Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWEITHGAREDDAU I HYRWYDDO’R GYMRAEG

Ystyried adroddiad gan Swyddog y Gymraeg (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar weithgarwch hyrwyddo’r Gymraeg ers y cyfarfod diwethaf ac amlinellu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts  adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn rhoi diweddariad i’r aelodau ar weithgaredd hyrwyddo’r Gymraeg ers y cyfarfod diwethaf ac amlinellodd y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Cafwyd cyflwyniad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg yn rhoi manylion am nifer o’r gweithgareddau hyn, yn cynnwys:

 

·         Eisteddfod Staff - cynhaliodd y Cyngor ei drydedd Eisteddfod rhwng 15 Chwefror ac 1 Mawrth fel rhan o’i

ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.  Oherwydd Covid-19 cynhaliwyd yr eisteddfod yn ddigidol gan ddefnyddio safle Facebook preifat staff y Cyngor i gystadlu ac i bleidleisio.  Roedd yr Eisteddfod ddigidol yn llwyddiannus dros ben gyda 163 wedi cofrestru ar gyfer cystadlaethau a 700 bleidleisiau wedi’u bwrw.

·         Dydd Gŵyl Dewi – yr Eisteddfod Staff oedd y prif ddigwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ond yn ogystal rhannwyd gwybodaeth yn y cyfryngau digidol am hanes Dewi Sant; rhestr o eiriau Cymraeg defnyddiol a'r dull ffonetig o’u hynganu er mwyn helpu dysgwyr Cymraeg, a ffeithiau diddorol am y genhinen a’r Genhinen Bedr.

·         Paned a Sgwrs – oherwydd bod y rhan fwyaf o staff bellach yn gweithio gartref cynhaliwyd y sesiynau'n ddigidol ond ar ôl dechrau da roedd y niferoedd wedi gostwng dros y misoedd diwethaf. Y rheswm dros hyn oedd yr angen am seibiant oddi wrth y sgrin dros amser cinio pan gynhaliwyd y sesiynau.  Mae amser y sesiwn bellach wedi’i newid i 9.00 a.m. ac mae’r niferoedd wedi codi unwaith eto a chafwyd adborth cadarnhaol gan staff.

·         Dydd Santes Dwynwen – lluniwyd cwis am hanes Santes Dwynwen fel rhan o’r dathliadau eleni a chafodd hwn ei rannu’n fewnol ac yn allanol yn y cyfryngau cymdeithasol a chymerodd dros 30 o bobl ran.  Crëwyd dogfen o eiriau Cymraeg perthnasol a sut i'w hynganu ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ynghyd â chwilair.

·         Dydd Miwsig Cymru - crëwyd rhestr o ganeuon Cymraeg i’w rhannu gyda staff ac i hyrwyddo cân newydd  - Byw i’r Awr, ar gyfer yr ymgyrch Nerth dy Ben, i atgoffa’n gilydd o'n cryfderau a'n dewrder. Y nod yw amlygu’r effaith gadarnhaol y mae cerddoriaeth yn ei gael ar iechyd meddwl. Roedd y rhan fwyaf o’r artistiaid yn y fideo yn gyn-ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd.

·         Hyrwyddo Safonau’r Gymraeg – crëwyd dogfen/rhestr wirio i hyrwyddo a rhannu’r safonau iaith yn Sir Dinbych Heddiw, LINC, Visiontime a thudalen Facebook staff y cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau.

·         Geirfa ar gyfer cyfarfodydd – er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd, yn cynnwys eu hagor a’u cau yn Gymraeg, crëwyd geirfa ddefnyddiol i'w rhannu ar Facebook ynghyd â recordiadau sain er mwyn i bobl allu clywed sut i’w hynganu.

·         Diwrnod Crempog -  crëwyd rhestr o eiriau a thermau defnyddiol ar gyfer staff

·         Y Camau Nesaf:

Amserlen arfaethedig o weithgareddau ar gyfer 2021 -  cyflwynwyd tabl o weithgareddau arfaethedig ar gyfer bob mis drwy gydol 2021 i’w ystyried a’i drafod ymhellach yn y cyfarfod.

 

Ar ddiwedd y cyflwyniad talodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau deyrnged i’r gwaith rhagorol y  mae’r Swyddog Iaith wedi’i wneud dan amgylchiadau hynod o anodd i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau difyr ar gyfer staff er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg.  Ategwyd ei sylwadau gan y pwyllgor cyfan a diolchwyd i'r Swyddog Iaith am ei holl waith caled.

 

Trafododd yr Aelodau sawl mater yn deillio o'r adroddiad mewn mwy o fanylder -

 

·         Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid cynhyrchu datganiad ar y gwaith rhagorol a wnaed i hyrwyddo’r Gymraeg i’w gyhoeddi mewn papurau papurau bro ac ati.  Cytunodd y Swyddog Iaith â hyn a dywedodd hefyd y gellid hyrwyddo’r llwyddiannau drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

·         Atebodd y Swyddog Iaith gwestiynau am sesiynau cyflwyno staff newydd gan gadarnhau bod cyfeiriad yn cael ei wneud at y safonau iaith fel rhan o’r broses honno a bod yn rhaid i staff gwblhau e-fodiwl ymwybyddiaeth o'r Gymraeg sydd hefyd yn cynnwys adran ar y Safonau Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg a Strategaeth y Gymraeg, felly mae'r holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei rhannu.

·         Gwnaeth y Cadeirydd gais bod dolen at yr eirfa Gymraeg ar gyfer cyfarfodydd yn cael ei rhannu gyda chadeiryddion pob pwyllgor i annog y defnydd o'r Gymraeg yng nghyfarfodydd y cyngor.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i adolygu’r sefyllfa yn Sir Ddinbych o ran yr enwau Cymraeg a roddir i lefydd ac anheddau topograffig er mwyn sicrhau y cedwir yr elfen Gymreig. 

Cytunwyd y dylai’r Cynghorydd Wynne lenwi ffurflen cynnig testun ar y pwnc hwn i’w gyflwyno i Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion craffu er mwyn pennu sut i symud y mater hwn yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD nodi’r hyn a wnaed yn ystod 2020 a bod y cynnig ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo yn 2021 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: