Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 28/2020/1024/PF - MOUNT VIEW, BRYN Y GARN ROAD, HENLLAN, DINBYCH

Ystyried cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol ac adeiladu annedd newydd, garej ar wahân, addasiadau i’r mynediad presennol, a gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Mount View, Bryn y Garn Road, Henllan, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol ac adeiladu annedd newydd, garej ar wahân, addasiadau i’r mynediad presennol, a gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Mount View, Bryn y Garn Road, Henllan.

                                                 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mrs Pritchard (yn erbyn) – roedd yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig o ran ei faint a’i raddfa oedd yn llawer mwyn na’r eiddo presennol, a fyddai’n effeithio’n negyddol ar yr eiddo gerllaw a’r strydwedd. Dywedodd y byddai’r annedd arfaethedig yn ormesol ac y byddai'n achosi golwg amhrydferth, gan roi cysgod a lleihau golau i’w byngalo gerllaw.  Roedd hefyd yn mynd yn erbyn y rhaglen werdd leol, ac roedd halogiad posibl o'r tirlenwi.  Codwyd pryderon am sŵn, llwch a chryndod, ymyraethau ac ati o’r datblygiad, a’r posibilrwydd bod yr eiddo yn cael ei adeiladu ar garreg, gan waethygu’r materion a’r difrod posibl.

 

Mr Arwyn Jones (o blaid) – eglurodd amgylchiadau ei deulu a'r rheswm dros y cais i ddarparu cartref  digon mawr ar gyfer ei deulu o fewn yr ardal leol.  Nid oedd unrhyw fwriad i achosi trallod a soniodd am y gwaith caled i leihau pryderon a’r newidiadau a wnaed megis symud ffenestri i barchu preifatrwydd a lleihau lefel y tŷ.  Nid oedd yr eiddo yn ormodol ac roedd yn cyd-fynd â chymeriad yr eiddo presennol ac ni fyddai'r ôl troed presennol yn cynyddu’n ddramatig.  Roedd yr holl bryderon a godwyd gan Gyngor Cymuned Henllan wedi cael eu datrys, ac roedd yr holl ofynion angenrheidiol wedi cael eu bodloni er mwyn adeiladu’r cartref i’r teulu.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Ystyriodd yr aelodau'r adroddiad yn ofalus, ynghyd â’r achosion a gyflwynwyd gan y siaradwyr ar y cais. Gofynnwyd am fwy o eglurder ar nifer o faterion a godwyd, yn arbennig o ran amodau'r tir gan gynnwys y posibilrwydd o halogiad a chompównd y tir a allai effeithio'r datblygiad, ynghyd â phryderon amwynder preswyl megis colli golau, golwg gormesol a chysgodi.  Nododd y Cynghorydd Merfyn Parry bod yr ymgeisydd wedi mynd i’r afael â’r materion a godwyd ac am ei fod yn gyfarwydd â’r ardal roedd yn credu ei bod yn annhebygol iawn y bydd halogiad o’r hen safle tirlenwi.  Cynigodd y dylid cymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r cwestiynau/sylwadau fel a ganlyn -

 

·         eglurodd bod eiddo presennol ar y safle a oedd yn y ffin datblygu ac roedd y cais ar gyfer newid yr annedd.

·         byddai angen dilyn rheoliadau adeiladu perthnasol i gynnal y datblygiad a gwiriadau ar amodau’r tir fel rhan o’r broses honno.

·         roedd amod ychwanegol wedi cael ei gynnig (manylion yn y papurau ategol) yn gofyn am Ddatganiad Dull Adeiladu yn amlinellu sut fyddai'r datblygiad yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd mewn perthynas â rheoli sŵn, llwch ac ymyrraeth ac ati, yn ystod y gwaith adeiladu.

·         cynigiwyd amod ychwanegol arall (manylion yn y papurau ategol) er mwyn sicrhau bod y risgiau cysylltiedig gyda halogiad annisgwyl diwethaf ar y safle, yn cael ei ddelio mewn modd priodol.

·         Nid oedd y swyddogion yn ystyried y byddai'r cais yn cael unrhyw effaith annerbyniol ar amwynder preswyl na gweledol, ac roedd yr holl ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill wedi cael eu hystyried ac amodau cynllunio perthnasol wedi’u gosod lle bod angen.

·         roedd angen asesu’r cynnig fel y cyflwynwyd ac ni fyddai'n bosibl gosod amod i symud yr annedd yn ôl yn unol â'r byngalo gerllaw, fel ffordd o fynd i’r afael â phryderon o ran effaith gormesol.

·         Pwysleisiodd bod swyddogion wedi asesu'r effaith ar eiddo gerllaw mewn perthynas â golau, gan gynnwys cyfeiriad ar y canllaw 45 gradd fel y nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol Datblygiad Preswyl, ac ni ystyriwyd bod unrhyw effaith negyddol.

·         cadarnhaodd nad oedd y braslun strydwedd a gynhwyswyd yn y ddogfennaeth yn gynrychiolaeth o liw gwirioneddol yr annedd.

·         mewn ymateb i gwestiwn dilynol o ran cyfreithlondeb  neu’r Datganiad Dull Adeiladu, cadarnhawyd bod amod ychwanegol wedi cael ei gynnig ar gyfer cyflwyno datganiad dull adeiladu wedi’i rwymo mewn cyfraith ar y caniatâd cynllunio, a byddai swyddogion yn gorfodi'r telerau unwaith y cytunwyd, mewn digwyddiad o unrhyw dor-rheolau.

 

Roedd y Cynghorydd Glenn Swingler (Aelod Lleol) wedi siarad â’r siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â’r cynnig.  Roedd yr ymgeisydd wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w gynlluniau i fynd i'r afael â phryderon, ac nid oes gan y Cynghorydd Swingler unrhyw wrthwynebiad i’r cais o ystyried yr amodau a gynigiwyd ac roedd yn gobeithio y bydd ffordd cyfeillgar ymlaen.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry, i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

                

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 [Gadawodd y Cynghorydd Merfyn Parry y cyfarfod ar y pwynt hwn.]

 

 

Dogfennau ategol: