhagweithiol ac y byddent yn cynnal trafodaethau gyda’r
Cyngor a’r Heddlu; oherwydd y diffyg tystiolaeth yn yr achos hwn a’r ffaith nad
aeth y Cyngor â’r cwynion sŵn ymhellach, roedd yn anodd gweld faint o broblem
oedd hyn a phenderfynu ar y camau gweithredu gorau. Yn sgil y cyfeiriadau a wnaed at sŵn yn
y datganiadau ysgrifenedig, teimlai Mr. Kelly y byddai mesurau i ynysu rhag
sŵn yn addas a chytunwyd eisoes i gyfarfod gyda swyddogion Rheoli Llygredd
ar y safle pan fyddai cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny. Ni chredir bod y cynnig i gwtogi oriau agor
yn briodol yn yr achos hwn a chredir y byddai’n well ymdrin â’r materion a
godwyd drwy roi mesurau rheoli eraill ar waith, er enghraifft rheolau'r ardd
gwrw, ysmygwyr ayb.
Gan
ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe ddywedodd Mr. Kelly -
·
nad oedd yn sicr pryd gwnaed y
cais i newid yr oriau i 3.00am ond roedd y drefn yn nodi bod angen arddangos
rhybudd o'r newid yn yr eiddo ynghyd â hysbyseb yn y papur newydd
·
roedd yn cydnabod bod
problemau sŵn yn gysylltiedig â’r eiddo yn hwyrach yn y nos a’i fod wedi
trafod cwynion sŵn gyda’r Cyngor
·
nid oes unrhyw dystiolaeth
mai’r dafarn sy'n gyfrifol am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol y cyfeiriwyd ato
ac roedd elfen o gymryd hynny'n ganiataol; roedd yn cytuno y dylid rhoi gwybod
i’r Heddlu yn uniongyrchol am ymddygiad gwrthgymdeithasol, beth bynnag fo’r
amser.
·
cadarnhaodd ei fod yn fodlon
trafod gyda’r Cyngor sut y gellid gosod mesurau lleihau sŵn, megis ynysu
rhag sŵn, er mwyn cyfyngu arno, ynghyd â sicrhau bod y tenant newydd yn
ymgorffori mesurau eraill i reoli sŵn a’i fod yn rheoli'r ardd gwrw,
ysmygwyr ac ati yn well.
·
cytunai'n gryf y dylid
cyfryngu ond nid oedd yn cefnogi y dylid cwtogi’r oriau ac ni chredai y
byddai'n helpu'r sefyllfa, yn lle hynny roedd yn ffafrio rheoli'r eiddo'n well
er mwyn ymdrin â phryderon ac ychwanegodd na chafwyd unrhyw broblemau gyda’r
oriau trwyddedu a godwyd gan yr Heddlu.
Caniataodd
y Cadeirydd i Mrs. Davies ymateb i nifer o bwyntiau a godwyd gan Mr.
Kelly. Wrth gyfeirio at y galw i
gyfryngu, roedd wedi ceisio cyfryngu gydag Admiral Taverns, Landlord y dafarn
ac wedi cysylltu â’r Cyngor ers 2016. Er
bod pawb yn ymddangos fel petaent yn derbyn ei sylwadau, parhau wnaeth y
problemau. Gwnaed ymdrech arall i
gyfryngu yn dilyn y Cais am Adolygiad, ac er y derbyniwyd ymatebion cadarnhaol
o ran mesurau ynysu rhag sŵn, credai fod cwtogi’r oriau’n hanfodol i fynd
i’r afael â’r problemau. Byddai
preswylwyr wedi rhoi sylwadau am y cais i newid yr amser i 3.00am pe baent yn
ymwybodol ohono.
Gofynnodd
y Cadeirydd i Mrs. Davies am eglurder ynghylch manylion penodol am y niwsans
sŵn a brofwyd, gan gynnwys amseroedd a dyddiadau. Atebodd Mrs. Davies bod -
·
cerddoriaeth swnllyd i’w glywed
gan y DJ a’r karaoke bob penwythnos, gan gychwyn ym mis Mawrth, a byddai’n
tawelu ar ôl y Flwyddyn Newydd pan fyddai'r parciau carafanio yn cau.
·
ar un achlysur, gan fod y
gerddoriaeth mor uchel am 8.00pm ar nos Sul, gofynnodd iddo gael ei droi i lawr
·
roedd y niwsans sŵn a
gafodd yn ei fflat yn cynnwys cerddoriaeth a lleisiau
·
gwnaeth y Landlord gau’r ardd
gwrw o’i gwirfodd am 8.30pm oherwydd cwynion, serch hynny, byddai pobl wedyn yn
tueddu i ymgynnull o flaen yr adeilad
·
byddai pobl yn ymgynnull y tu allan
i'r adeilad i ysmygu a siarad
·
arferai llesddeiliaid ffonio’r
Heddlu ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ond roeddent wedi rhoi’r gorau iddi
dros y blynyddoedd diwethaf gan nad oedd unrhyw beth yn cael ei wneud yn ei
gylch.
Gwahoddodd
y Cadeirydd gwestiynau gan Mr. O’Grady a ddywedodd na chafwyd tystiolaeth i
herio’r honiad na ymgynghorwyd â'r llesddeiliaid/tenantiaid ar y newid
gwreiddiol i’r oriau tan 3.00am ac er bod Admiral Taverns wedi cytuno y byddent
yn ystyried mesurau ynysu rhag sŵn, nid oeddent wedi gwneud unrhyw beth yn
ei gylch dros y deuddeg mis diwethaf.
Atebodd Mr. Kelly ei fod yn bresennol i drafod problemau sŵn, y
drwydded eiddo a chwynion. Esboniodd fod
amseriad y Cais am Adolygiad, yn syth cyn y cyfnod clo, ac effaith Covid-19 wedi
atal pethau rhag symud yn eu blaenau ond roedd mewn trafodaethau gyda Rheoli
Llygredd a bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ar y safle pan fydd hynny’n bosibl a
chroesawodd bresenoldeb y rhai eraill â
chysylltiad i’r cyfarfod hwnnw, gan nodi mai cyfryngu yw’r ffordd orau ymlaen.
Gofynnodd
y Cadeirydd am eglurder gan y rhai eraill â chysylltiad a oedd yn bresennol, am
eu profiadau penodol o ran niwsans sŵn.
Dywedodd Mr. G. Jones ei fod wedi teimlo dirgryniadau sŵn pan oedd
ef yn byw yn yr adeilad, ac roedd yn eu disgrifio fel 'dyrnu bas - bwm, bwm,
bwm'. Cysylltodd â’r Cyngor yn 2011 a
chafodd offer recordio ganddynt ond nid oedd yn codi’r dirgryniadau. Dywedodd ei denant wrtho bod y niwsans yn
parhau tan yn hwyr ac roedd yn ei chael yn anodd cysgu o’r herwydd ond ni
roddwyd amseroedd penodol. Disgrifiodd
Ms. A. Hollrah guriad gerddoriaeth fas a dirgryniadau’n dod o’r dafarn a
dreiddiai drwy’r adeilad a pharhau tan 1.00am, a’r prif ddyddiau oedd dydd Iau,
dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul. Er
nad oedd y dirgryniadau'n effeithio arni bob amser gan mai hi oedd y pellaf
oddi wrth y dafarn, gwyddai ei fod yn effeithio'n wael ar rai eraill a oedd yn
agosach at y dafarn.
Gofynnodd
y Cadeirydd un cwestiwn olaf i Mr. Kelly ynglŷn â mesurau i ymdrin â
chwsmeriaid yn defnyddio’r ardd gwrw neu’n ymgynnull y tu allan i’r eiddo. Atebodd Mr. Kelly y byddai’r tenant newydd yn
gyfrifol am sicrhau bod mesurau rheoli cadarn yn eu lle ond gellid cymryd sawl
cam, er enghraifft cau rhai ardaloedd penodol, sicrhau nad yw pobl yn mynd â
diodydd y tu allan, arwyddion, a chyfyngu ar y nifer sy'n defnyddio’r ardd
gwrw. Awgrymodd y byddai cau’r ardd gwrw
am 11.00pm yn rhesymol a phwysleisiodd ddyletswydd gofal y tenant i gwsmeriaid
a phreswylwyr.
[Ar y pwynt hwn (11.55am) ac wrth ymateb i
gais gan Mr. O'Grady, caniataodd y Cadeirydd egwyl o ddeg munud. Ar ôl ailddechrau'r cyfarfod, estynnodd y
Cadeirydd wahoddiad i Mr. O'Grady roi datganiad terfynol.]
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Yn ei ddatganiad terfynol, amlygodd Mr. O’Grady y materion a ganlyn -
·
cyfeiriodd at amharodrwydd y
preswylwyr i gysylltu â’r Heddlu ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol i esbonio
pam nad oedd yr Heddlu wedi codi sylwadau anffafriol.
·
wrth gyfeirio at y ffaith nad
oedd Rheoli Llygredd yn gallu cadarnhau niwsans sŵn, awgrymodd y gallai
swyddog fod wedi ymweld â’r adeilad i glywed y sŵn ei hun ac roedd y
datganiadau niferus gan dystion i gadarnhau’r sŵn a’r datganiadau a
roddwyd ar lafar yn y gwrandawiad yn gwneud iawn am y diffyg logiau sŵn
·
cafodd Admiral Taverns
ddeuddeg mis i edrych ar fesurau ynysu rhag sŵn, a llawer hirach os
derbynnir tystiolaeth Mrs. Davies ac eraill, ac ni chadarnhawyd unrhyw
gyfeiriadau a wnaed ynghylch eu pryder am les preswylwyr
·
er gwaethaf effaith Covid-19,
bu cyfleoedd i gael dyfynbrisiau am waith lleihau sŵn; gellid dadlau ei
fod yn gyfnod da i wneud y gwaith gan na fyddai'n effeithio ar oriau masnachu
arferol
·
dymunai Admiral Taverns osod y
dafarn gyda'r drwydded hwyraf bosibl a gwrthodai gytuno ar gwtogi oriau ar sail
pa mor hyfyw fyddai’r model busnes, gan awgrymu
mai'r oriau hwyraf yw’r rhai mwyaf proffidiol.
·
nid oedd mesurau rheoli ategol yn ymwneud â rheoli’r ardd
gwrw a chwsmeriaid yn ysmygu ayb yn mynd i’r afael â phrif broblem yr amserau agor,
sef y brif ffordd i ymdrin â’r broblem
·
er bod y drwydded ar fin cael
ei hadolygu, nid oedd Admiral Taverns wedi cymryd camau pendant i roi mesurau
ynysu rhag sŵn ar waith, sy’n cwestiynu a fyddai unrhyw fuddsoddiad yn
cael ei wneud yn hyn o beth, yn enwedig am nad oedd tafarnwr yn y dafarn ar hyn
o bryd.
I gloi, dywedodd Mr. O’Grady ei fod yn adeilad preswyl gan fod Admiral
Taverns wedi ei droi’n adeilad o’r fath, a bod tystiolaeth ysgubol,
ddiwrthwynebiad o niwsans difrifol, sy’n un o’r amcanion trwyddedu y dylid ei
ystyried. Gan ystyried y ffaith nad yw Admiral Taverns wedi
cymryd unrhyw gamau i osod mesurau lleihau sŵn, roedd Mr. O'Grady yn erfyn
ar yr Is-bwyllgor i gwtogi oriau agor yr eiddo fel y cynigiwyd yn flaenorol i
11.00pm o nos Sul i nos Iau, a hanner nos ar nos Wener a nos Sadwrn.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y
pwynt hwn (12.15pm), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall, ac aeth
yr Is-bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried y cais mewn sesiwn breifat.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD –
(a) bod yr amodau ar y Drwydded
Eiddo sy'n ymwneud â cherddoriaeth yn cael eu haddasu i gwtogi'r oriau a
ganiateir ar gyfer Cerddoriaeth Wedi'i Recordio a Cherddoriaeth Fyw yn yr eiddo
i hanner nos o ddydd Llun i ddydd Sul, a
(b) gosod amod bod rhaid i
Ddeilydd y Drwydded Eiddo ymgynghori’n weithredol gydag Adrannau Rheoli
Llygredd a Thrwyddedu y Cyngor o ran mesurau lleihau sŵn, gyda’r bwriad i
greu cynllun gwaith megis mesurau priodol i ynysu rhag sŵn a gwaith ar y
ffenestri (yn yr eiddo yn unig), i'w cymeradwyo gan y Cyngor. Y mesurau a gynllunnir i
leihau sŵn i'w cwblhau o fewn chwe mis at foddhad rhesymol yr Adran
Drwyddedu mewn ymgynghoriad â Rheoli Llygredd.
Y rhesymau dros y penderfyniad yw
-
Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu
wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus ynghyd â’r sylwadau ysgrifenedig a wnaed
gan y partïon amrywiol a’r cyflwyniadau llafar yn ystod y gwrandawiad ac
ymatebion i gwestiynau, ac ystyriwyd nifer o ffactorau eraill gan gynnwys,
ymhlith eraill, y canllawiau llywodraeth perthnasol yn ymwneud â Deddf
Trwyddedu 2003, Polisi Trwyddedu Sir Ddinbych ac Amcanion Trwyddedu Deddf
Trwyddedu 2003.
Daeth yr
Is-bwyllgor Trwyddedu i’r casgliad, wedi ystyried y dystiolaeth, fod yr Amcan
Trwyddedu Niwsans Cyhoeddus wedi ei danseilio. Roedd tystiolaeth gref yn ôl
pwysau tebygolrwydd gan rai o’r preswylwyr fod problemau sŵn penodol yn
dod o’r eiddo, yn ymwneud â chwarae cerddoriaeth yn yr eiddo ar oriau penodol
yn hwyr yn y nos a phenderfynodd yr Is-bwyllgor ymdrin â hyn drwy addasu’r
amodau ar y Drwydded Eiddo sy’n ymwneud â cherddoriaeth.
Er y nodwyd nad
oedd Deilydd y Drwydded Eiddo eisiau cwtogi’r oriau, nododd yr Is-bwyllgor
Trwyddedu fod cynrychiolydd y cwmni’n derbyn fod yna broblem gyda sŵn yn
yr eiddo. Penderfynodd yr Is-bwyllgor ei bod yn angenrheidiol, ac yn gymesur i
hyrwyddo’r Amcan Trwyddedu Niwsans Cyhoeddus, i gwtogi'r oriau a ganiateir ar
gyfer Cerddoriaeth Wedi'i Recordio a Cherddoriaeth Fyw yn yr eiddo i hanner nos
o ddydd Llun i ddydd Sul. Bydd amserau pob gweithgaredd Drwyddedadwy arall yn aros yr un fath.
Roedd yr
Is-bwyllgor Trwyddedu hefyd wedi penderfynu gosod amod, y credai a oedd yn
angenrheidiol ac yn gymesur i hyrwyddo’r Amcan Trwyddedu Niwsans Cyhoeddus, yn
galw ar Ddeilydd y Drwydded Eiddo i ymgynghori’n weithredol gydag Adrannau
Rheoli Llygredd a Thrwyddedu y Cyngor ynghylch mesurau i leihau sŵn,
gyda’r bwriad i greu cynllun gwaith megis dulliau priodol i ynysu rhag sŵn
a gwaith ar y ffenestri (yn yr eiddo yn unig), i'w cymeradwyo gan y Cyngor, er
mwyn ymdrin â sŵn a ddaw o'r eiddo. Y mesurau a gynllunnir i leihau sŵn i'w
cwblhau o fewn chwe mis ac at foddhad rhesymol yr Adran Drwyddedu mewn ymgynghoriad
â Rheoli Llygredd.
I ailadrodd, ar
sail y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Rhai â Chysylltiad mewn perthynas â
niwsans sŵn fel yr amlinellwyd yn eu datganiadau ysgrifenedig ac a
gyflwynwyd ar lafar yn y gwrandawiad, roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn fodlon
fod lefel y sŵn a ddeuai o Gerddoriaeth Wedi'i Recordio a Cherddoriaeth
Fyw yn yr eiddo yn tanseilio’r amcan trwyddedu o ran niwsans cyhoeddus.
Roedd Deilydd y
Drwydded Eiddo hefyd wedi cyfaddef bod problemau sŵn amlwg yn gysylltiedig
â’r eiddo ac roedd yn barod i drafod mesurau lleihau sŵn ymhellach, a
allai dawelu'r achwynwyr. Felly credai’r Is-bwyllgor Trwyddedu fod cwtogi’r oriau a ganiateir ar
gyfer Cerddoriaeth Wedi’i Recordio a Cherddoriaeth Fyw ynghyd â gosod amod i
ymgymryd â mesurau lleihau sŵn o fewn amserlen dderbyniol, er mwyn diogelu
amwynder preswylwyr yn y dyfodol, yn gymesur yn yr achos hwn.
Wrth ystyried yr
amcan trwyddedu o ran atal trosedd ac anrhefn, ni wnaeth yr Is-bwyllgor
Trwyddedu ganfod tystiolaeth gref yng nghyd-destun ymddygiad gwrthgymdeithasol
a oedd yn gysylltiedig â’r eiddo’n uniongyrchol, ac nid oedd Heddlu Gogledd
Cymru wedi codi pryderon am gyfrifoldebau'r eiddo o safbwynt hynny.
Wrth ddod i
benderfyniad, gwnaeth yr Is-bwyllgor hefyd ystyried hawliau dynol pawb gan
gynnwys y rhai â chysylltiad sy’n byw'n agos at yr eiddo, yn ogystal â
chysylltiadau deilydd y drwydded o dan yr amgylchiadau, gan daro cydbwysedd
teg, cymesur a rhesymol i bawb.
Rhoddwyd crynodeb
i bawb o’r penderfyniad yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, a chyhoeddwyd
penderfyniad â rhesymau llawn wedi hynny.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.25pm.