Eitem ar yr agenda
MENTER IAITH
- Meeting of Pwyllgor Llywio'r Gymraeg, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Derbyn cyflwyniad
ar waith Menter Iaith gan Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir
Ddinbych.
Dolen at Adroddiad Blynyddol 2019-20 Menter
Iaith Sir Ddinbych >
https://misirddinbych.cymru/cms/wp-content/uploads/2021/01/Adroddiad-Blynyddol-2019-20203054.pdf
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir
Ddinbych a gafodd ei gwahodd i'r cyfarfod i roi trosolwg o waith Menter Iaith. Roedd dolen at Adroddiad
Blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych 2019 - 2020 wedi'i dosbarthu gyda rhaglen y cyfarfod ac mae’r adroddiad yn
rhoi trosolwg cynhwysfawr o weithgareddau yn ystod 2019/20.
Cyflwynodd
y Prif Swyddog gyflwyniad PowerPoint ar Fenter Iaith Sir Ddinbych - un o 22
Menter Iaith sydd ar waith yng Nghymru i
gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau. Mae’r sefydliad yn siop un
stop ar gyfer gwybodaeth am yr iaith, eisteddfodau ac ati, gofal plant,
sesiynau iaith a mwy i helpu pobl i fyw, dysgu a mwynhau eu hunain drwy gyfrwng
y Gymraeg.
Roedd
y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:
·
strwythur Menter Iaith
(cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr a staff), sy’n elusen gofrestredig sydd wedi
ennill Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy Cyngor Cenedlaethol y Mudiadau
Gwirfoddol.
·
y ffaith bod Menter Iaith mewn
sefyllfa strategol i helpu i ddarparu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sut y caiff ei ariannu.
·
y prif dargedau a’r themâu
strategol ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ynghyd â strategaethau
allweddol eraill yn cynnwys Strategaeth y Gymraeg Sir Ddinbych a Chynllun
Strategol y Gymraeg Mewn Addysg a gwaith gyda phartneriaid a sectorau eraill.
·
darpariaeth o fewn themâu
iaith Gymraeg strategol Sir Ddinbych (1) Cynllunio Strategol yr Iaith Gymraeg
yn Sir Ddinbych, (2) Plant a Phobl Ifanc, (3) y Gymuned, a (4) Busnes a’r
Economi, a manylion y cyfoeth o weithgareddau/digwyddiadau sydd wedi’u cynnal
i’r perwyl hwn a ddangoswyd mewn ffotograffau, yn y cyfryngau ac ati.
·
y ffynonellau o gyllid sydd ar
gael i Menter Iaith fel elusen gofrestredig yn cynnwys grantiau gan Lywodraeth
Cymru a Chyngor Sir Ddinbych ynghyd â chefnogaeth o ffynonellau eraill ar gyfer
gweithgareddau a phrosiectau.
·
cafwyd dolenni at dudalennau
cyfryngau cymdeithasol Menter Iaith ynghyd â manylion cyswllt y sefydliad.
Diolchodd
y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ei chyflwyniad diddorol a llawn gwybodaeth. Cytunwyd y dylid anfon y
cyflwyniad at yr aelodau ar ôl y cyfarfod.
Manteisiodd
yr aelodau ar y cyfle i wneud sylwadau a thrafod gwahanol agweddau ar waith
Menter Iaith gyda'r Prif Swyddog. Roedd
prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol -
·
Gofynnodd y Cynghorydd Ann
Davies a oes digon yn cael ei wneud i gefnogi ac annog myfyrwyr o ysgolion
uwchradd cyfrwng Cymraeg sy'n mynd i Goleg Cambria i ddal ati i siarad Cymraeg. Eglurodd y Prif Swyddog bod
gan y Coleg ei swyddogion ei hun sy’n gyfrifol am sicrhau argaeledd y Gymraeg
yn unol â'i safonau iaith Gymraeg, fodd bynnag pe bai gan yr aelodau unrhyw
faterion yr hoffent eu codi yn y cyswllt hwn, gallai Menter Iaith Sir Ddinbych
eu cyfeirio'n ôl at Goleg Cambria. Fel partner, mae Menter Iaith
yn tueddu i weithio gyda Choleg Cambria yng nghyd-destun dosbarthiadau Cymraeg
ar gyfer oedolion, ond o dro i dro hefyd cynhelir digwyddiadau neu
weithgareddau ar y cyd. Er
nad yw Menter Iaith yn gyfrifol am addysg mae'n gweithio gyda'r sector addysg
fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg er mwyn cynnal trosolwg. Mewn ymateb i gwestiwn arall
am y bobl ifanc yn y Rhyl sy’n manteisio ar weithgareddau Menter Iaith,
dywedodd y Prif Swyddog bod o leiaf 90% o ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg yn
dod o gartrefi di-Gymraeg a bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu’r iaith
drwy’r ysgol. Mae
Menter Iaith yn gweithio gyda rhai ysgolion ond ni all gynnig rhagor o
brosiectau heb gyllid ychwanegol i gyflogi mwy o staff. Mae rhieni’n aml yn cysylltu â
Menter Iaith am gefnogaeth a chyngor ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn y
cartref.
·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys
Wynne at lwyddiant Menter Iaith mewn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, yn arbennig
wrth ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc fwynhau’r iaith y tu allan i sefydliadau
addysgol, a llongyfarchodd hwy am hyn. Tynnodd sylw hefyd at
bwysigrwydd sicrhau bod cyllid digonol ar gael er mwyn parhau â’r gwaith hwn yn
y dyfodol ac anogodd yr awdurdod lleol i ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl. Mae hi hefyd yn bwysig
ystyried gogledd a de’r sir ac er bod canran siaradwyr Cymraeg yn y Rhyl yn
isel, mae'r niferoedd yn uchel iawn.
·
Diolchodd y Cynghorydd Meirick
Davies hefyd i’r staff am yr holl waith y maent yn ei wneud ac am y
ddarpariaeth ymarferol sydd yn ei lle, ac roedd yn awyddus i glywed mwy am y
gwaith sy’n cael ei wneud gyda Choleg Cambria. Cyfeiriodd y Prif Swyddog eto
at gynnwys ei chyflwyniad ac at waith Menter Iaith gyda swyddogion sy’n
gyfrifol am y Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Pwysleisiodd bwysigrwydd
cydnabod a deall manteision defnyddio’r Gymraeg a bod yn ddwyieithog wrth
baratoi pobl ifanc ar gyfer y gweithle, yn arbennig mewn sectorau megis gofal
plant, ac mae'r manteision hyn yn cael eu marchnata'n gyson i weithwyr a
busnesau.
·
Roedd gan y Cadeirydd
ddiddordeb mewn clywed am y cysylltiadau busnes a phwysleisiodd bwysigrwydd
defnyddio'r Gymraeg mewn siopau a chaffis ac ati a holodd a ellid gwneud mwy i
annog hyn. Roedd
y Prif Swyddog yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi busnesau a chytunodd bod angen
gweld a chlywed y Gymraeg ar y stryd ac mewn mannau fel siopau, llyfrgelloedd
ac ati yn ddyddiol er mwyn normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg a chynyddu hyder pobl i ddefnyddio’r iaith. O ran y stryd fawr mae Menter
Iaith yn gweithio yn wyth o drefi mwyaf Sir Ddinbych ond oherwydd bod y tîm mor
fach dim ond canran fach o fusnesau y mae modd eu cyrraedd. Soniodd am y defnydd o arwyddion dwyieithog a’r
gwasanaeth sydd ar gael i gyfieithu 500 gair y mis am ddim ond dywedodd bod
angen ymgyrchoedd i hyrwyddo hyn. Awgrymodd y gallai Swyddogion
Datblygu Economaidd y Cyngor ddechrau sgwrs gyda busnesau yn gofyn os ydyn nhw
wedi meddwl am fanteision dwyieithrwydd, gan dynnu sylw at y ffaith nad oes
anfantais i unrhyw fusnes o weithredu’n ddwyieithog nac ychwaith gostau
ychwanegol os gwneir cynlluniau ar gyfer hynny o’r cychwyn cyntaf. Gallai mentrau eraill gynnwys
amod ar y defnydd o’r Gymraeg wrth ddyfarnu grantiau; hysbysebu swyddi yn
Gymraeg yn unig a swyddi Cymraeg yn hanfodol dynodedig ar gyfer gwasanaethau
rheng flaen; y posibilrwydd o hyfforddiant ar gyfer y rhai hynny nad oes ganddynt
ddigon o hyder i ddefnyddio eu Cymraeg a'r posibilrwydd o gyrsiau wedi'u
teilwra'n arbennig ar gyfer grwpiau busnes.
Wrth
gloi’r drafodaeth diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am fynychu’r cyfarfod
ac am ei chyflwyniad.
PENDERFYNWYD y
dylid dosbarthu’r cyflwyniad ar waith Menter Iaith i'r Aelodau.
Ar y pwynt hwn
(11.07 am) cymerodd y pwyllgor egwyl deng munud.