Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SIPSIWN A THEITHWYR - GOBLYGIADAU O RAN ADNODDAU A GWEITHDREFNAU DRAFFT GWERSYLLOEDD ANSWYDDOGOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm), yn rhoi diweddariad i’r aelodau am y penderfyniadau a’r datblygiadau diweddar i geisio gwella’r ffordd mae’r Cyngor yn ymateb i wersylloedd answyddogol gan Sipsiwn a Theithwyr.

 

10.10 – 11.15 am

 

 

Cofnodion:

Esboniodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i’r aelodau y bu iddo lunio’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y cyd â’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel.

 

Amlygwyd i’r aelodau bod yr adroddiad yn dangos y ffordd orau o wella’r broses wrth gynnal ymweliadau â gwersylloedd diawdurdod. Esboniodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y cytunwyd protocol rhanbarthol yng ngogledd Cymru yn 2015 ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod. Yn sgil hynny cyflwynwyd adroddiad i’r Uwch Dîm Arwain a roes grynodeb o’r trefniadau oedd ar waith.  Ers hynny roedd yr Uwch Dîm Arwain wedi gwneud argymhellion ar gyfer datblygu a diwygio’r prosesau.

 

Hysbyswyd yr aelodau o’r trefniadau cyfreithiol a’r pwerau’r oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi’u sefydlu. Yn ystod y pandemig Covid-19 roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â symud gwersylloedd a throi trigolion allan, a oedd yn datgan na ddylid symud gwersylloedd diawdurdod na throi’r trigolion allan oni bai fod eu presenoldeb yn peri peryglon enbyd i ddiogelwch ac iechyd y cyhoedd.

 

Esboniwyd y câi pob achos ei drin yn ôl ei rinweddau unigol ac y dilynwyd Canllawiau Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Mabwysiadwyd asesiad lles cychwynnol i ganfod y dull gorau o ymyrryd.  Roedd y canllawiau’n pwysleisio mai’r arfer orau oedd sefydlu un pwynt cyswllt. Yr unigolyn dan sylw a fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw gwestiynau ac ymholiadau ynglŷn â Sipsiwn a Theithwyr.  Argymhellwyd y dylid mabwysiadu dewis B o blith y cynigion a gyflwynwyd. Roedd y dewis hwn eisoes wedi cael sêl bendith yr Uwch Dîm Arwain a’r Cabinet mewn sesiwn briffio.  Clywodd yr aelodau bod y dewis hwnnw’n cynnwys swydd Un Pwynt Cyswllt a fyddai yn y pen draw’n dod yn rhan o’r Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata dan arweiniad Liz Grieve.

 

Esboniodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel y gwahaniaeth rhwng gwersylloedd ar dir oedd yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych a gwersylloedd ar dir ym mherchnogaeth eraill.  Esboniwyd y weithdrefn yn y ddau achos i’r aelodau.

Cadarnhawyd y bu cryn gydweithio rhwng gwasanaethau wrth gasglu gwybodaeth, a chyfrannwyd llawer o amser gan swyddogion.  Roedd y gwaith wedi amlygu mor fuddiol a phwysig oedd gweithio rhwng gwasanaethau wrth ymdrin â gwersylloedd answyddogol Sipsiwn a Theithwyr, a sut fyddai ymdrin â’r gwaith yn gorfforaethol yn gallu arwain at well gwasanaeth i bawb yn y dyfodol.   Pwysleisiodd yr Aelodau Arweiniol mor bwysig oedd cael yr un pwynt cyswllt wrth fabwysiadu’r dull corfforaethol hwn. Gallai trefniadau gweithio rhanbarthol a rhwng siroedd ddatblygu dros amser, a byddai deiliad y swydd newydd yn gweithio’n agos ag awdurdodau lleol eraill.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad a’r adroddiad manwl. Wrth drafod yr adroddiad, ymhelaethodd y swyddogion ac Aelodau Arweiniol ar y materion canlynol:

·         Esboniwyd pa fath o wersylloedd answyddogol a gafwyd yn Sir Ddinbych, a faint ohonynt oedd yno. Hysbyswyd yr aelodau fod gwersylloedd a sefydlid am hyd yn oed noson neu ddwy yn unig yn medru achosi problemau mawr. Roedd hi’n anodd darparu ffigyrau manwl gywir o’r nifer o wersylloedd a sefydlid ar dir nad oedd Cyngor Sir Ddinbych yn berchen arno, gan na hysbysid swyddogion ohonynt yn aml iawn. Hyderid y byddai’r pwynt cyswllt newydd yn cryfhau’r cysylltiad â’r gymuned, gan ei gwneud yn haws i bobl hysbysu’r Cyngor o wersylloedd.

·         Byddai deiliad y swydd arfaethedig yn gweithio’n agos â gwersylloedd dros dro. Byddai gwaith ymgysylltu a chyfathrebu gan swyddogion o wahanol rannau o’r Cyngor yn parhau, a byddai’r swydd newydd arfaethedig yn allweddol wrth hwyluso a chryfhau cyfathrebu rhwng yr holl randdeiliaid oedd yn gysylltiedig â gwersylloedd answyddogol neu’n cael eu heffeithio ganddynt.  Byddai creu’r swydd hefyd yn rhannu’r cyfrifoldebau’n bendant rhwng yr elfennau lles, a fyddai yng ngofal y swyddog newydd, ac unrhyw waith cyfreithiol ar gyfer troi allan, a ddyrennid i feilïaid allanol. 

·         Yn ystod y pandemig Covid-19 hysbyswyd y Cyngor o dri o wersylloedd answyddogol a sefydlwyd. Roedd dau o’r rheiny ar dir y Cyngor ac un ar dir preifat. Oherwydd y cyfyngiadau ar deithio fe welwyd fod y niferoedd wedi gostwng. Un o ganllawiau Llywodraeth Cymru oedd na ddylid cyflwyno hysbysiadau troi allan i Sipsiwn a Theithwyr oni bai fod lleoliad arall ar gael iddynt godi gwersyll.

·         Y bwriad oedd i ddeiliad y swydd godi ymwybyddiaeth a meithrin cydnerthedd yn y gymuned, o fewn Cyngor Sir Ddinbych ac ymysg Sipsiwn a Theithwyr. Bydda’r swyddog yn gweithio â’r holl randdeiliaid gyda’r nod o sicrhau gwell canlyniadau. Cadarnhawyd y daeth yr Uwch Dîm Arwain i’r casgliad mai’r lle gorau i’r swydd fyddai’r Adain Tai Cymunedol yn y Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata, gan fod gwersylloedd answyddogol yn fater tai cymunedol, ac y byddai’r swyddog yn medru ymgysylltu â’r holl randdeiliaid o fod yn rhan o’r Gwasanaeth hwnnw.

·         Cadarnhawyd fod cyfathrebu agored yn dal i ddigwydd rhwng y Cyngor a’r Heddlu a’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

·         Hysbysodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo’r aelodau mai amser swyddogion oedd y gost anuniongyrchol fwyaf i’r Cyngor wrth ymdrin â gwersylloedd answyddogol. Roedd yr adnoddau presennol yn talu’r rhan helaeth o’r costau hynny, ond sefydlwyd cod costau canolog â chyllideb flynyddol o £20,000 ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol a godai.

·         Cadarnhawyd y cynhaliwyd ymweliadau lles yn y tri o wersylloedd yr hysbyswyd y Cyngor ohonynt yn y misoedd diwethaf. Cynhaliwyd pob ymweliad yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Roedd yr ymweliadau’n rhai anymwthiol a chynigiwyd cymorth i bawb. Cafwyd ymateb da i’r ymweliadau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am eu gwaith ar y dull arfaethedig o ymdrin â gwersylloedd answyddogol a’r weithdrefn ar gyfer hynny.

Felly,

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau o blaid y datblygiadau a phenderfyniadau diweddar ynghylch y modd y mae’r Cyngor yn ymateb i wersylloedd answyddogol gan Sipsiwn a Theithwyr.

 

 

Dogfennau ategol: