Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DATBLYGIADAU’R GYMRAEG YN RHANBARTHOL A CHENEDLAETHOL

Ystyried adroddiad gan Swyddog y Gymraeg (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd gweithgareddau Cymraeg yn rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts eitem ar y cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud ar y gweithgareddau cysylltiedig â’r Gymraeg yr oedd y pwyllgor wedi’u trafod yn y  cyfarfod blaenorol.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai’r nod yw ymwreiddio’r gweithgareddau hyn fel busnes craidd y cyngor gyda'r nod o sicrhau gwelliannau parhaus.

 

Ymhelaethodd Swyddog yr Iaith Gymraeg ar feysydd penodol o’r adroddiad a oedd yn cynnwys datblygiadau mewn sawl maes allweddol a nododd hefyd effaith Covid-19 ar gynnydd gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:

 

·          ‘Mwy Na Geiriau’ – cafwyd crynodeb ar y cynnydd a wnaed gyda’r camau canlynol:

 

¨      parhau i roi gwybod i staff mewnol a gwasanaethau a gomisiynir am y ‘Cynnig Gweithredol’ a hyrwyddo’r swigen oren fel arwydd rhwydd o ddewis iaith ar waith papur ac o'r cynnig o ddewis iaith gan ddarparwyr gofal.

¨      cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan y gweithlu gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a hyrwyddo’r defnydd o adnoddau digidol a’r cyrsiau Cymraeg ar-lein sydd wedi’u datblygu gan ‘Cymraeg Gwaith’.

¨      dangos ymrwymiad i ymwreiddio’r Gymraeg ym mhob un o feysydd gwasanaeth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol / Gwasanaethau Plant.

¨      gwaith ychwanegol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg

 

·         Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg – cwblhawyd y gwaith o adeiladu Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd a'r Ganolfan Iaith Gymraeg yn Llanelwy.

Agorwyd Cylch Meithrin ar dir yr ysgol newydd yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Dewi Sant.  Nodwyd hefyd effaith Covid-19 ar weithgareddau cyfoethogi’r cwricwlwm ac Eisteddfod yr Urdd.  Roedd patrwm o gynnydd mewn niferoedd mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

 

·         Arolwg Sgiliau Iaith Gymraeg - cafwyd manylion yr hunanasesiad o sgiliau iaith Gymraeg staff, yn cynnwys dadansoddiad o’r canlyniadau fesul gwasanaeth sy'n amrywio o Lefel 0 (dim sgiliau) i Lefel 5.

Ni fydd yr arolwg yn cael ei gynnal eleni gan na ddisgwylir y byddai’r canlyniad yn wahanol iawn, er ei bod yn bosibl y byddai gostyngiad yn y lefelau  oherwydd bod staff yn gweithio gartref o ganlyniad i Covid-19 ac o’r herwydd  ddim yn clywed y Gymraeg nac yn siarad Cymraeg yn y swyddfa.

 

·         Diweddariad ar y Bartneriaeth Iaith Gymraeg – Partner Iaith – mae Covid-19 yn golygu bod mapio gweithgaredd ar draws y sir wedi’i oedi ar hyn o bryd.  Gwahoddwyd swyddfa’r Comisiynydd Iaith i drafod sut y mae Covid-19 wedi effeithio ar yr Iaith Gymraeg yn genedlaethol yn ogystal ag unrhyw arfer da sydd wedi dod i’r amlwg.  Yn ogystal trafodwyd yr ymgynghoriad ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth iaith Gymraeg gyda’r Swyddog Moderneiddio Addysg.  Mae gwaith ar gydweithio ar ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol ar ddathliadau cenedlaethol ar y gweill.

 

I gloi dywedodd Swyddog yr Iaith Gymraeg er bod Covid-19 wedi amharu ar gynlluniau mae digonedd o waith da ar y gweill o hyd, yn ogystal â ffyrdd mwy arloesol y sicrhau canlyniadau.

 

Tynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts sylw at y gwaith caled parhaus sy’n digwydd i wella sefyllfa’r Gymraeg dan amgylchiadau anodd iawn a diolchodd i’r Swyddog Iaith a’i thîm am eu gwaith caled.  Er y casglwyd tystiolaeth dros y tair blynedd ddiwethaf bod cynnydd wedi bod yn faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn y sir, mae gwelliannau i'w gwneud o hyd ac mae gan bawb ran i'w chwarae yn hyn o beth.  Cyfeiriodd hefyd at yr hinsawdd ariannol anodd sy’n  cyfyngu ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer mentrau eraill, megis rhoi rhagor o gefnogaeth i fusnesau.  Yn olaf cyfeiriodd at yr heriau i ddisgyblion  ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd o gartrefi di-Gymraeg wrth ddysgu o bell.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·         effaith y pandemig ar blant o gartrefi di-Gymraeg sy'n cael eu haddysg mewn ysgolion Cymraeg. Roedd yr aelodau'n gobeithio’n arw nad yw hyn wedi arwain at ostyngiad mewn niferoedd na’r niferoedd sy’n pontio o CA2 i CA3.   Cadarnhaodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts bod rhai disgyblion wedi gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg o ganlyniad i hyn ond cymerwyd camau i gefnogi a mentora rhieni mewn ysgolion penodol ac mewn rhai achosion cafodd mesurau eu teilwra i ddiwallu anghenion disgyblion y daeth yn amlwg eu bod yn cael trafferthion gyda'r iaith yn ystod y cyfnod clo.  Roedd disgyblion ysgolion cynradd bellach wedi dychwelyd i'r ysgol ac yn siarad Cymraeg unwaith eto felly nid oedd hyn yn gymaint o broblem.  Cytunwyd bod magu hyder y plant hyn a’u cael i siarad Cymraeg yn amgylchedd yr ysgol unwaith eto yn flaenoriaeth ac y byddai’n biti mawr pe bai effeithiau’r cyfnod clo yn arwain at ostyngiad yn niferoedd plant sy’n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at yr asesiad o sgiliau Cymraeg staff a'r lefelau 0 – 1 ac roedd yn awyddus i osod targed i ddileu lefel 0 ar ôl y pandemig a darparu mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i alluogi staff i symud yn gyflymach drwy’r lefelau.  Dywedodd bod Lefel 3 yn drobwynt allweddol i bobl sy’n dysgu Cymraeg oherwydd eu bod wedi bod drwy'r camau mwyaf heriol erbyn cyrraedd y lefel hwn ac roedd yn ymwybodol o'r cynnydd da sy'n cael ei wneud gan nifer cynyddol os staff.  Tynnodd aelodau eraill sylw at yr ymdrechion cadarnhaol y mae staff yn eu gwneud i siarad ac ymateb yn Gymraeg ar wahanol lefelau a phwysleisiwyd pa mor bwysig yw hi i gynghorwyr arwain y ffordd, yn arbennig yng nghyfarfodydd y Cyngor.

·         pwysleisiwyd eto bwysigrwydd rhoi cefnogaeth i fusnesau lleol fel y nodwyd eisoes a chrybwyllwyd rôl yr Adran Gynllunio mewn codi’r mater o arwyddion dwyieithog gyda busnesau newydd a hefyd annog y defnydd o’r Gymraeg wrth hysbysebu.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod yn falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni  hyd yma ond bod yn rhaid hefyd parhau i herio er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus, a diolchodd i Swyddog yr Iaith Gymraeg am yr adroddiad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Sir Ddinbych

 

 

Dogfennau ategol: